Hyfforddi grwpiau ymarfer corff, symud a dawns
Trosolwg
Mae a wnelo'r safon hwn â dysgu ymarfer corff i grwpiau o oedolion sydd i bob golwg yn iach, mewn gwersi ymarfer corff, symud a dawns.
Mae disgwyl i'r rhai sy'n cyrraedd y safon allu:
- paratoi grwpiau o bobl i gymryd rhan mewn gwersi ymarfer corff, symud a dawns
- eu dysgu fel grŵp mewn gwersi ymarfer corff, symud a dawns,
- eu helpu i wella'u perfformiad
- dirwyn i ben a thrafod sesiwn grŵp o ymarfer corff, symud a dawns
- gwella drostynt eu hunain eu harfer proffesiynol a'u cyfleoedd gyrfa
Mae'n rhaid i'r dysgu gynnwys y wybodaeth craidd a'r ddealltwriaeth o theori ymarfer corff a ffitrwydd sydd yn berthnasol i'r swydd ac wedi eu nodi yn y ddogfen Ymarfer Corff SkillsActive a Gofynion Gwybodaeth Graidd ynghylch Ffitrwydd.
Mae'r safon hwn ar gyfer hyfforddwyr sy'n cynllunio, yn dysgu ac yn adolygu rhaglenni ymarfer corff grŵp o bob math.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Paratoi'r rhai sy'n cymryd rhan mewn gwersi ymarfer corff, symud a dawns, ar gyfer ymarfer corff mewn grŵp**
1. drwy wneud yn siŵr fod yr amgylchedd waith a'r cyfarpar yn barod ar gyfer yr ymarferion a gytunwyd
2. cyfarfod y rhai sy'n cymryd rhan ar yr amser cytunedig
3. sgrinio'r rhai sy'n cymryd rhan drwy eu holi ar lafar a nodi unrhyw wybodaeth newydd ynglŷn â pha mor barod ydyn nhw i wneud ymarfer corff, symud a dawns
4. cadarnhau neu adolygu'r ymarferion cytunedig yn sgîl unrhyw wybodaeth newydd a gafwyd yn ystod y sgrinio gan y rhai sy'n cymryd rhan**
5. trafod y sesiwn a gytunwyd efo'r rhai sy'n cymryd rhan a disgrifio'r gofynion corfforol a thechnegol a fydd arnyn nhw
6. hysbysu'r rhai sy'n cymryd rhan o drefniadau argyfwng y lle
Dysgu'r rhai sy'n cymryd rhan mewn gwersi ymarfer corff, symud a dawns, i ymarfer corff mewn grŵp
7. drwy ddefnyddio gweithgareddau cynhesu a datgynhesu sy'n cydfynd â'r gyfraith a gweithdrefnau'r sefydliad
8. esbonio ac arddangos yr hyn dydd i'w wneud i'r rhai sy'n cymryd rhan
9. esbonio arddull y ddawns, ei hanes a'r diwylliant y deilliodd ohono i'r rhai sy'n cymryd rhan
10. esbonio anian arddull y ddawns i'r rhai sy'n cymryd rhan
11. esbonio i'r rhai sy'n cymryd rhan sut mae'r dewis o gerddoriaeth yn berthnasol i'r sesiwn
12. rhoi cyfle i'r rhai sy'n cymryd rhan ofyn cwestiynau
13. defnyddio dulliau effeithiol gyfrif pawb i mewn/rhoi ciwiau
14. defnydd effeithiol o'r llais wrth ddysgu'r grŵp
15. cadw at yr amseroedd a fwriadwyd ar gyfer y sesiwn
16. cydymffurfio â gweithdrefnau'r sefydliad a'r gyfraith a gyda'r côd ymarfer
*
*
*
*
Helpu'r rhai sy'n cymryd rhan i wella eu perfformiad
17. drwy ddefnyddio dulliau dysgu a hyfforddiant sy'n sicrhau bod y rhai sy'n cymryd rhan yn cymryd rhan lawn yn y sesiwn
18. arsyllu perfformiad y rhai sy'n cymryd rhan o ddechrau i ddiwedd y sesiwn
19. ymateb i berfformiadau'r rhai sy'n cymryd rhan a darparu camau ymlaen (cynnydd) neu yn ôl (adolygu/cadarnhau) ar eu cyfer yn unol â'u hanghenion
20. defyddio dulliau dysgu a hyfforddiant sy'n cywiro a chadarnhau nodweddion techneg
21. darparu adborth a phwyntiau dysgu i helpu'r rhai sy'n cymryd rhan gyrraedd eu nodau
22. rhoi arweiniad a fydd yn galluogi'r rhai sy'n cymryd rhan i gynyddu swm a natur eu hymarfer corff yn raddol
