Gosod a chynnal ychwanegiadau ewinedd i greu gorffeniad naturiol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â darparu gwasanaethau i estyn, cynnal, atgyweirio a thynnu ychwanegiadau ewinedd i greu gorffeniad naturiol. Mae'n cynnwys ymgynghori â'r cleient, cynllunio triniaeth a gosod blaenau naturiol a throshaenau clir naill ai gyda systemau gel wedi'i galedu â golau, hylif a phowdwr neu amlapio.
Er mwyn cyflawni'r safon hon bydd angen i chi gynnal iechyd, diogelwch a hylendid effeithiol trwy gydol eich gwaith. Bydd angen i chi hefyd gynnal eich ymddangosiad personol a dangos sgiliau cyfathrebu ac ymgynghori effeithiol.
Prif ganlyniadau'r safon hon yw:
cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth estyn, cynnal a thynnu ychwanegiadau ewinedd
ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau estyn ewinedd
gosod troshaenau naturiol
gosod blaenau a throshaenau
cynnal a thynnu ychwanegiadau ewinedd
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth estyn,* * * * * * cynnal a thynnu ychwanegiadau ewinedd
* *
cynnal eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch trwy gydol y gwasanaeth
paratoi'ch cleient a'ch hun i fodloni gofynion cyfreithiol a sefydliadol
gosod eich cleient mewn safle i fodloni anghenion y gwasanaeth
sicrhau bod eich ystum eich hun a'ch dulliau gwaith yn isafu ar flinder a risg o anaf i chi'ch hun ac eraill
sicrhau bod amodau amgylcheddol yn addas i'r cleient a'r gwasanaeth
cadw'ch ardal waith yn lân ac yn daclus trwy gydol y gwasanaeth
defnyddio dulliau gwaith sy'n isafu ar risg o groes-heintio
sicrhau defnydd ar gyfarpar a deunydd glân
hyrwyddo arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy
dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a chyflenwyr neu gynhyrchwyr ar gyfer defnydd diogel ar gyfarpar, deunyddiau a chynnyrch
cael gwared ar ddeunydd gwastraff i fodloni gofynion cyfreithiol
cynnal y gwasanaeth o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol
Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau ychwanegiadau ewinedd
* *
13.defnyddio technegau ymgynghori **i bennu cynllun gwasanaeth y cleient
sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan riant neu warcheidwad ar gyfer plant cyn unrhyw wasanaeth
sicrhau bod rhiant neu warcheidwad yn bresennol trwy gydol y gwasanaeth ar gyfer plant sy'n iau na 16 oed
adnabod unrhyw wrtharwyddion a chymryd y camau angenrheidiol
cytuno ar y gwasanaeth estyn ewinedd a'r canlyniadau sy'n bodloni anghenion y cleient
sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan y cleient cyn cynnal yr ychwanegiadau ewinedd
glanhau'r ardal a fydd yn cael ei thrin a thynnu unrhyw orffeniad sydd ar yr ewinedd yn barod
dewis a chytuno gyda'r cleient yr ychwanegiadau ewinedd i gyd-fynd â siap a chyflwr yr ewin
cadarnhau hyd a siâp dymunol yr ewinedd gyda'r cleient
defnyddio offer a chynnyrch cwtigl i dynnu cwtigl gormodol, heb ddifrodi'r croen o'i amgylch
paratoi'r ewin naturiol i sicrhau adlyniad gorau'r ychwanegiadau ewin
rhoi cyngor ac argymhellion i'r cleient ar y gwasanaeth a ddarparwyd
sicrhau bod cofnodion y cleient yn cael eu cwblhau a'u llofnodi gennych chi a'r cleient
Gosod troshaenau naturiol
* *
