Cyfathrebu'n effeithiol â phobl eraill wrth geisio cyflawni rhagoriaeth yn eich chwaraeon
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chyfathrebu'n effeithiol ac arferion gweithio gydag amrediad o bobl gan gynnwys hyfforddwyr a staff cynorthwyol eraill, rheolwyr, mentoriaid ac athletwyr eraill, sy'n hanfodol er mwyn cyflawni rhagoriaeth yn eich chwaraeon.
Mae'r safon yn ymwneud hefyd â gallu ymddwyn yn broffesiynol bob amser, gan gynnwys yn ystod digwyddiadau amrywiol fel cyflwyniadau a chyfweliadau lle bydd disgwyl i chi gyflwyno delwedd gadarnhaol o'ch hun, eich sefydliad a'ch chwaraeon.
Mae'r safon hon ar gyfer athletwyr sydd â'r potensial gwirioneddol i gyflawni rhagoriaeth yn eu chwaraeon ac sydd am berfformio ar y lefel uchaf.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
ymgysylltu â phobl eraill ac amrywiaeth o adnoddau er mwyn eich helpu i gyflawni rhagoriaeth yn eich chwaraeon
trafod rolau a chyfrifoldebau ar gyfer eich hun a'r bobl eraill yr ydych yn ymgysylltu â nhw a chytuno arnynt
dilyn gweithdrefnau sefydliadol er mwyn penderfynu sut i ddatrys unrhyw broblemau a allai godi wrth gyflawni eich rôl
myfyrio ar eich delwedd broffesiynol drwy ddefnyddio adborth gan bobl eraill i'ch helpu
cydymffurfio â chôd ymddygiad eich sefydliad
cydymffurfio â chanllawiau digwyddiadau lle bo'n briodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
y mathau o wybodaeth ac adnoddau fydd eu hangen arnoch i gyflawni eich rôl
eich rolau a'ch cyfrifoldebau fel athletwr
pwysigrwydd perthnasoedd gweithio da a dulliau cyfathrebu effeithiol
rôl asiantau mewn chwaraeon
côd ymddygiad eich sefydliad a'u gweithdrefnau ar gyfer mynd i'r afael â phroblemau a gwrthdaro
sut i fyfyrio ar adborth pobl eraill ac ymateb yn adeiladol
pwysigrwydd rhoi adborth adeiladol i'r bobl yr ydych yn gweithio gyda nhw a sut i wneud hynny
pam mae'n bwysig cyflwyno delwedd gadarnhaol o'ch hun, eich sefydliad a'ch chwaraeon
y mathau o ddigwyddiadau y bydd rhaid i chi fynd iddynt, gan gynnwys:
9.1 eich rôl/rolau a chanllawiau i'w dilyn ar gyfer pob digwyddiad
9.2 pwysigrwydd paratoi eich hun ar gyfer digwyddiadau a sut i wneud hynny
9.3 y mathau o faterion sensitif y gallech eu hwynebu mewn digwyddiadau a sut i ymateb
- rôl cysylltiadau cyhoeddus a'r cyfryngau mewn chwaraeon a sut i fanteisio ar gyfleoedd drwy ddefnyddio'r cyfryngau
Cwmpas/ystod
Pobl eraill
staff hyfforddi
staff eraill
athletwyr eraill
swyddogion
gweithwyr y cyfryngau
y cyhoedd
Digwyddiad
cystadleuaeth
ymddangosiadau fel athletwr
cyflwyniadau