Dodi atodiadau dros dro i’r gwallt er mwyn gwella steil

URN: SKAHDBR14
Sectorau Busnes (Suites): Trin gwallt a barbro
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 2021

Trosolwg

​Mae'r safon yma yn cydfodoli â, SKAHDBRBNST1 Gweithredu a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol a SKAHDBRBNS1 Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau Gwallt, Barbro, Harddwch, Ewinedd, Lles a Holistig. Mae'r safon yma'n ymwneud â rhywun proffesiynol o faes trin gwallt sy'n dodi atodiadau dros dro er mwyn gwella steil drwy gynyddu maint ac ychwanegu lliw. Gofynnir am y gallu i ymdoddi gwallt ychwanegol i'r steil sydd yno eisoes. Bydd gofyn i chi hefyd wneud gwerthusiad ar ôl y driniaeth ac adfyfyrio er mwyn gwelliant parhaus. Bydd rhaid i ddefnyddwyr y safon yma wneud yn siwr bod eu harferion yn adlewyrchu'r wybodaeth, y polisïau, y gweithdrefnau a'r cyfarwyddyd am yr arfer orau. Cynghorir defnyddwyr y safon yma i fod yn ymwybodol o, a chydymffurfio gyda gofynion cymorth cyntaf yn unol â deddfwriaeth a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol.

Y prif ddeilliannau yw:

  1. Dodi atodiadau dros dro i'r gwallt er mwyn gwella steil
  2. Cael gwared o atodiadau dros dro

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​1. cadw at eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth, rheoliadau, cyfarwyddebau a chanllawiau, 

2. trafod a darganfod amcanion yr unigolyn a’r canlyniadau a ddymunir, er mwyn cael y wybodaeth ar gyfer y cynllun gwasanaeth dodi atodiadau dros dro i’r gwallt, i gynnwys:
2.1 hanes triniaethau 
2.2 steilio bob dydd y gwallt
2.3 ffordd o fyw
2.4 dewisiadau triniaeth amgen
3. gwneud dadansoddiad o’r gwallt a’r croen er mwyn penderfynu ar y cynllun gwasanaeth, i gynnwys:
3.1 dosbarthiad cyrls y gwallt
3.2 nodweddion y gwallt
3.3 cyflwr y gwallt
3.4 cyflwr croen y pen
4. gwneud profion er mwyn penderfynu addasrwydd ar gyfer y gwasanaeth dodi atodiad dros dro i’r gwallt, i gynnwys:
4.1 cofnodi a chadw’r canlyniad yn unol â deddfwriaeth data 
5. trafod a chytuno ar y math o atodiadau dros dro i’r gwallt ac sy’n addas i’r unigolyn, i gynnwys:
5.1 math
5.2 gwëad
5.3 lliwiau’n cyd-fynd
5.4 hyd
5.5 lled
5.6 steil y gwallt
6. cadarnhau a chytuno gyda’r unigolyn, eu bod wedi deall y gwasanaeth arfaethedig i ddodi atodiad dros dro i’r gwallt, i gynnwys:
6.1 gwrth weithredoedd 
6.2 adweithiau niweidiol
7. sicrhau cydsyniad gwybodus yr unigolyn ar gyfer y gwasanaeth dodi atodiad dros dro i’r gwallt 
8. paratoi’r unigolyn a glanhau’r gwallt a chroen y pen gyda siampŵ yn unol â’r protocol gwasanaeth dodi atodiad dros dro i’r gwallt *
9. cribo a chwythsychu’r gwallt yn unol â’r protocol gwasanaeth dodi atodiad dros dro i’r gwallt 

10. rhannu’r gwallt yn unol â’r protocol gwasanaeth atodi gwallt dros dro, i gynnwys:
10.1 dewis atodiad neu atodiadau dros dro i’r gwallt i gydweddu’n gywir â man triniaeth yr unigolyn
11. cribo, llyfnhau a dodi’r atodiad dros dro i’r gwallt, a’i roi’n ddiogel yn agos at wreiddiau’r gwallt 
12. cwblhau’r gwasanaeth yn unol â’r protocol gwasanaeth dodi atodiad dros dro i’r gwallt, i gynnwys:
12.1 personoleiddio’r atodiadau gwallt dros dro drwy steilio’r gwallt yn unol â’r protocol gwasanaeth atodi gwallt dros dro
 
