Plethu, cordeddu ac edafu gwallt wedi’i lapio

URN: SKAHDBR9
Sectorau Busnes (Suites): Trin gwallt a barbro
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 2021

Trosolwg

​Mae'r safon yma yn cydfodoli â, SKAHDBRBNST1 Gweithredu a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol a SKAHDBRBNS1 Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau Gwallt, Barbro, Harddwch, Ewinedd, Lles a Holistig. Mae'r safon yma'n ymwneud â rhywun proffesiynol o faes trin gwallt sy'n darparu gwasanaethau plethu, cordeddu ac edafu gwallt wedi'i lapio. Bydd gofyn i chi hefyd wneud gwerthusiad ar ôl y driniaeth ac adfyfyrio er mwyn gwelliant parhaus. Bydd rhaid i ddefnyddwyr y safon yma wneud yn siwr bod eu harferion yn adlewyrchu'r wybodaeth, y polisïau, y gweithdrefnau a'r cyfarwyddyd am yr arfer orau. Cynghorir defnyddwyr y safon yma i fod yn ymwybodol o, a chydymffurfio gyda gofynion cymorth cyntaf yn unol â deddfwriaeth a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol.

Y prif ddeilliannau yw:

  1. Cyflawni amrywiaeth o blethi 2 a 3 edefyn
  2. Cyflawni amrywiaeth o dorchau 2 a 3 edefyn
  3. Cyflawni gwasanaeth edafu gwallt wedi'i lapio

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​1. cynnal ymgynghoriad cryno a chynhwysfawr gyda'r unigolyn

2. cadw at eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth, rheoliadau, cyfarwyddebau a chanllawiau 

3. trafod a darganfod amcanion yr unigolyn a’r canlyniadau a ddymunir, er mwyn cael y wybodaeth ar gyfer y cynllun gwasanaeth plethu, cordeddu ac edafu gwallt wedi’i lapio, i gynnwys:

3.1 hanes triniaethau
3.2 dewisiadau amgen ar gyfer triniaeth
4. gwneud dadansoddiad o’r gwallt a chroen y pen, i gynnwys:
4.1 dosbarthiad cyrls y gwallt
4.2 cyflwr y gwallt
4.3 stad y gwallt
4.4 cyflwr croen y pen
5. gwneud profion er mwyn penderfynu addasrwydd ar gyfer gwasanaeth, i gynnwys: 
5.1 cofnodi a chadw’r canlyniad yn unol â deddfwriaeth data 
6. trafod y math o dechnegau plethu, cordeddu ac edafu gwallt wedi’i lapio i’w defnyddio yn unol â’r cynllun gwasanaeth 
7. cadarnhau a chytuno gyda’r unigolyn, ei fod wedi deall y gwasanaeth arfaethedig i blethu, cordeddu neu edafu gwallt wedi’i lapio, i gynnwys:
7.1 gwrth weithredoedd
7.2 adweithiau niweidiol
8. sicrhau cydsyniad gwybodus yr unigolyn ar gyfer y gwasanaeth plethu, cordeddu neu edafu gwallt wedi’i lapio 
9. paratoi’r unigolyn a siampwio’r gwallt yn unol â’r protocol plethu, cordeddu neu edafu gwallt wedi’i lapio
10. cribo a chwythsychu’r gwallt yng nghyfeiriad tŵf y gwallt yn unol â’r protocol plethu, cordeddu neu edafu gwallt wedi’i lapio 
11. rhannu’r gwallt yn unol â’r protocol plethu, cordeddu neu edafu gwallt wedi’i lapio 
12. diogelu unrhyw wallt nad yw’n cael ei steilio er mwyn cadw pob rhan yn glir ac yn weladwy 
Plethu
13. rhannu’r rhan o’r gwallt yn gyfartal i’r nifer o edau sydd eu hangen i greu’r blethen 
14. plethu’r gwallt mewn modd trefnus, gan sicrhau bod pob tyndra’n cael ei gadw i gynnwys:
 14.1 defnyddio technegau i osgoi difrod i’r gwallt a chroen y pen 
Coreddu
15. rhannu’r rhan o’r gwallt yn gyfartal i’r nifer o edau sydd eu hangen i greu’r dorch 
16. dodi digonedd o gynnyrch cyn triniaeth ar y gwallt 
17. cordeddu’r gwallt gan ddefnyddio crib neu’r bysedd, gan sicrhau bod tyndra’n cael ei gadw, i gynnwys:
 17.1 defnyddio technegau i osgoi difrod i’r gwallt a chroen y pen 
18. sychu’r torchau yn unol â’r protocol plethu, cordeddu neu edafu gwallt wedi’i lapio
19. dodi cynnyrch wedi triniaeth ar y torchau er mwyn iddynt sgleinio 
20. cordeddu’r torchau allan er mwyn osgoi difrod i’r gwallt a chroen y pen 
Edafu gwallt wedi’i lapio
21. dewis edau i lapio rhannau o’r gwallt
22. rhannu’r gwallt er cael y golwg a ddymunir
23. lapio edau o amgylch rhannau detholedig o’r gwallt, i gynnwys:
24. sicrhau bod y rhannau sydd wedi eu lapio yn llyfn, yn gadarn, yn silindraidd ac yn gorchuddio’r gwallt yn gyfan gwbl gyda thyndra gwastas drwy ei gydol 
25. cwblhau’r gwasanaeth yn unol â’r protocol plethu, cordeddu neu edafu gwallt wedi’i lapio, i gynnwys:
25.1 dodi *cynnyrch steilio a darfod *
26. cadarnhau gyda’r unigolyn ei fod yn fodlon gyda’r canlyniad terfynol 
27. monitro iechyd a lles yr unigolyn drwy gydol y gwasanaeth plethu, cordeddu ac edafu gwallt wedi’i lapio neu i gael gwared ohonynt
28. gweithredu yn y modd cywir os bydd adwaith niweidiol
29. cwblhau cofnodion gwasanaeth yr unigolyn a’u cadw yn unol â deddfwriaeth data
30. defnyddio ymarfer adfyfyriol i werthuso’r gwasanaeth a chymryd camau priodol 
31. rhoi cyfarwyddiadau a chyngor i’r unigolyn, cyn ac ar ôl y gwasanaeth 
32. cofnodi canlyniad y gwasanaeth plethu, cordeddu ac edafu gwallt wedi’i lapio neu i gael gwared ohonynt yr atodi gwallt dros dro neu gael gwared ohono a‘r gwerthusiad ohono


