Cynnal gwasanaethau celf ewinedd
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chreu cynlluniau celf ewinedd ar ddwylo a thraed y cleient. Mae'n cynnwys ymgynghori â'r cleientiaid i adnabod eu gofynion cynllun celf ewinedd unigol ac adnabod unrhyw wrtharwyddion a allai effeithio ar y gwasanaeth. Mae hefyd yn cynnwys paratoi, taenu a gorffen y cynllun.
Er mwyn cyflawni'r safon hon bydd angen i chi gynnal iechyd, diogelwch a hylendid effeithiol trwy gydol eich gwaith. Bydd angen i chi hefyd gynnal eich ymddangosiad personol a dangos sgiliau cyfathrebu ac ymgynghori da.
Prif ganlyniadau'r safon hon yw:
cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth ddarparu gwasanaeth celf ewinedd
ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau celf ewinedd
cynnal gwasanaethau celf ewinedd
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth ddarparu gwasanaeth celf ewinedd
* *
cynnal eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch trwy gydol y gwasanaeth
paratoi'ch cleient a'ch hun i fodloni gofynion cyfreithiol a sefydliadol
gosod eich cleient mewn safle i fodloni anghenion y gwasanaeth
sicrhau bod eich ystum eich hun a'ch dulliau gwaith yn isafu ar flinder a risg o anaf i chi'ch hun ac eraill
sicrhau bod amodau amgylcheddol yn addas i'r cleient a'r gwasanaeth
cadw'ch ardal waith yn lân ac yn daclus trwy gydol y gwasanaeth
defnyddio dulliau gwaith sy'n isafu ar risg o groes-heintio
sicrhau defnydd ar gyfarpar a deunydd glân
hyrwyddo arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy
dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a chyflenwyr neu gynhyrchwyr ar gyfer defnydd diogel ar gyfarpar, deunyddiau a chynnyrch
cael gwared ar ddeunydd gwastraff i fodloni gofynion cyfreithiol
cynnal y gwasanaeth o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol
Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau celf ewinedd
* *
defnyddio technegau ymgynghori i bennu cynllun gwasanaeth y cleient
sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan riant neu warcheidwad ar gyfer plant cyn unrhyw wasanaeth
sicrhau bod rhiant neu warcheidwad yn bresennol trwy gydol y gwasanaeth ar gyfer plant sy'n iau na 16 oed
adnabod unrhyw wrtharwyddion a chymryd unrhyw gamau angenrheidiol
cytuno ar y gwasanaeth a'r canlyniadau sy'n bodloni anghenion y cleient
sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan y cleient cyn cynnal y gwasanaeth
adnabod cyflwr yr ewinedd a'r croen
Darparu gwasanaethau celf ewinedd
* *
cadarnhau hyd a siâp dymunol yr ewinedd gyda'r cleient
siapio'r ewinedd i sicrhau ymyl rhydd llyfn
defnyddio offer a chynnyrch i baratoi'r ewin ar gyfer gwasanaeth celf ewinedd
taenu haen sylfaenol celf ewinedd yn unol â'r cynllun
dewis offer, cynnyrch a'r technegau celf ewinedd ar gyfer y cynllun y cytunwyd arno
taenu technegau celf ewinedd er mwyn cyflawni'r cynllun gofynnol
gorffen y cynllun celf ewinedd, gan adael y cwtigl a wal yr ewin yn rhydd rhag cynnyrch
sicrhau bod y cleient yn fodlon â'r canlyniad gorffenedig a'i fod yn bodloni'r cynllun y cytunwyd arno
rhoi cyngor ac argymhellion i'r cleient ar y gwasanaeth a ddarparwyd
sicrhau bod cofnodion y cleient yn cael eu cwblhau a'u llofnodi gennych chi a'r cleient
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth ddarparu gwasanaethau celf ewinedd
* *
eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y diffinnir gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n berthnasol i'ch swydd
y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer diogelu a pharatoi cleient
y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer eich hylendid, amddiffyniad ac ymddangosiad personol
