Paratoi’r mannau gwaith a chynorthwyo’r staff uwch

URN: SKAHDB20
Sectorau Busnes (Suites): Trin gwallt a barbro
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 2021

Trosolwg

​Mae'r safon yma yn cydfodoli â, SKAHDBRBNST1 Gweithredu a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol. Mae'r safon yma'n ymwneud â rhywun proffesiynol o faes trin gwallt sy'n cefnogi staff uwch drwy baratoi a chynnal a chadw eu mannau gwaith. Mae dyletswyddau yn cynnwys paratoi a chynnal a chadw'r amgylchedd waith, deunyddiau, offer a chyfarpar. Gellir gofyn i chi hefyd gynorthwyo staff uwch yn ystod y gwasanaeth. Bydd gofyn i chi hefyd wneud gwerthusiad ar ôl y driniaeth ac adfyfyrio er mwyn gwelliant parhaus. Bydd rhaid i ddefnyddwyr y safon yma wneud yn siwr bod eu harferion yn adlewyrchu'r wybodaeth, y polisïau, y gweithdrefnau a'r cyfarwyddyd am yr arfer orau.

Y prif ddeilliannau yw:

  1. Paratoi a chynnal a chadw'r amgylchedd waith ar gyfer gwasanaethau i'r gwallt, gan gynnwys y deunyddiau, yr offer a'r cyfarpar sydd eu hangen.
  2. Saniteiddio a diheintio offer a chyfrapar
  3. Cyflawni dyletswyddau golchi yn unol â gofynion deddfwriaethol
  4. Adgyflenwi stoc fel bo angen
  5. Cadw'r unigolyn yn gyfforddus a gofalu amdano fel rhan o'ch gwasanaeth.

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


1. cadw at eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth, rheoliadau, cyfarwyddebau a chanllawiau
2. trafod eich swyddogaeth a’ch cyfrifoldebau o fewn y gwasanaeth gwallt, gyda staff uwch, i gynnwys:
2.1 manylion ynglŷn â’r cyfarpar, offer, deunyddiau a chynnyrch sydd eu hangen yn unol â’r cynllun gwasanaeth i’r gwallt a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr 
2.2 sut byddwch yn cynorthwyo yn ystod y gwasanaeth i’r gwallt
2.3 y risgiau cysylltiedig a sut gellir eu hosgoi
Paratoi ar gyfer y gwasanaeth
3. paratoi’r amgylchedd waith, yr offer a’r deunyddiau sydd eu hangen i gynnwys:
3.1 dewis cynnyrch yn unol â lefel eich gallu, cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol 
4. gwirio gyda’r staff uwch bod y tasgau paratoi wedi eu cyflawni 
Cynorthwyo gyda’r gwasanaeth
5. paratoi’r unigolyn yn unol â’r protocol gwasanaeth i’r gwallt 
6. cynorthwyo gydag adgyflenwi’r cynnyrch a’r deunyddiau yn ôl y gofyn 
7. arsylwi’r technegau mae’r staff uwch yn eu defnyddio pan yn cyflawni’r gwasanaethau i’r gwallt, i gynnwys:
7.1 adfyfyrio ar eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth a sut mae pob gwasanaeth yn wahanol yn dibynnu ar anghenion yr unigolyn 
8. cadw’r unigolyn yn gyfforddus a gofalu amdano drwy wasanaethau lletygarwch 
9. gwirio gyda staff uwch bod tasgau cynorthwyol o fewn y gwasanaeth wedi eu cyflawni 
Cwblhau’r gwasanaeth
10. cwblhau’r gwasanaeth yn unol â’r cynllun gwasanaeth 
11. gweithredu yn y modd cywir os bydd adwaith niweidiol
defnyddio ymarfer adfyfyriol i werthuso paratoi a chynnal a chadw’r amgylchedd waith gwasanaeth a chymryd camau priodol, i gynnwys:
12.1 derbyn adborth gan gymheiriaid, unigolion a staff uwch 
12. cofnodi canlyniad y gwerthusiad ar gyfer datblygiad personol 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


