Cynnal a gorffen troshaenau ewinedd gan ddefnyddio ffeil drydan
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â defnydd diogel a phriodol ar ffeil drydan yn ystod proses o gynnal a gorffen deunydd troshaen. Mae'n cynnwys ymgynghori, cynllunio a pharatoi at ddefnyddio ffeiliau trydan gan gynnwys cynnal darn llaw ffeil trydan ac atodiadau.
Er mwyn cyflawni'r safon hon bydd angen i chi gynnal iechyd, diogelwch a hylendid effeithiol trwy gydol eich gwaith. Bydd angen i chi hefyd gynnal eich ymddangosiad personol a dangos sgiliau cyfathrebu ac ymgynghori effeithiol.
Prif ganlyniadau'r safon hon yw:
cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth gynnal a gorffen troshaenau ewinedd gan ddefnyddio ffeiliau trydan
ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer defnyddio ffeiliau trydan
cynnal a gorffen troshaenau ewinedd gan ddefnyddio ffeiliau trydan
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth gynnal a gorffen troshaenau ewinedd gan ddefnyddio ffeiliau trydan
* *
cynnal eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch trwy gydol y gwasanaeth
paratoi'ch cleient a'ch hun i fodloni gofynion cyfreithiol a sefydliadol
gosod eich cleient mewn safle i fodloni anghenion y gwasanaeth
sicrhau bod eich ystum eich hun a'ch dulliau gwaith yn isafu ar flinder a risg o anaf i chi'ch hun ac eraill
sicrhau bod amodau amgylcheddol yn addas i'r cleient a'r gwasanaeth
cadw'ch ardal waith yn lân ac yn daclus trwy gydol y gwasanaeth
defnyddio dulliau gwaith sy'n isafu ar risg o groes-heintio
sicrhau defnydd ar gyfarpar a deunydd glân
hyrwyddo arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy
dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a chyflenwyr neu gynhyrchwyr ar gyfer defnydd diogel ar gyfarpar, deunyddiau a chynnyrch
cael gwared ar ddeunydd gwastraff i fodloni gofynion cyfreithiol
cynnal y gwasanaeth o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol
Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer defnyddio ffeiliau trydan
* *
13.defnyddio technegau ymgynghori i bennu cynllun gwasanaeth y cleient
sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan riant neu warcheidwad ar gyfer plant cyn unrhyw wasanaeth
sicrhau bod rhiant neu warcheidwad yn bresennol trwy gydol y gwasanaeth ar gyfer plant sy'n iau na 16
adnabod unrhyw wrtharwyddion a chymryd y camau angenrheidiol
cytuno ar y gwasanaeth a'r canlyniadau sy'n bodloni anghenion y cleient
sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan y cleient cyn cynnal y technegau llyfnu trydan
glanhau'r ardal a fydd yn cael ei thrin a thynnu unrhyw orffeniad sydd ar yr ewinedd yn barod
adnabod cyflwr yr ewinedd a'r croen
Cynnal a gorffen troshaenau ewinedd gan ddefnyddio ffeiliau trydan
* *
defnyddio atodyn llyfnu ar gyfer y technegau llyfnu gofynnol
symud y ffeil drydan ar gyflymder a phwysau sy'n ofynnol ar gyfer y technegau llyfnu
symud y ffeil drydan i un cyfeiriad ar draws yr ewin
defnyddio'r atodyn ffeil sy'n cylchdroi yn groes i'r ffordd yr ydych chi'n gweithio
sicrhau symudiad parhaus y ffeil er mwyn osgoi gwres yn crynhoi ar haen yr ewin
defnyddio technegau llyfnu ar droshaen yr ewin ac nid ar yr haen ewin naturiol na'r croen sy'n amgylchynu
symud a gosod bys y cleient fel bod y ffeil sy'n troi yn cael ei gadw'n wastad yn erbyn yr ewin
mireinio a gorffen y droshaen gan ddefnyddio technegau llyfnu
sicrhau bod yr ewin yn gytbwys ac i'r siâp a hyd gofynnol
defnyddio ffeil i gyflawni arwyneb gwastad llyfn a sglein
sicrhau bod y cleient yn fodlon â'r gwasanaeth sydd wedi'i gwblhau
rhoi cyngor ac argymhellion i'r cleient ar y gwasanaeth a ddarparwyd
sicrhau bod cofnodion y cleient yn cael eu cwblhau a'u llofnodi gennych chi a'r cleient
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth gynnal a gorffen troshaenau ewinedd gan ddefnyddio ffeiliau trydan