technegau gosod eich hun a'ch cleient mewn safle diogel a pham ei bod hi'n bwysig defnyddio'r rhain
amodau amgylcheddol angenrheidiol ar gyfer gwasanaethau, megis gwresogi ac awyru a pham bod y rhain yn bwysig
pam ei bod hi'n bwysig cadw'ch ardal waith yn lân ac yn daclus
dulliau glanhau, diheintio a sterileiddio
dulliau gweithio yn ddiogel ac yn lân ac mewn ffordd sy'n isafu ar risg o groes-heintio
y gwahanol fathau o ddulliau gwaith sy'n hyrwyddo arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy
yr adweithiau a allai ddigwydd, sut i ddelio â hwy a pha gyngor i'w roi i'r cleientiaid
y peryglon a'r risgiau sy'n bodoli yn eich gweithle a'r arferion gwaith diogel y mae'n rhaid i chi eu dilyn
cyfarwyddiadau cyflenwyr a chynhyrchwyr ar gyfer defnydd diogel ar gyfarpar, deunydd a chynnyrch y mae'n rhaid i chi eu dilyn
y gofynion cyfreithiol ar gyfer cael gwared ar wastraff
y rhesymau dros gwblhau'r gwasanaeth o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol
Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau celf ewinedd
* *
pwysigrwydd cyfathrebu gyda chleientiaid mewn modd proffesiynol
sut i gynnal ymgynghoriad gan ystyried anghenion amrywiol y cleient
y gofynion cyfreithiol ar gyfer trin plant sy'n iau na 16 oed
yr oed pan fydd unigolyn yn cael ei ystyried yn blentyn a sut mae hynny'n gwahaniaethu yn genedlaethol
y rhesymau dros gytuno ar wasanaeth sy'n bodloni anghenion y cleient
arwyddocâd cyfreithiol dros sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan gleient i gynnal y gwasanaeth
y gofynion cyfreithiol ar gyfer storio a diogelu data cleient
sut i adnabod gwrtharwyddion a fyddai'n atal neu'n cyfyngu ar y gwasanaeth a pham
y gwrtharwyddion sy'n gofyn am atgyfeiriad meddygol a pham
y camau angenrheidiol i'w cymryd mewn perthynas â gwrtharwyddion penodol wrth atgyfeirio cleientiaid
y rhesymau dros beidio ag enwi gwrtharwyddion penodol wrth atgyfeirio cleientiaid
sut i adnabod cyflyrau ewinedd a chroen y gellir eu trin
sut i gynnal dadansoddiad ewinedd a chroen
Cynnal gwasanaethau celf ewinedd
* *
y gwahanol ddulliau a ddefnyddir i baratoi'r ewinedd ar gyfer taenu celf ewinedd
y gwahanol dechnegau taenu a thynnu a ddefnyddir o fewn gwasanaethau celf ewinedd a sut i'w cynnal
ystod a defnydd cynnyrch ac offer celf ewinedd
y gwahanol arddulliau a themâu cynllun sydd ar gael
sut i ddewis a chyfuno lliwiau er mwyn ategu at y cynllun
sut y gall cyflwr a siâp ewin y cleient gyfyngu ar y dewis o gynllun
34. adeiladwaith yr ewin
proses twf yr ewin
swyddogaeth ac adeiladwaith y croen
adweithiau posibl a allai ddigwydd, sut i ddelio â hwy a pha gyngor i'w roi i gleientiaid * *
y cyngor a'r argymhellion ar gynnyrch a gwasanaethau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Technegau ymgynghori
* *
holi
gwrando
edrych
teimlo
ysgrifenedig
Camau angenrheidiol
* *
annog y cleient i geisio cyngor meddygol
esbonio pam na ellid cynnal y gwasanaeth
addasu'r gwasanaeth
Technegau celf ewinedd
trosluniau
amlapiau
llewyrch
addurniadau
britho
streipio
dotio
llaw rydd
Cyngor ac argymhellion
* *
cynnyrch ôl-ofal addas a'u defnydd
osgoi gweithgareddau a allai achosi adweithiau
y cyfnodau amser a argymhellir rhwng gwasanaethau
cynnyrch a gwasanaethau yn awr ac yn y dyfodol
Gwybodaeth Cwmpas
Iechyd a diogelwch
* *
Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (RIDDOR)
Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)
Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)
Rheoliadau Gweithredoedd Codi a Chario
Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)
Rheoliadau Trydan yn y Gweithle
Deddf Diogelu'r Amgylchedd
Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Gyflogeion)
Arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy
* *
gostwng gwastraff a rheoli gwastraff (ailgylchu, ailddefnyddio, gwaredu diogel)
gostwng defnydd ar ynni (cyfarpar sy'n arbed ynni, goleuadau ynni isel, defnyddio paneli solar)
gostwng defnydd ar ddŵr ac adnoddau eraill
atal llygredd
defnyddio eitemau untro
defnyddio dodrefn wedi'u hailgylchu, ecogyfeillgar
defnyddio paent â chemegau isel
defnyddio pecynnau cynnyrch ecogyfeillgar
dewis cynnyrch domestig cyfrifol (te a choffi Masnach Deg)
annog siwrneion i'r gwaith sy'n gostwng carbon
Anghenion amrywiol
diwylliannol
crefyddol
oed
anabledd
rhyw
Gwrtharwyddion sy'n atal
heintiau ffyngaidd
heintiau feirws
heintiau parasitig
cyflyrau croen difrifol
ewinedd wedi'u cnoi yn ddifrifol
Gwrtharwyddion sy'n cyfyngu ar
heintiau bacterol
psorïasis
dermatitis
gwahaniad ewinedd difrifol
esgyrn wedi torri
cochni neu chwyddo heb wybod pam
ewinedd wedi'u difrodi
Siapiau ewinedd naturiol
* *
ffan
bachyn
llwy
hirgrwn
sgwâr
Adeiladwaith yr ewin
haen ewin
gwely'r ewin
matrics
cwtigl
gwyn yr ewinedd
hyponychium
eponychium
wal yr ewin
ymyl rhydd
plyg ewin ochr
Twf yr ewin
* *
ffurfiant yr ewin
cyfradd dyfu
ffactorau sy'n effeithio ar dwf
effeithiau difrod ar dwf
trwch yr ewin
Adeiladwaith y croen
* *
dermis
uwchgroen
haen tan y croen
atodion
Adweithiau
* *
adwaith alergaidd
colli cynllun celf ewinedd cyn amser
difrod i gynllun celf ewinedd
Cyngor ac argymhellion
gwasanaethau ychwanegol
cynnyrch ychwanegol
ôl-ofal a gofynion cynnal i sicrhau hirhoedledd y cynllun
Gwerthoedd
Mae'r gwerthoedd allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba
parodrwydd i ddysgu
agwedd weithio hyblyg
gweithiwr tîm
agwedd bositif
moeseg bersonol a phroffesiynol
Ymddygiadau
Mae'r ymddygiad a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba. Mae'r ymddygiad hwn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r sefydliad a'r unigolyn
bodloni safonau ymddygiad y sefydliad
cyfarch y cleient yn barchus ac mewn modd cyfeillgar
cyfathrebu gyda'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu
trin y cleient yn gwrtais ac yn wasanaethgar bob amser
addasu'r ymddygiad i ymateb yn effeithiol i wahanol ymddygiad gan y cleient
gwirio gyda'r cleient eich bod chi wedi deall eu disgwyliadau yn llawn
ymateb yn brydlon ac yn gadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient
adnabod gwybodaeth y gallai'r cleient ei chael yn gymhleth a gwirio a ydynt wedi deall yn llawn
esbonio'r glir wrth y cleient os na ellir bodloni eu hanghenion neu'u disgwyliadau am unrhyw reswm
cynnal dulliau gwaith effeithiol, glân a diogel
cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, y cyflenwyr a'r cynhyrchwyr wrth ddefnyddio cyfarpar, deunyddiau a chynnyrch yn ddiogel
bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant.
Sgiliau
Mae'r sgiliau allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba
y gallu i hunan-reoli
cyfathrebu llafar a dieiriau gwych
defnyddio'r ffyrdd mwyaf priodol o gyfathrebu gyda chleient
ymateb yn brydlon i gleient sy'n gofyn am gymorth
canfod gwybodaeth yn gyflym a fydd o gymorth i'r cleient
rhoi gwybodaeth y mae ei hangen ar gleient am wasanaethau a chynnyrch a gynigir gan y sefydliad
Geirfa
Addurniadau
Gall y rhain gynnwys rheinstonau, cerrig gwastad neu unrhyw gynnyrch celf parod megis dolenni a blodau.
Llaw rydd
Tynnu lluniau â llaw rydd gan ddefnyddio unrhyw gyfrwng celf ewinedd.
Britho
Dau liw neu'n fwy i greu effaith frith gan ddefnyddio ystod o gynnyrch.
Trosluniau
Gall trosluniau naill ai fod yn ddeunydd sy'n cael eu rhyddhau â dŵr, deunydd sydd â chefn glynu neu ddeunydd y gellir eu gludo gan ddefnyddio glud ar wahân.
Amlapiau
Gall amlapiau fod yn ddeunydd sy'n cael eu rhyddhau â gwres neu'n rhai â chefn glynu.