Cynllunio a chreu celf ewinedd

URN: SKANS11
Sectorau Busnes (Suites): Gwasanaethau Ewinedd,Therapi Harddwch
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 01 Ion 2015

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chynllunio a chreu celf ewinedd unigol sy'n addas i'r cleient a'r achlysur. Mae'n cynnwys ymgynghori â'r cleient, adnabod unrhyw wrtharwyddion, paratoi ar gyfer y gwasanaeth a chreu cynllun celf ewinedd gan ddefnyddio ystod o gynnyrch a thechnegau celf ewinedd.

Er mwyn cyflawni'r safon hon bydd angen i chi gynnal iechyd, diogelwch a hylendid effeithiol trwy gydol eich gwaith. Bydd angen i chi hefyd gynnal eich ymddangosiad personol a dangos sgiliau cyfathrebu ac ymgynghori effeithiol.

Prif ganlyniadau'r safon hon yw:

  1. cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth ddarparu cynlluniau celf ewinedd

  2. ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer celf ewinedd

  3. taenu cynllun celf ewinedd


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth* * ddarparu cynlluniau celf ewinedd

* *

  1. cynnal eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch trwy gydol y gwasanaeth

  2. paratoi'ch cleient a'ch hun i fodloni gofynion cyfreithiol a sefydliadol

  3. gosod eich cleient mewn safle i fodloni anghenion y gwasanaeth

  4. sicrhau bod eich ystum eich hun a'ch dulliau gwaith yn isafu ar flinder a risg o anaf i chi'ch hun ac eraill

  5. sicrhau bod amodau amgylcheddol yn addas i'r cleient a'r gwasanaeth

  6. cadw'ch ardal waith yn lân ac yn daclus trwy gydol y gwasanaeth

  7. defnyddio dulliau gwaith sy'n isafu ar risg o groes-heintio

  8. sicrhau defnydd ar gyfarpar a deunydd glân

  9. hyrwyddo arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy

  10. dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a chyflenwyr neu gynhyrchwyr ar gyfer defnydd diogel ar gyfarpar, deunyddiau a chynnyrch

  11. cael gwared ar ddeunydd gwastraff i fodloni gofynion cyfreithiol

  12. cynnal y gwasanaeth o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol

Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer celf ewinedd

* *

  1. defnyddio technegau ymgynghori i bennu cynllun gwasanaeth y cleient

  2. sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan riant neu warcheidwad ar gyfer plant cyn unrhyw wasanaeth

  3. sicrhau bod rhiant neu warcheidwad yn bresennol trwy gydol y gwasanaeth ar gyfer plant sy'n iau na 16 oed

  4. adnabod unrhyw wrtharwyddion a chymryd unrhyw gamau angenrheidiol

  5. cytuno ar y gwasanaeth a'r canlyniadau sy'n bodloni anghenion y cleient

  6. sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan y cleient cyn cynnal y gwasanaeth

  7. adnabod cyflwr yr ewinedd a'r croen

  8. dewis a chytuno gyda'r cleient ar gynllun a thechnegau celf ewinedd sy'n addas i siâp a chyflwr eu hewinedd

Taenu cynllun celf ewinedd

* *

  1. defnyddio offer a chynnyrch i baratoi'r ewin ar gyfer cynllun celf ewinedd

  2. dewis cynnyrch ac offer celf ewinedd sy'n ofynnol ar gyfer y cynllun celf ewinedd y cytunwyd arno a'r technegau

  3. taenu haen sylfaenol celf ewinedd i gyd-fynd â gofynion y cynllun

  4. taenu'r technegau a chynnyrch celf ewinedd yn y dilyniant gofynnol er mwyn cyflawni'r cynllun celf ewinedd

  5. selio'r cynllun celf ewinedd, gan adael y cwtigl a wal yr ewin yn rhydd rhag cynnyrch

  6. sicrhau bod y cleient yn fodlon â'r cynllun gorffenedig ac yn bodloni'r cynllun y cytunwyd arno