23. galluogi'r rhai sy'n cymryd rhan i fynegi eu hunain drwy ddawns
24. esbonio arddull y symudiadau sylfaenol i'r rhai sy'n cymryd rhan
25. addasu'r gweithgareddau i gydfynd â newidiadau yn anghenion y rhai sy'n cymryd rhan, yn yr offer a'r cyfarpar neu yn yr amgylchedd waith, yn ystod y sesiwn
*Dirwyn i ben a thrafod sesiwn grŵp o ymarfer corff, symud a dawns *
26. drwy adael digon o amser ar gyfer diweddu'r sesiwn, yn unol â lefel profiad y rhai sy'n cymryd rhan
27. dod â'r sesiwn i ben gyda gweithgareddau datgynhesu sy'n cydfynd ag anghenion y rhai sy'n cymryd rhan
28. rhoi cyfle i'r rhai sy'n cymryd rhan drafod y sesiwn a rhoi adborth
29. rhoi crynodeb i'r rhai sy'n cymryd rhan o'ch adborth chi fel athro/hyfforddwr ar y sesiwn
30. adnabod, o'r adborth a gafwyd, pa mor dda y bu i'ch arddull dysgu gydfynd ag anghenion y rhai sy'n cymryd rhan
31. adnabod, o'r adborth a gafwyd, ffyrdd o wella eich gwaith fel hyfforddwr
- sicrhau bod gan y rhai sy'n cymryd rhan wybodaeth ynglŷn â'r sesiynau sydd i ddod
31. cydymffurfio â gweithdrefnau'r sefydliad a'r gyfraith wrth wirio a thrin unrhyw offer neu gyfarpar a ddefnyddiwyd
adnabod pa mor dda y bu i chi reoli'r ymarferion o safbwynt iechyd, diogelwch a lles y rhai sy'n cymryd rhan
gadewch yr amgylchedd waith, yr offer a'r cyfarpar, mewn cyflwr derbyniol i'w ddefnyddio yn y dyfodol gennych chi ac eraill
34. cyflwynwch awgrymiadau ynglŷn â gwella iechyd a diogelwch i'r person/swyddog priodol
Gwella eich arfer proffesiynol a chyfleoedd gyrfa
35. trafodwch eich syniadau gyda hyfforddwyr proffesiynol eraill gan roi ystyriaeth i'w barn
36. gwnewch ddefnydd o adborth hyfforddwyr proffesiynol eraill
37. gwerthuswch pa mor dda y bu i chi weithio a chydweithio gyda hyfforddwyr proffesiynol eraill
38. adolygwch eich arfer proffesiynol eich hun yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad a'r gyfraith
39. lluniwch ac yna datblygu cynllun gweithredu personol a fydd yn eich helpu i wella eich arfer proffesiynol
40. daliwch ati gyda'ch Datblygiad Proffesiynol Parhaus mewn ymarfer corff grŵp
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Paratoi'r rhai sy'n cymryd rhan mewn gwersi ymarfer corff, symud a dawns,* ar gyfer ymarfer corff mewn grŵp*
**
**
1. pa offer a chyfarpar sydd eu hangen ar gyfer y sesiwn cytunedig, a sut i baratoi'r amgylchedd waith
2. pam bod angen i chi fod yn brydlon a rhoi croeso i'r rhai sy'n cymryd rhan
3. dulliau sgrinio **ac o gasglu gwybodaeth newydd ynglŷn â pha mor barod ydi'r rhai sy'n cymryd rhan ar gyfer y sesiwn ymarfer corff, symud a dawns
4. pa bryd y dylid cadarnhau neu addasu'r sesiwn yn sgîl unrhyw wybodaeth newydd
5. ffyrdd o esbonio gofynion corfforol a thechnegol y sesiwn i'r rhai sy'n cymryd rhan
6. gweithdrefnau argyfwng y lle
**
**
Dysgu'r rhai sy'n cymryd rhan mewn gwersi ymarfer corff, symud a dawns, i ymarfer corff mewn grŵp
7. pwrpas a gwerth y gweithgareddau cynhesu a datgynhesu
8. ffyrdd o esbonio a dangos beth i'w wneud sy'n dechnegol gywir, yn cyflwyno ystumiau symud a dawns sy'n ddiogel ac yn effeithiol ac yn cydfynd ag anghenion a phrofiad y rhai sy'n cymryd rhan