gosod troshaen ewinedd i gyd-fynd â siâp a chyflwr ewin y cleient
gadael ymyl rhydd o amgylch ardal y cwtigl a wal ochr yr ewin
defnyddio technegau llyfnu i greu'r cydbwysedd, siâp a hyd gofynnol
creu arwyneb gwastad llyfn a sglein gan ddefnyddio technegau gloywi
Gosod blaenau a throshaenau
* *
dewis a thorri'r blaen a'i addasu i gyd-fynd ag ewin naturiol y cleient
adlynu'r blaen i'r ewin naturiol
torri, siapio ac asio'r blaenau gan sicrhau nad oes unrhyw ddifrod i'r ewin naturiol, ac nad yw'r blaen i'w weld
gosod troshaen i'r ewinedd i gyd-fynd â siâp a chyflwr ewin y cleient
gadael ymyl rhydd o amgylch ardal y cwtigl a wal ochr yr ewin
defnyddio technegau llyfnu i greu'r cydbwysedd, siâp a hyd gofynnol
creu gorffeniad disglair iawn gan ddefnyddio technegau gloywi
Cynnal a thynnu ychwanegiadau ewinedd
* *
defnyddio technegau cynnal ewinedd i adfer yr estyniad ewinedd i'w gyflwr gwreiddiol
defnyddio technegau tynnu a sicrhau bod yr haen ewin naturiol a'r croen sy'n amgylchynu yn rhydd rhag cynnyrch a heb eu difrodi
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth estyn, cynnal a thynnu ychwanegiadau ewinedd
* *
eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y diffinnir gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n berthnasol i'ch swydd
gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer amddiffyn a pharatoi cleient
gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer eich hylendid, amddiffyniad ac ymddangosiad personol
technegau gosod eich hun a'ch cleient mewn safle diogel a pham ei bod hi'n bwysig defnyddio'r rhain
amodau amgylcheddol angenrheidiol ar gyfer gwasanaethau, megis gwresogi ac awyru a pham bod y rhain yn bwysig
pam ei bod hi'n bwysig cadw'ch ardal waith yn lân ac yn daclus
dulliau glanhau, diheintio a sterileiddio
dulliau gweithio yn ddiogel ac yn lân ac mewn ffordd sy'n isafu ar risg o groes-heintio
y peryglon a'r risgiau sy'n bodoli yn eich gweithle a'r arferion gwaith diogel y mae'n rhaid i chi eu dilyn
gwahanol fathau o ddulliau gwaith sy'n hyrwyddo arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy
cyfarwyddiadau cyflenwyr a chynhyrchwyr ar gyfer defnydd diogel ar gyfarpar, deunydd a chynnyrch y mae'n rhaid i chi eu dilyn
y gofynion cyfreithiol ar gyfer cael gwared ar wastraff
y rhesymau dros gwblhau'r gwasanaeth o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol
Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau estyn ewinedd
* *
pwysigrwydd cyfathrebu gyda chleientiaid mewn modd proffesiynol
sut i gynnal ymgynghoriad gan ystyried anghenion amrywiol y cleient
y gofynion cyfreithiol ar gyfer trin plant sy'n iau na 16 oed
yr oed pan fydd unigolyn yn cael ei ystyried yn blentyn a sut mae hynny'n gwahaniaethu yn genedlaethol
y rhesymau dros gytuno ar wasanaeth sy'n bodloni anghenion y cleient
arwyddocâd cyfreithiol dros sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan gleient i gynnal y gwasanaeth
gofynion deddfwriaethol ar gyfer storio a diogelu data cleient
sut i adnabod gwrtharwyddion a fyddai'n atal neu'n cyfyngu ar y gwasanaeth
y gwrtharwyddion sy'n gofyn am atgyfeiriad meddygol a pham
y camau angenrheidiol i'w cymryd mewn perthynas â gwrtharwyddion penodol wrth atgyfeirio cleientiaid