Gwasanaeth gwaredu*
13. datglymu’r gwallt gan ddefnyddio teclyn addas ar gyfer dosbarthiad cyrls y gwallt a’i gyflwr 
14. cael gwared o atodiadau dros dro i’r gwallt gan ddilyn cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr 
15. cadarnhau gyda’r unigolyn ei fod yn fodlon gyda’r canlyniad terfynol 
16. monitro iechyd a lles yr unigolyn drwy gydol y gwasanaeth i ddodi atodiad dros dro i’r gwallt neu i gael gwared ohono 
17. gweithredu yn y modd cywir os bydd adwaith niweidiol 
18. cwblhau cofnodion gwasanaeth yr unigolyn a’u cadw yn unol â deddfwriaeth data 
19. defnyddio ymarfer adfyfyriol i werthuso’r gwasanaeth a chymryd camau priodol 
20. rhoi cyfarwyddiadau a chyngor i’r unigolyn, cyn ac ar ôl y gwasanaeth
21. cofnodi canlyniad yr atodi gwallt dros dro neu gael gwared ohono a‘r gwerthusiad ohonynt 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


1. eich swyddogaeth a’ch cyfrifoldebau o ran darparu gwasanaethau dodi atodiad dros dro i’r gwallt a phwysigrwydd gweithio o fewn eich gallu 
2. pam ei bod yn rhaid i chi gydymffurfio gydag arfer moesegol a gweithio o fewn gofynion deddfwriaethol; i gynnwys:
2.1 y cyfrifoldebau drosoch chi eich hunain a’ch adeiladau o dan reoliadau trwyddedu yr awdurdod lleol
3. pwysigrwydd ymwneud â, a dogfennu datblygiad proffesiynol parhaus, i gynnwys, polisïau gwybodaeth wedi eu diweddaru, gweithdrefnau a chanllawiau ar gyfer arfer gorau 
4. yr anatomeg a’r ffisioleg sy’n berthnasol i’r safon yma 
5. y gwrtharwyddion cymharol a llwyr sy’n berthnasol i’r gwasanaeth gwallt, i gynnwys:
5.1 y gofynion deddfwriaethol ac yswiriant ar gyfer cael diagnosis meddygol a chyfeirio
6. pwysigrwydd adnabod nodweddion afreolaidd ar y croen a niwed i groen y pen, a’u cyfeirio at weithiwr proffesiynol perthnasol ym maes gofal iechyd
7. y mathau o atodiadau dros dro i’r gwallt a’u cyfyngiadau, i gynnwys yr addasiadau sydd eu hangen, mewn perthynas â’r canlynol:
7.1 dosbarthiad y gwallt
7.2 cyflwr y gwallt
7.3 stad y gwallt
7.4 cyflwr croen y pen
7.5 hanes triniaethau/cemegion sydd wedi cronni
7.6 steilio gwallt bob dydd/ffordd o fyw
8. pwysigrwydd gwneud dadansoddiad o’r gwallt a chroen y pen a sut mae hyn yn effeithio ar y dewis o atodiadau dros dro i’r gwallt a’r technegau dodi a ddefnyddir 
9. pwysigrwydd gwneud profion a sut gall canlyniadau profion effeithio ar y gwasanaeth dodi atodiad dros dro i’r gwallt 
10. sut i adnabod gwallt sydd wedi ei or-brosesu, y risgiau cysylltiedig a’r camau i’w cymryd 
11. sut i adnabod trichorrhexis nodosa, y risgiau cysylltiedig a’r camau i’w cymryd 
12. sut i addasu technegau dodi atodiad dros dro i’r gwallt ar gyfer pob dosbarthiad o’r blew a’r cyrls 
13. y rhesymau pam y dylid cyflawni gwasanaethau lliwio’r gwallt cyn y gwasanaeth dodi atodiad dros dro i’r gwallt 
14. pwysigrwydd dodi siampŵ ar y gwallt a chroen y pen cyn y gwasanaeth dodi atodiad dros dro i’r gwallt