9. hanes, diwylliant a tharddiad y gwahanol fathau o symud a dawns perthnasol
10. anian yr arddull dawns
11. perthynas y gerddoriaeth a ddewiswyd â gwaith y sesiwn
12. pam bod angen i'r rhai sy'n cymryd rhan gael cyfle i ofyn cwestiynau
13. gwahanol ddulliau dysgu a hyfforddi a sut mae eu cymhwyso i wahanol anghenion y rhai sy'n cymryd rhan
14. technegau effeithiol i ddangos pryd i ddechrau
15. ffyrdd o ddefnyddio cywair a maint eich llais yn effeithiol
16. sut i amseru'r sesiwn yn effeithiol
17. gweithdrefnau'r sefydliad a'r gyfraith a chodau ymarfer
*
*
*
*
Helpu'r rhai sy'n cymryd rhan i wella eu perfformiad
18. ffyrdd o sicrhau sylw ac annog pob un o'r rhai sy'n cymryd rhan
19. technegau arsylwi a fydd yn gymorth i fonitro diogelwch ac effeithiolrwydd y sesiwn
- pa bryd i adolygu gallu'r rhai sy'n cymryd rhan i wneud yr ymarfer, y symud a'r dawnsio, a pha bryd i roi camau ymlaen (cynnydd) ac yn ôl (cadarnhau/adolygu) yn ôl yr angen
21. pa bryd i roi adborth a chyflwyno pwyntiau dysgu fydd yn helpu'r rhai sy'n cymryd rhan i gyrraedd eu nodau
22. ffyrdd o gynyddu swm a natur yr ymarfer corff yn raddol
23. technegau a fydd yn gallugoi'r rhai sy'n cymryd rhan i fynegi eu hunain drwy ddawns
24. symudiadau sylfaenol gwahanol ddulliau
25. pa bryd i addasu gweithgareddau'r sesiwn er mwyn ymateb i newid yn anghenion y rhai sy'n cymryd rhan, yn yr offer neu'r amgylchedd waith
*Dirwyn i ben a thrafod sesiwn grŵp o ymarfer corff, symud a dawns *
26. pwrpas bod â digon o amser i ddirwyn sesiwn i ben, yn unol a lefel profiad y rhai sy'n cymryd rhan
27. dulliau cael adborth oddi wrth y rhai sy'n cymryd rhan ac oddi wrth bobl eraill
28. gweithgareddau datgynhesu diogel ac effeithiol
29. ffyrdd o ddarparu crynodeb deg a chywir o'ch adborth ynghylch y sesiwn
30. sut mae trafod gyda, ac adborth oddi wrth, y rhai sy'n cymryd rhan a phobl eraill yn gallu gwella eich arfer dysgu
31. technegau fydd yn hybu'r rhai sy'n cymryd rhan i adolygu'r sesiwn
32. sut i sicrhau bod eich dulliau cymell yn effeithiol ac yn ddefnyddiol fel ffyrdd o wella eich sesiynau ymarfer corff grŵp
33. pam bod angen i'r rhai sy'n cymryd rhan gael gwybodaeth am sesiynau sydd i ddod
34. sut i adael yr amgylchedd waith a'r offer a'r cyfarpar mewn cyflwr derbyniol i'w ddefnyddio eto gennych chi a phobl eraill
35. sut i adnabod problemau iechyd, diogelwch a lles wrth reoli ymarfer corff grŵp
36. pam bod angen cyflwyno awgrymiadau ar gyfer gwella iechyd a diogelwch i berson neu gorff cymwys
Gwella eich arfer proffesiynol a chyfleoedd gyrfa
37. pryd i drafod eich gwaith gyda phobl eraill gan roi ystyriaeth i'w barn a sut y gallai hynny wella eich arfer proffesiynol
38. sut i ddadansoddi pa mor dda fyddwch chi'n gweithio ac yn cydweithio â phobl eraill
39. pam bod angen i chi adolygu eich arfer proffesiynol yn rheolaidd
40. sut i ganfod ffynonellau ac adnoddau a fydd yn sicrhau eich bod yn gyfarwydd â'r datblygiadau diweddaraf ym maes ymarfer corff grŵp
41. sut i lunio a datblygu cynllun gweithredu personol
42. sut i ganfod ac adnabod gweithgareddau Datblygiad Proffesiynol Parhaus cymeradwy a'u cynnwys yn eich cynllun gweithredu personol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
