Datblygu ystod o gynlluniau ewinedd creadigol

URN: SKANS13
Sectorau Busnes (Suites): Gwasanaethau Ewinedd,Therapi Harddwch
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 2015

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu a chyfuno'ch sgiliau ewinedd technegol a chreadigol mewn ffordd sy'n cyfoethogi'ch proffil proffesiynol eich hun. Mae'r gallu i ymchwilio, cynllunio a chreu ystod o ddelweddau ewinedd ar y cyd â phobl eraill yn ofynnol. Mae gwerthusiad o'r canlyniadau a sut y gallai'ch cynlluniau gael eu haddasu at ddefnydd masnachol hefyd yn ffurfio rhan bwysig o'r safon hon.

Er mwyn cyflawni'r safon hon bydd angen i chi gynnal iechyd, diogelwch a hylendid effeithiol trwy gydol eich gwaith. Bydd angen i chi hefyd gyfathrebu'ch cysyniad cynllun gyda phobl eraill sy'n rhan o'r prosiect.

Prif ganlyniadau'r safon hon yw:

  1. trefnu a chynllunio ystod o ddelweddau creadigol

  2. cynhyrchu ystod o ddelweddau creadigol

  3. gwerthuso'r canlyniadau yn erbyn amcanion y cynllun


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Trefnu a chynllunio ystod o ddelweddau creadigol

* *

  1. adnabod y gweithgaredd arfaethedig y mae angen y ddelwedd ar ei gyfer

  2. casglu gwybodaeth i ymchwilio i syniadau ar themâu ar gyfer y cynllun

  3. creu cynllun sy'n addas i'r ystod o ddelweddau yr ydych chi wedi'u dewis

  4. diffinio rolau a chyfrifoldebau eraill sy'n gysylltiedig

  5. adnabod yr holl adnoddau sy'n ofynnol, gan ystyried unrhyw gyfyngiadau cyllidebol

  6. ystyried sut y gellir gostwng y risgiau i iechyd a diogelwch

  7. cytuno ar eich cynllun gydag eraill

Cynhyrchu ystod o ddelweddau creadigol

  1. paratoi'ch amgylchedd gwaith i fodloni gofynion cyfreithiol, hylendid a thaenu

  2. sicrhau bod y cynnyrch yn addas i'r amodau amgylcheddol

  3. paratoi adnoddau i fodloni'r cynllun

  4. paratoi ewinedd mewn ffordd sy'n addas i ddefnyddio'r ddelwedd

  5. gweithio mewn ffordd sy'n caniatáu mynediad ac yn isafu ar risg o anaf i chi ac eraill

  6. defnyddio technegau ewinedd i greu'r ddelwedd

  7. cyfathrebu gydag eraill trwy gydol gweithredu'r cynllun

  8. addasu'r cynllun y cytunwyd arno i fodloni unrhyw amgylchiadau newidiol

  9. ystyried cyfrwng ychwanegol i ategu at y ddelwedd derfynol

  10. sicrhau bod y ddelwedd orffenedig a'i chyflwyniad yn bodloni'r cynllun

Gwerthuso'r canlyniadau yn erbyn amcanion y cynllun

* *

  1. sicrhau adborth gan eraill ar effaith eich delwedd a'i heffeithlonrwydd wrth fodloni'ch cynllun

  2. gwerthuso'ch perfformiad eich hun yn erbyn eich amcanion i adnabod sut a ble y gellid ei wella

  3. gwerthuso sut y gall cynllun y ddelwedd gael ei addasu ar gyfer gweithgaredd arall


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Cynllunio ystod o ddelweddau creadigol

* *

  1. egwyddorion sylfaenol cynllunio, graddio a chyfrannedd wrth greu delwedd

  2. sut i adnabod a datblygu thema fel sylfaen ar gyfer delwedd cynllun ewinedd

  3. sut i greu cynllun manwl a chywir

  4. gwahanol ddulliau cyfathrebu a chyflwyno'ch cynllun

  5. pam ei bod hi'n bwysig gosod cyllideb a gweithio tuag ati

  6. ffynonellau gwybodaeth ymchwil a sut i gael mynediad atynt a'u gwerthuso

  7. ystod ac argaeledd adnoddau sy'n ofynnol a sut y gellir cael gafael arnynt

  8. sut y mae unrhyw ofynion lleoliad yn debygol o effeithio ar eich cynlluniau

  9. problemau cyffredin sy'n gysylltiedig â thynnu lluniau, sioeau a chystadlaethau a sut i'w datrys 

  10. y peryglon posibl y mae'n rhaid eu hystyried wrth weithio mewn unrhyw leoliad

  11. y camau y dylid eu cymryd i isafu ar risgiau wrth weithio mewn unrhyw leoliad

  12. sut ac os gallai deddfau lleol a deddfwriaeth gyfyngu ar ddefnydd o adnoddau

  13. gweithgareddau iechyd a diogelwch sy'n berthnasol i unrhyw leoliad

  14. y gofynion iechyd a diogelwch sy'n gysylltiedig â thechnegau ewinedd

  15. sut i adnabod gwrtharwyddion a chyfyngiadau i'r cynllun ewinedd a sut i ddelio â hwy

Cynhyrchu ystod o ddelweddau creadigol

* *

  1. sut i baratoi ac addasu'r amgylchedd gwaith i fodloni gofynion cyfreithiol, hylendid a chynllun ewinedd

  2. dulliau o gyfathrebu'ch gofynion i eraill trwy gydol y cynllun ewinedd creadigol

  3. y ffyrdd y gellir defnyddio cyfrwng ychwanegol i ategu at y ddelwedd cynllun cyffredinol