* *
eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y diffinnir gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n berthnasol i'ch swydd
gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer amddiffyn a pharatoi cleient
gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer eich hylendid, amddiffyniad ac ymddangosiad personol
technegau gosod eich hun a'ch cleient mewn safle diogel a pham ei bod hi'n bwysig defnyddio'r rhain
amodau amgylcheddol angenrheidiol ar gyfer gwasanaethau, megis gwresogi ac awyru a pham bod y rhain yn bwysig
pam ei bod hi'n bwysig cadw'ch ardal waith yn lân ac yn daclus
dulliau glanhau, diheintio a sterileiddio
dulliau gweithio yn ddiogel ac yn lân ac mewn ffordd sy'n isafu ar risg o groes-heintio
y peryglon a'r risgiau sy'n bodoli yn eich gweithle a'r arferion gwaith diogel y mae'n rhaid i chi eu dilyn
gwahanol fathau o ddulliau gwaith sy'n hyrwyddo arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy
cyfarwyddiadau cyflenwyr a chynhyrchwyr ar gyfer defnydd diogel ar gyfarpar, deunydd a chynnyrch y mae'n rhaid i chi eu dilyn
y gofynion cyfreithiol ar gyfer cael gwared ar wastraff
y rhesymau dros gwblhau'r gwasanaeth o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol
Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer defnyddio ffeiliau trydan
* *
pwysigrwydd cyfathrebu gyda chleientiaid mewn modd proffesiynol
sut i gynnal ymgynghoriad gan ystyried anghenion amrywiol y cleient
y gofynion cyfreithiol ar gyfer trin plant sy'n iau na 16 oed
yr oed pan fydd unigolyn yn cael ei ystyried yn blentyn a sut mae hynny'n gwahaniaethu yn genedlaethol
y rhesymau dros gytuno ar wasanaeth sy'n bodloni anghenion y cleient
arwyddocâd cyfreithiol dros sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan gleient i gynnal y gwasanaeth
gofynion deddfwriaethol ar gyfer storio a diogelu data cleient
sut i adnabod gwrtharwyddion a fyddai'n atal neu'n cyfyngu ar y gwasanaeth
y gwrtharwyddion sy'n gofyn am atgyfeiriad meddygol a pham
y camau angenrheidiol i'w cymryd mewn perthynas â gwrtharwyddion penodol wrth atgyfeirio cleientiaid
y rhesymau dros beidio ag enwi gwrtharwyddion penodol wrth atgyfeirio cleientiaid
sut i adnabod cyflyrau croen ac ewinedd y gellir eu trin
sut i gynnal dadansoddiad ewinedd a chroen
Cynnal a gorffen troshaenau ewinedd gan ddefnyddio ewinedd trydan
* *
mathau a defnydd ar gyfarpar ac atodiadau llyfnu trydan
technegau llyfnu trydan, gan gynnwys teneuo troshaenau, gloywi a defnyddio gwahanol gyflymder cylchdro
sut i osod a chefnogi bys eich cleient wrth weithio gyda ffeil drydan
pam ei bod hi'n bwysig cynnal cyswllt tri phwynt wrth weithio gyda ffeil drydan
sut i addasu'r cyfarpar ar gyfer eu defnyddio â llaw chwith a llaw dde
y rhesymau dros weithio i un cyfeiriad ar draws y droshaen
pam ei bod hi'n bwysig gweithio yn groes i gylchdro'r atodiad ffeil
sut i gynnal cydbwysedd, siâp a lleoliad y pig wrth lyfnu â thrydan
y difrod a achosir trwy ddefnydd amhriodol neu gamddefnydd ar ffeiliau trydan
sut i osgoi gwres yn crynhoi wrth ddefnyddio ffeil drydan
y gwrtharwyddion a allai ddigwydd a sut i ddelio â hwy
pam y dylid ffeilio'r ewinedd naturiol â llaw bob amser cyn gosod y droshaen
buddion, defnydd a chyfyngiadau ffeil llaw a ffeil drydan
y rhesymau pam na ddylid byth defnyddio ffeiliau trydan i asio blaenau
gofalu a chynnal ffeiliau trydan
cyngor ac argymhellion ar gynnyrch a gwasanaethau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Technegau ymgynghori
* *
holi
gwrando
edrych
teimlo
ysgrifenedig
Camau angenrheidiol
* *
annog y cleient i geisio cyngor meddygol
esbonio pam na ellid cynnal y gwasanaeth
addasu'r gwasanaeth
Technegau llyfnu
* *
gostwng yr hyd
mireinio arwynebau
teneuo'r ymyl rhydd
gloywi
