Ymgymryd â gwaith llawrydd
Trosolwg
Mae'r safon yma'n ymwneud â rhywun proffesiynol yn gweithio fel gweithiwr llawrydd, lle mai chi yw eich busnes a'ch sgiliau yw eich gwasanaeth. Rhaid i chi fod yn ymwybodol o'ch rhwymedigaethau ynglŷn â deddfwriaeth, cyfrifon, treth a chyfrifoldebau yswiriant yn ogystal â rheoli beth all fod yn llif arian amrywiol yn ystod newidiadau yn yr economi a/neu newidiadau mewn amgylchiadau. Cynghorir defnyddwyr o'r safon yma i roi ymateb argyfwng ar waith yn unol â gofynion deddfwriaethol a chreu polisi gweithio ar eich pen eich hun er mwyn eich diogelwch personol a'ch lles eich un a'r unigolyn.
* *Gellwch wneud hyn os ydych:
- Yn gweithio ar eich liwt eich hun ar hyn o bryd neu
- Â chynlluniau i weithio ar eich liwt eich hun yn y dyfodol
Mae ymgymryd â gwaith llawrydd yn golygu:
- marchnata eich hun fel gweithiwr llawrydd
- trafod cytundebau llawrydd
- gwneud gwaith llawrydd er mwyn cwrdd â chytundebau
- rheoli eich arian a gweinyddiaeth eich gwaith
- defnyddio gwasanaethau asiant
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. cadw at eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch yn unol â gofynion deddfwriaethol, i gynnwys:
1.1 gwneud asesiad(au) risg er mwyn creu polisi gweithio ar eich pen eich hun
- nodi a defnyddio strategaethau ac offer priodol er mwyn gwella eich enw da yn broffesiynol a hyrwyddo eich hun i gwsmeriaid posibl
3. creu 'brand' personol
4. creu cysylltiadau gyda chwsmeriaid posibl, eu dilyn i fyny a chynnal y cysylltiadau hynny
- creu rhwydweithiau priodol i'ch cefnogi chi a'ch gwaith, eu dilyn i fyny a chynnal y rhwydweithiau hynny, i gynnwys:
5.1 llwyfannau rhwydweithio digidol
6. asesu gwerth eich gwasanaethau ac amcangyfrif taliadau gan ystyried:
6.1 cystadleuaeth
6.2 marchnad
6.3 economi
7. trafod a chytuno ar daliadau, amserlenni, canlyniadau a meini prawf cwblhau sy'n cwrdd â'ch gofynion chi eich hun a'ch cwsmeriaid
8. gweithio allan amselenni gwaith realistig gan adael amser ar gyfer pethau annisgwyl a mân newidiadau
9. cynllunio, trefnu a chadw at eich amserlenni gwaith er mwyn hybu cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd, i gynnwys:
9.1 darparu gwasanaethau sy'n cwrdd â gofynion deddfwriaethol a chanllawiau rheoleiddiol
9.2 addasu ffyrdd o weithio er mwyn cwrdd ag amodau gwaith amgylcheddol yn unol â gofynion deddfwriaethol
9.3 cadw cwsmeriaid yn fodlon
9.4 rhoi strategaethau rheoli amser ar waith
9.5 gweithio allan amcanion o ran incwm a'u cyflawni
10 paratoi a diweddaru eich cofnodion ariannol er mwyn archwiliad ac atebolrwydd, i gynnwys:
10.1 gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol
cadw safonau proffesiynol o ymddygiad a gweithio o fewn eich 11. arbenigedd yn unol ag amcanion y gwasanaeth ac amodau amgylcheddol
- defnyddio'r amrywiaeth o lwyfannau cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo eich 'brand'
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cyngor a gwybodaeth
- lle i ddod o hyd i ffynonellau perthnasol o gyngor a gwybodaeth am:
1.1 ofynion cyfreithiol a hawliau ynglŷn â hunan gyflogaeth a chyflogaeth
1.2 yr yswiriant sy'n berthnasol i'ch busnes
1.3 reoliadau Treth ar Werth
1.4 ddeddfwriaeth busnes
1.5'reoliadau trwyddedu awdurdod lleol ar eich cyfer eich hun ac amgylcheddau gwaith
Marchnata a rhwydweithio
2. y strategaethau a'r offer a ddefnyddir i hyrwyddo eich gwasanaethau a'ch busnes a'u heffeithiau
3. sut i nodi a dewis strategethau ac offer addas i gyflawni eich amcanion busnes
4. pwysigrwydd cadw eich enw da a sut mae hynny yn effeithio ar lwyddiant y busnes
5. pwysigwrydd ymwneud â, a chofnodi datblygiad proffesiynol parhaus i gynnwys, polisïau gwybodaeth, gweithdrefnau a chyfarwyddyd am yr arfer orau ddiweddaraf, i gynnwys:
5.1 sut mae hyn yn effeithio ar enw da a llwyddiant eich busnes
6. sut all rhwydweithio'n effeithiol gynyddu eich cysylltiadau cwsmeriaid a hyrwyddo cyfleoedd gwaith
Cynllunio
7. pwysigrwydd cadw cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd
8. y rhesymau dros ddarogan a chynllunio amcanion incwm busnes, i gynnwys:
8.1 faint o amser mae'n ei gymryd i gwblhau'r gwaith
8.2 yr adnoddau sydd eu hangen
9. sut i roi strategaethau rheoli amser ar waith a sut fydd hyn yn fuddiol i'ch lles a'ch busnes
10. yr amodau gwaith amgylcheddol cyffredin a sut i addasu eich ffyrdd o weithio yn unol â gofynion deddfwriaethol
11. pwysigrwydd cadw eich cwsmeriaid yn fodlon a sut mae hyn yn effeithio ar lwyddiant eich busnes
12. sut i gynllunio ar gyfer digwyddiadau annisgwyl, amserlennu a chynllunio i gynnal busnes hyfyw a sefydlog
15. sut i ddarogan a gweithio allan amcanion incwm busnes, i gynnwys:
15.1 costau datblygu busnes
15.2 hyrwyddo busnes
15.3 adnoddau
15.4 treuliau
*Trafod cytundebau
17. sut i gyfathrebu, cytuno ar a llunio gofynion cytundebau, i gynnwys:
17.1 canlyniadau disgwyliedig
17.2 dyddiad cwblhau disgwyliedig
17.3 taliadau a thelerau talu sydd wedi eu cytuno18. perthnasedd a dealltwriaeth o ddefnyddio asiant i ddod o hyd i waith a hyrwyddo eich 'brand'
*Gweithio gyda'r cwsmer19. sut i gynnal safonau proffesiynol o ymddygiad, i gynnwys:
19.1 eich safonau ansawdd eich hun a'r gwaith
19.2 rheolaeth amser effeithiol
19.3 cynaliadwyedd
19.4 perthynas â chwsmeriaid
21. pwysigrwydd cylawni gwasanaethau yn unol â rhwymedigaethau cytundebol, i gynnwys:
21.1 darparu amcangyfrif pellach o daliadau os bydd problem nad oes modd ei rhaglweld
Cwmpas/ystod
Strategaethau ac offer
- llwyfannau cyfryngau cymdeithasol (instagram, linkedin, facebook, trydar)
- blogiau a gwefannau
- hysbysebu ar y cyfryngau (teledu, radio, newyddion, podlediadau)
- llenyddiaeth (cardiau busnes, rhestrau prisiau, posteri)
- curriculum vitae
- bywgraffiad