Estyn a chynnal ewinedd gan ddefnyddio gel wedi'i galedu â golau

URN: SKANS9
Sectorau Busnes (Suites): Gwasanaethau Ewinedd,Therapi Harddwch
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 01 Ion 2015

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â darparu gwasanaethau i estyn, cynnal, atgyweirio a thynnu ychwanegiadau ewinedd gan ddefnyddio gel wedi'i galedu â golau. Mae'n cynnwys ymgynghori â'r cleient, cynllunio triniaeth a gosod ychwanegiadau ewinedd i wella'n gosmetig neu guddio ewinedd gan ddefnyddio technegau cerfio, gosod blaenau a geliau lliw wedi'u caledu â golau. Hefyd mae angen y gallu i addasu'r gwasanaeth a darparu cyngor ôl-ofal i gyd-fynd ag anghenion cleientiaid unigol.

Er mwyn cyflawni'r safon hon bydd angen i chi gynnal iechyd, diogelwch a hylendid effeithiol trwy gydol eich gwaith. Bydd angen i chi hefyd gynnal eich ymddangosiad personol a dangos sgiliau cyfathrebu ac ymgynghori effeithiol.

Prif ganlyniadau'r safon hon yw:

  1. cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth estyn, cynnal a thynnu ychwanegiadau ewinedd gel wedi'i galedu â golau

  2. ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau estyn ewinedd gel wedi'i galedu â golau

  3. cerfio gan ddefnyddio gel wedi'i galedu â golau

  4. gosod blaenau a throshaenau gel wedi'i galedu â golau

  5. cynnal a thynnu ychwanegiadau ewinedd gel wedi'i galedu â golau


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth estyn,*    * *        * *           * cynnal a thynnu ychwanegiadau ewinedd gel wedi'i galedu â golau

  1. cynnal eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch trwy gydol y gwasanaeth

  2. paratoi'ch cleient a'ch hun i fodloni gofynion cyfreithiol a sefydliadol

  3. gosod eich cleient mewn safle i fodloni anghenion y gwasanaeth

  4. sicrhau bod eich ystum eich hun a'ch dulliau gwaith yn isafu ar flinder a risg o anaf i chi'ch hun ac eraill

5 sicrhau bod amodau amgylcheddol yn addas i'r cleient a'r gwasanaeth

  1. cadw'ch ardal waith yn lân ac yn daclus trwy gydol y gwasanaeth

  2. defnyddio dulliau gwaith sy'n isafu ar risg o groes-heintio

  3. sicrhau defnydd ar gyfarpar a deunydd glân

  4. hyrwyddo arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy

  5. dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a chyflenwyr neu gynhyrchwyr ar gyfer defnydd diogel ar gyfarpar, deunydd a chynnyrch

  6. cael gwared ar ddeunydd gwastraff i fodloni gofynion cyfreithiol

  7. cynnal y gwasanaeth o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol

Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau ychwanegiadau ewinedd gel wedi'i galedu â golau

* *

  1. defnyddio technegau ymgynghori i bennu cynllun gwasanaeth y cleient

  2. sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan riant neu warcheidwad ar gyfer plant cyn unrhyw wasanaeth

  3. sicrhau bod rhiant neu warcheidwad yn bresennol trwy gydol y gwasanaeth ar gyfer plant sy'n iau na 16

  4. adnabod unrhyw wrtharwyddion a chymryd y camau angenrheidiol

  5. cytuno ar y gwasanaeth estyn ewinedd a'r canlyniadau sy'n bodloni anghenion y cleient

  6. sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan y cleient cyn cynnal y gwasanaeth

  7. glanhau'r ardal a fydd yn cael ei thrin a thynnu unrhyw orffeniad sydd ar yr ewinedd yn barod

  8. adnabod cyflwr a si*â*p ewinedd naturiol y cleient ac unrhyw broblemau estyn

  9. dewis a chytuno gyda'r cleient yr ychwanegiadau ewinedd i gyd-fynd â si*â*p a chyflwr eu hewinedd

  10. cadarnhau hyd a siâp dymunol yr ewinedd gyda'r cleient

  11. defnyddio offer a chynnyrch cwtigl i dynnu cwtigl gormodol, heb ddifrodi'r croen o'i amgylch

