Datblygu strategaeth i gynnig gweithgareddau chwaraeon a chorfforol yn y gymuned
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymdrin â hyrwyddo a chynnig gweithgareddau chwaraeon a chorfforol yn y gymuned.
Mae'r safon hefyd yn ymdrin â chynnig mwy o weithgareddau chwaraeon a chorfforol a gwella iechyd yn y gymuned gan ddenu mwy o drigolion y gymuned i gymryd rhan a pharhau i gymryd rhan.
Mae'r safon yn pwysleisio'r angen i roi agendâu cenedlaethol a lleol perthnasol ar waith ac o ganlyniad ymchwilio i'r gymuned y byddwch yn cydweithio gyda hi.
Byddwch yn datblygu perthnasau gwaith gyda chysylltiadau allweddol yn y gymuned, cynnig rhaglenni a chynnig cyfle i gymunedau, gyda'ch cyngor proffesiynol ac arbenigedd, i gynnig cyfleoedd ar gyfer cymryd rhan a datblygu.
**
**
Prif ddeilliannau'r safon hon ydy:**
adnabod sefydliad/mudiad, asiantaethau ac unigolion i ymgysylltu â nhw er mwyn cynnig gweithgareddau chwaraeon a chorfforol yn y gymuned
datblygu a chynnal cysylltiadau yn y gymuned
Ymgysylltu a chydweithio gydag eraill i gynllunio a chynnig rhaglenni gweithgareddau chwaraeon a chorfforol yn y gymuned
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Adnabod sefydliad/mudiad, asiantaethau ac unigolion i ymgysylltu â nhw er mwyn cynnig gweithgareddau chwaraeon a chorfforol yn y gymuned**
casglu a dadansoddi gwybodaeth yn ymwneud ag asiantaethau cenedlaethol a lleol
casglu a dadansoddi gwybodaeth a nodweddion am y gymuned
llunio syniadau ac awgrymiadau yn sgîl eich canfyddiadau o'r gwaith ymchwil
cofnodi gwybodaeth y mae modd ei defnyddio er mwyn datblygu cysylltiadau
gwerthuso'ch canfyddiadau i amlygu anghenion y gymuned a grwpiau targed posib
ymchwilio i gyfleoedd ariannu posib
Datblygu a chynnal cysylltiadau yn y gymuned
mynd ati i ddatblygu cysylltiadau gwaith gyda mudiadau, asiantaethau ac unigolion
cynnig gwybodaeth i fudiadau, asiantaethau ac unigolion am y nifer o drigolion y gymuned sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon a chorfforol ar hyn o bryd
cytuno ar ddyletswyddau a chyfrifoldebau
mynd i'r afael â phroblemau, unrhyw anghytuno neu gwynion gan fudiadau, asiantaethau ac unigolion yn unol â'ch polisïau a gweithdrefnau trefniadaethol
cynnig gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd i fudiadau, asiantaethau, unigolion a'r gymuned
hyrwyddo diben eich maes gwaith, ynghyd â'r gwerthoedd a dulliau ynghlwm, gyda'r gymuned a mudiadau, asiantaethau ac unigolion eraill
* *
Ymgysylltu* a chydweithio gydag eraill i gynllunio a chynnig rhaglenni gweithgareddau chwaraeon a chorfforol yn y gymuned*
dod â mudiadau, asiantaethau ac unigolion eraill, y byddech yn medru cydweithio gyda nhw, ynghyd
cyflwyno canfyddiadau eich ymchwil er mwyn eu trafod a chytuno arnyn nhw gyda'r nod o fodloni anghenion agendâu lleol a chenedlaethol
cytuno ar baramedrau ar gyfer cydweithio gyda'r gymuned a mudiadau, asiantaethau ac unigolion eraill.
cytuno ar egwyddor ac amserlen er mwyn cydweithio gyda'r gymuned a mudiadau, asiantaethau ac unigolion eraill
monitro ac adolygu'r amserlen cydweithio gyda'r gymuned a mudiadau, asiantaethau ac unigolion eraill
cynnig gwybodaeth am y fenter gweithgareddau chwaraeon a chorfforol gyda'r gymuned, yn unol â'ch polisïau a gweithdrefnau trefniadaethol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Adnabod sefydliad/mudiad, asiantaethau ac unigolion i ymgysylltu â nhw er mwyn cynnig gweithgareddau chwaraeon a chorfforol yn y gymuned**
dulliau ymchwilio a thechnegau dadansoddi
cyfleoedd ariannu
sut i wneud y defnydd gorau o bobl ac adnoddau gan ystyried demograffeg er mwyn cyflawni'r nodau a'r amcanion arfaethedig yn ymwneud â gweithgareddau chwaraeon a chorfforol yn y gymuned
polisïau'r llywodraeth yn gysylltiedig â gweithgareddau corfforol yn ymwneud â chwaraeon ac iechyd yn y gymuned, fel lleihau gordewdra a chynyddu'r nifer sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau
y berthynas rhwng lefel y gweithgaredd corfforol ac iechyd yn y gymuned
y gwahaniaeth rhwng ymagweddau chwaraeon cymunedol ac ymagweddau chwaraeon confensiynol
eich polisïau chi a pholisïau rhanddeiliaid eraill yn ymwneud â gweithgareddau chwaraeon a chorfforol yn y gymuned
modelau ac astudiaethau achos ynghylch ymarfer effeithiol yn ymwneud â gweithgareddau chwaraeon a chorfforol yn y gymuned