1. eich swyddogaeth a’ch cyfrifoldebau i baratoi a chynnal amgylcheddau gwaith ar gyfer amrywiaeth o wasanaethau i’r gwallt
2. pwysigrwydd ymwneud â, a dogfennu datblygiad proffesiynol parhaus, i gynnwys, polisïau gwybodaeth wedi eu diweddaru, gweithdrefnau a chanllawiau ar gyfer arfer gorau
3. yr anatomeg a’r ffisioleg sy’n berthnasol i’r safon yma
4. y cynnyrch a ddefnyddir yn y gwasanaethau i’r gwallt a’u heffeithiau 
5. y deunyddiau, yr offer a’r cyfarpar a ddefnyddir mewn gwasanaethau i’r gwallt, i gynnwys:
5.1 y defydd o ddeunyddiau, offer a chyfarpar a’u cynnal a’u cadw, yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr 
6. y gwahaniaeth rhwng sterileiddio a diheintio 
7. sut i lanhau, diheintio a sterilieddio gwahanol offer a ddefnyddir ar gyfer gwahanol wasanaethau i’r gwallt megis metalau, plastig, pren, trydanol 
8. y risgiau sy’n gysylltiedig â bod yn agored i gynnyrch i’r gwallt sy’n seiliedig ar gemegau 
9. sut i baratoi’r amgylchedd waith ar gyfer gwasanaethau i’r gwallt 
10. sut i baratoi’r unigolyn ar gyfer gwasanaethau i’r gwallt, i gynnwys 
10.1 ffyrdd y gellwch chi sicrhau eich bod yn dod yn agos at gynnyrch sy’n seiliedig ar gemegau cyn lleiad â phosibl 
11. sut i sicrhau eich bod yn gwneud cyn lleied o ddifrod â phosibl i wallt yr unigolyn yn ystod y broses siampwio a chyflyru 
12. y cyfrifoldebau iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth cyn, yn ystod ac ar ôl y gwasanaeth i’r gwallt
13. pam ei bod yn bwysig trafod a deall y cyfarwyddiadau a’r canllawiau a roddir gan staff uwch, i gynnwys:
13.1 canlyniadau peidio â dilyn cyfarwyddiadau
14. y gofynion deddfwriaethol, yswiriant a chyfundrefnol ar gyfer cymryd a chadw delweddau gweledol o fan triniaeth yr unigolyn 
15. y gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol ar gyfer diweddaru a chadw cofnodion gwasanaeth yr unigolyn 
16. diben ymarfer adfyfyriol a gwerthuso a’r modd y mae’n darparu gwybodaeth ar gyfer gwasanaethau yn y dyfodol
17. y cyfarwyddiadau a’r cyngor, cyn ac ar ôl y gwasanaeth i’r gwallt 


Cwmpas/ystod


Os es angen triniaeth siampwio a/neu gyflyru, rhaid i ddefnyddiwr y   safon yma gyfeirio at SKAHDBR1 Siampwio, cyflyru a thrin y gwallt  *
chroen y pen *


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas

**Anatomeg a ffisioleg**

1. strwythur a swyddogaeth sylfaenol y gwallt
2. strwythur sylfaenol a swyddogaeth y croen
3. gwrtharwyddion cymharol a llwyr a phatholegau cysylltiedig

Cyfarwyddiadau
1. hawliau cyfreithiol a chyfrifoldebau yr unigolyn a’r ymarferydd
2. cyfarwyddiadau a gofal cyn ac ar ôl y driniaeth
3. cyfyngiadau a risgiau cysylltiedig
4. triniaethau yn y dyfodol


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill

SKAHDBRBNST1, SKAHDBRBNS1, SKAHDBR1,   SKAHD1, SKAHD2
SKAHDBR2, SKAHDBR3, SKAHDBR4, SKAHDBR5,
SKAHDBR6, SKAHDBR7, SKAHDBR8, SKAHDBR9, SKAHDBR10, SKAHDBR11, SKAHDBR12, SKAHDBR13, SKAHDBR14, SKAHDBR15,
SKAHDB16, SKAHDB19, SKAHDB20, SKAHDB21, SKABR5




Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

ddim yn berthnasol

Galwedigaethau Perthnasol

Trinwyr gwallt a Galwedigaethau Cysylltiedig

Cod SOC

6221

Geiriau Allweddol

cynorthwyo gwasanaethau gwallt a barbro, cynorthwyo uwch aelod o staff