Creu cynlluniau chwistrell baent ar gyfer ewinedd
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynllunio a chreu cynlluniau celf ewinedd gan ddefnyddio technegau chwistrell baent sy'n addas i'r cleient a'r achlysur. Bydd yn rhaid i chi allu cynnal amrywiaeth o dechnegau a chynlluniau ewinedd chwistrell baent. Mae gallu i ddefnyddio ystod o gynnyrch chwistrell baent hefyd yn ofynnol. Mae defnydd cywir ar gyfarpar a'u cynnal yn agwedd hanfodol ar y safon hon.
Er mwyn cyflawni'r safon hon bydd angen i chi gynnal iechyd, diogelwch a hylendid effeithiol trwy gydol eich gwaith. Bydd angen i chi hefyd gynnal eich ymddangosiad personol a dangos sgiliau cyfathrebu ac ymgynghori da.
Prif ganlyniadau'r safon hon yw:
cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth ddarparu gwasanaethau chwistrell baent
ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau chwistrell baent
defnyddio technegau a chynllun chwistrell baent
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth ddarparu gwasanaethau chwistrell baent
* *
cynnal eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch trwy gydol y gwasanaeth
paratoi'ch cleient a'ch hun i fodloni gofynion cyfreithiol a sefydliadol
gosod eich cleient mewn safle i fodloni anghenion y gwasanaeth
sicrhau bod eich ystum eich hun a'ch dulliau gwaith yn isafu ar flinder a risg o anaf i chi'ch hun ac eraill
sicrhau bod amodau amgylcheddol yn addas i'r cleient a'r gwasanaeth
cadw'ch ardal waith yn lân ac yn daclus trwy gydol y gwasanaeth
defnyddio dulliau gwaith sy'n isafu ar risg o groes-heintio
sicrhau defnydd ar gyfarpar a deunydd glân
hyrwyddo arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy
dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a chyflenwyr neu gynhyrchwyr ar gyfer defnydd diogel ar gyfarpar, deunyddiau a chynnyrch
cael gwared ar ddeunydd gwastraff i fodloni gofynion cyfreithiol
cynnal y gwasanaeth o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol
Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau chwistrell baent
* *
defnyddio technegau ymgynghori i bennu cynllun gwasanaeth y cleient
sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan riant neu warcheidwad ar gyfer plant cyn unrhyw wasanaeth
sicrhau bod rhiant neu warcheidwad yn bresennol trwy gydol y gwasanaeth ar gyfer plant sy'n iau na 16
adnabod unrhyw wrtharwyddion a chymryd unrhyw gamau angenrheidiol
cytuno ar y gwasanaeth a'r canlyniadau sy'n bodloni anghenion y cleient
sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan y cleient cyn cynnal y gwasanaeth
diheintio'r ardal a fydd yn cael ei thrin a thynnu unrhyw farnis ewinedd sy'n bodoli'n barod
adnabod cyflwr yr ewinedd a'r croen ac unrhyw gyfyngiadau i'r cynllun
dewis a chytuno â'r cleient ar gynllun chwistrell baent a thechnegau chwistrell baent i gyd-fynd â siâp a chyflwr eu hewinedd
profi gwasgedd a gweithrediad y gwn chwistrellu cyn ei ddefnyddio
Defnyddio technegau a chynllun chwistrell baent
* *
defnyddio offer a chyfarpar i baratoi'r ewin ar gyfer cynllun chwistrell baent
dewis cynnyrch, offer a chyfarpar chwistrell baent ar gyfer y cynllun chwistrell baent y cytunwyd arno a'r technegau chwistrell baent
taenu haen sylfaenol celf ewinedd ar gyfer y cynllun chwistrell baent
defnyddio technegau chwistrell baent i gyflawni'r effaith ddymunol
selio'r cynllun chwistrell baent, gan adael y cwtigl a'r waliau ochr yn rhydd rhag cynnyrch
taenu uwch got i amddiffyn y cynllun chwistrell baent
sicrhau bod y cleient yn fodlon â'r cynllun chwistrell baent gorffenedig a'i fod yn bodloni'r cynllun y cytunwyd arno
rhoi cyngor ac argymhellion i'r cleient ar gynnyrch a gwasanaethau
sicrhau bod cofnodion y cleient yn cael eu cwblhau a'u llofnodi gennych chi a'r cleient
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth ddarparu gwasanaethau chwistrell baent