y rhesymau dros beidio ag enwi gwrtharwyddion penodol wrth atgyfeirio cleientiaid
sut i adnabod cyflyrau ewinedd a chroen y gellir eu trin
sut i gynnal dadansoddiad ewinedd a chroen
y gwahanol ddulliau a ddefnyddir i baratoi'r ewin naturiol ar gyfer ychwanegiadau ewinedd
y cyngor a'r argymhellion ar gynnyrch a gwasanaethau
Gosod, cynnal a thynnu ychwanegiadau ewinedd
* *
y gwahanol siapiau ewinedd naturiol yr ydych chi'n debygol o ddod ar eu traws yn ystod gwasanaethau estyn ewinedd
sut i ddewis a defnyddio gwahanol fathau o gynnyrch, offer a chyfarpar ar gyfer gwasanaethau estyn ewinedd
technegau dewis blaenau ewinedd, eu gosod a'u hasio
y technegau a ddefnyddir i sicrhau cryfder a hirhoedledd uchaf blaenau'r ewinedd
sut i addasu technegau gosod blaenau ewinedd i gyd-fynd â gwahanol siapiau a chyflyrau ewinedd
y rhesymau dros adael ymyl rhydd o amgylch ardal y cwtigl a'r wal ochr
y gwahanol fathau o gyfryngau gludo sydd ar gael a'u defnydd
dulliau a thechnegau a ddefnyddir i osgoi gormod o gysylltiad â chemegau
y gwahaniaethau allweddol wrth osod ac yng nghyfansoddiad cemegol ychwanegiadau gel, hylif a phowdrau ac amlapiau
sut y gall gosod ychwanegiadau ewinedd a'u tynnu yn anghywir ddifrodi'r ewinedd naturiol a'r meinwe meddal amgylchynol
y technegau ar gyfer atgyweirio ewinedd naturiol gan gynnwys holltau, craciau, fflawio a thoriadau
y technegau ar gyfer atgyweirio ychwanegiadau ewinedd gan gynnwys codi, cracio a cholli cyn amser
y gwrtharwyddion a allai ddigwydd, sut i ddelio â hwy a'r cyngor i roi i gleientiaid
y technegau a ddefnyddir ar gyfer cynnal a thynnu gwahanol ychwanegiadau ewinedd
43. adeiladwaith yr ewin
proses twf yr ewin
swyddogaeth ac adeiladwaith y croen
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Technegau ymgynghori
* *
holi
gwrando
edrych
teimlo
ysgrifenedig
Camau angenrheidiol
* *
annog y cleient i geisio cyngor meddygol
esbonio pam na ellid cynnal y gwasanaeth
addasu'r gwasanaeth
Ychwanegiadau ewinedd
set lawn o droshaenau ewinedd naturiol
set lawn o flaenau a throshaenau naturiol
Cyngor ac argymhellion
* *
cynnyrch ôl-ofal addas a'u defnydd
osgoi gweithgareddau a allai achosi adweithiau
cyfnodau amser a argymhellir rhwng gwasanaethau
cynnyrch a gwasanaethau yn awr ac yn y dyfodol
Technegau cynnal ewinedd
* *
mewnlenwi
ail gydbwyso
Gwybodaeth Cwmpas
Iechyd a diogelwch
* *
Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (RIDDOR)
Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)
Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)
Rheoliadau Gweithredoedd Codi a Chario
Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)
Rheoliadau Trydan yn y Gweithle
Deddf Diogelu'r Amgylchedd
Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Gyflogeion)
Arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy
* *
gostwng gwastraff a rheoli gwastraff (ailgylchu, ailddefnyddio, gwaredu diogel)
gostwng defnydd ar ynni (cyfarpar sy'n arbed ynni, goleuadau ynni isel, defnyddio paneli solar)
gostwng defnydd ar ddŵr ac adnoddau eraill
atal llygredd
defnyddio eitemau untro
defnyddio dodrefn wedi'u hailgylchu, ecogyfeillgar
defnyddio paent â chemegau isel
defnyddio pecynnau cynnyrch ecogyfeillgar
dewis cynnyrch domestig cyfrifol (te a choffi Masnach Deg)