  12. paratoi'r ewin naturiol i sicrhau'r adlyniad gorau i'r ychwanegiadau ewin

  13. rhoi cyngor ac argymhellion i'r cleient ar y gwasanaeth a ddarparwyd

  14. sicrhau bod cofnodion y cleient yn cael eu cwblhau a'u llofnodi gennych chi a'r cleient

Cerfio gan ddefnyddio gel wedi'i galedu â golau

* *

  1. addasu a gosod y ffurf cerfio i sicrhau lleoliad a siâp cywir y cynnyrch

  2. addasu a chyfuno gorffeniad gel wedi'i galedu â golau a thechnegau i estyn yn gosmetig ar si*â*p a chyflwr ewin y cleient

  3. taenu gel wedi'i galedu â golau gan adael ymyl rhydd o amgylch ardal y cwtigl a wal ochr yr ewin

  4. caledu'r ewinedd a thynnu unrhyw weddillion ar yr arwyneb

  5. defnyddio technegau llyfnu i greu'r cydbwysedd, siâp a hyd gofynnol

  6. taenu cynnyrch gorffen gel wedi'i galedu â golau

Gosod blaenau a throshaenau gel wedi'i galedu â golau

* *

  1. dewis a thorri'r blaen a'i addasu i gyd-fynd ag ewin naturiol y cleient

  2. adlynu'r blaen i'r ewin naturiol

  3. torri, siapio ac asio'r blaenau gan sicrhau nad ydynt i'w gweld ac nad oes unrhyw ddifrod i'r ewin naturiol

  4. paratoi'r arwyneb ewin naturiol a thaenu gel, gan adael ymyl rhydd o amgylch ardal y cwtigl a'r wal ochr

  5. addasu a chyfuno gorffeniad gel wedi'i galedu â golau a thechnegau i estyn yn gosmetig si*â*p a chyflwr yr ewin

  6. caledu'r ewinedd a thynnu gweddillion arwyneb yn ystod y cyfnod cywir yn y broses

  7. creu'r cydbwysedd, siâp a hyd gofynnol gan ddefnyddio technegau llyfnu

  8. taenu cynnyrch gorffen gel wedi'i galedu â golau

Cynnal a thynnu ychwanegiadau ewinedd gel wedi'i galedu â golau

* *

  1. adnabod unrhyw broblemau estyn ewinedd

  2. defnyddio technegau cynnal ewinedd i adfer yr estyniad ewinedd i'w gyflwr gwreiddiol

  3. defnyddio technegau tynnu a sicrhau bod yr haen ewin naturiol a'r croen sy'n amgylchynu yn rhydd rhag cynnyrch a heb eu difrodi


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth estyn, cynnal a thynnu ychwanegiadau ewinedd gel wedi'i galedu â golau

* *

  1. eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y diffinnir gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n berthnasol i'ch swydd

  2. gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer amddiffyn a pharatoi cleient

  3. gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer eich hylendid, amddiffyniad ac ymddangosiad personol

  4. technegau gosod eich hun a'ch cleient mewn safle diogel a pham ei bod hi'n bwysig defnyddio'r rhain

  5. amodau amgylcheddol angenrheidiol ar gyfer gwasanaethau, megis gwresogi ac awyru a pham bod y rhain yn bwysig

  6. pam ei bod hi'n bwysig cadw'ch ardal waith yn lân ac yn daclus

  7. dulliau glanhau, diheintio a sterileiddio

  8. dulliau gweithio yn ddiogel ac yn lân ac mewn ffordd sy'n isafu ar risg o groes-heintio

  9. y peryglon a'r risgiau sy'n bodoli yn eich gweithle a'r arferion gwaith diogel y mae'n rhaid i chi eu dilyn

  10. gwahanol fathau o ddulliau gwaith sy'n hyrwyddo arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy

  11. cyfarwyddiadau cyflenwyr a chynhyrchwyr ar gyfer defnydd diogel ar gyfarpar, deunydd a chynnyrch y mae'n rhaid i chi eu dilyn

  12. y gofynion cyfreithiol ar gyfer cael gwared ar wastraff

  13. y rhesymau dros gwblhau'r gwasanaeth o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol

Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau estyn ewinedd gel wedi'i galedu â golau

