Trin, cynnal a thrwsio cudynnau

URN: SKAHDBR8
Sectorau Busnes (Cyfresi): Trin gwallt a barbro
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 2021

Trosolwg

​Mae'r safon yma yn cydfodoli â, SKAHDBRBNST1 Gweithredu a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol a SKAHDBRBNS1 Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau Gwallt, Barbro, Harddwch, Ewinedd, Lles a Holistig. Mae'r safon yma'n ymwneud â rhywun proffesiynol o faes trin gwallt sy'n meithrin, cynnal a thrwsio gwallt cudynnol gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau. Bydd gofyn i chi hefyd wneud gwerthusiad ar ôl y driniaeth ac adfyfyrio er mwyn gwelliant parhaus. Bydd rhaid i ddefnyddwyr y safon yma wneud yn siwr bod eu harferion yn adlewyrchu'r wybodaeth, y polisïau, y gweithdrefnau a'r cyfarwyddyd am yr arfer orau. Cynghorir defnyddwyr y safon yma i fod yn ymwybodol o, a chydymffurfio gyda gofynion cymorth cyntaf yn unol â deddfwriaeth a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol.

Y prif ddeilliannau yw:

  1. Meithrin cudynnau
  2. Cynnal cudynnau
  3. Trwsio cudynnau

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


1. cynnal ymgynghoriad cryno a chynhwysfawr gyda'r unigolyn
2. cadw at eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth, rheoliadau, cyfarwyddebau a chanllawiau
3. trafod a darganfod amcanion yr unigolyn a’r canlyniadau a ddymunir, er mwyn cael y wybodaeth ar gyfer y cynllun gwasanaeth cudynnu, i gynnwys:
3.1 hanes triniaethau
3.2 dewisiadau triniaeth amgen
4. gwneud dadansoddiad o’r gwallt a chroen y pen, i gynnwys: 
4.1 dosbarthiad cyrls y gwallt
4.2 nodweddion y gwallt
4.3 stad y gwallt
4.4 cyflwr croen y pen
5. gwneud profion er mwyn penderfynu addasrwydd ar gyfer y gwasanaeth, i gynnwys: 
5.1 cofnodi a chadw’r canlyniad yn unol â deddfwriaeth data 
6. trafod y mathau o dechnegau cudynnu i’w defnyddio yn unol â’r cynllun gwasanaeth 
7. cadarnhau a chytuno gyda’r unigolyn, ei fod wedi deall y gwasanaeth cudynnu arfaethedig, i gynnwys:
7.1 gwrth weithredoedd 
7.2 adweithiau niweidiol
8. sicrhau cydsyniad gwybodus yr unigolyn ar gyfer y gwasanaeth cudynnu 
9. paratoi’r unigolyn a siampwio’r gwallt a chroen y pen yn unol â’r protocol gwasanaeth cudynnu *
10. cribo a chwythsychu’r gwallt yng nghyfeiriad tŵf y gwallt yn unol â’r protocol gwasanaeth 

Meithrin Cudynnau
11. rhannu’r gwallt gan ddefnyddio *technegau rhannu yn unol â’r protocol gwasanaeth cudynnu 
12. sicrhau unrhyw wallt nad yw’n cael ei steilio i gadw pob adran yn weladwy a chlir
13. cadw tyndra addas a gwastad drwy gydol y broses gudynnu
14. ad-dyfiant cudynnau mewn ffordd sy’n sicrhau parhad sy’n cydweddu o’r cudynnau sy’n bodoli, i gynnwys:
14.1 defnyddio technegau cudynnu er mwyn osgoi colli gwallt a difrod i’r gwallt a chroen y pen 
 15. sicrhau bod yr edrychiad gorffenedig yn silindraidd ac o faint cyson a thyndra gwastad drwy ei holl hyd 
16. sicrhau bod yr edrychiad gorffenedig yn cwrdd â’r siap, y cyfeiriad, y cydbwysedd a’r maint a gytunwyd gyda’ch unigolyn 

Cadw edrychiadau
17. asesu cyflwr y cudynnau a gweithredu’n briodol yn unol â’r protocol gwasanaeth cudynnu 
18. sicrhau bod eich technegau cudynnu yn gadael y tyfiant newydd a’r edrychiad sy’n bodoli ar hyn o bryd yn ymdoddi’n wastad i mewn i’w gilydd
19. sychu cudynnau sydd wedi eu haildorchio
20. aildorchio’r cudynnau ar gyfer y siap, cyfeiriad, cydbwysedd a maint yn unol â’r protocol gwasanaeth cudynnu

