Gosod, steilio, trin a gorffen y gwallt mewn modd creadigol gan ddefnyddio technegau uwch
Trosolwg
Mae'r safon yma yn cydfodoli â, SKAHDBRBNST1 Gweithredu a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol a SKAHDBRBNS1 Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau Gwallt, Barbro, Harddwch, Ewinedd, Lles a Holistig. Mae'r safon yma'n ymwneud â rhywun proffesiynol o faes trin gwallt sy'n defnyddio amrywiaeth o dechnegau steilio a thrin confensiynol ac anghonfensiynol er mwyn cynhyrchu edrychiadau arloesol, ffasiynol, creadigol ac wedi eu personoleiddio. Bydd gofyn i chi hefyd wneud gwerthusiad ar ôl y driniaeth ac adfyfyrio er mwyn gwelliant parhaus. Bydd rhaid i ddefnyddwyr y safon yma wneud yn siwr bod eu harferion yn adlewyrchu'r wybodaeth, y polisïau, y gweithdrefnau a'r cyfarwyddyd am yr arfer orau. Cynghorir defnyddwyr y safon yma i fod yn ymwybodol o, a chydymffurfio gyda gofynion cymorth cyntaf yn unol â deddfwriaeth a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol.
Y prif ddeilliannau yw:
- Gosod, steilio, trin a gorffen y gwallt
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cwmpas/ystod
Dosbarthiad cyrls y gwallt
- syth
- tonnog
- cyrliog
- cyrls tynn
- cyfuniad
Nodweddion y gwallt
- dwysedd y gwallt
- gwëad y gwallt
- hydwythedd y gwallt
- mandylledd y gwallt
- patrymau tŵf y gwallt
Stad y gwallt
- gwallt sydd heb ei drin yn gemegol
- gwallt sydd wedi ei drin yn rhannol â chemegion
- sydd wedi ei drin yn gemegol
Profion
- hydwythedd
- mandylledd
Technegau setilio creadigol a thrin*
*
- Anghonfensiynol
- Confensiynol
*
Protocol gwasanaeth gosod, steilio creadigol a thrin
*
- amgylchedd waith
- iechyd a diogelwch
- atal a rheoli haint
- cynllun gwasanaeth
- cydsyniad gwybodus
- cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
- canlyniadau profion
- rheoli data
- archwilio ac atebolrwydd
- cyfarwyddiadau a chyngor
- cynaliadwyedd
- rheoli gwastraff
- wedi'i seilio ar dystiolaeth ac ymarfer adfyfyriol
Cyfarwyddiadau
- hawliau cyfreithiol a chyfrifoldebau yr unigolyn a'r ymarferydd
- cyfarwyddiadau a gofal cyn ac ar ôl y gwasanaeth
- cyfyngiadau a risgiau cysylltiedig
- triniaethau yn y dyfodol
Anatomeg a ffisioleg
- strwythur a swyddogaeth systemau'r corff a'u cyd-ddibyniaeth ar ei gilydd
- strwythur a swyddogaeth y gwallt a thŵf y gwallt
- strwythur a swyddogaeth y croen
- gwrtharwyddion cymharol a llwyr a phatholegau cysylltiedig
*
Cynnyrch steilio a gorffen*
- gwarchodwyr gwres
- mousse
- hufenau
- sera
- gel
- chwistrell gwallt
- olew
- pomadau
- chwistrell gwella gwëad
- golchdrwythau gosod
- cwyr
Technegau steilio confensyniol
- gosod
- llenwi
- defnyddio cyfarpar steilio wedi'i gynhesu
- tonni â bys/crib
- 1, 2, 3, 4 neu fwy o dechnegau plethu edau
- ategiadau i'r gwallt
- atodiadau dros dro I'r gwallt wedi eu hychwanegu
- addurnwaith
Technegau steilio anghonfensiynol*
*
- lapio ac edafu creadigol
- y defnydd o ffabrig
- rhwydo
- gweill bwyta
- rik-raks
- addurnwaith anghonfensiynol
- dulliau arloesol amgen
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gwrtharwydd llwyr
Mae gwrtharwydd llwyr yn gyflwr sy'n rhwystro'r gwasanaeth rhag cael ei gyflawni ac a all fod angen cael ei gyfeirio
Adwaith niweidiol
Adwaith niweidiol yw adwaith 'annisgwyl' neu ganlyniad yn dilyn gwasanaeth e.e. llewygu
Gwrth weithred
Gwrthweithred yw adwaith neu ganlyniad 'disgwyliedig' yn dilyn gwasanaeth,
e.e. erythema
Ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth
Mae ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth yn seiliedig ar y dystiolaeth orau gyfredol, ddilys a pherthnasol sydd ar gael.
Cymorth Cyntaf
Gall cymorth cyntaf gyfeirio at gymwysterau cymorth cyntaf yn y gwaith neu ei gyffelyb neu ymwybyddiaeth o gymorth cyntaf iechyd meddyliol.
Dosbarthiad cyrls y gwallt
Gellir cyfeirio at ddosbarthiad cyrls y gwallt fel Math 1 – 4
Protocol
Protocol yw gweithdrefn safonol er mwyn sicrhau arfer gorau a chydymffurfiad pan yn darparu gwasanaethau h.y. dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr.
Gwrtharwydd cymharol
Gwrtharwydd cymharol yw cyflwr sy'n gofyn am asesiad o addasrwydd ar gyfer y gwasanaeth a/neu os oes angen addasiadau
Dolenni I NOS Eraill
SKAHDBRBNST1, SKAHDBRBNS1, SKAHDBR1, SKAHD1, SKAHDBR2, SKAHDBR3, SKAHDBR4, SKAHDBR5,SKAHDBR6, SKAHDBR7, SKAHDBR8, SKAHDBR9, SKAHDBR10, SKAHDBR11, SKAHDBR12, SKAHDBR13, SKAHDBR14, SKAHDBR15,SKAHDB16, SKAHDB19, SKAHDB20, SKAHDB21, SKABR5, SKAHD2