15. y rhesymau pam y caiff cyflyrwyr eu hosgoi cyn y gwasanaeth dodi atodiad dros dro i’r gwallt 
16. y risg o ddifrod i’r gwallt sy’n gysylltiedig â gwasanaethau dodi atodiad dros dro i’r gwallt
17. sut i ddodi atodiadau dros dro i’r gwallt mewn modd diogel yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
18. pwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau’r gwneuthrwr ar gyfer dodi atodiadau dros dro i’r gwallt, i gynnwys:
18.1 rhagofalon diogelwch 
18.2 cynnal a chadw
19. sut i gyflawni gwasanaethau dodi atodiad dros dro i’r gwallt
20. amseroedd y gwasanaeth yn unol â’ch polisïau a’ch gweithdrefnau cyfundrefnol
21. pwysigrwydd ymgynghori gyda’r unigolyn drwy gydol y broses o ddodi atodiadau dros dro i’r gwallt 
22. yr adweithiau niweidiol a gysylltir â’r gwasanaeth dodi atodiadau dros dro i’r gwallt a sut i ymateb iddynt
23. y cyfrifoldebau iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth cyn, yn ystod ac ar ôl y gwasanaeth
24. y gofynion cyfreithiol ar gyfer darparu gwasanaethau i’r gwallt i blant dan oed ac oedolion bregus
25. pam ei bod hi'n bwysig trafod a sefydlu amcanion yr unigolyn, ei bryderon, disgwyliadau, y canlyniadau y mae'n eu dymuno a chytuno ar y cynllun gwasanaeth dodi atodiadau dros dro i’r gwallt
26. y strwythurau taliadau a’r dewisiadau ar gyfer triniaeth 
27. y gofynion deddfwriaethol a digollediad er mwyn sicrhau cydsyniad gwybodus wedi'i lofnodi ar gyfer y gwasanaeth 
28. y rhesymau dros gymryd delweddau gweledol gyda chydsyniad o fan triniaeth yr unigolyn, a'u cadw yn unol â gofynion y gwasanaeth, deddfwriaethol, yswiriant a chyfundrefnol 
29. sut i gael gwared o atodiadau dros dro i’r gwallt, i gynnwys addasiadau ar gyfer y canlynol:
29.1 gwallt dynol
29.2 gwallt synthetig
30. pwysigrwydd cadw difrod i wallt naturiol yr unigolyn mor isel â phosibl yn ystod y broses o gael gwared ohono
31. pwysigrwydd sicrhau bod yr unigolyn yn gyfforddus a chynnig sicrwydd iddo drwy gydol y broses waredu
32. sut i bersonoleiddio a siapio’r atodiadau dros dro i’r gwallt er mwyn ymdoddi i’r gwallt naturiol, yn unol â’r protocol gwasanaeth dodi atodiad dros dro i’r gwallt 
33. pwysigrwydd cadw at y protocol gwasanaeth dodi atodiad dros dro i’r gwallt
34. pwysigrwydd monitro iechyd a lles yr unigolyn yn ystod ac ar ôl y gwasanaeth
35. canlyniadau disgwyliedig gwasanaethau dodi atodiad dros dro i’r gwallt 
36. diben ymarfer adfyfyriol a gwerthuso a’r modd y mae’n darparu gwybodaeth er mwyn gwella darpariaeth y gwasanaeth yn y dyfodol
37. y cyfarwyddiadau a’r cyngor, cyn ac ar ôl y gwasanaeth dodi atodiad dros dro i’r gwallt


Cwmpas/ystod

Dosbarthiad cyrls y gwallt

1. syth
2. tonnog
3. cyrliog
4. cyrls tynn
5. cyfuniad

Nodweddion y gwallt
*
1. dwysedd y gwallt
2. gwëad y gwallt
3. hydwythedd y gwallt
4. mandylledd y gwallt
5. patrymau tŵf y gwallt

Stad y gwallt*
*
1. gwallt sydd heb ei drin yn gemegol
2. gwallt sydd wedi ei drin yn rhannol â chemegion
3. gwallt sydd wedi ei drin yn gemegol