* *
eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y diffinnir gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n berthnasol i'ch swydd
y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer diogelu a pharatoi cleient
y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer eich hylendid, amddiffyniad ac ymddangosiad personol
technegau gosod eich hun a'ch cleient mewn safle diogel a pham ei bod hi'n bwysig defnyddio'r rhain
amodau amgylcheddol angenrheidiol ar gyfer gwasanaethau, megis gwresogi ac awyru a pham bod y rhain yn bwysig
pam ei bod hi'n bwysig cadw'ch ardal waith yn lân ac yn daclus
dulliau glanhau, diheintio a sterileiddio
dulliau gweithio yn ddiogel ac yn lân ac mewn ffordd sy'n isafu ar risg o groes-heintio
y gwahanol fathau o ddulliau gwaith sy'n hyrwyddo arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy
y peryglon a'r risgiau sy'n bodoli yn eich gweithle a'r arferion gwaith diogel y mae'n rhaid i chi eu dilyn
cyfarwyddiadau cyflenwyr a chynhyrchwyr ar gyfer defnydd diogel ar gyfarpar, deunydd a chynnyrch y mae'n rhaid i chi eu dilyn
y gofynion cyfreithiol ar gyfer cael gwared ar wastraff
y rhesymau dros gwblhau'r gwasanaeth o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol
Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer y gelf ewinedd
* *
pwysigrwydd cyfathrebu gyda chleientiaid mewn modd proffesiynol
sut i gynnal ymgynghoriad gan ystyried anghenion amrywiol y cleient
y gofynion cyfreithiol ar gyfer trin plant sy'n iau na 16 oed
yr oed pan fydd unigolyn yn cael ei ystyried yn blentyn a sut mae hynny'n gwahaniaethu yn genedlaethol
pwysigrwydd cytuno ar wasanaeth sy'n bodloni anghenion y cleient
arwyddocâd cyfreithiol dros sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan gleient i gynnal y gwasanaeth
y gofynion deddfwriaethol ar gyfer storio a diogelu data cleient
sut i adnabod gwrtharwyddion a fyddai'n atal neu'n cyfyngu ar y gwasanaeth a pham
y gwrtharwyddion sy'n gofyn am atgyfeiriad meddygol a pham
y camau angenrheidiol i'w cymryd mewn perthynas â gwrtharwyddion penodol wrth gyfeirio cleientiaid
y rhesymau dros beidio ag enwi gwrtharwyddion penodol wrth atgyfeirio cleientiaid
sut y mae siâp a chyflwr ewinedd y cleient yn gallu cyfyngu ar ddewis cynllun
sut i gynnal dadansoddiad ewinedd a chroen ac adnabod cyflyrau ewinedd y gellir eu trin
pam mae angen gwirio a phrofi cyfarpar chwistrell baent cyn eu defnyddio
Defnyddio technegau a chynllun chwistrell baent
* *
y rhesymau dros daenu haen sylfaenol ewinedd cyn y cynllun chwistrell baent
egwyddorion sylfaenol theori lliwiau cyflenwol
dewis, asio a chymysgu cynnyrch chwistrell baent
defnydd ac effeithiau gwahanol dechnegau chwistrell baent
gwahanol fathau o ddeunydd stensil sydd ar gael a'u heffeithiau
buddion creu portffolio cynllun sy'n dangos amrywiaeth o gynlluniau chwistrell baent
sut i addasu a chreu cynlluniau chwistrell baent i gyd-fynd ag achlysuron gwahanol
ystyr psi a'r risgiau posibl sy'n gysylltiedig â defnyddio cyfarpar chwistrell baent gwasgeddedig
sut i greu gwahanol effeithiau trwy amrywio'r psi
sut y gall pellter a gwasgedd effeithio ar orchudd a dwyster y lliw
y dulliau a ddefnyddir i lanhau a chynnal cyfarpar ac atodion chwistrell baent
mathau o broblemau a all ddigwydd gyda chyfarpar chwistrell baent a sut i'w cywiro
adweithiau posibl a allai ddigwydd yn ystod chwistrellu paent a sut i ddelio â hwy
y cyngor a'r argymhellion ar gynnyrch a gwasanaethau
pam bod cofnodion y cleient yn cael eu llanw a'u llofnodi gennych chi a'r cleient
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Technegau ymgynghori
* *
holi
gwrando
edrych
teimlo
ysgrifenedig
Camau angenrheidiol
* *
annog y cleient i geisio cyngor meddygol
esbonio pam na ellid cynnal y gwasanaeth