Trwsio cudynnau
21. dewis technegau cudynnu a thrwsio yn unol â’r protocol gwasanaeth cudynnu, i gynnwys:
21.1 dewis a pharatoi gwallt ychwanegol yn unol â dosbarthiad cyrls y gwallt, ei ddwysedd a’i liw
22. dodi gwallt ychwanegol er mwyn adfer y cudyn i’w faint blaenorol, i gynnwys:
22.2 cymysgu, sicrhau a chuddwisgo cysylltiadau
23. cwblhau’r gwasanaeth yn unol â’r protocol gwasanaeth cudynnu, i gynnwys:
23.1 *dodi *cynnyrch steilio a gorffen *
23. cadarnhau gyda’r unigolyn ei fod yn fodlon gyda’r canlyniad terfynol 
24. monitro iechyd a lles yr unigolyn drwy gydol y gwasanaeth cudynnu 
25. gweithredu yn y modd cywir os bydd adwaith niweidiol
26. cwblhau cofnodion gwasanaeth yr unigolyn a’u cadw yn unol â deddfwriaeth data
27. defnyddio ymarfer adfyfyriol i werthuso’r gwasanaeth a chymryd camau priodol
28. rhoi *cyfarwyddiadau a chyngor i’r unigolyn, cyn ac ar ôl y gwasanaeth gwallt
29. cofnodi canlyniad y gwasanaeth cudynnu a’r gwerthusiad ohono 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