Profion

1. hydwythedd
2. mandylledd

Atodiadau dros dro i’r gwallt

1. rhimyn
2. cynffon merlen
3. "scrunchie"/bynnen anniben
4. edau’r gwawllt
5. rhwymynnau gwallt
6. pen llawn
7. pen rhannol
8. hir
9. byr
10. gwallt synthetig
11. gwallt dynol
12. lliwiau creadigol a dosbarthiad 
13. tresi’r gwallt
14. ychwanegiadau i’r gwallt
15. darnau o’r gwallt ar gyfer maint

Protocol gwasanaeth dodi atodiad dros dro i’r gwallt

1. amgylchedd waith
2. iechyd a diogelwch
3. atal a rheoli haint
4. cynllun gwasanaeth
5. cydsyniad gwybodus
6. rheoli data 
7. canlyniadau profion
8. cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
9. archwilio ac atebolrwydd
10. cyfarwyddiadau a chyngor
11. cynaliadwyedd
12. rheoli gwastraff
13. ymarfer wedi’i seilio ar dystiolaeth
14. ymarfer adfyfyriol

Cyfarwyddiadau

1. hawliau cyfreithiol a chyfrifoldebau yr unigolyn a’r ymarferydd
2. cyfarwyddiadau a gofal cyn ac ar ôl y gwasanaeth
3. cyfyngiadau a risgiau cysylltiedig
4. triniaethau yn y dyfodol

Anatomeg a ffisioleg

*
1. strwythur a swyddogaeth y gwallt a chylchred tŵf y gwallt
2. strwythur a swyddogaeth y croen
3. strwythur anatomegol sylfaenol y pen, y gwddf a’r ysgwyddau
4. gwrtharwyddion cymharol a llwyr a phatholegau cysylltiedig 



Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Gwrtharwydd llwyr

Mae gwrtharwydd llwyr yn gyflwr sy'n rhwystro'r gwasanaeth rhag cael ei gyflawni ac a all fod angen cael ei gyfeirio

*Adwaith niweidiol

Adwaith niweidiol yw adwaith 'annisgwyl' neu ganlyniad yn dilyn

gwasanaeth e.e. llewygu

 Gwrth weithred

Gwrthweithred yw adwaith neu ganlyniad 'disgwyliedig' yn dilyn gwasanaeth,e.e. erythema

Ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth

Mae ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth yn seiliedig ar y dystiolaeth

orau gyfredol, ddilys a pherthnasol sydd ar gael.

Cymorth Cyntaf

Gall cymorth cyntaf gyfeirio at gymwysterau cymorth cyntaf yn y gwaith neu ei gyffelyb neu ymwybyddiaeth o gymorth cyntaf iechyd meddyliol.

Dosbarthiad cyrls y gwallt

Gellir cyfeirio at ddosbarthiad cyrls y gwallt fel Math 1 – 4.

Protocol

Protocol yw gweithdrefn safonol er mwyn sicrhau arfer gorau a

chydymffurfiad pan yn darparu gwasanaethau h.y. dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr.

Gwrtharwydd cymharol

Gwrtharwydd cymharol yw cyflwr sy'n gofyn am asesiad o addasrwydd ar gyfer y gwasanaeth a/neu os oes angen addasiadau.


Dolenni I NOS Eraill

​SKAHDBRBNST1, SKAHDBRBNS1, SKAHDBR1, SKAHD1, SKAHD2 SKAHDBR2, SKAHDBR3, SKAHDBR4, SKAHDBR5, SKAHDBR6, SKAHDBR7, SKAHDBR8, SKAHDBR9, SKAHDBR10, SKAHDBR11, SKAHDBR12, SKAHDBR13, SKAHDBR15, SKAHDB16, SKAHDB19, SKAHDB20, SKAHDB21, SKABR5



Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKACH7

Galwedigaethau Perthnasol

Trinwyr gwallt a Galwedigaethau Cysylltiedig

Cod SOC

6221

Geiriau Allweddol

atodiadau dros dro i’r gwallt, rhimyn, cynffon, bynnen gwallt "scrunchie"/anniben, gwallt anwe, gwallt synthetig, gwallt dynol, lliwiau creadigol, tresi’r gwallt, ychwan