Cael gwared o atodion dros dro i’r gwallt

URN: SKAHDB21
Sectorau Busnes (Suites): Trin gwallt a barbro
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​Mae'r safon yma yn cydfodoli â, SKAHDBRBNST1 Gweithredu a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol. Mae'r safon yma'n ymwneud â chael gwared o atodiadau dros dro i'r gwallt. Gellir cyflawni'r gwasanaeth yma wrth eich hunan neu i gynorthwyo steilydd uwch. Bydd gofyn i chi hefyd wneud gwerthusiad ar ôl y driniaeth ac adfyfyrio er mwyn gwelliant parhaus. Bydd rhaid i ddefnyddwyr y safon yma wneud yn siwr bod eu harferion yn adlewyrchu'r wybodaeth, y polisïau, y gweithdrefnau a'r cyfarwyddyd am yr arfer orau..

Y prif ddeilliannau yw:

  1. Cael gwared o atodiadau dros dro i'r gwallt

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


1. cadw at eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth, rheoliadau, cyfarwyddebau a chanllawiau
2. trafod a darganfod amcanion yr unigolyn a’r canlyniadau a ddymunir, er mwyn cael y wybodaeth ar gyfer y cynllun i gael gwared o atodiadau dros dro i’r gwallt, i gynnwys
3. gwneud dadansoddiad o’r gwallt a’r croen er mwyn penderfynu ar y cynllun gwasanaeth, i gynnwys:
3.1 nodweddion y gwallt
3.2 cyflwr y gwallt
3.3 cyflwr y croen a chroen y pen
4. sicrhau cydsyniad gwybodus yr unigolyn ar gyfer cael gwared o’r atodiadau dros dro i’r gwallt
5. paratoi’r unigolyn ar gyfer cael gwared o’r atodiadau dros dro i’r gwallt
6. datglymu’r gwallt gan ddefnyddio offeryn addas ar gyfer dosbarthiad a chyflwr y gwallt
7. cael gwared o atodiadau dros dro i’r gwallt yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
8. cwblhau’r gwasanaeth yn unol â’r cynllun gwasanaeth
9. cadarnhau gyda’r unigolyn ei fod yn fodlon gyda’r canlyniad terfynol 
10. monitro iechyd a lles yr unigolyn drwy gydol y gwasanaeth i gael gwared o atodiadau dros dro i’r gwallt 
11. gweithredu yn y modd cywir os bydd adwaith niweidiol
12. diweddaru cofnodion yr unigolyn a’u cadw yn unol â deddfwriaeth data
13. rhoi cyfarwyddiadau a chyngor i’r unigolyn, cyn ac ar ôl y gwasanaeth
14. defnyddio ymarfer adfyfyriol i werthuso cael gwared o atodiadau dros dro i’r gwallt a gweithredu yn y modd priodol, i gynnwys:
14.1 derbyn adborth gan yr unigolyn a chymheiriaid
15. cofnodi canlyniad cael gwared o’r atodiadau gwallt dros dro a‘r gwerthusiad ohono
SKAHDB21

.


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


1. eich swyddogaeth a’ch cyfrifoldebau o ran cael gwared o atodiadau dros dro i’r gwallt
2. pwysigrwydd ymwneud â, a dogfennu datblygiad proffesiynol parhaus, i gynnwys, polisïau gwybodaeth wedi eu diweddaru, gweithdrefnau a chanllawiau ar gyfer arfer gorau
3. yr anatomeg a’r ffisioleg sy’n berthnasol i’r safon yma
4. pwysigrwydd gwneud dadansoddiad o’r gwallt a chroen y pen a sut mae hyn yn effeithio ar y ffordd y gellwch gael gwared o atodiadau dros dro i’r gwallt 
5. sut i adnabod gwallt sydd wedi ei orbrosesu, y risgiau cysylltiedig a’r camau i’w cymryd
6. y mathau o atodiadau dros dro i’r gwallt a’u heffeithiau 
7. y risg o ddifrod i wallt sy’n gysylltiedig â gwasanaethau atodiad dros dro i’r gwallt, i gynnwys:
7.1 eu defnyddio yn hirach nag a argymhellir, yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
7.2 dodi tyndra gormodol ar y gwallt
8. sut i gael gwared o atodiadau dros dro i’r gwallt mewn modd diogel, yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr, i gynnwys addasiadau ar gyfer y canlynol:
8.1 gwallt dynol
8.2 gwallt synthetig 
9. pwysigrwydd cadw difrod i wallt naturiol yr unigolyn mor isel â phosibl yn ystod y broses o gael gwared ohono
10. pwysigrwydd sicrhau bod yr unigolyn yn gyfforddus a chynnig sicrwydd iddo drwy gydol y broses waredu
11. yr adweithiau niweidiol a gysylltir â’r gwasanaeth dodi atodiadau dros dro i’r gwallt a sut i ymateb iddynt
12. y cyfrifoldebau iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth cyn, yn ystod ac ar ôl y gwasanaeth
13. pam ei bod hi'n bwysig trafod a sefydlu amcanion yr unigolyn, ei bryderon, disgwyliadau, y canlyniadau y mae'n eu dymuno a chytuno ar y cynllun gwasanaeth dodi atodiadau dros dro i’r gwallt 
14. y strwythurau taliadau a’r dewisiadau ar gyfer triniaeth
15. amseroedd y gwasanaeth yn unol â’ch polisïau a’ch gweithdrefnau cyfundrefnol
16. y gofynion deddfwriaethol a digollediad er mwyn sicrhau cydsyniad gwybodus wedi'i lofnodi ar gyfer y gwasanaeth,
 17. y gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol ar gyfer diweddaru a chadw cofnodion gwasanaeth yr unigolyn
18. diben ymarfer adfyfyriol a gwerthuso a’r modd y mae’n darparu gwybodaeth ar gyfer gwasanaethau yn y dyfodol
19. y cyfarwyddiadau a’r cyngor, cyn ac ar ôl y gwasanaeth atodi gwallt dros dro


Cwmpas/ystod

Nodweddion y gwallt

1. dwysedd y gwallt
2. gwëad y gwallt
3. hydwythedd y gwallt
4. mandylledd y gwallt
5. patrymau tŵf y gwallt

Stad y gwallt

1. gwallt sydd heb ei drin yn gemegol
2. gwallt sydd wedi ei drin yn rhannol â chemegion
3. gwallt sydd wedi ei drin yn gemegol

Anatomeg a ffisioleg

1. strwythur a swyddogaeth sylfaneol y gwallt
2. strwythur a swyddogaeth sylfaneol y croen
3. gwrtharwyddion cymharol a llwyr a phatholegau cysylltiedig

Atodiad dros dro i’r gwallt

1. rhimyn
2. cynffon merlen
3. "scrunchie"/bynnen anniben
4. edau’r gwawll
5. rhwymynnau gwallt
6. pen llawn
7. pen rhannol
8. hir
9. byr
10. gwallt synthetig
11. gwallt dynol
12. lliwiau creadigol a dosbarthiad
13. tresi’r gwallt
14. ychwanegiadau i’r gwallt
15. darnau o’r gwallt ar gyfer maint

Cyfarwyddiadau

1. hawliau cyfreithiol a chyfrifoldebau yr unigolyn a’r ymarferydd
2. cyfarwyddiadau a gofal cyn ac ar ôl y gwasanaeth
3. cyfyngiadau a risgiau cysylltiedig
4. triniaethau yn y dyfodol



Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill

​SKAHDBRBNST1, SKAHDBR14


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

ddim yn berthnasol

Galwedigaethau Perthnasol

Trinwyr gwallt a Galwedigaethau Cysylltiedig

Cod SOC

6221

Geiriau Allweddol

cael gwared o atodiadau dros dro i’r gwallt, rhimyn, cynffon merlen, "scrunchie"/anniben, gwallt anwe, gwallt synthetig, gwallt dynol, lliwiau creadigol, tresi’r gwallt, ychwanegiadau i’r gwallt