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​1. eich swyddogaeth a’ch cyfrifoldebau o ran darparu gwasanaethau plethu, cordeddu ac edafu gwallt wedi’i lapio a phwysigrwydd gweithio o fewn eich gallu

2. pam ei bod yn rhaid i chi gydymffurfio gydag arfer moesegol a gweithio o fewn gofynion deddfwriaethol, i gynnwys:
2.1 y cyfrifoldebau drosoch chi eich hunain a’ch adeiladau o dan reoliadau trwyddedu yr awdurdod lleol
3. pwysigrwydd ymwneud â, a dogfennu datblygiad proffesiynol parhaus, i gynnwys, polisïau gwybodaeth wedi eu diweddaru, gweithdrefnau a chanllawiau ar gyfer arfer gorau
4. yr anatomeg a’r ffisioleg sy’n berthnasol i’r safon yma 
5. y gwrtharwyddion cymharol a llwyr sy’n berthnasol i’r gwasanaeth gwallt, i gynnwys:
5.1 y gofynion deddfwriaethol ac yswiriant ar gyfer cael diagnosis meddygol a chyfeirio
6. pwysigrwydd adnabod nodweddion afreolaidd ar y croen a niwed i groen y pen, a’u cyfeirio at weithiwr proffesiynol perthnasol ym maes gofal iechyd 
7. y mathau o dechnegau plethu, cordeddu ac edafu gwallt wedi’i lapio a’u cyfyngiadau, i gynnwys addasiadau sydd eu hangen, mewn perthynas â’r canlynol:
7.1 dosbarthiad cyrls y gwallt
7.2 cyflwr y gwallt
7.3 stad y gwallt
7.4 cyflwr croen y pen
7.5 hanes triniaethau/cemegion sydd wedi cronni
8. pwysigrwydd gwneud dadansoddiad o’r gwallt a chroen y pen a sut mae hyn yn effeithio ar y dewis o wasanaethau a thechnegau plethu cordeddu ac edafu gwallt wedi’i lapio i’w defnyddio, i gynnwys:
8.1 addasiadau sydd eu hangen
9. pwysigrwydd gwneud profion a sut gall canlyniadau profion effeithio ar y gwasanaeth plethu cordeddu ac edafu gwallt wedi’i lapio 
10. sut i adnabod gwallt sydd wedi ei or-brosesu, y risgiau cysylltiedig a’r camau i’w cymryd
11. sut i adnabod trichorrhexis nodosa, y risgiau cysylltiedig a’r camau i’w cymryd
12. sut i gyflawni ac addasu technegau plethu cordeddu ac edafu gwallt wedi’i lapio ar gyfer pob dosbarth o gyrls y gwallt
13. sut gall tyndra gormodol yn ystod plethu, cordeddu ac edafu gwallt wedi’i lapio ddifrodi’r gwallt a chroen y pen
14. sut i adnadod yr arwyddion cyntaf o alopecia hydyniad
15. y mathau o alopecia a’u hachosion
16. pam ei bod yn bwysig dewis a dodi cynnyrch cyn gwasanaeth cordeddu yn unol â dosbarthiad cyrls y gwallt 
17. effeithiau cordeddu ar wallt gwlyb a sych
18. sut i gyflawni technegau plethu cordeddu ac edafu gwallt wedi’i lapio sy’n cadw’r difrod i’r gwallt mor isel â phosibl, i gynnwys:
