Rhoi arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol ar waith a’u cynnal yn ystod triniaethau cosmetig dewisol nad ydynt yn llawfeddygol
Trosolwg
Mae'r safon yma ar gyfer ymarferwyr esthetig sy'n cydymffurfio â iechyd, diogelwch, rheoli haint ac arferion glendid effeithiol yn unol â'r protocol triniaeth gosmetig nad yw'n llawfeddygol, gofynion deddfwriaethol, rheoleiddiol a chyfundrefnol. Mae'r safon yn rhan o'r set safonau galwedigaethol cenedlaethol cosmetig nad yw'n llawfeddygol, sy'n cynnwys safonau sy'n ymwneud â thocsin botwliniwm math A i drin chwysu gormodol, y defnydd o ddyfeisiadau plasma, triniaethau cryotherapi o'r wyneb a thriniaethau dwysedd uchel egni uwchsain wedi ei ffocysu er mwyn adnewyddu croen. Bydd yn rhaid i chi nodi, asesu a rhoi ar waith ddulliau rheoli mewn perthynas â chi eich hun, yr amgylchedd waith yn cynnwys offer, cyfarpar a chynnyrch, yr unigolyn a'r man i gael ei drin, cyn i'r driniaeth gosmetig nad yw'n llawfeddygol i gael ei chyflawni. Rhaid i'r ymarferydd esthetig gael cymhwyster Cymorth Cyntaf yn y Gweithle neu ei gyffelyb a gallu cyflawni'r swyddogaethau o fewn SFHCHS36: Cefnogaeth bywyd sylfaenol a gallu cael gafael ar gyfarpar cefnogi bywyd fel sydd wedi ei nodi yn y cynllun rheoli cymhlethdodau a/neu argyfwng.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
cadw at eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch cyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth gosmetig nad yw'n llawfeddygol
gwneud asesiad(au) risg cyn cyflawni triniaeth gosmetig nad yw'n llawfeddygol:
2.1 cofnofi canlyniadau'r asesiad(au) risg
2.2 rhoi dulliau rheoli ar waith a gweithredu yn briodol
3. defnyddio mesurau atal a rheoli haint i gynnwys:
3.1 rhagofalon cyffredinol a rhagofalon safonol
5. paratoi ac amddiffyn eich hun ac eraill o fewn yr amgylchedd waith yn unol â pholisïau a gweithdrefnau deddfwriaethol a chyfundrefnol
6. safleoli'r unigolyn yn unol â'r protocol triniaeth cosmetig nad yw'n llawfeddygol
7.2 defnyddio arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy
7.3 cadw'r perygl i'r unigolyn cyn ised â phosibl a'i gadw'n ddiogel
8. dod o hyd i'r cyfarpar, deunyddiau a'r cynnyrch a'u dewis, er mwyn cwrdd ag anghenion yr unigolyn, y fan i'w drin ac yn addas i'w ddiben i gynnwys:
8.1 risgiau cysylltiedig
8.2 yn unol â safonau cydnabyddiedig
9. defnyddio cyfarpar, deunyddiau a chynnyrch yn unol â'r cynllun triniaeth cosmetig nad yw'n llawfeddygol, gofynion deddfwriaethol a chanllawiau'r gwneuthurwr
10. cyflawni profion er mwyn penderfynu addasrwydd ar gyfer y driniaeth pan ofynnir am hynny
11. asesu a chael gwared o wastraff er mwyn cwrdd â gofynion deddfwriaethol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1.eich cyfrifoldebau dros ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch sy'n berthnasol i'ch swydd
rheolau ac amodau'r awdurdod lleol, y gofynion trwyddedu a/neu cofrestru ar gyfer chi eich hun a'ch adeilad
pam ei bod yn rhaid i chi gydymffurfio gydag arfer moesegol a gweithio o fewn y gofynion deddfwriaethol
4. eich lles corfforol a seicolegol chi eich hun a sut y gall hyn effeithio ar y gallu i ddarparu triniaeth gosmetig nad yw’n llawfeddygol mewn modd diogel
- eich cyfrifoldeb a'r gweithdrefnau ar gyfer adrodd pan fydd amheuaeth o gamymddwyn
6. sut a phryd i geisio cael cyngor pellach y tu allan i faes gorchwyl yr ymarferydd i gynnwys:
6.1 cydymffurfio gyda deddfwriaeth data
7. sut a pham mae'n rhaid i chi gydymffurfio gyda gweithdrefnau atal a rheoli haint, i gynnwys:
7.1 rhagofalon cyffredinol a rhagofalon safonol
8. y diheintyddion ar gyfer wynebau caled i gynnwys:
8.1 y cyfansoddion cemegol a'r risgiau cysylltiedig
8.2 sut mae amseroedd cyswllt yn effeithio ar yr effeithiolrwydd
achosion a risgiau heintio meicrobaidd a dulliau atal haint
y diheintyddion croen i gynnwys:
10.1 y cyfansoddion cemegol a'r risgiau cysylltiedig
10.2 yr effaith ar y raddfa pH a swyddogaeth rhwystro
10.3 sut y gall amseroedd cyswllt effeithio ar yr effeithiolrwydd