  7. rhoi cyngor ac argymhellion i'r cleient ar gynnyrch a gwasanaethau

  8. sicrhau bod cofnodion y cleient yn cael eu cwblhau a'u llofnodi gennych chi a'r cleient


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth ddarparu cynlluniau celf ewinedd

* *

  1. eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y diffinnir gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n berthnasol i'ch swydd

  2. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer diogelu a pharatoi cleient

  3. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer eich hylendid, amddiffyniad ac ymddangosiad personol

  4. technegau gosod eich hun a'ch cleient mewn safle diogel a pham ei bod hi'n bwysig defnyddio'r rhain

  5. amodau amgylcheddol angenrheidiol ar gyfer gwasanaethau, megis gwresogi ac awyru a pham bod y rhain yn bwysig

  6. pam ei bod hi'n bwysig cadw'ch ardal waith yn lân ac yn daclus

  7. dulliau glanhau, diheintio a sterileiddio

  8. dulliau gweithio yn ddiogel ac yn lân ac mewn ffordd sy'n isafu ar risg o groes-heintio

  9. y gwahanol fathau o ddulliau gwaith sy'n hyrwyddo arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy

  10. yr adweithiau a allai ddigwydd, sut i ddelio â hwy a pha gyngor i'w roi i'r cleientiaid

  11. y peryglon a'r risgiau sy'n bodoli yn eich gweithle a'r arferion gwaith diogel y mae'n rhaid i chi eu dilyn

  12. cyfarwyddiadau cyflenwyr a chynhyrchwyr ar gyfer defnydd diogel ar gyfarpar, deunydd a chynnyrch y mae'n rhaid i chi eu dilyn

  13. y gofynion cyfreithiol ar gyfer cael gwared ar wastraff

  14. y rhesymau dros gwblhau'r gwasanaeth o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol

Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer y gelf ewinedd

* *

  1. pwysigrwydd cyfathrebu gyda chleientiaid mewn modd proffesiynol

  2. sut i gynnal ymgynghoriad gan ystyried anghenion amrywiol y cleient

  3. y gofynion cyfreithiol ar gyfer trin plant sy'n iau na 16 oed

  4. yr oed pan fydd unigolyn yn cael ei ystyried yn blentyn a sut mae hynny'n gwahaniaethu yn genedlaethol

  5. y rhesymau dros gytuno ar wasanaeth sy'n bodloni anghenion y cleient

  6. arwyddocâd cyfreithiol dros sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan gleient i gynnal y gwasanaeth

  7. y gofynion deddfwriaethol ar gyfer storio a diogelu data cleient

  8. sut i adnabod gwrtharwyddion a fyddai'n atal neu'n cyfyngu ar y gwasanaeth a pham

  9. y gwrtharwyddion sy'n gofyn am atgyfeiriad meddygol a pham

  10. y rhesymau dros beidio ag enwi gwrtharwyddion penodol wrth atgyfeirio cleientiaid

  11. sut i gynnal dadansoddiad ewinedd a chroen

Taenu cynllun celf ewinedd

* *

  1. y gwahanol ddulliau a ddefnyddir i baratoi'r ewinedd ar gyfer taenu celf ewinedd

  2. y gwahanol fathau o dechnegau a ddefnyddir o fewn gwasanaethau celf ewinedd a sut i'w cynnal

  3. ystod a defnydd cynnyrch ac offer celf ewinedd

  4. pwysigrwydd deall theori lliw

  5. sut i ddewis a chyfuno lliwiau i ategu at y cynllun

  6. y rhesymau a buddion taenu haen sylfaen celf ewinedd cyn cynlluniau celf ewinedd penodol

  7. ystod y cynlluniau ewinedd creadigol sydd ar gael i gleientiaid

  8. sut y gall cyflwr a siâp ewin y cleient gyfyngu ar y dewis o gynllun

  9. sut i ddewis, asio a chymysgu cynnyrch a lliwiau

  10. sut i ddewis, addasu a chreu cynlluniau celf ewinedd sy'n addas i wahanol achlysuron