* *

  1. pwysigrwydd cyfathrebu gyda chleientiaid mewn modd proffesiynol

  2. sut i gynnal ymgynghoriad gan ystyried anghenion amrywiol y cleient

  3. y gofynion cyfreithiol ar gyfer trin plant sy'n iau na 16 oed

  4. yr oed pan fydd unigolyn yn cael ei ystyried yn blentyn a sut mae hynny'n gwahaniaethu yn genedlaethol

  5. y rhesymau dros gytuno ar wasanaeth sy'n bodloni anghenion y cleient

  6. arwyddocâd cyfreithiol dros sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan gleient i gynnal y gwasanaeth

  7. gofynion deddfwriaethol ar gyfer storio a diogelu data cleient

  8. sut i adnabod gwrtharwyddion a fyddai'n atal neu'n cyfyngu ar y gwasanaeth

  9. y gwrtharwyddion sy'n gofyn am atgyfeiriad meddygol a pham

  10. y camau angenrheidiol i'w cymryd mewn perthynas â gwrtharwyddion penodol wrth atgyfeirio cleientiaid

  11. y rhesymau dros beidio ag enwi gwrtharwyddion penodol wrth atgyfeirio cleientiaid

  12. y gwahanol fathau o gyflyrau ewinedd a chroen y gellir eu trin

  13. sut i gynnal dadansoddiad ewinedd a chroen

  14. y gwahanol ddulliau a ddefnyddir i baratoi'r ewin naturiol ar gyfer ychwanegiadau ewinedd

  15. y cyngor a'r argymhellion ar gynnyrch a gwasanaethau

Cerfio a gosod troshaenau gan ddefnyddio gel wedi'i galedu â golau

* *

  1. y gwahanol siapiau ewinedd naturiol yr ydych chi'n debygol o ddod ar eu traws yn ystod gwasanaethau estyn ewinedd

  2. sut i ddewis a defnyddio amryw fathau o ffeiliau a byffrau ar gyfer gwasanaethau estyn ewinedd

  3. technegau dewis blaenau ewinedd, eu gosod a'u hasio

  4. manteision ac anfanteision defnyddio blaenau wedi'u hasio neu heb eu hasio

  5. y technegau a ddefnyddir i sicrhau cryfder a hirhoedledd uchaf blaenau'r ewinedd

  6. sut i addasu technegau taenu i gyd-fynd â gwahanol siapiau a chyflyrau ewinedd

  7. y gwahanol fathau o ffurfiau cerfio sydd ar gael a sut i'w defnyddio

  8. y gwahanol fathau o gynnyrch gel sydd ar gael a'u defnydd

  9. sut i baru cynnyrch gel lliw ag arlliw croen naturiol y cleient

  10. y rhesymau dros adael ymyl rhydd o amgylch ardal y cwtigl a'r wal ochr

  11. y gwahanol fathau o gyfryngau gludo a'u defnydd

  12. nodweddion a buddion ychwanegiadau gel wedi'i galedu â golau

  13. cyfansoddiad cemegol gel wedi'i galedu â golau a'r adwaith cemegol sy'n digwydd yn ystod y broses galedu

  14. y gwahanol fathau o gyfarpar caledu a'r amserau caledu gofynnol

  15. dulliau a thechnegau a ddefnyddir i osgoi gormod o gysylltiad â chemegau a golau uwchfioled

  16. y gwahaniaethau allweddol wrth osod gel, hylif a phowdrau ac amlapiau a'u prosesau

  17. sut y gall gosod ychwanegiadau ewinedd a'u tynnu yn anghywir ddifrodi'r ewinedd naturiol a'r meinwe meddal amgylchynol

  18. y gwrtharwyddion a allai ddigwydd, sut i ddelio â hwy a'r cyngor i roi i gleientiaid

48. adeiladwaith yr ewin

  1. proses twf yr ewin

  2. swyddogaeth ac adeiladwaith y croen

* *

Cynnal a thynnu ychwanegiadau ewinedd gel wedi'i galedu â golau

* *

  1. y technegau ar gyfer atgyweirio ewinedd naturiol gan gynnwys holltau, craciau, fflawio a thoriadau

  2. y technegau ar gyfer atgyweirio ychwanegiadau ewinedd gan gynnwys codi, cracio a cholli cyn pryd