18.1 amser y gwasanaeth yn unol â’ch polisïau a’ch gweithdrefnau cyfundrefnol
19. y mathau o gynnyrch steilio a darfod sydd ar gael ar gyfer gwasanaethau plethu cordeddu ac edafu gwallt wedi’i lapio
20. sut i gadw’r steil a gytunwyd a sicrhau ei fod yn parhau yn hir 
21. pwysigrwydd ymgynghori gyda’r unigolyn drwy gydol y broses o blethu cordeddu ac edafu gwallt wedi’i lapio
22. yr adweithiau niweidiol a gysylltir â’r gwasanaethau plethu cordeddu ac edafu gwallt wedi’i lapio a sut i ymateb iddynt
23. y cyfrifoldebau iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth cyn, yn ystod ac ar ôl y gwasanaeth
24. y gofynion cyfreithiol ar gyfer darparu gwasanaethau i’r gwallt i blant dan oed ac oedolion bregus
25. pam ei bod hi'n bwysig trafod a sefydlu amcanion yr unigolyn, ei bryderon, disgwyliadau, y canlyniadau y mae'n eu dymuno a chytuno ar y cynllun gwasanaeth plethu cordeddu ac edafu gwallt wedi’i lapio 
26. y strwythurau taliadau a’r dewisiadau ar gyfer gwasanaeth
27. y gofynion deddfwriaethol a digollediad er mwyn sicrhau cydsyniad gwybodus wedi'i lofnodi ar gyfer y gwasanaeth
28. y rhesymau dros gymryd delweddau gweledol gyda chydsyniad o fan triniaeth yr unigolyn, a'u cadw yn unol â gofynion y gwasanaeth, deddfwriaethol, yswiriant a chyfundrefnol 
29. y gofynion deddfwriaethol a digollediad er mwyn sicrhau cydsyniad gwybodus wedi'i lofnodi ar gyfer y gwasanaeth
30. sut i ddatod plethi, torchau ac edau wedi eu lapio yn unol â’r protocol plethu, cordeddu neu edafu gwallt wedi’i lapio 
31. pwysigrwydd cadw’r difrod i wallt yr unigolyn yn ystod y broses ddatod cyn lleied â phosibl 
32. pwysigrwydd cadw at y protocol gwasanaeth plethu, cordeddu neu edafu gwallt wedi’i lapio
33. pwysigrwydd monitro iechyd a lles yr unigolyn yn ystod ac ar ôl y gwasanaeth
34. canlyniadau disgwyliedig gwasanaethau plethu, cordeddu ac edafu gwallt wedi’i lapio
35. diben ymarfer adfyfyriol a gwerthuso a’r modd y mae’n darparu gwybodaeth ar gyfer gwasanaethau yn y dyfodol
36. y cyfarwyddiadau a’r cyngor, cyn ac ar ôl y gwasanaethau plethu, cordeddu ac edafu gwallt wedi’i lapio 


Cwmpas/ystod

Dosbarthiad cyrls y gwallt

1. syth
2. tonnog
3. cyrliog
4. cyrls tynn
5. cyfuniad

Nodweddion y gwallt
*
1. dwysedd y gwallt
2. gwëad y gwallt
3. hydwythedd y gwallt
4. mandylledd y gwallt
5. patrymau tŵf y gwallt

