Datblygu eich sgiliau seicolegol i gyflawni rhagoriaeth yn eich chwaraeon
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â defnyddio sgiliau seicolegol a'u pwysigrwydd er mwyn ymdopi â heriau hyfforddi a chystadlu. Mae ymroddiad, cymhelliant, hyder, ffocws a rheoli emosiynau i gyd yn elfennau hanfodol er mwyn cyflawni rhagoriaeth mewn chwaraeon. I fod yn llwyddiannus, mae angen i athletwyr o'r radd flaenaf feithrin lefelau uchel o gadernid meddyliol a'u cynnal. Byddwch yn gweithio gyda staff hyfforddi profiadol a hyfedr a/neu staff eraill fel seicolegwyr chwaraeon. Fodd bynnag, bydd gennych rôl bwysig yn gwella eich sgiliau seicolegol hefyd.
Dyma brif ddeilliannau'r safon hon:
- Dewis rhaglen ddatblygu a chytuno arni er mwyn gwella eich sgiliau seicolegol.
- Rhoi rhaglen ddatblygu ar waith er mwyn gwella eich sgiliau seicolegol.
- Cymhwyso a gwerthuso eich defnydd o sgiliau seicolegol.
Mae'r safon hon ar gyfer athletwyr sydd â'r potensial gwirioneddol i gyflawni rhagoriaeth yn eu chwaraeon ac sydd am berfformio ar y lefel uchaf.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Dewis rhaglen ddatblygu a chytuno arni er mwyn gwella eich sgiliau seicolegol.
- gweithio gyda'ch hyfforddwyr a/neu staff eraill er mwyn:
1.1 cytuno ar y gofynion seicolegol er mwyn rhagori yn eich rôl/rolau
1.2 datblygu proffil o sgiliau seicolegol sy'n ymwneud â pherfformiad yn eich chwaraeon
1.3 dewis nodau sy'n cyd-fynd â blaenoriaethau eich perfformiad seicolegol
1.4 cynllunio rhaglen ddatblygu a chytuno arni er mwyn cyflawni blaenoriaethau eich perfformiad seicolegol
- cytuno ar eich prif flaenoriaethu gyda'ch hyfforddwyr a/neu staff eraill er mwyn cyflawni rhagoriaeth seicolegol yn eich rôl/rolau
Rhoi rhaglen ddatblygu ar waith er mwyn gwella eich sgiliau seicolegol.
cymryd rhan yn y rhaglen datblygu sgiliau seicolegol a gynllunnir
dadansoddi sut ydych yn cymryd rhan yn y rhaglen datblygu sgiliau seicolegol
cyfrannu at asesiadau parhaus o'ch cynnydd
rhoi adborth i'ch hyfforddwyr a/neu staff eraill ynghylch pa mor dda mae eich rhaglen datblygu sgiliau seicolegol yn bodloni eich anghenion
gwneud addasiadau i'ch rhaglen ddatblygu er mwyn eich helpu i gyflawni eich nodau seicolegol
Cymhwyso a gwerthuso eich defnydd o sgiliau seicolegol
trafod gyda'ch hyfforddwyr a/neu staff eraill sut gallwch ymarfer y sgiliau seicolegol angenrheidiol a chytuno ar sut i wneud hyn cyn, yn ystod ac ar ôl cystadlu
defnyddio eich sgiliau seicolegol i gymryd rhan mewn ymarferion cyn-cystadlu
rhoi adborth i'ch hyfforddwyr a/neu staff eraill ar effeithiolrwydd ymarferion sgiliau seicolegol cyn-cystadlu a gwneud awgrymiadau er mwyn gwella
integreiddio eich sgiliau seicolegol â'ch sgiliau technegol, tactegol a chorfforol bob amser, yn enwedig mewn sefyllfa gystadleuol
gweithio gyda'ch hyfforddwyr a/neu staff eraill er mwyn gwerthuso eich perfformiad seicolegol a'i wella
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Dewis rhaglen ddatblygu a chytuno arni er mwyn gwella eich sgiliau seicolegol.
ffynonellau gwybodaeth am ofynion seicolegol eich rôl yn eich chwaraeon a sut i'w defnyddio
gofynion seicolegol rhagoriaeth yn eich rôl yn eich chwaraeon
ffyrdd effeithiol o weithio gyda'ch hyfforddwyr a/staff eraill ar wella eich sgiliau seicolegol
y mathau o asesiadau a allai gael eu defnyddio i greu proffil o'ch sgiliau seicolegol o ran perfformiad yn eich chwaraeon
pwysigrwydd rhoi eich barn a'ch safbwyntiau eich hun wrth ddatblygu proffil eich sgiliau seicolegol
y mathau o flaenoriaethau seicolegol y mae'n rhaid i athletwyr yn eich rôl ganolbwyntio arnynt i ragori
Rhoi rhaglen ddatblygu ar waith er mwyn gwella eich sgiliau seicolegol.
pam mae'n rhaid i chi bennu nodau seicolegol, eu deall, a chytuno arnynt er mwyn rhagori yn eich chwaraeon
y mathau o nodau seicolegol y gallai fod angen i athletwyr ar eich lefel eu pennu ar gyfer eu hunain
prif gydrannau eich rhaglen datblygu sgiliau seicolegol ar eich lefel yn eich chwaraeon a sut maent yn gallu helpu i gyrraedd eich nodau
y mathau o wybodaeth y gallwch eu rhoi i hyfforddwyr a/neu staff eraill i'w helpu i ddatblygu eich rhaglen datblygu sgiliau seicolegol yn unol â'ch anghenion
pwysigrwydd cadw at eich rhaglen datblygu sgiliau seicolegol a sut i wneud hynny
sut i gyfrannu'n gadarnhaol at bob elfen o'ch rhaglen datblygu sgiliau seicolegol
pwysigrwydd rhoi adborth gonest i'ch hyfforddwyr a/neu staff eraill ynghylch pa mor dda mae eich rhaglen datblygu sgiliau seicolegol yn bodloni eich anghenion
beth i'w gynnwys yn eich adborth yn ystod eich rhaglen datblygu sgiliau seicolegol
ffyrdd o addasu eich rhaglen datblygu sgiliau seicolegol i fodloni eich anghenion
Cymhwyso a gwerthuso eich defnydd o sgiliau seicolegol
sut i wneud y defnydd mwyaf o'ch sgiliau seicolegol bob amser, yn enwedig mewn sefyllfa gystadleuol
y mathau o ymarferion seicolegol cyn-cystadlu sy'n gallu eich helpu i baratoi ar gyfer cystadleuaeth a sut i'w defnyddio
ffyrdd eraill o helpu eich hyfforddwyr a/neu staff eraill i wella technegau seicolegol cyn-cystadlu
pwysigrwydd cynnal gwerthusiadau trylwyr a gwrthrychol o'ch perfformiad cystadleuol a'r effaith ar sgiliau seicolegol
dulliau gwerthuso y gellir eu defnyddio ar gyfer perfformiad cystadleuol a'r sgiliau seicolegol rydych yn eu defnyddio
ffyrdd o gyfrannu at werthusiadau o'ch perfformiad seicolegol
sut i ddefnyddio gwerthusiadau i wella eich sgiliau seicolegol ymhellach
Cwmpas/ystod
Gofynion seicolegol
cymhelliant
hyder
ffocws
rheolaeth emosiynol
ymdopi â llwyddiant neu fethiant
gofynion priodol eraill