Darparu gwasanaethau i gywiro lliw’r gwallt

URN: SKAHDBR7
Sectorau Busnes (Suites): Trin gwallt a barbro
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​Mae'r safon yma yn cydfodoli â, SKAHDBRBNST1 Gweithredu a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol a SKAHDBRBNS1 Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau Gwallt, Barbro, Harddwch, Ewinedd, Lles a Holistig*.* Mae'r safon yma'n ymwneud â rhywun proffesiynol o faes trin gwallt sy'n darparu gwasanaethau i gywiro lliw'r gwallt. Bydd technegau'n cynnwys, cael gwared o liw artiffisial, cael gwared o fandiau o liw, ail-liwio'r gwallt a gwasanaethau llliwio i gywiro blaenoleuadau ac isoleuadau. Bydd gofyn i chi hefyd wneud gwerthusiad ar ôl y driniaeth ac adfyfyrio er mwyn gwelliant parhaus. Bydd rhaid i ddefnyddwyr y safon yma wneud yn siwr bod eu harferion yn adlewyrchu'r wybodaeth, y polisïau, y gweithdrefnau a'r cyfarwyddyd am yr arfer orau. Cynghorir defnyddwyr y safon yma i fod yn ymwybodol o, a chydymffurfio gyda gofynion cymorth cyntaf yn unol â deddfwriaeth a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol.

Y prif ddeilliannau yw:

  1. Cael gwared o liw artiffisial
  2. Cael gwared o fandiau o liw
  3. Ail-liwio'r gwallt
  4. Cywiro blaenoleuadau ac isoleuadau

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


1. cynnal ymgynghoriad cryno a chynhwysfawr gyda'r unigolyn
2. cadw at eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth, rheoliadau, cyfarwyddebau a chanllawiau
3. trafod a darganfod amcanion yr unigolyn a’r canlyniadau a ddymunir, er mwyn cael y wybodaeth ar gyfer y cynllun gwasanaeth i gywiro lliw’r gwallt, i gynnwys: 
3.1 hanes triniaethau fydd yn effeithio ar y gwasanaeth i gywiro lliw’r gwallt 
3.2 natur a maint y broblem liw neu oleuad
3.3 dewis amgen ar gyfer triniaeth
4. gwneud dadansoddiad o’r gwallt a chroen y pen, i gynnwys:
4.1 dosbarthiad cyrls y gwallt
4.2 nodweddion y gwallt *
4.3 *stad y gwallt
4.4 cyflwr croen y pen
4.5 canran o wallt gwyn
4.6 hyd yr ad-dyfiant ar wallt sydd wedi ei drin yn rhannol â chemegion 
5. gwneud profion er mwyn penderfynu addasrwydd ar gyfer y gwasanaeth lliwio a/neu goleuo uwch
5.1 cofnodi a chadw’r canlyniad yn unol â deddfwriaeth data 
6. gwerthuso canlyniadau’r ymgynghoriad, amcanion yr unigolyn a’r dadansoddiad o groen y pen ar y cyd, er mwyn penderfynu ar y dewisiadau ar gyfer gwasanaeth a’r cynnyrch i ddatrys y broblem liw neu oleuad 
7. trafod gyda’r unigolyn yr effeithiau y gellir eu cyflawni gan ddefnyddio cymhorthion gweledol perthnasol i ddarparu gwybodaeth er mwyn dewis y cynnyrch sydd i’w defnyddio, i gynnwys:
7.1 taliadau, parhad a chynnal a chadw
8. cadarnhau a chytuno gyda’r unigolyn, ei fod wedi deall y gwasanaeth arfaethedig i gywiro lliw’r gwallt, i gynnwys:
8.1 gwrth weithredoedd
8.2 adweithiau niweidiol
9. sicrhau cydsyniad gwybodus yr unigolyn ar gyfer y gwasanaeth i gywiro lliw’r gwallt 
10. cribo a rhannu’r gwallt a gwarchod y croen o amgylch yn unol â’r protocol gwasanaeth i gywiro lliw’r gwallt *
11. dewis a pharatoi’r cynnyrch, offer a chyfarpar yn unol â’r protocol gwasanaeth i gywiro lliw’r gwallt 
 12. dodi’r cynnyrch a defnyddio *technegau i gywiro’r lliw yn unol â’r protocol gwasanaeth i gywiro lliw’r gwallt 
13. gosod a monitro’r amser prosesu yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
14. gwneud prawf datblygiad er mwyn cadarnhau’r amseroedd prosesu i gynnwys asesiad o’r canlynol:
14.1 cyflwr y gwallt
14.2 cyflwr y goleuwr
14.3 sensitifrwydd croen y pen
15. tynnu’r cynnyrch o’r gwallt a chroen y pen yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
16. cwblhau’r gwasanaeth yn unol â’r gwasanaeth i gywiro lliw’r gwallt
17. cadarnhau gyda’r unigolyn ei fod yn fodlon gyda’r canlyniad terfynol 
18. monitro iechyd a lles yr unigolyn drwy gydol y gwasanaeth i gywiro lliw’r gwallt
19. gweithredu yn y modd cywir os bydd adwaith niweidiol
20. cwblhau cofnodion gwasanaeth yr unigolyn a’u cadw yn unol â deddfwriaeth data
21. defnyddio ymarfer adfyfyriol i werthuso’r gwasanaeth a chymryd camau priodol 
22. rhoi cyfarwyddiadau a chyngor i’r unigolyn, cyn ac ar ôl y gwasanaeth gwallt
23. cofnodi canlyniad y gwasanaeth i gywiro lliw’r gwallt a’r gwerthusiad ohono


