Cynllunio a chynnig gwasanaethau hamdden yn unol â cheisiadau gan gwsmeriaid allanol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymdrîn â chynllunio a chynnig gwasanaethau hamdden yn unol â cheisiadau gan gwsmeriaid allanol . Mi ddylai'r gwaith fodloni gofynion trefniadaethol a chyfreithiol, yn enwedig y rheiny sy'n berthnasol i iechyd a diogelwch. Cyd-destunau posib ar gyfer y safon hon fyddai cynllunio rhaglenni a digwyddiadau ar gyfer canolfan chwaraeon / hamdden, canolfan gweithgareddau awyr agored neu glwb ffitrwydd.
*
*
*
*
Prif ddeilliannau'r safon hon ydy:
cynllunio a chynnig gwasanaethau i fodloni gofynion
monitro ac adolygu gwasanaethau a gweithredoedd
Mae'r safon hon ar gyfer rheolwyr, arweinwyr a staff datblygu chwaraeon sy'n gweithio ar y lefel hon.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cynllunio a chynnig gwasanaethau i fodloni gofynion**
gwirio manylion y cais yn erbyn gwasanaethau a gweithredoedd cyfredol
cynnwys aelodau tîm a rhanddeiliaid yn y broses cynllunio gwasanaethau a gweithrediadau, yn unol â cheisiadau rhanddeiliaid allanol, i fodloni deilliannau cytunedig
cynllunio'r gwaith fel bod modd bodloni'r gofynion ar gyfer y gwasanaethau a'r gweithredoedd yn unol â'r polisïau a gweithdrefnau cyfreithiol a threfniadaethol
rhannu'r cynlluniau gwasanaeth a gofynion gyda'r aelodau tîm gan egluro eu dyletswyddau, cyfrifoldebau, targedau ac amserlenni
cyflawni dadansoddiad risg budd er mwyn cefnogi dichonoldeb y cais allanol
cynllunio ar gyfer digwyddiadau annisgwyl, pan fo amgylchiadau nad oedd modd eu rhagweld, a allai effeithio ar y cais gwreiddiol am wasanaethau
cadw cofnodion yn unol â pholisïau a gweithdrefnau trefniadaethol
darparu y gwasanaeth
Monitro ac adolygu gwasanaethau a gweithredoedd * *
monitro gweithrediadau a gwasanaethau yn erbyn y dadansoddiad risg a mynd i'r afael ag unrhyw broblemau
adolygu'r gwasanaethau a gweithrediadau yn erbyn y cais drwy gasglu adborth gan staff, cwsmeriaid a rhanddeiliaid allanol
darparu data o'r adolygiad i'r rhanddeiliaid er mwyn llywio'r gwasanaeth yn y dyfodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cynllunio a chynnig gwasanaethau i fodloni gofynion**
ffynonellau gwybodaeth ar ofynion ar gyfer gwasanaethau a gweithrediadau
polisïau a gweithdrefnau cyfreithiol a threfniadaethol ar gyfer cynllunio a chynnig gwasanaethau a gweithredoedd
yr ystyriaethau cyfleoedd cyfartal a fyddai o bosib yn effeithio ar ddisgwyliadau'r cwsmeriaid gan gynnwys trefniadau arbennig i gwsmeriaid gydag anableddau neu sesiynau i ferched yn unig
y mathau o broblemau a allai godi a'r dulliau i fynd i'r afael â nhw ar gyfer:
4.1 cyfleusterau dan do gan gynnwys materion yn ymwneud â'r pwll
4.2 cyfleusterau yn yr awyr agored **
manylion rhoi cynllun wrth gefn ar waith
gofynion cyfreithiol, trefniadaethol ac ymarfer gorau ar gyfer cydraddoldeb ac amrywioldeb wrth gynllunio a chynnig gwasanaethau a gweithrediadau
y protocol ar gyfer briffio aelodau tîm ynghylch cynlluniau a gofynion
sut i logi gwasanaethau ychwanegol allanol er mwyn bodloni'r cais am wasanaethau
Monitro ac adolygu gwasanaethau a gweithredoedd * *
gweithdrefnau ar gyfer cyflawni dadansoddiad risg
y mathau o beryglon posib
yr arfau a’r technegau gwerthuso ar gyfer adolygu gwasanaethau a gweithrediadau
y polisïau a’r gweithdrefnau cyfreithiol a threfniadaethol ar gyfer cynnal a chadw cofnodion am wasanaethau a gweithrediadau
Cwmpas/ystod
Gwybodaeth Ychwanegol**
Diben yr wybodaeth ganlynol ydy cynnig cyfarwyddyd i'r rheiny sy'n defnyddio'r safon hon.
Gofynion **
Pan gaiff y term gofynion ei ddefnyddio yn y ddogfen safon hon, gall gyfeirio at y canlynol.
polisi / gweithdrefn y fframwaith rheoli prosiectau
gofynion ynghylch perfformiad
rhaglen
cwsmer unigol
asesiadau risg penodol ar gyfer digwyddiadau
trwydded adloniant
trwydded cerddoriaeth
yswiriant atebolrwydd
hyfforddi staff ar ymadael yr adeilad pan fo tân
adnoddau staffio
lleoliad
cymhwysedd
cynlluniau prosiect
Gweithdrefnau Arferol (NOP)
Cynlluniau Gweithredu mewn Argyfwng (EAP)
Fel arfer bydd gofynion yn cyfeirio at un neu fwy o agweddau ond mewn gwirionedd mae'n golygu'r gofynion am y gwasanaeth gan y rhanddeiliaid.
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Cyfleusterau dan do** (lleiafswm o 2)
materion yn ymwneud â'r pwll
materion ynghylch rheoli plant
cyfleusterau ystafelloedd stiwdio a chynhadledd
neuaddau
maint a chymhwysedd y cyfleuster
canolfannau a'r nifer o ganolfannau a geisiwyd
canolfan wedi ei archebu ddwywaith ar yr un pryd
sŵn
trais
rheoli tyrfaoedd
os ydy'r offer ar gael ac os ydy'r offer yn wallus
staffio a gallu staffio
* *
Cyfleusterau yn yr Awyr Agored (lleiafswm o 2)
maint a chymhwysedd y cyfleuster
lleoliadau a’r nifer o leoliadau a geisiwyd
lleoliad wedi ei archebu ddwywaith ar yr un pryd
sŵn
trais
rheoli tyrfaoedd
os ydy'r offer ar gael ac os ydy'r offer yn wallus
staffio a gallu staffio
amodau'r tywydd