  11. yr addasiadau y gellir eu defnyddio i wneud cynlluniau a thechnegau celf ewinedd yn fwy masnachol

  12. y rhesymau dros selio'r cynllun celf ewinedd terfynol

  13. buddion creu portffolio cynlluniau i hyrwyddo cynlluniau celf ewinedd

  14. sut y gall tueddiadau ffasiwn cyfredol effeithio ar gynlluniau celf ewinedd

40. adeiladwaith yr ewin

  1. proses twf yr ewin

  2. adeiladwaith a swyddogaeth y croen

  3. adweithiau posibl a allai ddigwydd, sut i ddelio â hwy a pha gyngor i'w roi i gleientiaid

  4. y cyngor a'r argymhellion ar gynnyrch a gwasanaethau


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Technegau ymgynghori

* *

  1. holi

  2. gwrando

  3. edrych

  4. teimlo

5. ysgrifenedig

Camau angenrheidiol

* *

  1. annog y cleient i geisio cyngor meddygol

  2. esbonio pam na ellid cynnal y gwasanaeth

  3. addasu'r gwasanaeth

Cynllun

* *

  1. 3D

  2. 2D

  3. plannu

  4. siapiau blaenau amgen

Technegau

* *

  1. asio wedi'i addasu

  2. pylu lliwiau

  3. britho

  4. peintio

  5. gwasgnodi

Cynnyrch

* *

  1. ffabrigau

  2. llewyrch

  3. tlysau

  4. decalau

  5. addurniadau

  6. powdrau lliw

  7. geliau UV lliw

Cyngor ac argymhellion

*                                                                                                        *

  1. cynnyrch ôl-ofal addas a'u defnydd

  2. osgoi gweithgareddau a allai achosi adweithiau

  3. y cyfnodau amser a argymhellir rhwng gwasanaethau

  4. cynnyrch a gwasanaethau yn awr ac yn y dyfodol


Gwybodaeth Cwmpas

Iechyd a diogelwch

* *

  1. Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

  2. Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (RIDDOR)

  3. Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)

  4. Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)

  5. Rheoliadau Gweithredoedd Codi a Chario

  6. Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)

  7. Rheoliadau Trydan yn y Gweithle

  8. Deddf Diogelu'r Amgylchedd

  9. Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

  10. Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Gyflogeion)

Arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy

* *

  1. gostwng gwastraff a rheoli gwastraff (ailgylchu, ailddefnyddio, gwaredu diogel)

  2. gostwng defnydd ar ynni (cyfarpar sy'n arbed ynni, goleuadau ynni isel, defnyddio paneli solar)

  3. gostwng defnydd ar ddŵr ac adnoddau eraill

  4. atal llygredd

  5. defnyddio eitemau untro

  6. defnyddio dodrefn wedi'u hailgylchu, ecogyfeillgar

  7. defnyddio paent â chemegau isel

  8. defnyddio pecynnau cynnyrch ecogyfeillgar

  9. dewis cynnyrch domestig cyfrifol (te a choffi Masnach Deg)

  10. annog siwrneion i'r gwaith sy'n gostwng carbon

Anghenion amrywiol

 

  1. diwylliannol

  2. crefyddol

  3. oed

  4. anabledd

  5. rhyw

Gwrtharwyddion sy'n atal

  1. heintiau ffyngaidd

  2. heintiau feirws

  3. heintiau parasitig

  4. cyflyrau croen difrifol

  5. ewinedd wedi'u cnoi yn ddifrifol

Gwrtharwyddion sy'n cyfyngu ar

  1. heintiau bacterol

  2. psorïasis

  3. dermatitis

  4. gwahaniad ewinedd difrifol

  5. esgyrn wedi torri

  6. cochni neu chwyddo heb wybod pam

  7. ewinedd wedi'u difrodi

Siapiau ewinedd

* *

  1. ffan

  2. bachyn

  3. llwy

  4. hirgrwn

  5. sgwâr

Adeiladwaith yr ewin

  1. haen ewin

  2. gwely'r ewin

  3. matrics

  4. cwtigl

  5. gwyn yr ewinedd

  6. hyponychium

  7. eponychium

  8. wal yr ewin

  9. ymyl rhydd

  10. plyg ewin ochr

Twf yr ewin

* *

  1. ffurfiant yr ewin

  2. cyfradd dyfu

  3. ffactorau sy'n effeithio ar dwf

  4. effeithiau difrod ar dwf

  5. trwch yr ewin

Adweithiau

* *

  1. adweithiau alergaidd

  2. colli cynllun celf ewinedd cyn amser

  3. difrod i gynllun celf ewinedd

Cyngor ac argymhellion

 