1. eich swyddogaeth a’ch cyfrifoldebau o ran darparu gwasanaethau cudynnu a phwysigrwydd gweithio o fewn eich gallu
2. pam ei bod yn rhaid i chi gydymffurfio gydag arfer moesegol a gweithio o fewn gofynion deddfwriaethol, i gynnwys:
2.1 y cyfrifoldebau drosoch chi eich hun a’ch adeiladau o dan reoliadau trwyddedu yr awdurdod lleol 
3. pwysigrwydd ymwneud â, a dogfennu datblygiad proffesiynol parhaus, i gynnwys, polisïau gwybodaeth wedi eu diweddaru, gweithdrefnau a chanllawiau ar gyfer arfer gorau 
4. yr anatomeg a’r ffisioleg sy’n berthnasol i’r safon yma 
5. y gwrtharwyddion cymharol a llwyr sy’n berthnasol i’r gwasanaeth gwallt, i gynnwys:
5.1 y gofynion deddfwriaethol ac yswiriant ar gyfer cael diagnosis meddygol a chyfeirio
6. pwysigrwydd adnabod nodweddion afreolaidd ar y croen a niwed i groen y pen, a’u cyfeirio at weithiwr proffesiynol perthnasol ym maes gofal iechyd 
7. y mathau o dechnegau ar gyfer technegau cudynnu, a’u cyfyngiadau, i gynnwys addasiadau sydd eu hangen, mewn perthynas â’r canlynol:
7.1 dosbarthiad cyrls y gwallt
7.2 cyflwr y gwallt
7.3 stad y gwallt
7.4 cyflwr croen y pen
7.5 hanes triniaethau
8. pwysigrwydd gwneud dadansoddiad o’r gwallt a chroen y pen a sut mae’n effeithio ar y dewis o wasanaeth cudynnu a’r technegau dodi a ddefnyddir, i gynnwys:
8.1 yr addasiadau sydd eu hangen
9. pwysigrwydd gwneud profion a sut y gall canlyniadau profion effeithio ar y gwasanaeth cudynnu 
10. sut i adnabod gwallt sydd wedi ei orbrosesu, y risgiau cysylltiedig a’r camau sydd angen eu cymryd
11. sut i adnabod trichorrhexis nodosa, y risgiau cysylltiedig a pha gamau i’w cymryd
12. sut i gyflawni technegau cudynnu ay gyfer pob un o ddosbarthiadau cyrls y gwallt 
13. pwysigrwydd defnyddio siampŵ paratoi ar y gwallt a chroen y pen cyn y gwasanaeth cudynnu 
 14. pam ei bod yn bwysig dechrau’r cudyn ar y maint cywir ar gyfer stad gwallt yr unigolyn, ei ddwysedd a’r maint a fwriedir ar ei gyfer 
15. sut i rannu gan ddefnyddio technegau bric a deimwnt i ddibenion cudynnu a pham defnyddir y mathau hyn o raniadau 
16. y dulliau o gymysgu a sicrhau gwallt sydd wedi’i ychwanegu ar wallt yr unigolyn at ddibenion trwsio 
17. sut i farnu faint o wallt sydd i’w ychwanegu er mwyn sicrhau steil cytbwys 
18. sut gall gwahanol ffactorau ddylanwadu ar eich dewis o dechnegau cudynnu a’r amser a gymer i’r cudyn ffurfio 
19. y dulliau o sicrhau bod y cudynnau wedi eu dodi yn agos at groen y pen tra’n cael eu meithrin a’u cynnal 
20. pam ei bod yn bwysig cyflyru’r gwallt cyn trwsio’r cudynnau 
21. sut i drin y gwallt pan yn aildorchi a thrwsio’r cudynnau er mwyn sicrhau bod y maint yn cydweddu â’r cudynnau sydd yno eisoes 
22. pwysigrwydd defnyddio’r maint, lliw a’r gwëad cywir o wallt wedi’i ychwanegu tra’n trwsio cudynnau
23. y dulliau o drwsio cudynnau
24. sut gall tyndra gormodol yn ystod cudynnu ddifrodi’r gwallt a chroen y pen
25. sut i adnadod yr arwyddion cyntaf o alopecia hydyniad 
26. y mathau o alopecia a’u hachosion
27. pam y gall cudynnau unigol fod mewn perygl a pham gall cryfder tynnol y gwallt chwalu a thorri i ffwrdd 
28. y camau o ddatblygiad yn y broses gudynnu
29. y mathau o offer stelio a chynnyrch gorffen sydd ar gael ar gyfer gwasanaethau cudynnu a sut i’w defnyddio 
30. sut i adnabod cynnyrch a ffibr wedi cronni a pham mae hyn yn digwydd, i gynnwys:
30.1 yr effaith ar iechyd croen y pen
31. y dulliau o gael gwared o gynnyrch wedi cronni a pha mor aml dylid gwneud hyn
32. sut i gadw’r steil a gytunwyd a sicrhau ei fod yn parhau yn hir 
33. pwysigrwydd ymgynghori gyda’r unigolyn drwy gydol y broses gudynnu
34. yr adweithiau niweidiol a gysylltir â’r gwasanaethau cudynnu a sut i ymateb iddynt
 35. y cyfrifoldebau iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth cyn, yn ystod ac ar ôl y gwasanaeth
36. y gofynion cyfreithiol ar gyfer darparu gwasanaethau i’r gwallt i blant dan oed ac oedolion bregus
37. pam ei bod hi'n bwysig trafod a sefydlu amcanion yr unigolyn, ei bryderon, disgwyliadau, y canlyniadau y mae'n eu dymuno a chytuno ar y cynllun gwasanaeth cudynnu
38. y gofynion deddfwriaethol a digollediad er mwyn sicrhau cydsyniad gwybodus wedi'i lofnodi ar gyfer y gwasanaeth
39. y rhesymau dros gymryd delweddau gweledol gyda chydsyniad o fan triniaeth yr unigolyn, a'u cadw yn unol â gofynion y gwasanaeth, deddfwriaethol, yswiriant a chyfundrefnol 
40. pwysigrwydd cadw at y protocol cudynnu 
41. pwysigrwydd monitro iechyd a lles yr unigolyn yn ystod ac ar ôl y gwasanaeth
42. canlyniadau disgwyliedig gwasanaethau cudynnu 
43. diben ymarfer adfyfyriol a gwerthuso a’r modd y mae’n darparu gwybodaeth ar gyfer gwasanaethau yn y dyfodol
44. y cyfarwyddiadau a’r cyngor, cyn ac ar ôl y gwasanaeth cudynnu


Cwmpas/ystod

Dosbarthiad cyrls y gwallt

1. syth
2. tonnog
3. cyrliog
4. cyrls tynn
5. cyfuniad

Nodweddion y gwallt

1. dwysedd y gwallt
2. gwëad y gwallt
3. hydwythedd y gwallt
4. mandylledd y gwallt
5. patrymau tŵf y gwallt

Stad y gwallt

1. gwallt sydd heb ei drin yn gemegol
2. gwallt sydd wedi ei drin yn rhannol â chemegion
3. gwallt sydd wedi ei drin yn gemegol