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


1. eich swyddogaeth a’ch cyfrifoldebau o ran darparu gwasanaethau lliwio a/neu goleuo a phwysigrwydd gweithio o fewn eich gallu
2. pam ei bod yn rhaid i chi gydymffurfio gydag arfer moesegol a gweithio o fewn gofynion deddfwriaethol, i gynnwys:
2.1 y cyfrifoldebau drosoch chi eich hun a’ch adeiladau o dan reoliadau trwyddedu yr awdurdod lleol
3. pwysigrwydd ymwneud â, a dogfennu datblygiad proffesiynol parhaus, i gynnwys, polisïau gwybodaeth wedi eu diweddaru, gweithdrefnau a chanllawiau ar gyfer arfer gorau
4. yr anatomeg a’r ffisioleg sy’n berthnasol i’r safon yma 
5. y gwrtharwyddion cymharol a llwyr sy’n berthnasol i’r gwasanaeth gwallt, i gynnwys: 
5.1 y gofynion deddfwriaethol ac yswiriant ar gyfer cael diagnosis meddygol a chyfeirio
6. pwysigrwydd adnabod nodweddion afreolaidd ar y croen a niwed i groen y pen, a’u cyfeirio at weithiwr proffesiynol perthnasol ym maes gofal iechyd
7. y mathau o gynnyrch a ddefnyddir ar gyfer gwasanaethau i gywiro lliw’r gwallt a’u cyfyngiadau, i gynnwys addasiadau sydd eu hangen, mewn perthynas â’r canlynol:
7.1 dosbarthiad cyrls y gwallt
7.2 cyflwr y gwallt
7.3 stad y gwallt
7.4 cyflwr y croen a chroen y pen
7.5 gwallt gwrthsafol
8. yr effeithiau ffisiolegol y caiff cynnrych lliwio a goleuo ar strwythur y gwallt
9. sut i adnabod gwallt sydd wedi ei or-brosesu a’r risgiau cysylltiedig a pha gamau i’w cymryd
10. pwysigrwydd cadw at gyfarwyddiadau’r gwneuthurwr er mwyn rhwystro anghydnawsedd o ran cynnyrch a risgiau i iechyd
11. y gwahaniaethau rhwng dyfnder lliw a chysgodion tonaidd i gynnwys: 
11.1 sut maent yn cysylltu â’r olwyn liw
12. sut gall hanes triniaethau ddylanwadu ar y dewis o gynnyrch a’r gwasanaethau a gynigir 
13. pwysigrwydd egluro taliadau amcangyfrifedig, parhad a’r tebygrwydd o sicrhau a lliw a ddymunir  
14. sut mae’r math o felanin a’i ddosbarthiad yn creu lliw naturiol i’r gwallt 
15. sut a pham dylid defnyddio cyn driniaethau ac ôl driniaethau pan yn cyflawni gwasanaethau i gywiro lliw’r gwallt, i gynnwys:
15.1 meddalu’r gwallt ymlaen llaw
15.2 goleuo’r gwallt ymlaen llaw
15.3 dodi cynliwiad
15.4 dodi arlliw gwrthweithiol
16. y mathau o gryfderau hydrogen perocsid a ddefnyddir mewn gwasanaethau i gywiro lliw’r gwallt, i gynnwys:
16.1 pryd a pham caiff amryw gryfderau perocsid eu defnyddio 
17. beth a olygir wrth y term ‘ocsideiddiad’ 
18. sut mae cyfryngau ocsideiddiad yn effeithio ar liwiadau naturiol ac artiffisial
19. gwerthoedd pH gwahanol gynnyrch lliwio a goleuwyr 
20. pam bod mandylledd gwael i’r gwallt yn dylanwadu ar y dewisiadau o gynnyrch a gwasanaeth 
21. yr effeithiau gaiff tymheredd ar ddodi cynnyrch lliwio a goleuo a’u datblygiad 
22. yr effaith gaiff goleuad a goleuad artiffisial ar wir liw’r gwallt 
23. pwysigrwydd gwneud dadansoddiad o’r gwallt a chroen y pen a sut mae’n effeithio ar y dewis o gynnyrch a’r cyfarpar a ddefnyddir
24. sut y gall patrymau tŵf y gwallt benderfynu safle a lleoliad aroleuadau ac isoleuadau
25. pwysigrwydd gwneud profion a sut y gall canlyniadau profion effeithio ar y gwasanaeth lliwio a goleuo