**
Yr amgylchedd waith
*
*
*
*
- y gofod sydd ar gael
- cynllun y lle
- y tymheredd
- y llawr
- y goleuo
- yr awyru
- y gerddoriaeth a'i ddefnydd
- offer a chyfarpar y sesiwn
- dillad a chyfarpar personol
**
**
Y rhai sy'n cymryd rhan**
**
**
- y rhai profiadol
- y dechreuwyr
- unigolion
- grwpiau
- pobl ag anghenion ffitrwydd penodol
- pobl ag anghenion iechyd cyffredinol
**
**
Ymarferion**, i ddatblygu
- ffitrwydd cardiofasgwlaidd (y galon a chylchrediad y gwaed)
- ffitrwydd y cyhyrau
- hyblygrwydd corfforol
- sgiliau symud
- ymarfer corff, symud a dawns
- dawns
- dawnslunio (corograffi)
- gweithgareddau heb eu dawnslunio (heb ei gorograffu)
**
**
Gwybodaeth**
**
**
- uchelgais personol
- dull o fyw
- hanes meddygol
- hanes ymarfer corfforol
- hoffterau ymarfer corfforol
- agwedd at ac awch cymryd rhan
- lefel ffitrwydd presennol
- parodrwydd
- parodrwydd seicolegol
**
**
Mathau o gerddoriaeth**
*
*
**
**
- cyflymder
- rhythm
- arddull
**
**
Gweithdrefnau'r sefydliad a'r gyfraith**
**
**
- Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle
- Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd
- Adrodd am Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus
- Rheoliadau Trydan yn y Gwaith
- Rheoliadau Cymorth Cyntaf
- Gweithdrefnau'r sefydliad a'r gyfraith
**
**
Dulliau dawns**
**
**
- jas
- cyfoes
- clasurol
- stryd
- Lladinaidd
- Disco
**
**
Defnydd o'r llais**
- cywair
- maint
**
**
*Gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol *(rhaid ymdrin ag o leiaf pedwar o'r rhain)
- Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
- Trin Deunyddiau Peryglus i Iechyd (CoSHH)
- Rheolau Adrodd ar Ddamweiniau, Afiechydon a Digwyddiadau Peryglus (RIDDOR)
- Rheolau Trydan yn y Gwaith
- Rheolau Cymorth Cyntaf
- Polisïau a gweithdrefnau'r corff neu sefydliad unigol
Dulliau dysgu a hyfforddi
*
*
*
*
- newid lle mae rhywun yn sefyll, eistedd ayb wrth ddysgu
- gofyn cwestiynau
- addasu a symud y gwaith i gyfeiriadau newydd
- cyfathrebu drwy air neu arwydd
- adlewyrchu (mirroring)
- strategaethau rheoli grŵp
- strategaethau cymell
*Cynllun gweithredu personol*
*
*
*
*
- ar bapur
- llafar
**
**
Datblygiad Proffesiynol Parhaus**
**
**
- gweithdai
- darllen
- cynadleddau
- darlithoedd
- ar y we
**
**
**
Gweithwyr proffesiynol eraill **(rhaid ymdrin ag o leiaf dau o'r rhain)
- ffisiotherapyddion a gweithwyr meddygol
- seicolegwyr
- ffisiolegwyr
- biomecanegwyr
- arbenigwyr cefnogi ffordd o fyw
- rhwydwaith gefnogaeth gymdeithasol y rhai sy'n cymryd rhan
- meddygon
- goruchwylwyr
- arbenigwyr iechyd ac ymarfer corff
- maethegwyr/deietegwyr
**
**
Strategaethau ysgogi
*
*
*
*
- mewnol
- allanol
- gosod targedau
- ysgogi/gwobrwyo
- newid ymddygiad
Gwybodaeth Cwmpas
Yr amgylchedd gwaith
*
*
*
*
- y gofod sydd ar gael
- cynllun y lle
- y tymheredd
- y llawr
- y goleuo
- yr awyru
- defnyddio cerddoriaeth
- offer ar gyfer y sesiwn
- dillad a chyfarpar personol
*
*
*
*
Dulliau
*
*
*
*
- cyfweliad
- holiadur
- prawf llafar
- arsylwad
**
**
Gwybodaeth**
*
*
** **
- uchelgais personol
- dull o fyw
- hanes meddygol
- hanes ymarfer corfforol
- hoffterau ymarfer corfforol
- agwedd at ac awch cymryd rhan
- lefel ffitrwydd presennol
- parodrwydd