Profion

1. hydwythedd
2. prawf tynnu/hydwyth

Technegau cudynnu

1. lapio
2. rholio â chledr y llaw
3. troelli
4. cyd-gloi
5. ymgorffori gwallt ychwanegol
6. ail atodi cudynnau sydd yno’n barod
7. cywiro nodweddion afreolaidd yn nhrwch y cudyn

Protocol gwasanaeth cudynnu

1. amgylchedd waith
2. iechyd a diogelwch
3. atal a rheoli haint
4. cynllun gwasanaeth
 5. cydsyniad gwybodus
6. canlyniadau profion
7. cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
8. canlyniadau profion
9. archwilio ac atebolrwydd
10. cyfarwyddiadau a chyngor
11. cynaliadwyedd
12. rheoli gwastraf
13. ymarfer wedi’i seilio ar dystiolaeth
14. ymarfer adfyfyriol

Technegau rhannu

1. bric
2. deimwnt

Cynnyrch steilio a gorffen

1. gel
2. olewon
3. cwyrau
4. hufenau gorchudd

Cyfarwyddiadau

1. hawliau cyfreithiol a chyfrifoldebau yr unigolyn a’r ymarferydd 
2. cyfarwyddiadau a gofal cyn ac ar ôl y driniaeth
3. cyfyngiadau a risgiau cysylltiedig
4. triniaethau yn y dyfodol

Anatomeg a ffisioleg

1. strwythur a swyddogaeth systemau’r corff a’u cyd- ddibyniaeth ar ei gilydd
2. strwythur a swyddogaeth y gwallt a thŵf y gwallt
3. strwythur a swyddogaeth y croen
4. gwrtharwyddion cymharol a llwyr a phatholegau cysylltiedig

*


Mathau

1. cudynnau ffasiwn
2. cudynnau hir a chlymog
 
Offer*

1. cribau
2. bachynnau
3. clipiau



Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Gwrtharwydd llwyr

Mae gwrtharwydd llwyr yn gyflwr sy'n rhwystro'r gwasanaeth rhag cael ei gyflawni ac a all fod angen cael ei gyfeirio .

Adwaith niweidiol

Adwaith niweidiol yw adwaith 'annisgwyl' neu ganlyniad yn dilyn

gwasanaeth e.e. llewygu

Anatomeg a ffisioleg

Y ffordd mae'r systemau sgerbydol, cyhyrol, cylchredol, lymffatig, resbiradol, ysgarthol, arogleuol*,* **ymylol, treuliol, endocrinaidd a nerfol yn rhyngweithio gyda'i gilydd a sut mae nhw'n effeithio ar yr unigolyn, y gwasanaeth a'r canlyniadau

Gwrth weithred

Gwrthweithred yw adwaith neu ganlyniad 'disgwyliedig' yn dilyn gwasanaeth,

e.e. erythema

Ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth

Mae ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth yn seiliedig ar y dystiolaeth

orau gyfredol, ddilys a pherthnasol sydd ar gael.

Cymorth Cyntaf

Gall cymorth cyntaf gyfeirio at gymwysterau cymorth cyntaf yn y gwaith neu ei gyffelyb neu ymwybyddiaeth o gymorth cyntaf iechyd meddyliol.

Dosbarthiad cyrls y gwallt

Gellir cyfeirio at ddosbarthiad cyrls y gwallt fel Math 1 – 4

Protocol

Protocol yw gweithdrefn safonol er mwyn sicrhau arfer gorau a

chydymffurfiad pan yn darparu gwasanaethau h.y. dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr.

Gwrtharwydd cymharol

Gwrtharwydd cymharol yw cyflwr sy'n gofyn am asesiad o addasrwydd ar gyfer y gwasanaeth a/neu os oes angen addasiadau.


Dolenni I NOS Eraill

​SKAHDBRBNST1, SKAHDBRBNS1, SKAHDBR1, SKAHD1, SKAHD2 SKAHDBR2, SKAHDBR3, SKAHDBR4, SKAHDBR5, SKAHDBR6, SKAHDBR7, SKAHDBR9, SKAHDBR10, SKAHDBR11, SKAHDBR12, SKAHDBR13, SKAHDBR14, SKAHDBR15, SKAHDB16, SKAHDB19, SKAHDB20, SKAHDB21, SKABR5





Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAAH10

Galwedigaethau Perthnasol

Trinwyr gwallt a Galwedigaethau Cysylltiedig

Cod SOC

6221

Geiriau Allweddol

meithrin, cynnal a thrwsio cudynnau, gwallt cudynnog, gwallt affro naturiol