Cynorthwyo gyda gwasanaethau cemegol

URN: SKAHDB16
Sectorau Busnes (Suites): Trin gwallt a barbro
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae'r safon yma yn cydfodoli â, SKAHDBRBNST1 Gweithredu a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol. Mae'r safon yma'n ymwneud â rhywyn proffesiynol ym maes gwallt sy'n cefnogi uwch aelod o staff yn ystod gwasanaethau cemegol. Mae dyletswyddau'n cynnwys paratoi a chynnal yr amgylchedd waith, deunyddiau, offer a chyfarpar a chynorthwyo o fewn y gwasanaeth er mwyn hybu cyflymder ac effeithiolrwydd. Bydd gofyn i chi hefyd wneud gwerthusiad ar ôl y driniaeth ac adfyfyrio er mwyn gwelliant parhaus. Bydd rhaid i ddefnyddwyr y safon yma wneud yn siwr bod eu harferion yn adlewyrchu'r wybodaeth, y polisïau a'r gweithdrefnau diweddaraf a'r cyfarwyddyd am yr arfer orau.

Y prif ddeilliannau yw:

  1. Paratoi'r amgylchedd waith, gan gynnwys y deunyddiau, offer a'r cyfarpar sydd eu hangen
  2. Cynorthwyo o fewn y gwasanaeth
  3. Cadw'r unigolyn yn gyfforddus a gofalu amdano fel rhan o'r gwasanaeth

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


Rhaid i chi allu:
1. cadw at eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth, rheoliadau, gorchmynion a chanllawiau
2. trafod eich swyddogaeth a’ch cyfrifoldebau o fewn y gwasanaeth gwallt gyda staff uwch, i gynnwys:
2.1 manylion paratoi am gyfarpar, offer, deunyddiau a chynnyrch sydd eu hangen yn unol â’r cynllun gwasanaeth gwallt a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr 
2.2 sut byddwch yn cynorthwyo yn ystod y gwasanaeth gwallt
2.3 y risgiau cysylltiedig a sut y gellir eu hosgoi

Paratoi am y gwasanaeth
3. paratoi’r amgylchedd waith, yr offer a’r deunyddiau sydd eu hangen, i gynnwys:
3.1 dewis cynnyrch yn unol â lefel eich gallu, cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol 
4. gwirio gyda staff uwch bod tasgau paratoi wedi eu cyflawni 

Cynorthwyo o fewn y gwasanaeth
5. paratoi’r unigolyn yn unol â’r cynllun gwasanaeth gwallt 
6. cynorthwyo gyda thrin, pasio ac ailgyflenwi cynnyrch a deunyddiau, yn ôl y gofyn 
7. edrych ar y technegau y mae staff uwch yn eu defnyddio pan yn cyflawni gwasanaethau gwallt, i gynnwys:
7.1 adfyfyrio ar eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth a sut mae pob gwasanaeth yn wahanol ac yn dibynnu ar anghenion yr unigolyn 
8. sicrhau bod yr unigolyn yn gyfforddus a gofalu amdano drwy wasanaethau lletygarwch 
9. gwirio gyda staff uwch bod tasgau cynorthwyo o fewn y gwasanaeth wedi eu cyflawni 
10. edrych ar staff uwch pan maent yn tynnu cynnyrch cemegol ar gyfer y gwallt allan o’r gwallt 
11. cyflawni triniaeth siampŵ neu gyflyru yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr 
12. cwblhau’r gwasanaeth yn unol â’r cynllun gwasanaeth 
13. cadarnhau yn eiriol gyda’r unigolyn ei fod yn fodlon gyda’r canlyniad terfynol 
14. monitro iechyd a lles yr unigolyn drwy gydol y gwasanaeth gwallt
15. gweithredu yn y modd cywir os bydd adwaith niweidiol 
16. diweddaru cofnodion yr unigolyn a’u cadw yn unol â deddfwriaeth data
17. rhoi cyfarwyddiadau a chyngor i’r unigolyn cyn ac ar ôl y gwasanaeth 
18. defnyddio ymarfer adfyfyriol er mwyn gwerthuso’r gwasanaeth gwallt a gweithredu’n briodol, i gynnwys:
18.1 derbyn adborth gan yr unigolyn a chymheiriaid 
19. cofnodi canlyniad y gwasanaeth gwallt a’r gwerthusiad ohono 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