26. yr offer, deunyddiau a chyfarpar a ddefnyddir ar gyfer gwasanaethau i gywiro lliw’r gwallt ar gyfer pob dosbarthiad a mathau o gyrls y gwallt a chyflyrau
27. y mathau o gynnyrch ar gyfer cywiro lliw’r gwallt sydd ar gael a sut i’w defnyddio 
28. dulliau o ddodi a chael gwared o gynnyrch i gywiro lliw’r gwallt 
29. pwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr pan yn mesur a chymysgu cynnyrch i gywiro lliw’r gwallt 
30. y risgiau a gysylltir â lliwio a goleuo gwallt sydd wedi ei drin yn gemegol
31. pwysigrwydd amddiffyn croen a chroen pen yr unigolyn rhag cynnyrch lliwio a goleuo 
32. pwysigrwydd cadw at gyfarwyddiadau’r gwneuthurwr ar gyfer y defnydd diogel o gynnyrch lliwio a goleuo a’u hamseroedd datblygu, i gynnwys:
 32.1 pwysigrwydd egluro teimlad corfforol ar groen y pen 
33. pam y dylech chi gribo a rhannu’r gwallt cyn y cynnyrch lliwio a goleuo
34. y problemau lliw gwallt sy’n gofyn am wasanaethau i gywiro lliw’r gwallt 
35. sut i gyflawni gwasanaethau i gywiro lliw’r gwallt a defnyddio technegau i gywiro lliw er mwyn cywiro problemau sy’n gysylltiedig â lliw’r gwallt, i gynnwys:
35.1 dulliau o feddalu a dodi lliwiad yn y gwallt o flaen llaw
35.2 sut i gael gwared o liw artiffisial
35.3 sut i gael gwared o fandiau o liw
35.4 dodi cynnyrch i’r gwallt mewn modd diogel er mwyn osgoi bod yn agored i gemegolion i’r croen a chroen y pen
36. amser y gwasanaeth yn unol â’ch polisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol
37. pwysigrwydd gwneud prawf datblygiad yn ystod y gwasanaeth i’r gwallt yn unol â chyfrawyddiadau’r gwneuthurwr
38. y rhesymau pam gall fod angen i chi fynd i’r afael â phroblemau all yn aml godi pan yn lliwio a goleuo’r gwallt, i gynnwys:
38.1 ffyrdd y gellir eu cywiro
39. pwysigrwydd ymgynghori gyda’r unigolyn drwy gydol y gwasanaeth lliwio a goleuo
40. yr adweithiau niweidiol a gysylltir â gwasanaethau lliwio a goleuo a sut i ymateb iddynt
41. y cyfrifoldebau iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth cyn, yn ystod ac ar ôl y gwasanaeth
42. y gofynion cyfreithiol ar gyfer darparu gwasanaethau i’r gwallt i blant dan oed ac oedolion bregus
43. pam ei bod hi'n bwysig trafod a sefydlu amcanion yr unigolyn, ei bryderon, disgwyliadau, y canlyniadau y mae'n eu dymuno a chytuno ar y cynllun gwasanaeth lliwio a goleuo
44. y strwythurau taliadau a’r dewisiadau ar gyfer triniaeth
45. y gofynion deddfwriaethol a digollediad er mwyn sicrhau cydsyniad gwybodus wedi'i lofnodi ar gyfer y gwasanaeth
46. y rhesymau dros gymryd delweddau gweledol gyda chydsyniad o fan triniaeth yr unigolyn, a'u cadw yn unol â gofynion y gwasanaeth, deddfwriaethol, yswiriant a chyfundrefnol
47. pwysigrwydd cadw at y protocol gwasanaeth i gywiro lliw’r gwallt
48. pwysigrwydd monitro iechyd a lles yr unigolyn yn ystod ac ar ôl y gwasanaeth 
49. canlyniadau disgwyliedig gwasanaeth lliwio a goleuo 
50. diben ymarfer adfyfyriol a gwerthuso a’r modd y mae’n darparu gwybodaeth ar gyfer gwasanaethau yn y dyfodol
51. y cyfarwyddiadau a’r cyngor, cyn ac ar ôl y gwasanaeth lliwio a goleuo