- parodrwydd seicolegol
**
**
Mathau o gerddoriaeth**
- cyflymder
- rhythm
- arddull
**
**
Dulliau dysgu a hyfforddi**
**
**
- newid safle rhywun wrth ddysgu
- holi cwestiynau
- addasu'r gwaith a gwneud cynnydd
- cyfathrebu ar lafar ac yn weledol
- adlewyrchu
- strategaethau rheoli grŵp
- strategaethau ysgogi
**
**
Gweithdrefnau'r sefydliad a'r gyfraith**
**
**
- Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle
- Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd
- Adrodd am Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus
- Rheoliadau Trydan yn y Gwaith
- Rheoliadau Cymorth Cyntaf
- Gweithdrefnau'r sefydliad a'r gyfraith
**
**
Dulliau dawns**
**
**
- jas
- cyfoes
- clasurol
- stryd
- Lladinaidd
- disco
**
**
**
Datblygiad Proffesiynol Parhaus**
**
**
- gweithdai
- darllen
- cynadleddau
- darlithoedd
- ar lein
**
**
Cynllun Gweithredu Personol **
**
**
- ysgrifenedig
- llafar
Gwerthoedd
Mae'r gwerthoedd dilynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd
Dylai Gweithwyr Proffesiynol Ymarfer:
- arddangos a hyrwyddo ffordd gyfrifol o fyw ac ymddwyn, trwy beidio â chefnogi'r defnydd o gyffuriau sy'n gwella perfformiad, ac unrhyw sylwedd anghyfreithlon arall
- cynnal cyfrinachedd
- delio â chyfranogwyr mewn modd agored a thryloyw; gan barchu anghenion eu cyfranogwyr bob tro
- ceisio mabwysiadu'r lefel uchaf o safonau proffesiynol yn holl feysydd eu gwaith a datblygiad eu gyrfa
Ymddygiadau
Mae'r ymddygiadau dilynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd
Dylai Gweithwyr Proffesiynol Ymarfer:
- ceisio magu perthnasau iach gyda chyfranogwyr a gweithwyr proffesiynol iechyd eraill trwy gefnogi, cydgysylltu a rheoli'r broses ffitrwydd/ymarfer yn effeithiol, gan gadw'r cyfranogwr wrth ganol y broses
- bod yn ymwybodol o rolau personél cynorthwyol yn y galwedigaethau gofal iechyd a chydnabod pryd y dylid atgyfeirio problemau i'r arbenigwyr hyn
- bod yn ymwybodol o gyfrifoldebau ac atebolrwyddau o dan ddeddfwriaeth cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a chodau ymarfer y diwydiant
- anelu at rymuso cyfranogwyr; yn cefnogi eu hawl i wneud dewisiadau, darganfod eu hatebion eu hunain, a'u galluogi i gymryd rhan a datblygu ar eu cyflymder eu hunain ac yn eu ffordd eu hunain
- nodi a chydnabod anghenion y cyfranogwyr ar ddechrau'r broses
- anelu at wella hyder, hunan-barch a lefelau ffitrwydd cyfranogwyr
- myfyrio ar eu harfer eich hunain a thrwy'r amser geisio ffyrdd i wella eu gallu ffitrwydd ac ymarfer, sgiliau a gwybodaeth eu hunain
- sefydlu perthynas dda gyda chyfranogwyr
- dangos empathi a sensitifrwydd i nodau a chyflwr parodrwydd cyfredol cyfranogwyr
- cyflwyno delwedd gadarnhaol o'u hunain a'u sefydliad i gyfranogwyr
- datblygu perthynas weithio effeithiol gyda chyfranogwyr
- diffinio'n glir rolau a chyfrifoldebau gweithwyr proffesiynol eraill a allai fod yn gysylltiedig
- cyfathrebu'n glir gyda chyfranogwyr mewn ffordd sy'n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi
- dangos sensitifrwydd ac empathi i'r cyfranogwyr a'r wybodaeth maent yn ei darparu
Sgiliau
Mae'r sgiliau dilynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd
Dylai Gweithwyr Proffesiynol Ymarfer:
