Rheoli eich ffordd o fyw er mwyn cyflawni rhagoriaeth yn eich chwaraeon
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â phwysigrwydd rheoli ffordd o fyw i athletwyr. Mae cyflawni rhagoriaeth yn eich chwaraeon yn ymwneud â mwy na datblygiad corfforol a sgiliau technegol, tactegol a seicolegol yn unig; mae bod yn broffesiynol ym mhob agwedd ar eich bywyd yn bwysig hefyd. Mae eich llwyddiant yn dibynnu arnoch chi'n gwneud penderfyniadau gwybodus, bod yn ddibynadwy a threulio amser mewn ffordd nad yw'n amharu ar eich gallu i berfformio neu'n dwyn anfri arnoch chi neu eich chwaraeon.
Dyma brif ddeilliannau'r safon hon:
Cynllunio eich ymrwymiadau chwaraeon a'u rheoli
Cynllunio eich amser y tu allan i chwaraeon a'i reoli
Mae'r safon hon ar gyfer athletwyr sydd â'r potensial gwirioneddol i gyflawni rhagoriaeth yn eu chwaraeon ac sydd am berfformio ar y lefel uchaf.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cynllunio eich ymrwymiadau chwaraeon a'u rheoli
cydweithio ag eraill er mwyn cynllunio eich ymrwymiadau chwaraeon, cytuno arnynt a'u cofnodi
cynllunio eich amser a'i reoli er mwyn cyflawni eich ymrwymiadau chwaraeon
defnyddio adnoddau er mwyn cyflawni eich ymrwymiadau chwaraeon
hysbysu eraill sydd angen gwybod am eich cynlluniau
addasu eich ymrwymiadau chwaraeon wrth i amgylchiadau newid
Cynllunio eich amser y tu allan i chwaraeon a'i reoli
cynllunio eich bywyd bob dydd er mwyn gwneud y mwyaf o'r amser a'r cyfleoedd sydd ar gael ar eich cyfer
gorffwys ac ymlacio fel y cytunir ar hynny gydag eraill
rheoli dylanwadau cadarnhaol a negyddol pobl eraill a gweithgareddau yn eich bywyd
rheoli amser oddi cartref yn effeithiol
dewis pobl sydd â sgiliau, gwybodaeth a phrofiad perthnasol sy'n gallu rhoi cymorth a chefnogaeth pan fo angen
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cynllunio eich ymrwymiadau chwaraeon a'u rheoli
pwysigrwydd cynllunio eich ymrwymiadau a'u rheoli
pwysigrwydd bod yn glir ynghylch eich ymrwymiadau a sut i'w blaenoriaethu
dulliau cynllunio a rheoli eich amser
y mathau o bethau sy'n gallu peri i chi wastraffu amser mewn ffordd a allai effeithio ar eich ymrwymiadau gwaith a sut i gael cyn lleied ohonynt â phosibl
y mathau o adnoddau sydd eu hangen arnoch i'ch helpu i gwrdd â'ch ymrwymiadau
pwysigrwydd sicrhau bod eraill yn ymwybodol o'ch ymrwymiadau cyfredol
pam mae'n bwysig bod yn hyblyg wrth gynllunio eich ymrwymiadau a sut i wneud hyn
pwy sy'n gallu eich helpu i gynllunio eich ymrwymiadau
Cynllunio eich amser y tu allan i chwaraeon a'i reoli
pam mae'n bwysig i athletwyr wneud defnydd da o'u hamser
pwysigrwydd gorffwys ac ymlacio i chi fel athletwr
sut i wybod faint o amser gorffwys ac ymlacio sydd ei angen arnoch i gyflawni'r canlyniadau gorau yn eich chwaraeon
gweithgareddau hamdden sy'n gallu helpu neu rwystro eich perfformiad a'ch statws yn eich chwaraeon
gweithgareddau hamdden sy'n gallu eich helpu i ddatblygu'n bersonol
y dylanwadau a'r mathau o berfformiad a allai niweidio eich perfformiad a'ch statws fel athletwr o'r radd flaenaf
effaith y cyfryngau cymdeithasol
pwy sy'n gallu eich helpu i wneud defnydd da o'ch amser a rhoi cymorth gyda materion personol
Cwmpas/ystod
Eraill
hyfforddwyr a/neu staff perthnasol eraill
mentoriaid
athletwyr eraill
ysgol neu goleg
rhieni
Adnoddau
dillad a chyfarpar
gwybodaeth
pobl
cyllid
trefniadau teithio