Gweithio mewn ffordd iach a diogel wrth geisio cyflawni rhagoriaeth yn eich chwaraeon

URN: SKAES8
Sectorau Busnes (Suites): Cyflawni Rhagoriaeth mewn Perfformiad Chwaraeon (Gan gynnwys Newid Mehefin 2007)
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 31 Gorff 2019

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â'ch iechyd a diogelwch chi a'r bobl o'ch cwmpas. Yn benodol, mae'n ymwneud ag iechyd a diogelwch a pheryglon posibl yn yr amgylchedd yr ydych yn hyfforddi ac yn cystadlu ynddo.

Mae'r safon yn ymwneud hefyd ag ymateb i argyfyngau pan mae'r rhain yn codi. Mae'r safon hon ar gyfer athletwyr sydd â'r potensial gwirioneddol i gyflawni rhagoriaeth yn eu chwaraeon ac sydd am berfformio ar y lefel uchaf.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. casglu gwybodaeth am ofynion iechyd a diogelwch ar gyfer eich gweithle

  2. dilyn y gofynion iechyd a diogelwch ar gyfer eich gwaith

  3. dilyn polisi diogelu eich sefydliad ar gyfer plant a grwpiau eraill sy'n agored i niwed

  4. ymateb i beryglon yn ôl lefel risg a lefel eich cyfrifoldeb

  5. rhannu awgrymiadau ar gyfer gwella iechyd a diogelwch â'r sawl sy'n gyfrifol

  6. dilyn gweithdrefnau eich sefydliad er mwyn diogelu eraill rhag niwed pan mae argyfyngau'n digwydd


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y gofynion a'r gweithdrefnau iechyd a diogelwch sy'n berthnasol i'ch rôl

  2. pwy sy'n gyfrifol am iechyd a diogelwch pan fyddwch yn hyfforddi a chystadlu

  3. polisi diogelu eich sefydliad, ei leoliad a'r gweithwyr sy'n gyfrifol amdano

  4. pam mae'n bwysig dilyn y gweithdrefnau diogelu ar gyfer plant a grwpiau eraill sy'n agored i niwed

  5. y mathau o beryglon sy'n debygol o fod yn bresennol yn eich man gweithio a sut i'w nodi

  6. sut i gynnal asesiad risg sylfaenol

  7. y dogfennau sy'n ymwneud ag iechyd a diogelwch

  8. pwysigrwydd gwneud awgrymiadau ynghylch materion iechyd a diogelwch a sut i wneud hynny

  9. gweithdrefnau'r sefydliad i'w dilyn mewn argyfwng

  10. sut i ymateb i bobl gofidus

  11. sut i ymdopi ag argyfyngau yn unol â'ch hyfforddiant cyn i gymorth cymwysedig gyrraedd, gan gynnwys:

11.1 pwysigrwydd diogelu pobl eraill gysylltiedig rhag cael rhagor o niwed, a sut i wneud hynny

11.2 pwysigrwydd rhoi cysur a sicrwydd, a sut i wneud hynny

  1. eich cyfrifoldebau ar gyfer rhoi gwybod am ddigwyddiadau

Cwmpas/ystod

Gofynion iechyd a diogelwch

  1. defnyddio cyfleusterau a chyfarpar

  2. codi a chario

  3. ymddygiad

  4. dillad a chyfarpar diogelu personol

  5. hylendid

  6. teithio

Peryglon

  1. cyfarpar a chyfleusterau anniogel

  2. arferion gweithio anniogel

  3. ymddygiad anniogel

  4. torri rheolau diogelwch


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Mai 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAES9

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Hamdden; teithio a thwristiaeth, Chwaraeon; hamdden ac adloniant, Galwedigaethau Chwaraeon a Ffitrwydd

Cod SOC

3442

Geiriau Allweddol

Iechyd; diogelwch; cyflawni; rhagoriaeth; chwaraeon