Cwmpas/ystod

Dosbarthiad cyrls y gwallt

1. syth
2. tonnog
3. cyrliog
4. cyrls tynn
5. cyfuniad

Nodweddion y gwallt

1. dwysedd y gwallt
2. gwëad y gwallt
3. hydwythedd y gwallt
4. mandylledd y gwallt
5. patrymau tŵf y gwallt

Stad y gwallt

1. gwallt sydd heb ei drin yn gemegol
2. gwallt sydd wedi ei drin yn rhannol â chemegion
3. gwallt sydd wedi ei drin yn gemegol

Profion

1. hydwythedd
2. mandylledd
3. edefyn
4. anghydnawsedd
5. datblygiad
6. lliw
7. prawf croen

Cynnyrch

1. hufen rhwystro
2. triniaeth cyn-liwiad
3. rhannol barhaol
4. hanner-parhaol/ lled barhaol
5. parhaol
6. goleuwyr
7. arlliwiau
8. gwarchodwyr lliw a goleuwyr

* Protocol gwasanaeth i gywiro lliw’r gwallt

1. amgylchedd waith
2. iechyd a diogelwch
3. atal a rheoli haint
4. cynllun gwasanaeth
5. cydsyniad gwybodus
6. canlyniadau profion
7. cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
8. rheoli data
9. archwilio ac atebolrwydd
10. cyfarwyddiadau a chyngor
11. cynaliadwyedd
12. rheoli gwastraff
13. ymarfer wedi’i seilio ar dystiolaeth
14. ymarfer adfyfyriol

