Cynllunio a pharatoi ymarfer yn y dŵr
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynllunio a pharatoi ymarfer yn y dŵr ar gyfer oedolion sydd yn ôl pob golwg yn iach.
Prif ganlyniadau'r safon hon yw:
- casglu a dadansoddi gwybodaeth
- cynllunio ymarfer dŵr diogel ac effeithiol
- paratoi'ch hun a'r cyfarpar ar gyfer ymarfer yn y dŵr
Rhaid i chi gynnwys yr ymarfer craidd a'r wybodaeth am ffitrwydd a dealltwriaeth ddamcaniaethol fel y nodir yn y ddogfen Gofynion Gwybodaeth Graidd Ymarfer a Ffitrwydd SkillsActive sy'n berthnasol i'r rôl swydd.
Mae'r safon hon ar gyfer hyfforddwyr sy'n cynllunio, yn hyfforddi ac yn adolygu sesiynau ymarfer yn y dŵr.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Casglu a dadansoddi gwybodaeth**
1. casglu'r wybodaeth y mae ei hangen arnoch chi i gynllunio ymarfer yn y dŵr yn unol â g*weithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol*
2. dadansoddi'r wybodaeth ac adnabod y goblygiadau ar gyfer ymarfer yn y dŵr
3. cyfeirio unrhyw gyfranogwyr na allwch fodloni eu hanghenion a'u potensial at weithwyr proffesiynol eraill
4. cynnal cyfrinachedd, gan ddilyn gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol
**
**
Cynllunio ymarfer yn y dŵr diogel ac effeithiol**
5. adnabod amcanion* sy'n bodloni anghenion a photensial cyfranogwyr*
6. cynllunio a chytuno gyda chyfranogwyr ar raglen o ymarfer yn y dŵr a fydd yn eu helpu i gyflawni eu hamcanion
7. adnabod unrhyw beryglon ac asesu risg y bydd y peryglon hyn yn achosi niwed mewn gwirionedd
8. gofyn am gyngor gan weithwyr proffesiynol eraill os oes unrhyw amcanion, ymarferion neu beryglon sydd y tu hwnt i'ch maes cymhwysedd
9. cofnodi'ch cynlluniau yn unol â'ch gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol
**
**
Paratoi'ch hun a'r offer ar gyfer ymarfer yn y dŵr**
10. paratoi'r amgylchedd** ar gyfer y sesiwn
11. adnabod a dethol offer diogel a chywir ar gyfer yr ymarfer yn y dŵr
12. codi a thrin y cyfarpar mewn ffordd sy'n atal anaf a difrod
13. sicrhau bod digon o le ar gyfer perfformio ymarfer yn y dŵr yn ddiogel
14. dilyn y gweithdrefnau cywir ar gyfer gwirio cyfarpar a delio gydag unrhyw eitemau sy'n anniogel
15. cyfeirio unrhyw faterion iechyd, diogelwch neu les yn unol â'r gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Casglu a dadansoddi gwybodaeth**
1. y dulliau o gasglu gwybodaeth sy'n ofynnol i gynllunio ymarfer yn y dŵr
2. y ffactorau sy'n effeithio ar y gallu i ymarfer
3. technegau dadansoddi gwybodaeth
4. pryd a sut i gyfeirio unrhyw gyfranogwyr na allwch fodloni eu hanghenion a'u potensial at weithwyr proffesiynol eraill
5. gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol yn ymwneud â chyfrinachedd
**
Cynllunio ymarfer dŵr diogel ac effeithiol
6. technegau gosod amcanion
7. ffiniau'ch disgrifwyr galwedigaethol
8. y ffactorau sy'n gysylltiedig â chynllunio sesiynau
9. ffyrdd o adnabod unrhyw beryglon ac asesu'r ffactorau iechyd ac amgylcheddol a allai ddylanwadu ar ddiogelwch
10. pryd a sut i gael gafael ar gyngor gan weithwyr proffesiynol eraill wrth ddelio gydag amcanion, ymarferion neu beryglon sydd y tu hwnt i'ch cymhwysedd
11. dulliau o gofnodi cynlluniau yn unol â gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol
**
**
Paratoi'ch hun a chyfarpar ar gyfer ymarfer yn y dŵr**
12. y cyfarpar a ddefnyddir ar gyfer ymarfer yn y dŵr
13. y technegau o godi a thrin cyfarpar mewn ffordd sy'n atal anaf neu ddifrod
14. ffyrdd o drefnu'r amgylchedd, yn enwedig y gofod, er mwyn galluogi ymarfer diogel yn y dŵr
15. y gweithdrefnau cywir ar gyfer delio gydag unrhyw eitemau sy'n anniogel
16. at bwy a sut i gyfeirio unrhyw faterion iechyd, diogelwch neu les, yn unol â gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol** (i drafod o leiaf 4)
- Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
- Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd
- Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Afiechydon a Digwyddiadau Peryglus
- Rheoliadau Trydan yn y Gweithle
- Rheoliadau Cymorth Cyntaf
- polisïau a gweithdrefnau sefydliadau unigol
**
**
Gwybodaeth**
**
**
- nod personol
- ffordd o fyw
- hanes meddygol
- hanes gweithgarwch corfforol
- dewisiadau gweithgarwch corfforol
- agwedd a chymhelliant i gymryd rhan
- lefel ffitrwydd gyfredol
- cyfnod parodrwydd
- parodrwydd seicolegol
**
**
Cyfranogwyr**
**
**
- unigolion
- grwpiau
- gydag anghenion ffitrwydd penodol
- gydag anghenion iechyd cyffredinol
- dechreuwyr
- profiadol
**
**
Gweithwyr proffesiynol eraill** (i ymdrin â 2 o leiaf)
- ffisiotherapyddion a meddygon
- seicolegwyr
- ffisiolegwyr
- biomecanwyr
- arbenigwyr cefnogi ffordd o fyw
- rhwydwaith cymorth cymdeithasol y cyfranogwyr
- meddyg
- goruchwyliwr
- arbenigwr iechyd/gweithiwr ymarfer proffesiynol
- maethegydd/deietegydd
**
**
Amcanion**
**
**
- gwella ffitrwydd
- gwella cymhelliant
- mynd i'r afael â rhwystrau rhag cyfranogiad
- gwella sgiliau a thechnegau
- cynnig cyfleoedd ar gyfer hwyl a mwynhad
**
**
Peryglon,** yn ymwneud â
- yr unigolyn
- y gweithgareddau yr ydych chi'n eu cynllunio
- gweithgareddau eraill sy'n digwydd ar yr un pryd
**
**
Amgylchedd**
**
**
- gofod
- gosodiad
- awyriad
- defnydd o gerddoriaeth
- offer ar gyfer y sesiwn
- dillad ac offer personol
- dŵr bas
- dŵr dwfn
Gwybodaeth Cwmpas
Dulliau**
**
**
- cyfweld
- holiadur
- sgrinio ar lafar
- arsylwi
**
**
Gwybodaeth**
**
**
- nod personol
- ffordd o fyw
- hanes meddygol
- hanes gweithgarwch corfforol
- dewisiadau gweithgarwch corfforol
- agwedd a chymhelliant i gymryd rhan
- lefel ffitrwydd gyfredol
- cyfnod parodrwydd
- parodrwydd seicolegol
**
**
Gweithwyr proffesiynol eraill**
**
**
- ffisiotherapyddion a meddygon
- seicolegwyr
- ffisiolegwyr
- biomecanwyr
- arbenigwyr cefnogi ffordd o fyw
- rhwydwaith cymorth cymdeithasol cyfranogwyr
- meddyg
- goruchwyliwr
- arbenigwr iechyd/gweithiwr ymarfer proffesiynol
- maethegydd/deietegydd
**
**
Amgylchedd
*
*
- gofod
- gosodiad
- awyriad
- defnydd o gerddoriaeth
- offer ar gyfer y sesiwn
- dillad ac offer personol
- dŵr bas
- dŵr dwfn
Gwerthoedd
Mae'r gwerthoedd canlynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd
Dylai Gweithwyr Ymarfer Proffesiynol:
- arddangos a hyrwyddo ffordd gyfrifol o fyw ac ymddwyn, trwy beidio â chefnogi'r defnydd o gyffuriau sy'n gwella perfformiad, ac unrhyw sylwedd anghyfreithlon arall
- cynnal cyfrinachedd
- delio â chyfranogwyr mewn modd agored a thryloyw; gan barchu anghenion eu cyfranogwyr bob tro
- ceisio mabwysiadu'r lefel uchaf o safonau proffesiynol yn holl feysydd eu gwaith a datblygiad eu gyrfa
Ymddygiadau
Mae'r ymddygiadau canlynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd
Dylai Gweithwyr Ymarfer Proffesiynol:
- geisio magu perthnasau iach gyda chyfranogwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill trwy gefnogi, cydgysylltu a rheoli'r broses ffitrwydd/ymarfer corff yn effeithiol, gan gadw'r cyfranogwr wrth wraidd y broses
- bod yn ymwybodol o rolau personél cynorthwyol yn y galwedigaethau gofal iechyd a chydnabod pryd y dylid atgyfeirio problemau at yr arbenigwyr hyn
- bod yn ymwybodol o gyfrifoldebau ac atebolrwyddau o dan ddeddfwriaeth cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a chodau ymarfer y diwydiant
- anelu at rymuso cyfranogwyr; yn cefnogi eu hawl i wneud dewisiadau, dod o hyd i'w hatebion eu hunain, a'u galluogi i gymryd rhan a datblygu ar eu cyflymder eu hunain ac yn eu ffordd eu hunain
- nodi a chydnabod anghenion y cyfranogwyr ar ddechrau'r broses
- anelu at wella hyder, hunan-barch a lefelau ffitrwydd cyfranogwyr