  4. y gwahanol dechnegau a ddefnyddir i greu delwedd y cynllun

  5. y gwahanol fathau o gynnyrch, offer a chyfarpar cynllun ewinedd sydd ar gael a'r effeithiau y gallant eu creu

  6. mathau o eitemau anghonfensiynol y gellir eu defnyddio fel rhan o gynllun

  7. sut i addasu'r cynllun a'r technegau taenu i gyd-fynd ag amgylchiadau sy'n newid

Gwerthuso'r canlyniadau yn erbyn amcanion y cynllun

* *

  1. diben gweithgareddau gwerthuso

24.yr ardaloedd y dylid casglu adborth yn eu cylch

  1. dulliau casglu adborth gan eraill

  2. buddion masnachol posibl a all godi o'r gwaith cynllun ewinedd

  3. sut y gellir addasu delwedd y cynllun i gyd-fynd â gweithgareddau eraill


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Gweithgareddau

* *

  1. tynnu lluniau

  2. sioeau ffasiwn

  3. cystadleuaeth

  4. manylion y cleient

  5. cyfryngau cymdeithasol

Delwedd

* *

  1. wedi'i seilio ar thema

  2. arloesol

  3. masnachol

  4. tueddiadau cyfredol

Eraill

* *

  1. ymgynghorydd cyfryngau

  2. artistiaid colur

  3. cydweithwyr

  4. beirniaid cystadleuaeth

  5. steilydd gwallt

  6. cleient

  7. model

  8. steilydd

Cyfrwng ychwanegol

* *

  1. ategolion

  2. dillad

  3. colur

  4. propiau

  5. gwallt

  6. celf corff


Gwybodaeth Cwmpas

Problemau cyffredin

* *

  1. staffio

  2. methiannau offer a chyfarpar

  3. gor-redeg ar amser

  4. amodau amgylcheddol

  5. cyfyngiadau cyllidebol

Iechyd a diogelwch

* *

  1. Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

  2. Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (RIDDOR)

  3. Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)

  4. Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)

  5. Rheoliadau Gweithredoedd Codi a Chario

  6. Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)

  7. Rheoliadau Trydan yn y Gweithle

  8. Deddf Diogelu'r Amgylchedd

  9. Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

  10. Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Gyflogeion)

Dulliau

* *

  1. holi

  2. edrych

  3. gwrando

  4. iaith y corff

Eraill

* *

  1. ymgynghorydd cyfryngau

  2. artistiaid colur

  3. cydweithwyr

  4. beirniaid cystadleuaeth

  5. steilydd gwallt

  6. cleient

  7. model

  8. steilydd

Amgylchiadau

* *

  1. amgylcheddol

  2. canslo

  3. salwch

  4. newid briff


Gwerthoedd

Mae'r gwerthoedd allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba

  1. parodrwydd i ddysgu

  2. agwedd weithio hyblyg

  3. gweithiwr tîm

  4. agwedd bositif

  5. moeseg bersonol a phroffesiynol


Ymddygiadau

Mae'r ymddygiad a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba. Mae'r ymddygiad hwn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r sefydliad a'r unigolyn

  1. bodloni safonau ymddygiad y sefydliad

  2. cyfarch y cleient yn barchus ac mewn modd cyfeillgar

  3. cyfathrebu gyda'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu

  4. trin y cleient yn gwrtais ac yn wasanaethgar bob amser

  5. addasu'r ymddygiad i ymateb yn effeithiol i wahanol ymddygiad gan y cleient

  6. gwirio gyda'r cleient eich bod chi wedi deall eu disgwyliadau yn llawn

  7. ymateb yn brydlon ac yn gadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient

  8. adnabod gwybodaeth y gallai'r cleient ei chael yn gymhleth a gwirio a ydynt wedi deall yn llawn

  9. esbonio'r glir wrth y cleient os na ellir bodloni eu hanghenion neu'u disgwyliadau am unrhyw reswm

  10. cynnal dulliau gwaith effeithiol, glân a diogel

  11. cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, y cyflenwyr a'r cynhyrchwyr wrth ddefnyddio cyfarpar, deunyddiau a chynnyrch yn ddiogel

  12. bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant.


Sgiliau

Mae'r sgiliau allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba

  1. y gallu i hunan-reoli

  2. cyfathrebu llafar a dieiriau gwych

  3. defnyddio'r ffyrdd mwyaf priodol o gyfathrebu gyda chleient

  4. ymateb yn brydlon i gleient sy'n gofyn am gymorth

  5. canfod gwybodaeth yn gyflym a fydd o gymorth i'r cleient

  6. rhoi gwybodaeth y mae ei hangen ar gleient am wasanaethau a chynnyrch a gynigir gan y sefydliad


Geirfa

Cynllun

Cynllun a ddefnyddir i ddangos cynllun y ddelwedd ewinedd ac sy'n rhestru cynnyrch, cyfarpar, ategolion ac unrhyw gyfrwng ychwanegol sy'n ofynnol.

Ymgynghorydd Cyfryngau

Gallai hyn gynnwys ffotograffydd, recordydd fideo, technegydd sain a goleuadau, arbenigwyr TG.

Steilydd

Yr un sy'n gyfrifol am benderfynu ar y gofynion cwpwrdd dillad a'r edrychiad cyffredinol posibl


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAN5

Galwedigaethau Perthnasol

Technegydd ewinedd, Therapydd Harddwch

Cod SOC


Geiriau Allweddol

technegydd ewinedd creadigol; cynlluniau ewinedd creadigol; delweddau ewinedd creadigol;