  3. y ffactorau sy'n dylanwadu ar ofynion cynnal ar gyfer y system gel wedi'i galedu â golau

  4. dulliau tynnu ychwanegiadau ewinedd gel wedi'i galedu â golau


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Technegau ymgynghori

* *

  1. holi

  2. gwrando

  3. edrych

  4. teimlo

  5. ysgrifenedig

Camau angenrheidiol

* *

  1. annog y cleient i geisio cyngor meddygol

  2. esbonio pam na ellid cynnal y gwasanaeth

  3. addasu'r gwasanaeth

Si*â*p a chyflwr yr ewin

* *

  1. wedi'u cnoi

  2. bachyn

  3. naid sgïo

  4. wedi colli lliw

  5. ffan

  6. di-siâp

  7. wedi'u hollti

Problemau estyn

* *

  1. cynnyrch yn codi

  2. cynnyrch yn cracio a hollti

  3. colli adeiladwaith ewin artiffisial

  4. difrod i ewinedd naturiol

Cyngor ac argymhellion

* *

  1. cynnyrch ôl-ofal addas a'u defnydd

  2. osgoi gweithgareddau a allai achosi adweithiau

  3. cyfnodau amser a argymhellir rhwng gwasanaethau

  4. cynnyrch a gwasanaethau yn awr ac yn y dyfodol

Gorffeniad* * gel wedi'i galedu â golau

  1. cuddio

  2. Ffrengig

  3. lliw

Technegau cynnal ewinedd

* *

  1. mewnlenwi

  2. ail gydbwyso

  3. ail-leoli cynnyrch blaen gwyn

  4. ailosod troshaen

  5. atgyweirio troshaen


Gwybodaeth Cwmpas

Iechyd a diogelwch

* *

  1. Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

  2. Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (RIDDOR)

  3. Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)

  4. Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)

  5. Rheoliadau Gweithredoedd Codi a Chario

  6. Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)

  7. Rheoliadau Trydan yn y Gweithle

  8. Deddf Diogelu'r Amgylchedd

  9. Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

  10. Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Gyflogeion)

Arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy

* *

  1. gostwng gwastraff a rheoli gwastraff (ailgylchu, ailddefnyddio, gwaredu diogel)

  2. gostwng defnydd ar ynni (cyfarpar sy'n arbed ynni, goleuadau ynni isel, defnyddio paneli solar)

  3. gostwng defnydd ar ddŵr ac adnoddau eraill

  4. atal llygredd

  5. defnyddio eitemau untro

  6. defnyddio dodrefn wedi'u hailgylchu, ecogyfeillgar

  7. defnyddio paent â chemegau isel

  8. defnyddio pecynnau cynnyrch ecogyfeillgar

  9. dewis cynnyrch domestig cyfrifol (te a choffi Masnach Deg)

  10. annog siwrneion i'r gwaith sy'n gostwng carbon

Anghenion amrywiol

 

  1. diwylliannol

  2. crefyddol

  3. oed

  4. anabledd

  5. rhyw

Gwrtharwyddion sy'n atal

  1. heintiau ffyngaidd

  2. heintiau feirws

  3. heintiau bacterol

  4. heintiau parasitig

  5. cyflyrau croen difrifol

Gwrtharwyddion sy'n cyfyngu ar

  1. psorïasis

  2. dermatitis

  3. gwahaniad ewinedd difrifol

  4. esgyrn wedi torri

  5. cochni neu chwyddo heb wybod pam

  6. ewinedd wedi'u difrodi

  7. ewinedd wedi teneuo

Cyngor ac argymhellion

* *

  1. gwasanaethau ychwanegol

  2. cynnyrch ychwanegol

  3. gofynion ôl-ofal, cynnal a thynnu ar gyfer ychwanegiadau ewinedd gel wedi'i galedu â golau

  4. cyfnodau a argymhellir rhwng gwasanaethau estyn ewinedd gel wedi'i galedu â golau

