Lliwio’r a goleuo’r gwallt
Trosolwg
Mae'r safon yma yn cydfodoli â, SKAHDBRBNST1 Gweithredu a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol a SKAHDBRBNS1 Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau Gwallt, Barbro, Harddwch, Ewinedd, Lles a Holistig. Mae'r safon yma'n ymwneud â rhywun proffesiynol o faes trin gwallt sy'n darparu gwasanaethau lliwio a goleuo. Bydd y gwasanaethau lliwio'n cynnwys defnyddio lliwiau rhannol barhaol, hanner parhaol/ lled barhaol a pharhaol. Yn ogystal â hyn, defnyddio lliwiau a goleuwyr er mwyn creu isoleuadau ac aroleuadau. Bydd gofyn i chi hefyd wneud gwerthusiad ar ôl y driniaeth ac adfyfyrio er mwyn gwelliant parhaus. Bydd rhaid i ddefnyddwyr y safon yma wneud yn siwr bod eu harferion yn adlewyrchu'r wybodaeth, y polisïau, y gweithdrefnau a'r cyfarwyddyd am yr arfer orau. Cynghorir defnyddwyr y safon yma i fod yn ymwybodol o, a chydymffurfio gyda gofynion cymorth cyntaf yn unol â deddfwriaeth a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol.
Y prif ddeilliannau yw:
- lliwio'r holl ben
- lliwio ar gyfer ad-dyfiant
- aroleuadau ac isoleuadau wedi eu gwau a rhai gloyw
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. cynnal ymgynghoriad cryno a chynhwysfawr gyda'r unigolyn
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cwmpas/ystod
Dosbarthiad cyrls y gwallt
*
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gwrtharwydd llwyr
Mae gwrtharwydd llwyr yn gyflwr sy'n rhwystro'r gwasanaeth rhag cael ei gyflawni ac a all fod angen cael ei gyfeirio
Adwaith niweidiol
Adwaith niweidiol yw adwaith 'annisgwyl' neu ganlyniad yn dilyn gwasanaeth e.e. llewygu
Gwrth weithred
Gwrth weithred yw adwaith neu ganlyniad 'disgwyliedig' yn dilyn gwasanaeth,
e.e. erythema
Prawf datblygiad
Prawf datblygiad yw cael gwared o gynnyrch yn ystod y gwasanaeth er mwyn gwirio a chadarnhau'r amser datblygu.
Ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth
Mae ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth yn seiliedig ar y dystiolaeth
orau gyfredol, ddilys a pherthnasol sydd ar gael
Cymorth Cyntaf
Gall cymorth cyntaf gyfeirio at gymwysterau cymorth cyntaf yn y gwaith neu ei gyffelyb neu ymwybyddiaeth o gymorth cyntaf iechyd meddyliol.
Dosbarthiad cyrls y gwallt
Gellir cyfeirio at ddosbarthiad cyrls y gwallt fel Math 1 – 4
Protocol
Protocol yw gweithdrefn safonol er mwyn sicrhau arfer gorau a
chydymffurfiad pan yn darparu gwasanaethau h.y. dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr.
Gwrtharwydd cymharol
Gwrtharwydd cymharol yw cyflwr sy'n gofyn am asesiad o addasrwydd ar gyfer y gwasanaeth a/neu os oes angen addasiadau.
Prawf Edefyn
Gellir cyfeirio ar brawf edefyn fel prawf dorri ac fe'i gwneir cyn y gwasanaeth er mwyn profi'r adwaith gemegol ar y gwallt ar gyfer y canlyniadau a ddymunir
Dolenni I NOS Eraill
SKAHDBRBNST1, SKAHDBRBNS1, SKAHDBR1, SKABBR2, SKABR1,SKABR2, SKABR3, SKABR4, SKAHDBR2, SKAHDBR3, SKAHDBR4, SKAHDBR6, SKAHDBR7, SKAHDBR8,SKAHDBR9, SKAHDBR10, SKAHDBR11, SKAHDBR12, SKAHDBR13, SKAHDBR14, SKAHDBR15, SKAHDB16, SKAHDB19, SKAHDB20, SKAHDB21, SKABR5