addasu'r gwasanaeth
Cynllun chwistrell baent
Ffrengig
Ffrengig ffansi
print anifail
blodeuog
trofannol
tymhorol
cynlluniau haniaethol
Technegau chwistrell baent
* *
amlinellu
stensil
masgio
pylu lliw
cymysgu
Cyngor ac argymhellion
* *
cynnyrch ôl-ofal addas a'u defnydd
osgoi gweithgareddau a allai achosi adweithiau
y cyfnodau amser a argymhellir rhwng gwasanaethau
cynnyrch a gwasanaethau yn awr ac yn y dyfodol
Gwybodaeth Cwmpas
Iechyd a diogelwch
* *
Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (RIDDOR)
Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)
Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)
Rheoliadau Gweithredoedd Codi a Chario
Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)
Rheoliadau Trydan yn y Gweithle
Deddf Diogelu'r Amgylchedd
Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Gyflogeion)
Arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy
* *
gostwng gwastraff a rheoli gwastraff (ailgylchu, ailddefnyddio, gwaredu diogel)
gostwng defnydd ar ynni (cyfarpar sy'n arbed ynni, goleuadau ynni isel, defnyddio paneli solar)
gostwng defnydd ar ddŵr ac adnoddau eraill
atal llygredd
defnyddio eitemau untro
defnyddio dodrefn wedi'u hailgylchu, ecogyfeillgar
defnyddio paent â chemegau isel
defnyddio pecynnau cynnyrch ecogyfeillgar
dewis cynnyrch domestig cyfrifol (te a choffi Masnach Deg)
annog siwrneion i'r gwaith sy'n gostwng carbon
Anghenion amrywiol
diwylliannol
crefyddol
oed
anabledd
rhyw
Gwrtharwyddion
* *
ffyngaidd
bacterol
feirws
heintiau parasitig
gwahaniad ewinedd difrifol
ecsema difrifol
psorïasis
dermatitis
ewinedd wedi'u cnoi neu'u difrodi yn ddifrifol
cochni neu chwyddo heb wybod pam
briwiau a chrafiadau
asthma
cyflyrau bronciol
Adweithiau
* *
adwaith alergaidd
colli cynllun celf ewinedd cyn amser
difrod i gynllun celf ewinedd
Cyngor ac argymhellion
gwasanaethau ychwanegol
cynnyrch ychwanegol
cynnal a thynnu cynllun
Gwerthoedd
Mae'r gwerthoedd allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba
parodrwydd i ddysgu
agwedd weithio hyblyg
gweithiwr tîm
agwedd bositif
moeseg bersonol a phroffesiynol
Ymddygiadau
Mae'r ymddygiad a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba. Mae'r ymddygiad hwn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r sefydliad a'r unigolyn
bodloni safonau ymddygiad y sefydliad
cyfarch y cleient yn barchus ac mewn modd cyfeillgar
cyfathrebu gyda'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu
trin y cleient yn gwrtais ac yn wasanaethgar bob amser
addasu'r ymddygiad i ymateb yn effeithiol i wahanol ymddygiad gan y cleient
gwirio gyda'r cleient eich bod chi wedi deall eu disgwyliadau yn llawn
ymateb yn brydlon ac yn gadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient
adnabod gwybodaeth y gallai'r cleient ei chael yn gymhleth a gwirio a ydynt wedi deall yn llawn
esbonio'r glir wrth y cleient os na ellir bodloni eu hanghenion neu'u disgwyliadau am unrhyw reswm
cynnal dulliau gwaith effeithiol, glân a diogel
cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, y cyflenwyr a'r cynhyrchwyr wrth ddefnyddio cyfarpar, deunyddiau a chynnyrch yn ddiogel
bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant.
Sgiliau
Mae'r sgiliau allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba
y gallu i hunan-reoli
cyfathrebu llafar a dieiriau gwych
defnyddio'r ffyrdd mwyaf priodol o gyfathrebu gyda chleient
ymateb yn brydlon i gleient sy'n gofyn am gymorth
canfod gwybodaeth yn gyflym a fydd o gymorth i'r cleient
rhoi gwybodaeth y mae ei hangen ar gleient am wasanaethau a chynnyrch a gynigir gan y sefydliad
Geirfa
PSI
Talfyriad o 'Pound per Square Inch' yn ymwneud â'r gwasgedd sy'n dod o'r cywasgydd trwy'r gwn ar y croen. Bydd hyn yn cael ei addasu yn unol â'r gorchudd gofynnol a safle a maint yr ardal.