Torri’r gwallt mewn modd creadigol gan ddefnyddio cyfuniad o dechnegau
Trosolwg
Mae'r safon yma yn cydfodoli â, SKAHDBRBNST1 Gweithredu a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol *a *SKAHDBRBNS1 Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau Gwallt, Barbro, Harddwch, Ewinedd, Lles a Holistig*. *Mae'r safon yma'n ymwneud â rhywun proffesiynol o faes trin gwallt sy'n defnyddio sgiliau torri uwch i greu edrychiad creadigol wedi'i deilwrio a'i ailsteilio er mwyn gwella delwedd bersonol. Bydd gofyn i chi hefyd wneud gwerthusiad ar ôl y driniaeth ac adfyfyrio er mwyn gwelliant parhaus. Bydd rhaid i ddefnyddwyr y safon yma wneud yn siwr bod eu harferion yn adlewyrchu'r wybodaeth, y polisïau, y gweithdrefnau a'r cyfarwyddyd am yr arfer orau. Cynghorir defnyddwyr y safon yma i fod yn ymwybodol o, a chydymffurfio gyda gofynion cymorth cyntaf yn unol â deddfwriaeth a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol.
Y prif ddeilliannau yw:
- gwneud toriad creadigol wedi'i ailstelio
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. cynnal ymgynghoriad cryno a chynhwysfawr gyda'r unigolyn
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. eich swyddogaeth a’ch cyfrifoldebau o ran darparu gwasanaethau torri a phwysigrwydd gweithio o fewn eich gallu
Cwmpas/ystod
*
*
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gwrtharwydd llwyr
Mae gwrtharwydd llwyr yn gyflwr sy'n rhwystro'r gwasanaeth rhag cael ei gyflawni ac a all fod angen cael ei gyfeirio.
Adwaith niweidiol**
Adwaith niweidiol yw adwaith 'annisgwyl' neu ganlyniad yn dilyn
gwasanaeth e.e. llewygu
Anatomeg a Ffisioleg
Sut mae'r systemau sgerbydol, cyhyrog, cylchredol, lymffatig, anadlol, ysgarthol, treuliadol, endocrinaidd a nerfol yn rhyngweithio gyda'i gilydd a sut maent yn effeithio ar yr unigolyn, gwasanaeth a chanlyniadau.
Gwrth weithred
Gwrth weithred yw adwaith neu ganlyniad 'disgwyliedig' yn dilyn gwasanaeth,
e.e. erythema
Ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth
Mae ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth yn seiliedig ar y dystiolaeth
orau gyfredol, ddilys a pherthnasol sydd ar gael
Cymorth Cyntaf
Gall cymorth cyntaf gyfeirio at gymwysterau cymorth cyntaf yn y gwaith neu ei gyffelyb neu ymwybyddiaeth o gymorth cyntaf iechyd meddyliol
Dosbarthiad cyrls y gwallt
Gellir cyfeirio at ddosbarthiad cyrls y gwallt fel Math 1 – 4
Torri pwynt
Mae torri pwynt yn fath o dechneg gweadu
Protocol
Protocol yw gweithdrefn safonol er mwyn sicrhau arfer gorau a
chydymffurfiad pan yn darparu gwasanaethau h.y. dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
Gwrtharwydd cymharol
Gwrtharwydd cymharol yw cyflwr sy'n gofyn am asesiad o addasrwydd ar gyfer y gwasanaeth a/neu os oes angen addasiadau
Rasel steilio
Mae gan rasel steilio giardiau amlswyddogaethol dewisol wedi eu hatodi i'r llafn er mwyn creu gwead y gwallt ac effeithiau.
Gweadu
Techneg dorri sy'n creu symudiad ac sy'n rhoi'r ymddangosiad o faint mwy.
Teneuo
Techneg dorri all gael ei chyflawni â llaw rydd neu dfrwy defnyddio siswrn deneuo er mwyn lleihau maint y gwallt.
Dolenni I NOS Eraill
SKAHDBRBNST1, SKAHDBRBNS1, SKAHDBR1, SKAHD1, SKAHD2 SKAHDBR2, SKAHDBR3, SKAHDBR5, SKAHDBR6, SKAHDBR7, SKAHDBR8, SKAHDBR9, SKAHDBR10, SKAHDBR11, SKAHDBR12, SKAHDBR13, SKAHDBR14, SKAHDBR15, SKAHDB16, SKAHDB19, SKAHDB20, SKAHDB21, SKABR5