Siapiau ewinedd naturiol

* *

  1. ffan

  2. bachyn

  3. llwy

  4. hirgrwn

  5. sgwâr

Cynnyrch gel

  1. y rhai sy'n trochi i ffwrdd

  2. y rhai nad oes modd eu trochi i ffwrdd

Adweithiau

* *

  1. adweithiau alergaidd

  2. cysylltiad gormodol ac adwaith ecsothermig

  3. heintiau bacterol

  4. gwahaniad ewinedd

  5. cynnyrch yn codi

  6. colli ychwanegiadau cyn amser

Adeiladwaith yr ewin

* *

  1. haen ewin

  2. gwely'r ewin

  3. matrics

  4. cwtigl

  5. gwyn yr ewinedd

  6. hyponychium

  7. eponychium

  8. perionychium

  9. ymyl rhydd

  10. plyg ewin ochr

Twf yr ewin

* *

  1. ffurfiant yr ewin

  2. cyfradd dyfu

  3. ffactorau sy'n effeithio ar dwf

  4. effeithiau difrod ar dwf

  5. trwch yr ewin

Adeiladwaith y croen

* *

  1. dermis

  2. uwchgroen

  3. haen tan y croen

  4. atodion


Gwerthoedd

Mae'r gwerthoedd allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba

  1. parodrwydd i ddysgu

  2. agwedd weithio hyblyg

  3. gweithiwr tîm

  4. agwedd bositif

  5. moeseg bersonol a phroffesiynol


Ymddygiadau

Mae'r ymddygiad a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba. Mae'r ymddygiad hwn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r sefydliad a'r unigolyn

  1. bodloni safonau ymddygiad y sefydliad

  2. cyfarch y cleient yn barchus ac mewn modd cyfeillgar

  3. cyfathrebu gyda'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu

  4. trin y cleient yn gwrtais ac yn wasanaethgar bob amser

  5. addasu'r ymddygiad i ymateb yn effeithiol i wahanol ymddygiad gan y cleient

  6. gwirio gyda'r cleient eich bod chi wedi deall eu disgwyliadau yn llawn

  7. ymateb yn brydlon ac yn gadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient

  8. adnabod gwybodaeth y gallai'r cleient ei chael yn gymhleth a gwirio a ydynt wedi deall yn llawn

  9. esbonio'r glir wrth y cleient os na ellir bodloni eu hanghenion neu'u disgwyliadau am unrhyw reswm

  10. cynnal dulliau gwaith effeithiol, glân a diogel

  11. cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, y cyflenwyr a'r cynhyrchwyr wrth ddefnyddio cyfarpar, deunyddiau a chynnyrch yn ddiogel

  12. bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant.


Sgiliau

Mae'r sgiliau allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba

  1. y gallu i hunan-reoli

  2. cyfathrebu llafar a dieiriau gwych

  3. defnyddio'r ffyrdd mwyaf priodol o gyfathrebu gyda chleient

  4. ymateb yn brydlon i gleient sy'n gofyn am gymorth

  5. canfod gwybodaeth yn gyflym a fydd o gymorth i'r cleient

  6. rhoi gwybodaeth y mae ei hangen ar gleient am wasanaethau a chynnyrch a gynigir gan y sefydliad


Geirfa

Cuddio

Gorchuddio neu guddio unrhyw ddiffygion.

Asio wedi'i addasu

Mae hyn y cyfeirio at gymysgu amrywiaeth o gynnyrch i gyd-fynd â gofynion cleientiaid unigol.

Ecsothermig

Mae adwaith ecsothermig yn adwaith cemegol sy'n rhyddhau ynni trwy olau neu wres.

Gorffeniad Ffrengig

Techneg o fewn gwasanaethau ewinedd sy'n creu llinell wenu ddiffiniedig ar ymyl rhydd yr ewin.

Mewnlenwi

Taenu cynnyrch newydd yn y bwlch bach sy'n digwydd rhwng y cwtigl a phen yr ychwanegiad, wrth i'r ewin naturiol dyfu. Gwneir hyn bob tua 2-3 wythnos.

Troshaen

Cot denau o gynnyrch sy'n cael ei thaenu dros yr arwyneb naturiol neu ewin artiffisial cyfan.

Ail gydbwyso

Cynnal yr adeiladwaith ewinedd cyfan, gan gynnwys ardal bwysau, ymyl rhydd a chwtigl. Gwneir hyn bob tua 4-6 wythnos.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SKillsActive

URN gwreiddiol

SKAN6

Galwedigaethau Perthnasol

Technegydd ewinedd, Therapydd Harddwch

Cod SOC


Geiriau Allweddol

caledu â golau; gel; estyn; cynnal; ewinedd