Gosod, steilio a thrin y gwallt
Trosolwg
Mae'r safon yma yn cydfodoli â, SKAHDBRBNST1 Gweithredu a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol a SKAHDBRBNS1 Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau Gwallt, Barbro, Harddwch, Ewinedd, Lles a Holistig. Mae'r safon yma'n ymwneud â rhywun proffesiynol o faes trin gwallt sy'n gwneud gosodiad gwlyb neu sych, steilio neu drin y gwallt, mae hyn yn ymgorffori dyluniadau ar gyfer y gwallt. Bydd gofyn i chi hefyd wneud gwerthusiad ar ôl y driniaeth ac adfyfyrio er mwyn gwelliant parhaus. Bydd rhaid i ddefnyddwyr y safon yma wneud yn siwr bod eu harferion yn adlewyrchu'r wybodaeth, y polisïau, y gweithdrefnau a'r cyfarwyddyd am yr arfer orau. Cynghorir defnyddwyr y safon yma i fod yn ymwybodol o, a chydymffurfio gyda gofynion cymorth cyntaf yn unol â deddfwriaeth a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol.
Y prif ddeilliannau yw:
- Gosod gwallt gwlyb
- Gosod gwallt sych
- Lapio a gosod y gwallt
- Steilio a thrin y gwallt
- Gorffen y gwallt
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cwmpas/ystod
Dosbarthiad cyrls y gwallt
1. syth2. tonnog3. cyrliog4. cyrls5. cyfuniad
Nodweddion y gwallt
1. dwysedd y gwallt2. gwëad y gwallt3. hydwythedd y gwallt4. mandylledd y gwallt5. patrymau tŵf y gwallt
Stad y gwallt
1. gwallt sydd heb ei drin yn gemegol2. gwallt sydd wedi ei drin yn rhannol â chemegion3. gwallt sydd wedi ei drin yn gemegol
Profion
1. mandylledd2. hydwythedd
Technegau trin ac effeithiau codi’r gwallt
1. cyrls2. rholau3. llyfnhau4. cribo am yn ôl5. brwsio am yn ôl6. plethu
Cyfarpar
1. rholeri2. clipiau cyrl pin3. cyfarpar gwresolProtocol gwasanaeth gosod, steilio a thrin y gwallt
1. amgylchedd waith2. iechyd a diogelwch3. atal a rheoli haint4. cynllun gwasanaeth5. cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr6. cydsyniad gwybodus7. canlyniadau profion8. rheoli data9. archwilio ac atebolrwydd10. cyfarwyddiadau a chyngor11. cynaliadwyedd12. rheoli gwastraff13. ymarfer wedi’i seilio ar dystiolaeth14. ymarfer adfyfyriol
Technegau gosod
1. dodi rholer2. spiral cyrlio troellog3. gosod y gwallt i’w lapio4. cyrlio â phin er mwyn rhoi maint5. cyrlio â phin er mwyn rhoi symudiad gwastad a llai o faint
Rhannu a choreddu
1. pwynt i’r gwraidd2. gwraidd i’r pwynt3. ar y sylfaen4. oddi ar y sylfaen5. cyfeiriol6. bric
Technegau steilio gwresol
1. cyrlio2. tonnio3. sythu
Cyfarwyddiadau
1. hawliau cyfreithiol a chyfrifoldebau yr unigolyn a’r ymarferydd2. cyfarwyddiadau a gofal cyn ac ar ôl y gwasanaeth3. cyfyngiadau a risgiau cysylltiedig4. triniaethau yn y dyfodol
Anatomeg a ffisioleg
1. strwythur a swyddogaeth y gwallt a chylch tŵf y gwallt2. strwythur a swyddogaeth y croen3. strwythur anatomegol sylfaenol y pen, gwddf a’r ysgwyddau4. gwrtharwyddion cymharol a llwyr a phatholegau cysylltiedig
Cynnyrch steilio a gorffen
1. gwarchodwyr gwres2. mousse3. hufennau4. sera5. gel6. chwistrellydd gwallt7. olew8. pomadau9. chwistrellydd gwella gweadu10. golchdrwythau gosod
11. cwyr
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gwrtharwydd llwyr
Mae gwrtharwydd llwyr yn gyflwr sy'n rhwystro'r gwasanaeth rhag cael ei gyflawni ac a all fod angen cael ei gyfeirio
Adwaith niweidiol
**Adwaith niweidiol yw adwaith 'annisgwyl' neu ganlyniad yn dilyn
gwasanaeth e.e. llewygu
Gwrth weithred
Gwrth weithred yw adwaith neu ganlyniad 'disgwyliedig' yn dilyn gwasanaeth,
e.e. erythema
Ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth
** Mae ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth yn seiliedig ar y dystiolaeth orau gyfredol, ddilys a pherthnasol sydd ar gael
Cymorth Cyntaf
**Gall cymorth cyntaf gyfeirio at gymwysterau cymorth cyntaf yn y gwaith neu ei gyffelyb neu ymwybyddiaeth o gymorth cyntaf iechyd meddyliol
Dosbarthiad cyrls y gwallt
Gellir cyfeirio at ddosbarthiad cyrls y gwallt fel Math 1 – 4.
Protocol
Protocol yw gweithdrefn safonol er mwyn sicrhau arfer gorau a
chydymffurfiad pan yn darparu gwasanaethau h.y. dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
Gwrtharwydd cymharol
Gwrtharwydd cymharol yw cyflwr sy'n gofyn am asesiad o addasrwydd ar gyfer y gwasanaeth a/neu os oes angen addasiadau.
Achlysur arbennig
Gellir dosbarthu achlysur arbennig fel digwyddiadau priodasol, prom, ffurfiol neu anffurfiol.
Gosod a'i lapio
Gellir gosod gwallt a'i lapio pan fo'r gwallt yn wlyb neu yn sych ac fe'i defnyddir yn bennaf er mwyn lleihau maint. Gellir cyfeirio at lapiad sych fel lapiad sidan.
Dolenni I NOS Eraill