  1. gwasanaethau ychwanegol

  2. cynnyrch ychwanegol

  3. ôl-ofal a gofynion cynnal i sicrhau hirhoedledd y cynllun


Gwerthoedd

Mae'r gwerthoedd allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba

  1. parodrwydd i ddysgu

  2. agwedd weithio hyblyg

  3. gweithiwr tîm

  4. agwedd bositif

  5. moeseg bersonol a phroffesiynol


Ymddygiadau

Mae'r ymddygiad a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba. Mae'r ymddygiad hwn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r sefydliad a'r unigolyn

  1. bodloni safonau ymddygiad y sefydliad

  2. cyfarch y cleient yn barchus ac mewn modd cyfeillgar

  3. cyfathrebu gyda'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu

  4. trin y cleient yn gwrtais ac yn wasanaethgar bob amser

  5. addasu'r ymddygiad i ymateb yn effeithiol i wahanol ymddygiad gan y cleient

  6. gwirio gyda'r cleient eich bod chi wedi deall eu disgwyliadau yn llawn

  7. ymateb yn brydlon ac yn gadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient

  8. adnabod gwybodaeth y gallai'r cleient ei chael yn gymhleth a gwirio a ydynt wedi deall yn llawn

  9. esbonio'r glir wrth y cleient os na ellir bodloni eu hanghenion neu'u disgwyliadau am unrhyw reswm

  10. cynnal dulliau gwaith effeithiol, glân a diogel

  11. cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, y cyflenwyr a'r cynhyrchwyr wrth ddefnyddio cyfarpar, deunyddiau a chynnyrch yn ddiogel

  12. bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant.


Sgiliau

Mae'r sgiliau allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba

  1. y gallu i hunan-reoli

  2. cyfathrebu llafar a dieiriau gwych

  3. defnyddio'r ffyrdd mwyaf priodol o gyfathrebu gyda chleient

  4. ymateb yn brydlon i gleient sy'n gofyn am gymorth

  5. canfod gwybodaeth yn gyflym a fydd o gymorth i'r cleient

  6. rhoi gwybodaeth y mae ei hangen ar gleient am wasanaethau a chynnyrch a gynigir gan y sefydliad


Geirfa

Asio wedi'i addasu

Cymysgedd o gynnyrch i greu lliw neu effaith unigryw.

Pylu lliwiau

Cymysgedd o ddau neu'n fwy o liwiau i greu effaith lliw graddol.

Addurniadau

Addurn yw unrhyw beth sy'n addurno neu'n ychwanegu diddordeb at gynllun.

Ffabrig

Ffabrig a ddefnyddir i wasgnodi neu fewnosod i mewn i gynlluniau celf ewinedd.

Britho

Dau liw neu'n fwy i greu effaith fritho gan ddefnyddio ystod o gynnyrch.

Gwasgnodi

Ystod o dechnegau a all boglynnu cynllun neu ei wasgnodi.

Peintio technegau celf ewinedd

Ystod o dechnegau celf ewinedd, a allai gynnwys defnyddio llaw rydd, brwshys, sbyngau gwead a siapwyr lliw, sy'n ystod o offer i greu gwahanol effeithiau peintio.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2015

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

N4

Galwedigaethau Perthnasol

Technegydd ewinedd, Therapydd Harddwch

Cod SOC


Geiriau Allweddol

cynllun; celf ewinedd; creu celf ewinedd; celf ewinedd creadigol;