1. eich swyddogaeth a’ch cyfrifoldebau pan yn cynorthwyo gyda gwasanaethau cemegol 
2. pwysigwrydd ymwneud â, a chofnodi datblygiad proffesiynol parhaus i gynnwys, polisïau gwybodaeth, gweithdrefnau a chyfarwyddyd am yr arfer orau ddiweddaraf 
3. yr anatomeg a'r ffisioleg sy'n berthnasol i'r safon yma 
4. y mathau o gynnyrch cemegol a ddefnyddir yng ngwasanaethau’r gwallt a’u heffeithiau 
5. y deunyddiau, yr offer a’r cyfarpar a ddefnyddir o fewn gwasanaethau cemegol i’r gwallt 
6. y risgiau a gysylltir â bod yn agored i gynnyrch cemegol ar gyfer y gwallt 
7. sut i baratoi’r amgylchedd waith ar gyfer gwasanaethau cemegol 
8. sut i baratoi’r unigolyn ar gyfer gwasanaethau cemegol, i gynnwys: 8.1 ffyrdd y gellwch sicrhau dod i gyn lleied o gysylltiad â phosibl â chynnyrch cemegol ar gyfer y gwallt 
9. sut i sicrhau eich bod yn gwneud cyn lleied o ddifrod â phosibl i wallt yr unigolyn yn ystod y broses o siampwio a chyflyru 
10. y cyfrifoldebau iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth cyn, yn ystod ac ar ôl y gwasanaeth, i gynnwys:
10.1 y risgiau sy’n gysylltiedig â gwasanaethau cemegol ar gyfer y gwallt a sut y gellir eu hosgoi 
11. pam ei bod yn bwysig trafod a deall cyfarwyddiadau a chyfarwyddiadau a chyfarwyddyd a roddir gan staff uwch, i gynnwys:
11.1 canlyniadau peidio â dilyn cyfarwyddiadau 
12. y gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol ar gyfer diweddaru a chadw cofnodion gwasanaeth yr unigolyn 
13. diben ymarfer adfyfyriol a gwerthuso a’r modd y mae’n darparu gwybodaeth er mwyn gwella darpariaeth y gwasanaeth yn y dyfodol
14. y cyfarwyddiadau a’r cyngor, cyn ac ar ôl y gwasanaeth gwallt 


Cwmpas/ystod


Gwybodaeth ychwanegol
Os oes angen siampwio a/neu driniaeth gyflyru, rhaid i ddefnyddiwr y safon yma gyfeirio at *SKAHDBR1 Siampwio, cyflyru a thrin y gwallt a chroen y pen *


Cwmpas Perfformiad


Cyfarwyddiadau
1. hawliau a chyfrifoldebau cyfreithiol yr unigolyn a'r ymarferydd
2. cyfarwyddiadau a gofal cyn ac ar ôl y driniaeth
3. cyfyngiadau a risgiau cysylltiedig
4. triniaethau yn y dyfodol


Gwybodaeth Cwmpas


Anatomeg a ffisioleg
**1. strwythur a swyddogaeth sylfaenol y gwallt
2. strwythur a swyddogaeth sylfaenol y croen
3. gwrtharwyddion cymharol a llwyr a phatholegau cysylltiedig 


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill

​SKAHDBR5, SKAHDBR6, SKAHDBR10, SKAHDBR11, SKAHDBR12, SKAHDBR13, SKAHDBR15


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

n/a

Galwedigaethau Perthnasol

Trinwyr gwallt a Galwedigaethau Cysylltiedig

Cod SOC

6221

Geiriau Allweddol

cynorthwyo gyda gwasanaethau cemegol seiliedig, cynorthwyo uwch aelod o staff