yr ystod o fudiadau, asiantaethau ac unigolion y gallech chi ddatblygu polisi neu strategaeth ar y cyd â nhw er mwyn mynd i'r afael â phrosiect
Datblygu a chynnal perthnasau yn y gymuned
y 'rhwystrau' posib yn ymwneud â'r gymuned a sut i ofalu fod modd i bobl fanteisio ar y rhaglenni
protocolau ar gyfer cysylltu gyda mudiadau, asiantaethau ac unigolion
y math o wybodaeth i'w rhannu a'i hyrwyddo
pam ei bod hi’n bwysig I chi egluro’ch swydd a’ch nodau a’ch amcancion eich hun ynghyd ag egluro’u swydd a’u nodau a’u hamcanion nhw
yr iaith a'r dull cyfathrebu
pwysigrwydd ymateb i gwestiynau, syniadau ac awgrymiadau
polisïau trefniadaethol wrth ymdrin â dulliau mudiadau, asiantaethau ac unigolion eraill
sut i adnabod anghenion hirdymor y gymuned ynghyd a threfnu a chynnal y canlynol:
16.1 cyfleoedd ar gyfer cymryd rhan a datblygu
16.2 prosiectau a mentrau sy'n bodoli eisoes
16.3 cyfleoedd newydd
16.4 strwythurau parhaol ar gyfer gweithgareddau chwaraeon a chorfforol yn eu cymuned
16.5 strategaeth hirdymor ar gyfer buddion gweithgareddau chwaraeon a chorfforol wrth gydweithio gyda mudiadau, asiantaethau ac unigolion eraill
Ymgysylltu* a chydweithio gydag eraill i gynllunio a chynnig rhaglenni gweithgareddau chwaraeon a chorfforol yn y gymuned*
pam fod rhwydweithio'n bwysig er mwyn hyrwyddo'ch mudiad
y buddion cyffredin posib yn sgil cydweithio gyda mudiadau asiantaethau ac unigolion eraill
pwysigrwydd cytuno'n gadarn ar baramedrau ar gyfer cydweithio
y mathau o broblemau, anghytuno neu gwynion gan fudiadau, asiantaethau ac unigolion, ynghyd â ffyrdd i fynd i'r afael â nhw
sgiliau trafod a sgiliau datrys problemau ar gyfer cydweithio
sut i hyrwyddo'r buddion tymor hirach yn sgîl cynnig cyfle i drigolion yr ardal gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon a chorfforol a datblygu'r un pryd
pwysigrwydd cadw mewn cysylltiad ac adolygu cynnydd gyda mudiadau, asiantaethau ac unigolion eraill
Cwmpas/ystod
Gwybodaeth Ychwanegol
Diben yr wybodaeth ganlynol ydy cynnig cyfarwyddyd i'r rheiny sy'n defnyddio'r safon hon.
Nodau ac amcanion
Yn y safon hon caiff y term nodau ac amcanion ei ddefnyddio ac yn y cyd-destun hwn mae'n cyfeirio at gynnwys pawb, datblygiad personol, datblygiad cymdeithasol, datblygiad corfforol a datblygu sgiliau.
Mae'n debyg y bydd rhai o'r enghreifftiau blaenllaw, yn dibynnu ar anghenion trigolion y gymuned ac agendâu lleol a chenedlaethol.
Er enghraifft mae'n bosib y bydd gofyn i'ch mudiad ddatblygu strategaeth yn ymwneud â gweithgareddau chwaraeon a chorfforol, sy'n addas i bawb, yn ymwneud â meysydd lle mae yna flaenoriaeth i ymwneud â phobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifol neu bobl anabl.
Mae datblygiad cymdeithasol yn cyfeirio at gynnig cyfle i bobl ddatblygu a gweithgareddau i ofalu newid cymdeithasol mewn cymunedau drwy gyfrwng gweithgareddau chwaraeon a chorfforol.
Mae datblygu sgiliau a datblygu'n gorfforol hefyd yn hanfodol wrth ddenu pobl i fanteisio ar weithgareddau chwaraeon a chorfforol ac yn y fath modd, maen nhw'n annog datblygu sgiliau bywyd.
Paramedrau
Wrth ymwneud a chydweithio gydag eraill, dyma'r paramedrau y dylai bawb ynghlwm eu hystyried:
- nodau ac amcanion
- dyletswyddau, cyfrifoldebau a rhannu gwaith
- dull
- proses
- ethos
- canolbwynt
- mesurau wrthgefn
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Data Ystadegol (lleiafswm o 5)
cymysgedd ethnig
nifer o blant ysgol yn y gymuned
ffigyrau troseddau yn y gymuned
perthnasau o fewn a rhwng grwpiau
materion cymdeithasol ac economaidd
diwylliant a gwleidyddiaeth
crefydd
poblogaeth
ffiniau a therfynau
economi
cysylltiadau allweddol
cyfleusterau
asiantaethau eraill
mentrau perthnasol eraill a'u nodau ac amcanion nhw
rhwystrau rhag medru cymryd rhan a datblygu
* *
Pobl ac adnoddau (lleiafswm o 4)
arweinwyr / gweithredwyr cymunedol unigol
grwpiau
unigolion dichonol i gymryd rhan
gwirfoddolwyr dichonol
asiantaethau / gweithwyr proffesiynol eraill
perchnogion y cyfleusterau
adnoddau
cyfleusterau confensiynol
cyfleusterau anghonfensiynol
staff o'r gymuned
staff o du allan i'r gymuned
prosiectau a mentrau sy'n bodoli eisoes
* *
Mudiadau, asiantaethau ac unigolion (lleiafswm o 3)
o'r maes chwaraeon a/neu hamdden
o feysydd arbenigol eraill
mudiad cymunedol
gweithwyr proffesiynol y byd iechyd
grwpiau cefnogi neu gymunedol
mudiad masnachol
y rheiny sy'n wynebu rhwystrau rhag medru manteisio
asiantaethau ariannu