- baratoi'n systematig ar gyfer yr holl weithgareddau gan sicrhau iechyd, diogelwch a lles eu cyfranogwyr
- sicrhau bod gwahaniaethu a chynhwysiant a all alluogi cyfranogwyr ag anghenion neilltuol ac o alluoedd amrywiol i gymryd rhan mewn sesiynau a rhaglenni. Dylid ystyried anghenion cyfranogwyr ag anabledd ac, lle mae'n bosibl, dylid cwrdd â'u hanghenion
- gweithredu rheolau sylfaenol ar gyfer ymddygiad yn ystod y sesiwn
- esbonio eu rôl a chyfrifoldebau i gyfranogwyr
- nodi unrhyw rwystrau i gyfranogi
- annog cyfranogwyr i ganfod ateb i'w rhwystrau
- nodi parodrwydd cyfranogwyr i gyfranogi
- nodi a chytuno strategaethau i atal rhoi'r gorau neu lithro'n ôl
defnyddio arddulliau hyfforddi sy'n cyfateb ag anghenion cyfranogwyr
addasu eu perthynas â chyfranogwyr er mwyn cwrdd â'u hanghenion cyfnewidiol
- gwrando ar a gofyn cwestiynau i gyfranogwyr er mwyn gwirio eu dealltwriaeth
- nodi'r wybodaeth mae arnynt angen ei chasglu ynghylch eu cyfranogwyr
- casglu gwybodaeth ynghylch eu cyfranogwyr gan ddefnyddio dulliau cymeradwy
- cofnodi'r wybodaeth mewn ffordd a fydd yn helpu i'w dadansoddi
- defnyddio technegau cyfathrebu ac ymatebion priodol wrth ddelio ag anghydfod
- cydnabod ymddygiad gwahaniaethol a gwybod am y gweithdrefnau i'w dilyn os bydd unrhyw ddigwyddiadau
Geirfa
Gweithgareddau
Rhannau o sesiwn ymarfer ffisegol a all ganolbwyntio ar ddatblygu nerth, gwydnwch, techneg, ymwybyddiaeth dactegol neu strategaethau datrys problemau gan y rhai sy'n cymryd rhan. Mae un neu fwy o weithgareddau mewn sesiwn ymarfer.
*
*
*
*
Cod ymarfer
Edrychwch ar God Ymarfer Foesol Cofrestr Gweithwyr Ymarfer Corff
Adborth
Rhoi a derbyn barn am berfformiad. Efallai mai chi fydd yn rhoi adborth i'r rhai sy'n cymryd rhan am eu perfformiad neu eu cyfraniad nhw mewn sesiwn ymarfer corff, neu efallai mai hyfforddwr mwy profiadol fydd yn mynegi barn am eich gwaith chi wrth arwain rhyw sesiwn ymarfer ffisegol benodol.
Symudiadau sylfaenol
Mae hyn yn cyfeirio at ddysgu'r symudiadau sylfaenol sy'n wahanol i bob dull o ddawnsio.
Targedau
Gall y rhain fod yn rai tymor hir, canolig neu fyr. Dyma'r canlyniad datgan ar gyfer y sesiynau ymarfer corfforol (unigolion neu grŵp) a fydd yn dylanwadu ar yr hyn fydd y rhai sy'n cymryd rhan yn ei wneud yn ystod y sesiwn.
Cyflwyno arddull
Y ffordd yr ydych chi'n ymwneud â'r rhai sy'n cymryd rhan yn ystod sesiwn. Gall hyn gynnwys amrywiaeth o arddulliau, er enghraifft: dweud wrth y rhai sy'n cymryd rhan beth i'w wneud a'u cefnogi.
*
*
*
*
*
*
*
*
Y rhai sy'n cymryd rhan
Pobl fydd yn cymryd rhan, fel unigolion neu mewn grŵp, yn y sesiynau ymarfer corfforol.
Cynllun gweithredu personol
Dyma gofnod o'r meysydd rydych chi am eu gwella yn eich sesiynau ymarfer corfforol eich hun. Bydd yn dangos y targedau personol rydych chi am eu cyrraedd yn ogystal â sut rydych chi am gyflawni hynny ac erbyn pryd.
Cynhesu'r corff
Gweithgareddau diogel sy'n paratoi'r rhai sy'n cymryd rhan yn gorfforol ac yn feddyliol ar gyfer y sesiwn ymarfer corfforol.
Lles
Cefnogi lles y rhai sy'n cymryd rhan, yn cynnwys ffordd o fyw sylfaenol, maeth ac ymwybyddiaeth o gyffuriau.
Dolenni I NOS Eraill
Mae’r safonau hyn yn gysylltiedig â SKAEF1; SKAEF2; SKAEF4 a SKAEF6.