- myfyrio ar eu harfer eu hunain a thrwy'r amser geisio ffyrdd i wella eu gallu ffitrwydd ac ymarfer, sgiliau a gwybodaeth eu hunain
- sefydlu perthynas dda gyda chyfranogwyr
- dangos empathi a sensitifrwydd i nodau a chyflwr parodrwydd cyfredol cyfranogwyr
- cyflwyno delwedd gadarnhaol o'u hunain a'u sefydliad i gyfranogwyr
- datblygu perthynas waith effeithiol gyda chyfranogwyr
- diffinio rolau a chyfrifoldebau gweithwyr proffesiynol eraill a allai fod yn gysylltiedig, yn glir
- cyfathrebu'n glir gyda chyfranogwyr mewn ffordd sy'n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi
- dangos sensitifrwydd ac empathi i'r cyfranogwyr a'r wybodaeth maent yn ei darparu
Sgiliau
Mae'r sgiliau dilynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd
Dylai Gweithwyr Ymarfer Proffesiynol:
- baratoi'n systematig ar gyfer yr holl weithgareddau gan sicrhau iechyd, diogelwch a lles eu cyfranogwyr
- sicrhau bod gwahaniaethu a chynhwysiant a all alluogi cyfranogwyr ag anghenion penodol ac o alluoedd amrywiol i gymryd rhan mewn sesiynau a rhaglenni. Dylid ystyried anghenion cyfranogwyr ag anabledd a, lle y bo'n bosibl, dylid cwrdd â'u hanghenion
- gweithredu rheolau sylfaenol ar gyfer ymddygiad yn ystod y sesiwn
- esbonio eu rôl a chyfrifoldebau i gyfranogwyr
- nodi unrhyw rwystrau rhag cyfranogi
- annog cyfranogwyr i ddod o hyd i ateb i'w rhwystrau
- nodi parodrwydd cyfranogwyr i gymryd rhan
- nodi a chytuno ar strategaethau i atal rhoi'r gorau neu lithro'n ôl
- defnyddio dulliau hyfforddi sy'n cyfateb ag anghenion cyfranogwyr
- addasu eu perthynas â chyfranogwyr er mwyn cwrdd â'u hanghenion sy'n newid
- gwrando ar a gofyn cwestiynau i gyfranogwyr er mwyn gwirio eu dealltwriaeth
- nodi'r wybodaeth mae arnynt angen ei chasglu ynghylch eu cyfranogwyr
- casglu gwybodaeth ynghylch eu cyfranogwyr gan ddefnyddio dulliau cymeradwy
- cofnodi'r wybodaeth mewn modd a fydd yn helpu i'w dadansoddi
- defnyddio technegau cyfathrebu ac ymatebion priodol wrth ddelio ag anghydfod
- cydnabod ymddygiad gwahaniaethol a gwybod am y gweithdrefnau i'w dilyn os bydd unrhyw ddigwyddiadau
Geirfa
Gweithgareddau
Cydrannau sesiwn gweithgarwch corfforol a allai ganolbwyntio ar eich datblygiad ar gryfder, dygnwch, technegau neu ymwybyddiaeth dactegol cyfranogwyr neu strategaethau ar gyfer datrys problemau. Mae sesiynau gweithgarwch corfforol yn cynnwys un neu'n fwy o weithgareddau.
*
*
*
*
Adborth
Y broses o roi a derbyn barnau ar berfformiad. Gallai hyn eich cynnwys chi yn rhoi adborth i gyfranogwyr ar naill eu perfformiad neu gyfraniad at sesiwn gweithgarwch corfforol; neu hyfforddwr mwy profiadol yn rhoi barn ar eich perfformiad wrth gyflwyno sesiwn gweithgarwch corfforol penodol.
Nodau
Gallant fod yn rhai tymor hir, tymor canolig neu dymor byr.
Perygl
Mae hyn yn rhywbeth a allai fod yn beryglus neu a allai achosi niwed.
Disgrifwyr galwedigaethol
Disgrifiad a dadansoddiad o rôl galwedigaethol/swydd.
Cyfranogwyr
Pobl, fel unigolion, neu mewn grwpiau, a fydd yn cymryd rhan mewn sesiwn gweithgarwch corfforol.
Cynllun
Mae cynllun sesiwn gweithgarwch corfforol yn ddisgrifiad o sesiwn benodol; yn rhan o'r cynllun y bydd ei nodau, amcanion, cynnwys, gweithgareddau, amseriadau a chyfarpar gofynnol. Dylai cynlluniau gael eu cofnodi er mwyn eu rhannu gydag eraill a chyfeirio atynt yn ddiweddarach.
Unigolyn cyfrifol
Gallai hyn fod yn hyfforddwr mwy cymwys neu brofiadol neu reolwr llinell, y byddech chi'n adrodd wrthynt.
Goruchwylydd
Yr unigolyn sy'n rheoli'ch gwaith yn uniongyrchol h.y. rheolwr llinell neu reolwr canolfan ffitrwydd.
Lles
Cefnogi lles cyfranogwyr gan gynnwys ymwybyddiaeth ffordd o fyw, maeth a chyffuriau sylfaenol.
Dolenni I NOS Eraill
Mae'r safon hon yn cysylltu â SKAEF1, SKAEF2 a SKAEF10.