annog siwrneion i'r gwaith sy'n gostwng carbon
Anghenion amrywiol
diwylliannol
crefyddol
oed
anabledd
rhyw
Gwrtharwyddion sy'n atal
heintiau ffyngaidd
heintiau feirws
heintiau bacterol
heintiau parasitig
cyflyrau croen difrifol
Gwrtharwyddion sy'n cyfyngu ar
psorïasis
dermatitis
gwahaniad ewinedd difrifol
esgyrn wedi torri
cochni neu chwyddo heb wybod pam
ewinedd wedi'u difrodi
ewinedd wedi teneuo
Cyngor ac argymhellion
* *
gwasanaethau ychwanegol
cynnyrch ychwanegol
gofynion ôl-ofal a chynnal ar gyfer ychwanegiadau ewinedd
cyfnodau a argymhellir rhwng gwasanaethau estyn ewinedd
Siapiau ewinedd naturiol
* *
ffan
bachyn
llwy
hirgrwn
sgwâr
Adweithiau
* *
adweithiau alergaidd
cysylltiad gormodol ac adwaith ecsothermig
heintiau bacterol
gwahaniad ewinedd
codi cynnyrch
colli ychwanegiadau cyn amser
Adeiladwaith yr ewin
* *
haen ewin
gwely'r ewin
matrics
cwtigl
gwyn yr ewinedd
hyponychium
eponychium
perionychium
ymyl rhydd
plyg ewin ochr
Twf yr ewin
* *
ffurfiant yr ewin
cyfradd dyfu
ffactorau sy'n effeithio ar dwf
effeithiau difrod ar dwf
trwch yr ewin
Adeiladwaith y croen
* *
dermis
uwchgroen
haen tan y croen
atodion
Gwerthoedd
Mae'r gwerthoedd allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba
parodrwydd i ddysgu
agwedd weithio hyblyg
gweithiwr tîm
agwedd bositif
moeseg bersonol a phroffesiynol
Ymddygiadau
Mae'r ymddygiad a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba. Mae'r ymddygiad hwn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r sefydliad a'r unigolyn
bodloni safonau ymddygiad y sefydliad
cyfarch y cleient yn barchus ac mewn modd cyfeillgar
cyfathrebu gyda'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu
trin y cleient yn gwrtais ac yn wasanaethgar bob amser
addasu'r ymddygiad i ymateb yn effeithiol i wahanol ymddygiad gan y cleient
gwirio gyda'r cleient eich bod chi wedi deall eu disgwyliadau yn llawn
ymateb yn brydlon ac yn gadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient
adnabod gwybodaeth y gallai'r cleient ei chael yn gymhleth a gwirio a ydynt wedi deall yn llawn
esbonio'r glir wrth y cleient os na ellir bodloni eu hanghenion neu'u disgwyliadau am unrhyw reswm
cynnal dulliau gwaith effeithiol, glân a diogel
cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, y cyflenwyr a'r cynhyrchwyr wrth ddefnyddio cyfarpar, deunyddiau a chynnyrch yn ddiogel
bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant.
Sgiliau
Mae'r sgiliau allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba
y gallu i hunan-reoli
cyfathrebu llafar a dieiriau gwych
defnyddio'r ffyrdd mwyaf priodol o gyfathrebu gyda chleient
ymateb yn brydlon i gleient sy'n gofyn am gymorth
canfod gwybodaeth yn gyflym a fydd o gymorth i'r cleient
rhoi gwybodaeth y mae ei hangen ar gleient am wasanaethau a chynnyrch a gynigir gan y sefydliad
Geirfa
Mewnlenwi
Taenu cynnyrch newydd yn y bwlch bach sy'n digwydd rhwng y cwtigl a phen yr ychwanegiad, wrth i'r ewin naturiol dyfu. Gwneir hyn bob tua 2-3 wythnos.
Troshaen
Cot denau sy'n cael ei thaenu ar yr ewin naturiol neu dros yr ewin naturiol a'r blaen.
Ail gyd-bwyso
Cynnal yr adeiladwaith ewinedd cyfan, gan gynnwys ardal bwysau, ymyl rhydd a chwtigl. Gwneir hyn bob 4-6 wythnos.