Cynnal a chadw offer a chyfleusterau mewn safle hamdden
Trosolwg
Mae'r safon yn ymwneud â gofalu y caiff offer a chyfleusterau eu gwirio a'u cynnal a chadw'n ddigonol. Mae hefyd yn ymdrîn â goruchwylio gwaith trwsio sylweddol a mân drwsiadau i offer a chyfleusterau.
Mae'r safon hon ar gyfer rheolwyr, arweinwyr a staff datblygu chwaraeon sy'n gweithio ar y lefel hon.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
gwirio caiff yr offer a chyfleusterau eu monitro a'u cynnal a chadw yn unol â'r gofynion cyfreithiol a pholisïau a gweithdrefnau trefniadaethol
gwirio fod y staff yn meddu ar yr adnoddau a’r sgiliau ar gyfer monitro, cynnal a chadw a chofnodi cyflwr yr offer a chyfleusterau yn unol â'r gofynion cyfreithiol a pholisïau a gweithdrefnau trefniadaethol
cyflawni hapwiriadau i ofalu fod y cyfleusterau a’r offer yn cydymffurfio gyda'r gweithdrefnau sydd wedi eu cytuno arnyn nhw
datblygu gweithdrefn sy'n gofyn i staff adrodd am unrhyw broblemau gydag offer a /neu gyfleusterau
datrys unrhyw broblemau yn unol â'r gofynion cyfreithiol a pholisïau a gweithdrefnau trefniadaethol
llunio manylebau ar gyfer gwaith cynnal a chadw yn unol â'r polisïau a gweithdrefnau trefniadaethol
gwirio fod y manylebau ar gyfer gwaith cynnal a chadw wedi eu cytuno gyda'r staff a / neu'r contractwyr
trefnu gwaith cynnal a chadw sy'n amharu cyn lleied â phosib ar gynlluniau gwaith arferol ac mewn argyfwng gan ddwyn i ystyriaeth unrhyw ddigwyddiadau annisgwyl posib
darparu gwybodaeth i staff a defnyddwyr ynghylch y gwaith ac unrhyw drefniadau fyddai'n effeithio arnyn nhw
rhoi gweithdrefnau ar waith, er mwyn cynnal iechyd a diogelwch staff a defnyddwyr yn ystod cyfnod y gwaith, yn unol â'r gofynion cyfreithiol a pholisïau a gweithdrefnau trefniadaethol
monitro'r gwaith a chynnig cefnogaeth i ofalu ei fod yn bodloni'r rhaglen gytunedig
cyfeirio unrhyw drafferthion tu hwnt i lefel eich cyfrifoldeb at y cydweithiwr cyfrifol neu arbenigwr
gwirio fod yr holl waith yn bodloni'r fanyleb a gytunwyd
cwblhau a chadw cofnodion o'r gwaith yn unol â'r gofynion cyfreithiol a pholisïau a gweithdrefnau trefniadaethol
rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith i staff a defnyddwyr
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
y gofynion trefniadaethol a chyfreithiol ar gyfer cynnal a chadw offer a chyfleusterau
yr adnoddau a'r sgiliau sydd eu hangen ar y staff i fonitro, cynnal a chadw a chofnodi cyflwr yr offer a'r chyfleusterau; ynghyd â dulliau o ofalu bod y rhain yn gyfredol
canllawiau cynnal a chadw cenedlaethol a chanllawiau gwneuthurwyr offer
y rhaglen gynnal a chadw a gytunwyd ar gyfer offer a chyfleusterau yn eich maes cyfrifoldeb chi
yr weithdrefn ar gyfer cyflawni hapwiriadau yn eich mudiad chi
y gweithdrefnau y mae’n ofynnol i’r staff eu dilyn ar gyfer adrodd am unrhyw broblemau gydag offer a/neu gyfleusterau
y mathau o broblemau y mae'n bosib y bydd yn rhaid ichi ymdrîn â nhw wrth gynnal a chadw offer a chyfleusterau
sut i ddatblygu manyleb a chynllunio ar gyfer unrhyw waith cynnal a chadw
yr weithdrefn safonol ar gyfer cyflawni gwaith cynnal a chadw ar gyfer staff a chontractwyr eich mudiad/sefydliad
y weithdrefn i gydymffurfio gyda hi wrth gael gwared ar offer
y trefniadau gofynnol ar gyfer unrhyw waith cynnal a chadw
sut i amharu cyn lleied â phosib ar gynlluniau gwaith arferol ac mewn argyfwng ynghyd â chynllunio ar gyfer unrrhyw ddigwyddiadau annisgwyl
y weithdrefn ar gyfer rhoi gwybod i bobl allai gael eu heffeithio gan y gwaith
goblygiadau iechyd a diogelwch i'w hystyried yn ystod gwaith cynnal a chadw
pam ei bod hi’n bwysig gwirio a monitro gwaith cynnal a chadw er mwyn sicrhau ei fod yn bodloni’r fanyleb waith a ‘r rhaglen a gytunwyd
y mathau o gefnogaeth mae'n bosib y bydd eu hangen ar staff cynnal a chadw a sut i hwyluso hyn
y broses o gadw a storio cofnodion cynnal a chadw yn eich mudiad
pam byddech chi'n adolygu cofnodion cynnal a chadw a defnyddio'r wybodaeth honno i weld sut i gynllunio ar gyfer achlysuron yn y dyfodol yn unol â'r gofynion cyfreithiol a pholisïau a gweithdrefnau trefniadaethol