Darparu gwasanaethau trin ewinedd traed
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â darparu gwasanaeth trin ewinedd traed i gleientiaid. Mae'n cynnwys ymgynghori â'r cleient, adnabod unrhyw wrtharwyddion, paratoi ar gyfer y gwasanaeth a chynhyrchu cynllun gwasanaeth. Mae hefyd yn cynnwys siapio'r ewinedd, defnyddio triniaethau croen a chwtigl, glanhau a sychu'r traed, cael gwared ar groen caled gormodol, tylino'r droed a rhan isaf y goes a thaenu gorffeniad addas i'r ewinedd.
Er mwyn cyflawni'r safon hon bydd angen i chi gynnal iechyd, diogelwch a hylendid effeithiol trwy gydol eich gwaith. Bydd angen i chi hefyd gynnal eich ymddangosiad personol a dangos sgiliau cyfathrebu ac ymgynghori effeithiol.
Prif ganlyniadau'r safon hon yw:
cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth ddarparu gwasanaethau trin ewinedd traed
ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau trin ewinedd traed
cynnal gwasanaethau trin ewinedd traed
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth ddarparu gwasanaethau trin ewinedd traed
* *
cynnal eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch trwy gydol y gwasanaeth
paratoi'ch cleient a'ch hun i fodloni gofynion cyfreithiol a sefydliadol
gosod eich cleient mewn safle i fodloni anghenion y gwasanaeth
sicrhau bod eich ystum eich hun a'ch dulliau gwaith yn isafu ar flinder a risg o anaf i chi'ch hun ac eraill
sicrhau bod amodau amgylcheddol yn addas i'r cleient a'r gwasanaeth
cadw'ch ardal waith yn lân ac yn daclus trwy gydol y gwasanaeth
defnyddio dulliau gwaith sy'n isafu ar risg o groes-heintio
sicrhau defnydd ar gyfarpar a deunydd glân
hyrwyddo arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy
dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a chyflenwyr neu gynhyrchwyr ar gyfer defnydd diogel ar gyfarpar, deunyddiau a chynnyrch
cael gwared ar ddeunydd gwastraff i fodloni gofynion cyfreithiol
cynnal y gwasanaeth o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol
Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau trin ewinedd traed
* *
defnyddio technegau ymgynghori i bennu cynllun gwasanaeth y cleient
sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan riant neu warcheidwad ar gyfer plant cyn unrhyw wasanaeth
sicrhau bod rhiant neu warcheidwad yn bresennol trwy gydol y gwasanaeth ar gyfer plant sy'n iau na 16 oed
adnabod unrhyw wrtharwyddion a chymryd unrhyw gamau angenrheidiol
cytuno ar y gwasanaeth a'r canlyniadau sy'n bodloni anghenion y cleient
sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan y cleient cyn cynnal y gwasanaeth
glanhau'r ardal a fydd yn cael ei thrin a thynnu unrhyw orffeniad sydd ar yr ewinedd yn barod
adnabod cyflwr yr ewinedd a'r croen
argymell triniaethau a chynnyrch ar gyfer math o groen a chyflwr ewinedd y cleient
Cynnal gwasanaethau trin ewinedd traed
* *
glanhau a sychu traed y cleient
cadarnhau hyd a siâp dymunol yr ewinedd gyda'r cleient
siapio'r ewinedd i sicrhau ymyl rhydd llyfn
defnyddio offer a chynnyrch i dynnu cwtigl gormodol, heb ddifrodi'r croen o'i amgylch
tynnu croen caled gormodol, heb achosi poen i'r cleient
dethol a thaenu triniaethau traed ac ewinedd i gyd-fynd â math o groen a chyflwr ewinedd eich cleient
defnyddio dilyniant tylino i fodloni anghenion y cleient a'r cynllun gwasanaeth
sicrhau bod ardal yr ewin yn lân, yn sych ac yn rhydd rhag cynnyrch
taenu haen sylfaenol sy'n berthnasol i anghenion y cleient
taenu gorffeniad ewinedd ac uwch haen, yn y drefn ofynnol
sicrhau bod y cwtigl a wal yr ewin yn rhydd rhag cynnyrch
sicrhau bod y cleient yn fodlon â gorffeniad yr ewinedd a'i fod yn bodloni'r cynllun gwasanaeth y cytunwyd arno
rhoi cyngor ac argymhellion i'r cleient ar y gwasanaeth a ddarparwyd
sicrhau bod cofnodion y cleient yn cael eu cwblhau a'u llofnodi gennych chi a'r cleient
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth ddarparu gwasanaeth trin ewinedd traed
* *
eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y diffinnir gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n berthnasol i'ch swydd
gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer paratoi cleient
gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer eich hylendid, amddiffyniad ac ymddangosiad personol
technegau gosod eich hun a'ch cleient mewn safle diogel a pham ei bod hi'n bwysig defnyddio'r rhain
amodau amgylcheddol angenrheidiol ar gyfer gwasanaethau, megis gwresogi ac awyru a pham bod y rhain yn bwysig
pam ei bod hi'n bwysig cadw'ch ardal waith yn lân ac yn daclus
dulliau glanhau, diheintio a sterileiddio
dulliau gweithio yn ddiogel ac yn lân ac mewn ffordd sy'n isafu ar risg o groes-heintio
gwahanol fathau o ddulliau gwaith sy'n hyrwyddo arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy
yr adweithiau a allai ddigwydd, sut i ddelio â hwy a pha gyngor i'w roi i'r cleientiaid
y peryglon a'r risgiau sy'n bodoli yn eich gweithle a'r arferion gwaith diogel y mae'n rhaid i chi eu dilyn
cyfarwyddiadau cyflenwyr a chynhyrchwyr ar gyfer defnydd diogel ar gyfarpar, deunydd a chynnyrch y mae'n rhaid i chi eu dilyn
y gofynion cyfreithiol ar gyfer cael gwared ar wastraff
rhesymau dros gwblhau'r gwasanaeth o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol
Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau trin ewinedd traed
* *
pwysigrwydd cyfathrebu gyda chleientiaid mewn modd proffesiynol
sut i gynnal ymgynghoriad gan ystyried anghenion amrywiol y cleient
y gofynion cyfreithiol ar gyfer trin plant sy'n iau na 16 oed
yr oed pan fydd unigolyn yn cael ei ystyried yn blentyn a sut mae hynny'n gwahaniaethu yn genedlaethol
y rhesymau dros gytuno ar wasanaeth sy'n bodloni anghenion y cleient
arwyddocâd cyfreithiol sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan gleient i gynnal y gwasanaeth
gofynion cyfreithiol dros storio a diogelu data cleient
y camau angenrheidiol i'w cymryd mewn perthynas â gwrtharwyddion penodol wrth gyfeirio cleientiaid
sut i adnabod gwrtharwyddion a fyddai'n atal neu'n cyfyngu ar y gwasanaeth
y gwrtharwyddion sy'n gofyn am atgyfeiriad meddygol a pham
y rhesymau dros beidio ag enwi gwrtharwyddion penodol wrth atgyfeirio cleientiaid
y gwahanol fathau o gyflyrau ewinedd a chroen y gellir eu trin
sut i gynnal dadansoddiad ewinedd a chroen
Cynnal gwasanaeth trin ewinedd traed
* *
y gwahanol siapiau ewinedd naturiol yr ydych chi'n debygol o ddod ar eu traws yn ystod gwasanaethau trin ewinedd traed
y technegau a ddefnyddir o fewn trin ewinedd traed a sut i'w cynnal
y gwahanol fathau o gynnyrch, offer a chyfarpar trin ewinedd traed a sut i'w defnyddio
yr effaith ar yr ewinedd a'r croen wrth ddefnyddio cynnyrch a chyfarpar yn anghywir
nodweddion a buddion gwahanol gynnyrch, gwasanaethau a thriniaethau traed ac ewinedd
sut i addasu'r gwasanaeth trin ewinedd traed i gyd-fynd ag anghenion y cleient unigol
y gwahanol fathau o dechnegau tylino a ddefnyddir gyda gwasanaeth trin ewinedd traed
effeithiau technegau tylino ar yr ewinedd, croen, cyhyrau ac adeiladweithiau gwaelodol
pam ei bod hi'n bwysig glanhau a sychu'r ewinedd naturiol cyn taenu gorffeniad ar yr ewin
pwysigrwydd argymell gorffeniad i'r ewinedd sy'n addas i anghenion y cleient
dulliau taenu gwahanol fathau o orffeniadau i'r ewinedd
y dulliau a ddefnyddir i dynnu gwahanol orffeniadau ewinedd, gan gynnwys farnis gel a chelf ewinedd
anatomi'r droed a rhan isaf y goes
41. adeiladwaith yr ewin
proses twf yr ewin
swyddogaeth ac adeiladwaith y croen
yr adweithiau a allai ddigwydd, sut i ddelio â hwy a pha gyngor i'w roi i gleientiaid
y cyngor a'r argymhellion ar gynnyrch a gwasanaethau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Technegau ymgynghori
* *
holi
gwrando
edrych
teimlo
ysgrifenedig
Camau angenrheidiol
* *
annog y cleient i geisio cyngor meddygol
esbonio pam na ellid cynnal y gwasanaeth
addasu'r gwasanaeth
Triniaethau traed ac ewinedd
* *
cwyr paraffîn
mygydau traed
esgidiau thermal
digenwyr
Gorffeniad ewinedd
* *
lliw tywyll
Ffrengig
wedi'u gloywi
Cyngor ac argymhellion
* *
cynnyrch ôl-ofal addas a'u defnydd
osgoi gweithgareddau a allai achosi adweithiau