Stad y gwallt

1. gwallt sydd heb ei drin yn gemegol
2. gwallt sydd wedi ei drin yn rhannol â chemegion
3. gwallt sydd wedi ei drin yn gemegol

Profion

1. hydwythedd

Technegau plethu, cordeddu ac edafu gwallt wedi’i lapio 

1. plethi 2 a 3 edefyn
2. 1 and 2 strand twists torchau 1 a 2 edefyn
3. lapio ag edau

Protocol plethu, cordeddu neu edafu gwallt wedi’i lapio

1. amgylchedd waith
2. iechyd a diogelwch
3. atal a rheoli haint
4. cynllun gwasanaeth
5. cydsyniad gwybodus
6. canlyniadau profion
7. rheoli data 
8. archwilio ac atebolrwydd
9. cyfarwyddiadau a chyngor
10. rheoli gwastraff
11. ymarfer wedi’i seilio ar dystiolaeth
12. ymarfer adfyfyriol

Cynnyrch steilio a gorffen
1. gwarchodwyr gwres
2. mousse
3. hufenau
4. sera
5. gel
6. chwistrell gwallt
7. olew
8. pomadau
9. chwistrell gwella gwëad
10. golchdrwythau gosod
11. cwyr

Cyfarwyddiadau

1. hawliau cyfreithiol a chyfrifoldebau yr unigolyn a’r ymarferydd
2. cyfarwyddiadau a gofal cyn ac ar ôl y gwasanaeth
3. cyfyngiadau a risgiau cysylltiedig
4. triniaethau yn y dyfodol

Anatomeg a ffisioleg

*
1. strwythur a swyddogaeth y gwallt
2. strwythur a swyddogaeth y croen
3. gwrtharwyddion cymharol a llwyr a phatholegau cysylltiedig


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Gwrtharwydd llwyr

Mae gwrtharwydd llwyr yn gyflwr sy'n rhwystro'r gwasanaeth rhag cael ei gyflawni ac a all fod angen cael ei gyfeirio

Adwaith niweidiol **

Adwaith niweidiol yw adwaith 'annisgwyl' neu ganlyniad yn dilyn gwasanaeth e.e. llewygu 

Gwrth weithred

Gwrthweithred yw adwaith neu ganlyniad 'disgwyliedig' yn dilyn gwasanaeth,

e.e. erythema

Ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth

Mae ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth yn seiliedig ar y dystiolaeth

orau gyfredol, ddilys a pherthnasol sydd ar gael.

Cymorth Cyntaf

Gall cymorth cyntaf gyfeirio at gymwysterau cymorth cyntaf yn y gwaith neu ei gyffelyb neu ymwybyddiaeth o gymorth cyntaf iechyd meddyliol.

Dosbarthiad cyrls y gwallt

Gellir cyfeirio at ddosbarthiad cyrls y gwallt fel Math 1 – 4

Protocol

Protocol yw gweithdrefn safonol er mwyn sicrhau arfer gorau a

chydymffurfiad pan yn darparu gwasanaethau h.y. dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr.

*Gwrtharwydd cymharol

Gwrtharwydd cymharol yw cyflwr sy'n gofyn am asesiad o addasrwydd ar gyfer y gwasanaeth a/neu os oes angen addasiadau.

Edefyn

Mae edau 1, 2, 3 neu 4 yn cyfeirio at y nifer a rannau y rhannwyd y gwallt er mwyn creu plethen neu dorchell i steil.

Lapio edau

Gellir cyfeirio at lapio edau fel rhwymo.


Dolenni I NOS Eraill

​SKAHDBRBNST1, SKAHDBRBNS1, SKAHDBR1, SKAHD1, SKAHD2 SKAHDBR2, SKAHDBR3, SKAHDBR4, SKAHDBR5,SKAHDBR6, SKAHDBR7, SKAHDBR8, SKAHDBR10, SKAHDBR11, SKAHDBR12, SKAHDBR13, SKAHDBR14, SKAHDBR15, SKAHDB16, SKAHDB19, SKAHDB20, SKAHDB21, SKABR5





Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAGH13, SKAAH6 and SKAAH7

Galwedigaethau Perthnasol

Trinwyr gwallt a Galwedigaethau Cysylltiedig

Cod SOC

6221

Geiriau Allweddol

plethen, torch, edau wedi’i lapio, rhwymo