Colour correction Technegau i gywiro lliw’r gwallt*

1. adfer dyfnder ac arlliw
2. niwtraleiddio arlliw lliw’r gwallt
3. cael gwared o fandiau
4. cael gwared o liw artiffisial 
5. ail-liwio’r gwallt
6. cywiro blaenoleuadau ac isoleuadau

Cyfarwyddiadau

1. hawliau cyfreithiol a chyfrifoldebau yr unigolyn a’r ymarferydd
2. cyfarwyddiadau a gofal cyn ac ar ôl y gwasanaeth
3. cyfyngiadau a risgiau cysylltiedig
4. triniaethau yn y dyfodol

Anatomeg a ffisioleg

1. strwythur a swyddogaeth systemau’r corff a’u cyd-ddibyniaeth ar ei gilydd
2. strwythur a swyddogaeth y gwallt a thŵf y gwallt
3. strwythur a swyddogaeth y croen
4. gwrtharwyddion cymharol a llwyr a phatholegau cysylltiedig



Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Gwrtharwydd llwyr

Mae gwrtharwydd llwyr yn gyflwr sy'n rhwystro'r gwasanaeth rhag cael ei gyflawni ac a all fod angen cael ei gyfeirio.

Adwaith niweidiol

Adwaith niweidiol yw adwaith 'annisgwyl' neu ganlyniad yn dilyn

gwasanaeth e.e. llewygu

Anatomeg a Ffisioleg

Sut mae'r systemau sgerbydol, cyhyrog, cylchredol, lymffatig, anadlol, ysgarthol, treuliadol, endocrinaidd a nerfol yn rhyngweithio gyda'i gilydd a sut maent yn effeithio ar yr unigolyn, gwasanaeth a chanlyniadau.

Gwrth weithred

Gwrth weithred yw adwaith neu ganlyniad 'disgwyliedig' yn dilyn gwasanaeth,

e.e. erythema

Prawf datblygiad

Prawf datblygiad yw cael gwared o gynnyrch yn ystod y gwasanaeth er mwyn gwirio a chadarnhau'r amser datblygu.

Ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth

Mae ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth yn seiliedig ar y dystiolaeth

orau gyfredol, ddilys a pherthnasol sydd ar gael

Cymorth Cyntaf

Gall cymorth cyntaf gyfeirio at gymwysterau cymorth cyntaf yn y gwaith neu ei gyffelyb neu ymwybyddiaeth o gymorth cyntaf iechyd meddyliol.

Dosbarthiad cyrls y gwallt

Gellir cyfeirio at ddosbarthiad cyrls y gwallt fel Math 1 – 4.

Protocol

Protocol yw gweithdrefn safonol er mwyn sicrhau arfer gorau a

chydymffurfiad pan yn darparu gwasanaethau h.y. dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr

Gwrtharwydd cymharol

Gwrtharwydd cymharol yw cyflwr sy'n gofyn am asesiad o addasrwydd ar gyfer y gwasanaeth a/neu os oes angen addasiadau

Prawf Edefyn

Gellir cyfeirio ar brawf edefyn fel prawf dorri ac fe'i gwneir cyn y gwasanaeth er mwyn profi'r adwaith gemegol ar y gwallt ar gyfer y canlyniadau a ddymunir.


Dolenni I NOS Eraill

SKAHDBRBNST1, SKAHDBRBNS1, SKAHDBR1, SKAHD1, SKAHD2 SKAHDBR2, SKAHDBR3, SKAHDBR4, SKAHDBR5,
SKAHDBR6, SKAHDBR8, SKAHDBR9, SKAHDBR10, SKAHDBR11, SKAHDBR12, SKAHDBR13, SKAHDBR14, SKAHDBR15,
SKAHDB16, SKAHDB19, SKAHDB20, SKAHDB21, SKABR5



Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKACH11

Galwedigaethau Perthnasol

Trinwyr gwallt a Galwedigaethau Cysylltiedig

Cod SOC

6221

Geiriau Allweddol

cywiro lliw’r gwallt