y cyfnodau amser a argymhellir rhwng gwasanaethau
cynnyrch a gwasanaethau yn awr ac yn y dyfodol
Gwybodaeth Cwmpas
Iechyd a diogelwch
* *
Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (RIDDOR)
Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)
Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)
Rheoliadau Gweithredoedd Codi a Chario
Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)
Rheoliadau Trydan yn y Gweithle
Deddf Diogelu'r Amgylchedd
Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Gyflogeion)
Arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy
* *
gostwng gwastraff a rheoli gwastraff (ailgylchu, ailddefnyddio, gwaredu diogel)
gostwng defnydd ar ynni (cyfarpar sy'n arbed ynni, goleuadau ynni isel, defnyddio paneli solar)
gostwng defnydd ar ddŵr ac adnoddau eraill
atal llygredd
defnyddio eitemau untro
defnyddio dodrefn wedi'u hailgylchu, ecogyfeillgar
defnyddio paent â chemegau isel
defnyddio pecynnau cynnyrch ecogyfeillgar
dewis cynnyrch domestig cyfrifol (te a choffi Masnach Deg)
annog siwrneion i'r gwaith sy'n gostwng carbon
Anghenion amrywiol
diwylliannol
crefyddol
oed
anabledd
rhyw
Gwrtharwyddion sy'n atal
heintiau ffyngaidd
heintiau feirws
heintiau parasitig
cyflyrau croen difrifol
Gwrtharwyddion sy'n cyfyngu ar
heintiau bacterol
psorïasis
dermatitis
gwahaniad ewinedd difrifol
esgyrn wedi torri
ewin wedi tyfu i'r byw
bynions
bodiau cam
Cyflyrau ewinedd
* *
newid lliw
di-siâp
wedi hollti
gwrymiog
sych
dadhydradedig
brau
tyllog
Siapiau ewinedd naturiol
* *
ffan
bachyn
llwy
hirgrwn
sgwâr
Anatomi
* *
esgyrn y droed a rhan isaf y goes
cyhyrau'r droed a rhan isaf y goes
cylchrediad y gwaed i'r droed a rhan isaf y goes
* *
* *
Adeiladwaith yr ewin
* *
haen yr ewin
gwely'r ewin
matrics
cwtigl
gwyn yr ewinedd
hyponychium
eponychium
wal yr ewin
ymyl rhydd
plyg ewin ochr
Twf yr ewin
* *
ffurfiant yr ewin
cyfradd dyfu
ffactorau sy'n effeithio ar dwf
effeithiau difrod ar dwf
trwch yr ewin
Adeiladwaith y croen
* *
dermis
uwchgroen
haen tan y croen
atodion
Cyngor ac argymhellion
* *
gwasanaethau ychwanegol
cynnyrch ychwanegol
Gwerthoedd
Mae'r gwerthoedd allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba
parodrwydd i ddysgu
agwedd weithio hyblyg
gweithiwr tîm
agwedd bositif
moeseg bersonol a phroffesiynol
Ymddygiadau
Mae'r ymddygiad a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba. Mae'r ymddygiad hwn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r sefydliad a'r unigolyn
bodloni safonau ymddygiad y sefydliad
cyfarch y cleient yn barchus ac mewn modd cyfeillgar
cyfathrebu gyda'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu
trin y cleient yn gwrtais ac yn wasanaethgar bob amser
addasu'r ymddygiad i ymateb yn effeithiol i wahanol ymddygiad gan y cleient
gwirio gyda'r cleient eich bod chi wedi deall eu disgwyliadau yn llawn
ymateb yn brydlon ac yn gadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient
adnabod gwybodaeth y gallai'r cleient ei chael yn gymhleth a gwirio a ydynt wedi deall yn llawn
esbonio'r glir wrth y cleient os na ellir bodloni eu hanghenion neu'u disgwyliadau am unrhyw reswm
cynnal dulliau gwaith effeithiol, glân a diogel
cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, y cyflenwyr a'r cynhyrchwyr wrth ddefnyddio cyfarpar, deunyddiau a chynnyrch yn ddiogel
bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant.
Sgiliau
Mae'r sgiliau allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba
y gallu i hunan-reoli
cyfathrebu llafar a dieiriau gwych
defnyddio'r ffyrdd mwyaf priodol o gyfathrebu gyda chleient
ymateb yn brydlon i gleient sy'n gofyn am gymorth
canfod gwybodaeth yn gyflym a fydd o gymorth i'r cleient
rhoi gwybodaeth y mae ei hangen ar gleient am wasanaethau a chynnyrch a gynigir gan y sefydliad
Geirfa
Wedi gloywi
Gorffeniad satin neu sglein gan ddefnyddio 2 i 4 ffordd o loywi.
Glanhau'r dwylo
Mae hyn yn cyfeirio at lanhau neu olchi'r dwylo i lefel antiseptig er mwyn rhwystro bacteria.
Gorffeniad Ffrengig
Techneg o fewn gwasanaethau ewinedd sy'n creu llinell wenu ddiffiniedig ar ymyl rhydd yr ewin.