Datblygu eich gyrfa chwaraeon
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynllunio gyrfa a datblygu eich gyrfa chwaraeon. Er mwyn cyflawni rhagoriaeth yn eich chwaraeon, bydd angen i chi gynllunio ble rydych yn mynd a sut rydych yn mynd i'w gyrraedd drwy hyfforddiant, addysg a cheisio perfformio ar y lefel uchaf. Dylai cynllun eich gyrfa gynnwys y posibiliadau sydd o fewn a'r tu allan i'ch chwaraeon hefyd.
Wrth i'ch gyrfa ddatblygu, bydd yn bwysig edrych ar gynllun eich gyrfa eto ar adegau rheolaidd a gwneud newidiadau, yn enwedig er mwyn ystyried pan fydd diwedd eich gyrfa fel athletwr yn agosáu.
Dyma brif ddeilliannau'r safon hon:
Cynllunio eich gyrfa chwaraeon
Gweithredu cynllun eich gyrfa a'i ddatblygu
Cynllunio eich cyllid a'i reoli
Mae'r safon hon ar gyfer athletwyr sydd â'r potensial gwirioneddol i gyflawni rhagoriaeth yn eu chwaraeon ac sydd am berfformio ar y lefel uchaf.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cynllunio eich gyrfa chwaraeon
dewis y nodau yr ydych am eu cyflawni yn eich gyrfa
gweithio gyda chynghorwyr i gynllunio gweithgareddau ac amserlenni er mwyn cyflawni'r nodau hyn
gwneud yn siŵr bod llwybrau eich gyrfa a'r amserlenni yn realistig ac o fewn cyrraedd
datblygu a chofnodi cynllun i'ch helpu i gyflawni nodau eich gyrfa gan ystyried unrhyw gynlluniau posibl wrth gefn
Gweithredu cynllun eich gyrfa a'i ddatblygu
- dewis sefydliadau a phobl sy'n gallu eich helpu i ddilyn cynllun eich gyrfa
5.1 defnyddio eu cymorth a'u cefnogaeth i roi cynllun eich gyrfa ar waith
adolygu cynllun eich gyrfa a'i ddiweddaru pan mae amgylchiadau'n newid
paratoi cynllun eich gyrfa ar gyfer yr adeg pan na fyddwch yn gallu perfformio mwyach fel athletwr proffesiynol
Cynllunio eich cyllid a'i reoli
dewis eich nodau ariannol
paratoi cynllun ariannol er mwyn cyflawni eich nodau ariannol
dilyn eich cynllun ariannol a cheisio cymorth a chyngor pan fo angen
cadw cofnodion ariannol
adolygu eich cynllun ariannol pan mae amgylchiadau'n newid
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cynllunio eich gyrfa chwaraeon
rolau a chyfrifoldebau athletwr o'r radd flaenaf
hanfodion perfformio ar y lefel uchaf, gan gynnwys cyflogau cychwynnol, oriau oddi cartref, hyfforddiant, gemau a'r diwylliant mewn ystafelloedd newid
pwysigrwydd cael cynllun sy'n cynnwys eich gyrfa fel athletwr o'r radd flaenaf yn ogystal â phosibiliadau eraill
sut i nodi nodau a llwybrau gyrfa, fel athletwr ac mewn gyrfa amgen
sut i asesu'r yrfa y gallech ei dilyn a'r ystod o bobl sy'n gallu eich helpu i gyflawni hyn
yr adnoddau sydd eu hangen arnoch i asesu'r yrfa y gallech ei dilyn, gan gynnwys proffil chwaraewr
sut i wneud yn siŵr bod nodau a llwybrau eich gyrfa yn realistig ac o fewn cyrraedd, a phwysigrwydd gwneud hyn
y mathau o gynlluniau wrth gefn y gallech orfod paratoi ar eu cyfer
Gweithredu cynllun eich gyrfa a'i ddatblygu
y mathau o sefydliadau a phobl sy'n gallu eich helpu i ddatblygu cynllun eich gyrfa a'i gyflawni
y mathau o gymorth ac arweiniad y gallai'r sefydliadau a'r bobl hyn eu cynnig
y mathau o hyfforddiant, sgiliau, dealltwriaeth a chymwysterau fydd eu hangen arnoch i ddilyn cynllun eich gyrfa
pwysigrwydd adolygu a diweddaru cynllun eich gyrfa a sut i wneud hyn
strwythur llwybr perfformiad eich corff llywodraethu cenedlaethol
Cynllunio eich cyllid a'i reoli
pam mae'n bwysig rheoli eich arian yn gyfrifol
sut i ddod o hyd i ffynonellau cyngor ariannol a'u defnyddio
sut i baratoi eich nodau ariannol eich hun; tymor byr, canolig a hir
pwysigrwydd gofyn am gyngor gan eich cynghorwyr ariannol pan mae gennych broblemau gyda'ch cynllun ariannol
y mathau o gofnodion ariannol y dylech eu cadw a sut i'w cadw'n gyfredol
pam mae'n bwysig adolygu eich cynllun ariannol a sut i wneud hynny
Cwmpas/ystod
Cynllun Ariannol
incwm
gwariant
benthyciadau
nawdd
trethiant
cynilion
buddsoddiad
yswiriant
pensiwn