gostwng swmp y droshaen
Atodiad ffeil
* *
darn carbid neu ddiemwnt
darn ôl-lenwi
bandiau mandrel a sandio
glanhawr dan yr ewin
Cyngor ac argymhellion
* *
cynnyrch ôl-ofal addas a'u defnydd
osgoi gweithgareddau a allai achosi adweithiau
cyfnodau amser a argymhellir rhwng gwasanaethau
cynnyrch a gwasanaethau yn awr ac yn y dyfodol
Gwybodaeth Cwmpas
Iechyd a diogelwch
* *
Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (RIDDOR)
Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)
Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)
Rheoliadau Gweithredoedd Codi a Chario
Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)
Rheoliadau Trydan yn y Gweithle
Deddf Diogelu'r Amgylchedd
Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Gyflogeion)
Arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy
* *
gostwng gwastraff a rheoli gwastraff (ailgylchu, ailddefnyddio, gwaredu diogel)
gostwng defnydd ar ynni (cyfarpar sy'n arbed ynni, goleuadau ynni isel, defnyddio paneli solar)
gostwng defnydd ar ddŵr ac adnoddau eraill
atal llygredd
defnyddio eitemau untro
defnyddio dodrefn wedi'u hailgylchu, ecogyfeillgar
defnyddio paent â chemegau isel
defnyddio pecynnau cynnyrch ecogyfeillgar
dewis cynnyrch domestig cyfrifol (te a choffi Masnach Deg)
annog siwrneion i'r gwaith sy'n gostwng carbon
Anghenion amrywiol
diwylliannol
crefyddol
oed
anabledd
rhyw
Gwrtharwyddion sy'n atal
heintiau ffyngaidd
heintiau feirws
heintiau bacterol
heintiau parasitig
cyflyrau croen difrifol
Gwrtharwyddion sy'n cyfyngu ar
psorïasis
dermatitis
gwahaniad ewinedd difrifol
esgyrn wedi torri
cochni neu chwyddo heb wybod pam
ewinedd wedi'u difrodi
ewinedd wedi teneuo
Adweithiau
* *
pothellu
ffrithiant gwres
haen yr ewin yn teneuo
briwiau a chrafiadau
Cyngor ac argymhellion
* *
gwasanaethau ychwanegol
cynnyrch ychwanegol
pwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau'r cynhyrchwyr ar gyfer gofalu a chynnal ffeiliau trydan
Gwerthoedd
Mae'r gwerthoedd allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba
parodrwydd i ddysgu
agwedd weithio hyblyg
gweithiwr tîm
agwedd bositif
moeseg bersonol a phroffesiynol
Ymddygiadau
Mae'r ymddygiad a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba. Mae'r ymddygiad hwn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r sefydliad a'r unigolyn
bodloni safonau ymddygiad y sefydliad
cyfarch y cleient yn barchus ac mewn modd cyfeillgar
cyfathrebu gyda'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu
trin y cleient yn gwrtais ac yn wasanaethgar bob amser
addasu'r ymddygiad i ymateb yn effeithiol i wahanol ymddygiad gan y cleient
gwirio gyda'r cleient eich bod chi wedi deall eu disgwyliadau yn llawn
ymateb yn brydlon ac yn gadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient
adnabod gwybodaeth y gallai'r cleient ei chael yn gymhleth a gwirio a ydynt wedi deall yn llawn
esbonio'r glir wrth y cleient os na ellir bodloni eu hanghenion neu'u disgwyliadau am unrhyw reswm
cynnal dulliau gwaith effeithiol, glân a diogel
cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, y cyflenwyr a'r cynhyrchwyr wrth ddefnyddio cyfarpar, deunyddiau a chynnyrch yn ddiogel
bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant.
Sgiliau
Mae'r sgiliau allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba
y gallu i hunan-reoli
cyfathrebu llafar a dieiriau gwych
defnyddio'r ffyrdd mwyaf priodol o gyfathrebu gyda chleient
ymateb yn brydlon i gleient sy'n gofyn am gymorth
canfod gwybodaeth yn gyflym a fydd o gymorth i'r cleient
rhoi gwybodaeth y mae ei hangen ar gleient am wasanaethau a chynnyrch a gynigir gan y sefydliad
Geirfa
Darn baril
Mae hwn yn atodiad ffeil drydan sydd naill ai'n carbid neu ddiemwnt
* *
Troshaen
Cot denau o gynnyrch sy'n cael ei thaenu dros yr arwyneb naturiol neu ewin artiffisial cyfan.