- achosion, a pheryglon dod i gysylltiad â gwastraff clinigol drwy ddamwain a sut i ymateb i hynny
12. archwiliad ac atebolrwydd am arferion gwaith a gweithdrefnau
- y rhesymau dros gadw at brotocolau triniaeth *gosmetig nad yw'n llawfeddygol *yn ystod y canlynol:
13.1 paratoi'r amgylchedd waith
13.2 ymgynhori, asesu a chwblhau triniaethau cosmetig nad ydynt yn llawfeddygol
14. y gofynion deddfwriaethol a chyfundrefnol ar gyfer gwarchod, paratoi, urddas a phreifatrwydd yr unigolyn
16. pwysigrwydd sicrhau bod yr amgylchedd waith yn cydymffurfio â gofynion deddfwriaethol i gynnwys:
16.1 goleuadau a goleuo
16.2 gwresogi
16.3 awyru
16.4 darnau gosod, gosodiadau a chyfarpar
16.5 cyfleusterau a mwynderau
16.6 archwilio ac atebolrwydd
20.1 cadw
20.2 trin
20.3 defnydd
20.4 cael ei wared
20.5 cadw cofnodion
22.1 diben profion
22.2 sut a phryd i wneud y profion
22.3 y newidiadau i'r driniaeth gosmetig nad yw'n llawfeddygol o ganlyniad i'r hyn a ddatgelir gan y prawf
24. y gofynion deddfwriaethol ar gyfer cael gwared o wastraff
Cwmpas/ystod
Gwastraff**
- gwastraff nad yw'n beryglus
- clinigol
- pethau miniog
- bio-beryglus
gwastraff trefol cymysg
cyffredinol a chyfrinachol
- ailgylchadwy
**Iechyd a diogelwch**2. Deddfwriaeth Awdurdod Lleol, cynlluniau trwyddedu /neu gofrestru
- Deddfwriaeth iechyd a diogelwch, gorchmynion cysylltiedig, rheoliadau a chanllawiau
5. Gorfodaeth Cynnyrch Cosmetig
Amryw Ddarpariaethau ar gyfer Llywodraeth Leol
Gwarchod yr Amgylchedd
7. Gofynion Cyfredol y Gwasanaeth Datgelu sy'n berthnasol i bob lleoliad daearyddol
- Polisi Diogelu
Cyngor pellach
- rhybuddion diogelwch unigol
- adrodd am adwaith niweidiol
- tynnu sylw unigolion at rywun proffesiynol perthnasol
Gweithdrefnau atal a rheoli haint
- technegau aseptig
- eitemau a ddefnyddir unwaith
- rhagofalon cyffredinol
- rhagofalon safonol
- brechiadau
*
*Rheoli archwiliadau ac atebolrwydd am arferion gwaith
- paratoi a chynllunio
- mesur perfformiad
- rhoi newid ar waith
- cynnal gwelliant
Protocolau triniaeth gosmetig nad yw'n llawfeddygol
- amgylchedd waith
- iechyd a diogelwch
- cynllun rheoli risg
- atal a rheoli haint
- cynllun triniaeth
cydsyniad gwybodus
cyngor a chefnogaeth ychwanegol
- rheoli data
- archwilio ac atebolrwydd
- cyfarwyddiadau a chyngor cyn ac ar ôl
- rheoli gwastraff
- ymarfer adfyfyriol wedi ei seilio ar dystiolaeth
Anaf ac afiechyd sy'n gysylltiedig â gwaith
- anafiadau corfforol
- anhwylderau
- clefydau
Arferion gwaith amgylcheddol a chynialadwy
- rheoli gwastraff amgylcheddol
- defnydd o ynni
- arferion amgylcheddol creiddiol
- gweithio i amseroedd masnachol
*
*Cyfarwyddiadau
hawliau a chyfrifoldebau cyfreithiol yr unigolyn a'r ymarferydd esthetig
cefnogaeth a chyngor sydd sydd ar gael ar unwaith neu'n barhaus
- rheoli cymhlethdodau a/neu gynllun argyfwng
- disgwyliadau ar ôl triniaeth ac amserlenni cysylltiedig
- cyfarwyddiadau a gofal cyn ac ar ôl triniaeth
- cyfyngiadau a risgiau cysylltiedig
- triniaethau yn y dyfodol
- gweithdrefn cwynion neu brotocol pryderon
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Heintio Meicrobaidd
Mae henintio Meicrofeiolegol yn cyfeirio at bresenoldeb meicrobau nad oes eu heisiau megis bacteria, ffyngau, feirysau a sborau.
Rhagofalon cyffredinol a rhagofalon safonol
Mae rhagofalon cyffredinol yn berthnasol os yw'r ymarferydd yn dod i gysylltiad â gwaed a/neu rywfaint o hylif corfforol. Cyfrifoldeb yr ymarferydd yw rhoi mesurau atal a rheoli haint ar waith er mwyn atal dod i gysylltiad â phathogenau neu Ddeunyddiau Eraill all fod yn Heintus (OPIM).
Rhagofalon safonol yw'r lefel sylfaenol o reoli haint ddylai gael ei ddefnyddio bob amser o fewn yr amgylchedd waith, megis glendid dwylo, cyfarpar amddiffyn personol, atal anafiadau gan n odwyddau neu declynnau miniog, asesiad risg, glendid anadlol ac ymddygiad safonol ynghylch pesychu, glanhau amgylcheddol a chael gwared o wastraff.
Amgylchedd waith
*
*
Dolenni I NOS Eraill
SKANSC2.2, SKANSC10, SKANSC11, SKANSC12,
SKANSC13