Cyfrannu tuag at ddatblygiad cydberthynasau effeithiol yn y gwaith
Trosolwg
Mae'r safon yma'n cydfodoli â, SKAHDBRBNST1 Gweithredu a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol*.* Mae'r safon yma ar gyfer pobl broffesiynol sy'n gweithio gyda chydweithwyr er mwyn gwella datblygiad personol a hybu rhediad rhwydd y busnes. Bydd gofyn i chi ddangos agwedd gadarnhaol tuag at eich gwaith a defnyddio sgiliau cyfathrebu effeithiol gyda'ch cydweithwyr er mwyn osgoi camddealltwriaeth a chamgyfarwyddiad. Bydd gofyn i chi hefyd wneud gwerthusiad ar ôl y driniaeth ac adfyfyrio er mwyn gwelliant parhaus. Bydd rhaid i ddefnyddwyr y safon yma wneud yn siwr bod eu harferion yn adlewyrchu'r wybodaeth, y polisïau, y gweithdrefnau a'r cyfarwyddyd am yr arfer orau.
Y prif ddeilliannau yw:
- Gwella eich perfformiad personol yn y gwaith.
- Gweithio'n effeithiol fel rhan o dîm.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Gwella eich perfformiad personol yn y gwaith
- nodi eich cryfderau a'ch gwendidau a'u trafod gyda'r unigolyn perthnasol
- canfod mwy o wybodaeth gan bobl berthnasol i berfformio tasg pan fo'r cyfarwyddiadau sydd gennych yn aneglur
- ceisio adborth gan bobl berthnasol ynglŷn â sut gellwch wella eich perfformiad
- gofyn i'ch cydweithwyr am gymorth a manteisio ar gyfleoedd i ddysgu pan maent ar gael
- ceisio cymorth a gwybodaeth gan bobl berthnasol pan nad ydych yn medru cael cyfleoedd dysgu sy'n gysylltiedig â'ch gwaith
- adolygu datblygiadau yn eich diwydiant a meysydd cysylltiedig yn rheolaidd
- cytuno ar dargedau gwaith realistig gyda'r unigolyn perthnasol
- adolygu yn rheolaidd eich cynnydd tuag at gyflawni eich targedau a gytunwyd
- defnyddio canlyniadau eich adolygiadau i ddatblygu eich cynllun datblygiad personol ar gyfer y dyfodol
- cytuno ar ffyrdd o weithio gyda'ch gilydd er mwyn cyflawni amcanion
- gofyn am gymorth a gwybodaeth gan eich cydweithwyr pan fo angen
- ymateb i geisiadau am gymorth gan gydweithwyr
- rhagweld anghenion pobl eraill a chynnig cymorth o fewn eich gallu
- gwneud defnydd effeithiol o'ch amser drwy gydol eich diwrnod gwaith
- adrodd am broblemau sy'n debygol o effeithio ar wasanaethau i'r unigolyn perthnasol
- datrys camddealltwriaethau gyda'ch cydweithwyr
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i gael gwybodaeth am eich swydd, eich cyfrifoldebau gwaith a'r safonau a ddisgwylir gennych
- sut i ganfod gwybodaeth berthnasol am feysydd cyfrifoldeb pobl eraill
- pam ei bod yn bwysig gweithio o fewn cyfrifoldebau eich swydd a beth all ddigwydd os na wnewch chi hynny
- sut i nodi eich cryfderau a'ch gwendidau eich hun
- pwysigrwydd cwrdd â'ch targedau datblygiad personol a chynhyrchiant
- pwysigrwydd datblygiad proffesiynol parhaus a sut mae'n effeithio ar eich swydd
- pwy all fod o gymorth i chi i nodi a chael cyfleoedd ar gyfer eich datblygiad a'ch hyfforddiant
- cyfyngiadau eich awdurdod chi ac eraill pan ddaw i roi cymorth
- y safonau ymddygiad a ddisgwylir gennych chi o fewn eich amgylchedd waith
- gweithdrefnau apelio a chwynion eich sefydliad
- yr amrywiaeth o amseroedd ar gyfer cyflawni gwasanaethau a gynigir ac sy'n fasnachol hyfyw
- sut gall defnyddio'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol fod o gymorth i chi ar gyfer nodi eich anghenion datblygiad
- sut i gadw ymwybyddiaeth o dueddiadau cyfredol a datblygiadau o fewn y diwydiant a rhai sy'n datblygu a pham bod hyn yn bwysig
- pwysigrwydd defnyddio a diweddaru eich cynllun personol eich hun yn barhaus
- pam bod cydberthnasau cytûn yn y gwaith yn bwysig
- sut i ymateb yn gadarnhaol i adolygiadau ac adborth a pham bod hyn yn bwysig
- sut i gefnogi ffyrdd cydweithredol o weithio
- sut i reoli eich amser yn effeithiol
- i bwy dylech adrodd pan 'rydych yn cael trafferthion yn gweithio gydag eraill
- sut i ddelio gyda thrafferthion mewn cydberthnasau a gwrthdrawiadau pan yn gweithio gydag eraill
- y sgiliau holi a gwrando yr ydych eu hangen er mwyn dod o hyd i wybodaeth
Cwmpas/ystod
*
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill