Cynllunio a pharatoi ar gyfer grwpiau ymarfer corff, symud a dawns
Trosolwg
Mae a wnelo'r safon hwn â pharatoi a chynllunio sesiynau ymarfer corff ar gyfer grwpiau o oedolion sydd i bob golwg yn iach a hynny drwy gyfrwng gwersi ymarfer corff, symud a dawns.
Mae disgwyl i'r rhai sy'n cyrraedd y safon allu:
- casglu a dadansoddi gwybodaeth
cynllunio sesiynau ymarfer corff, symud a dawns diogel ac effeithiol i grŵp o bobl
paratoi eich hunan a'r cyfarpar ar gyfer sesiynau ymarfer corff, symud a dawns mewn grŵp.
Rhaid ichi gynnwys yr wybodaeth ffitrwydd ac ymarfer corff craidd a'r ddealltwriaeth ddamcaniaethol fel ag y manylir yn nogfen Gofynion Gwybodaeth Ymarfer a Ffitrwydd Craidd SkillsActive sy'n berthnasol i rôl y swydd.
Mae'r safon yma ar gyfer hyfforddwyr sy'n cynllunio, hyfforddi ac adolygu pob math o gynlluniau ymarfer corff ar gyfer grŵp o bobl.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Casglu a dadansoddi gwybodaeth**
1. casglu'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i gynllunio sesiynau a fformatau ymarfer corff, symud a dawns mewn grŵp
2. dadansoddi'r wybodaeth a gasglwyd gennych a nodi'r goblygiadau ar gyfer ymarfer corff, symud a dawns mewn grŵp
3. cyfeirio unrhyw berson nad oes modd ichi gyfarfod â'i anghenion a'i botensial, at weithwyr proffesiynol eraill
4. cadw gwybodaeth gyfrinachol yn gyfrinachol, gan ddilyn trefniadau cyfreithiol a sefydliadol
**
**
Cynllunio sesiynau ymarfer corff, symud a dawns diogel ac effeithiol i grŵp o bobl
5. adnabod amcanion sy'n cyfarfod ag anghenion a photensial pobl sy'n cymryd rhan
6. cynllunio sesiynau a fformatau fydd yn helpu pawb i gymryd rhan a chyrraedd y deilliannau a gynlluniwyd
7. adnabod y ffurfiau dawns ar gyfer y sesiynau a*'*r fformatau
8. cynllunio dewisiadau eraill ar gyfer y ffurfiau dawns a gynlluniwyd pan fo angen
9. adnabod y math o gerddoriaeth ar gyfer y sesiwn a*'*r fformat
10. cynllunio amseriadau realistig ar gyfer sesiwn a fformat
11. adnabod peryglon ac asesu pa mor debygol yw'r rhain o achosi niwed go iawn
12. cynllunio sut i leihau'r peryglon hyn
13. cofnodi eich cynlluniau yn unol â gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol
14. ceisio cyngor gan weithwyr proffesiynol eraill ynglŷn â materion y tu allan i lefel eich cymhwysedd
*
*
*
*
Paratoi eich hunan a'ch cyfarpar ar gyfer ymarfer corff, symud a dawns mewn grŵp
15. paratoi'r amgylchedd waith ar gyfer y sesiwn a'r fformat
16. codi a thrin y cyfarpar mewn ffordd sy'n osgoi anaf a niwed
17. trefnu'r lleoliad er mwyn hwyluso ymarfer a pherfformiad symud a dawns ddiogel
18. sicrhau eich bod ymbaratoi'n llawn i arwain y sesiynau a'r fformatau
19. dilyn y gweithdrefnau cywir ar gyfer delio ag unrhyw eitemau sy'n anniogel
20. atgyfeirio unrhyw faterion iechyd, diogelwch neu les yn unol â gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Casglu a dadansoddi gwybodaeth**
1. yr wybodaeth sydd ei hangen i gynllunio sesiynau grŵp ymarfer, symud a dawns
2. technegau dadansoddi gwybodaeth
3. pryd a lle i gyfeirio pobl, nad oes modd ichi gyfarfod â'u hanghenion a'u potensial, at weithwyr proffesiynol eraill
4. gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol yn ymwneud â chyfrinachedd
Cynllunio'n ddiogel ac effeithiol ymarfer corff, symud a dawns mewn grŵp
5. technegau gosod amcanion
6. y ffactorau sydd ynghlwm â chynllunio sesiwn
7. y mathau o ffurfiau dawns y gellir eu defnyddio
8. dewisiadau eraill ar gyfer y ffurfiau dawns a gynlluniwyd
9. gwahanol fathau o gerddoriaeth a sut mae hyn yn berthnasol ar gyfer cyflwyno sesiwn a fformat
10. dulliau o gynllunio a chyflawni amseriadau realistig ar gyfer sesiwn a fformat
11. ffyrdd o adnabod unrhyw beryglon ac asesu ffactorau iechyd ac amgylcheddol a allai ddylanwadu ar ddiogelwch
12. sut i gofnodi cynlluniau yn unol â gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol
13. pryd a sut i geisio cyngor gan weithwyr proffesiynol eraill wrth ddelio ag amcanion, ymarferion neu beryglon sydd y tu hwnt i lefel eich cymhwysedd
Paratoi eich hunan a'ch cyfarpar ar gyfer ymarfer corff, symud a dawns mewn grŵp
14. y cyfarpar a ddefnyddir ar gyfer sesiwn ymarfer grŵp, symud a dawns
15. technegau codi a thrin y cyfarpar mewn ffordd sy'n atal anaf a niwed
16. ffyrdd o drefnu'r amgylchedd waith fel bod modd symud, dawnsio a gwneud ymarfer corff mewn ffordd ddiogel ac effeithiol.
17. ffyrdd o sicrhau eich bod yn llwyr barod i arwain y sesiynau a fformatau
18. y gweithdrefnau cywir i ddelio ag unrhyw eitemau sy'n anniogel
19. pryd a sut i atgyfeirio unrhyw faterion iechyd, diogelwch a lles yn unol â gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth**
**
**
- nod bersonol
- ffordd o fyw
- hanes meddygol
- hanes gweithgarwch corfforol
- hoff ddewis gweithgarwch corfforol
- agwedd a chymhelliant i gymryd rhan
- lefel ffitrwydd presennol
- stad o barodrwydd
- parodrwydd seicolegol
**
**
Sesiynau,** i ddatblygu
- ffitrwydd cardiofasgwlar
- ffitrwydd cyhyrol
- hyblygrwydd
- sgiliau echddygol
**
**
Fformatau** (yn ymwneud â lleiafswm o ddau)
- ymarfer, symud a dawns
- dawns
- coreograffi
- gweithgarwch heb goreograffi
Y rhai sy'n cymryd rhan
*
*
*
*
- profiadol
- dechreuwr
- unigolion
- grwpiau
- pobl ag anghenion penodol
**
**
**
**
Gweithwyr proffesiynol eraill** (yn ymwneud ar gyfer lleiafswm o 2)
- ffisiotherapyddion a doctoriaid
- seicolegwyr
- ffisiolegwyr
- biopeirianaethwyr
- arbenigwyr cefnogi ffordd o fyw
- y rhwydwaith o gefnogaeth gymdeithasol sydd gen y rheini sy'n cymryd rhan
- meddyg
- goruchwyliwr
gweithiwr proffesiynol iechyd/ymarfer arbenigol
maethegydd/dietegydd
**
**
Gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol** (i ddelio â lleiafswm o 4)
- Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
- Rheolaeth Sylweddau sy'n Beryglus i Iechyd
- Rheoliadau Riportio Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus
- Rheoliadau Trydan yn y Gwaith
- Rheoliadau Cymorth Cyntaf
- gweithdrefnau a pholisïau sefydliadol unigol
**
**
Amcanion,** yn ymwneud â
- gwella ffitrwydd
- gwella cymhelliant
- mynd i'r afael â 'r rhwystrau sy'n atal pobl rhag cymryd rhan
- gwella sgiliau a thechnegau
- gwella iechyd
- hwyl a mwynhad
**
**
Ffurfiau dawns** (yn ymwneud ag o leiaf un)
- jas
- cyfoes
- clasurol
- stryd
- Lladinaidd
- disgo
Math o gerddoriaeth
*
*
*
*
- cyflymder
- rhythm
- arddull
**
**
Peryglon,** yn ymwneud
- â'r rhai sy'n cymryd rhan
- â'r gweithgareddau rydych yn eu cynllunio
- â gweithgareddau eraill sy'n digwydd ar yr un pryd
Yr amgylchedd waith
*
*
*
*
- y gofod sydd ar gael
- cynllun y lle
- y tymheredd
- y llawr
- y goleuo
- yr awyru
- y gerddoriaeth a'i defnydd
- offer a chyfarpar y sesiwn
- dillad a chyfarpar personol
Gwybodaeth Cwmpas
Gwybodaeth**
**
**
- nod personol
- ffordd o fyw
- hanes meddygol
- hanes gweithgarwch corfforol
- ffafriaeth gweithgarwch corfforol
- agwedd a chymhelliant i gymryd rhan
- lefel ffitrwydd presennol
- stad o barodrwydd
- parodrwydd seicolegol
Gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol
*
*
*
*
- Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
- Rheolaeth sylweddau Peryglus i Iechyd
- Rheoliadau Riportio Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus
- Rheoliadau Trydan yn y Gwaith
- Rheoliadau Cymorth Cyntaf
- Polisïau a gweithdrefnau'r corff neu sefydliad unigol
Ffurfiau dawns
*
*
*
*
- jas
- cyfoes
- clasurol
- stryd
- Lladinaidd
- disgo
Yr amgylchedd waith
*
*
*
*
- y gofod sydd ar gael
- cynllun y lle
- y tymheredd
- y llawr
- y goleuo
- yr awyru
- y gerddoriaeth a'i defnydd
- cyfarpar ar gyfer y sesiwn
- dillad a chyfarpar personol
Gwerthoedd
Mae'r gwerthoedd dilynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd
Dylai Gweithwyr Proffesiynol Ymarfer:
- arddangos a hyrwyddo ffordd gyfrifol o fyw ac ymddwyn, trwy beidio â chefnogi'r defnydd o gyffuriau sy'n gwella perfformiad, ac unrhyw sylwedd anghyfreithlon arall
- cynnal cyfrinachedd
- delio â chyfranogwyr mewn modd agored a thryloyw; gan barchu anghenion eu cyfranogwyr bob tro
- ceisio mabwysiadu'r lefel uchaf o safonau proffesiynol yn holl feysydd eu gwaith a datblygiad eu gyrfa
Ymddygiadau
Mae'r ymddygiadau dilynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd
Dylai Gweithwyr Proffesiynol Ymarfer:
- ceisio magu perthnasau iach gyda chyfranogwyr a gweithwyr proffesiynol iechyd eraill trwy gefnogi, cydgysylltu a rheoli'r broses ffitrwydd/ymarfer yn effeithiol, gan gadw'r cyfranogwr wrth ganol y broses
- bod yn ymwybodol o rolau personél cynorthwyol yn y galwedigaethau gofal iechyd a chydnabod pryd y dylid atgyfeirio problemau i'r arbenigwyr hyn
- bod yn ymwybodol o gyfrifoldebau ac atebolrwyddau o dan ddeddfwriaeth cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a chodau ymarfer y diwydiant
- anelu at rymuso cyfranogwyr; yn cefnogi eu hawl i wneud dewisiadau, darganfod eu hatebion eu hunain, a'u galluogi i gymryd rhan a datblygu ar eu cyflymder eu hunain ac yn eu ffordd eu hunain
- nodi a chydnabod anghenion y cyfranogwyr ar ddechrau'r broses
- anelu at wella hyder, hunan-barch a lefelau ffitrwydd cyfranogwyr
- myfyrio ar eu harfer eich hunain a thrwy'r amser geisio ffyrdd i wella eu gallu ffitrwydd ac ymarfer, sgiliau a gwybodaeth eu hunain
- sefydlu perthynas dda gyda chyfranogwyr
- dangos empathi a sensitifrwydd i nodau a chyflwr parodrwydd cyfredol cyfranogwyr
- cyflwyno delwedd gadarnhaol o'u hunain a'u sefydliad i gyfranogwyr
- datblygu perthynas weithio effeithiol gyda chyfranogwyr
- diffinio'n glir rolau a chyfrifoldebau gweithwyr proffesiynol eraill a allai fod yn gysylltiedig
- cyfathrebu'n glir gyda chyfranogwyr mewn ffordd sy'n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi
- dangos sensitifrwydd ac empathi i'r cyfranogwyr a'r wybodaeth maent yn ei darparu
Sgiliau
Mae'r sgiliau dilynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd
Dylai Gweithwyr Proffesiynol Ymarfer:
- baratoi'n systematig ar gyfer yr holl weithgareddau gan sicrhau iechyd, diogelwch a lles eu cyfranogwyr
- sicrhau bod gwahaniaethu a chynhwysiant a all alluogi cyfranogwyr ag anghenion neilltuol ac o alluoedd amrywiol i gymryd rhan mewn sesiynau a rhaglenni. Dylid ystyried anghenion cyfranogwyr ag anabledd ac, lle mae'n bosibl, dylid cwrdd â'u hanghenion
- gweithredu rheolau sylfaenol ar gyfer ymddygiad yn ystod y sesiwn
- esbonio eu rôl a chyfrifoldebau i gyfranogwyr
- nodi unrhyw rwystrau i gyfranogi
- annog cyfranogwyr i ganfod ateb i'w rhwystrau
- nodi parodrwydd cyfranogwyr i gyfranogi
- nodi a chytuno strategaethau i atal rhoi'r gorau neu lithro'n ôl
defnyddio arddulliau hyfforddi sy'n cyfateb ag anghenion cyfranogwyr
addasu eu perthynas â chyfranogwyr er mwyn cwrdd â'u hanghenion cyfnewidiol
- gwrando ar a gofyn cwestiynau i gyfranogwyr er mwyn gwirio eu dealltwriaeth
- nodi'r wybodaeth mae arnynt angen ei chasglu ynghylch eu cyfranogwyr
- casglu gwybodaeth ynghylch eu cyfranogwyr gan ddefnyddio dulliau cymeradwy
- cofnodi'r wybodaeth mewn ffordd a fydd yn helpu i'w dadansoddi
- defnyddio technegau cyfathrebu ac ymatebion priodol wrth ddelio ag anghydfod
- cydnabod ymddygiad gwahaniaethol a gwybod am y gweithdrefnau i'w dilyn os bydd unrhyw ddigwyddiadau
Geirfa
Gweithgareddau
Cydrannau sesiwn gweithgaredd corfforol a all ffocysu ar eich datblygiad o gryfder, dygnwch, technegau neu ymwybyddiaeth dactegol neu strategaethau datrys problemau eich cyfranogwyr. Mae sesiynau gweithgarwch corfforol wedi'u llunio o un neu fwy o weithgareddau.
*
*
*
*
Nodau
Gallant fod yn rhai tymor hir, tymor canolig neu dymor byr.
Perygl
Rhywbeth sy'n beryglus neu a all achosi niwed.
Cyfranogwyr
Pobl, fel unigolion, neu mewn grwpiau, fydd yn cymryd rhan mewn sesiwn gweithgaredd corfforol.
Cynllun
Cynllun sesiwn gweithgaredd corfforol ydy disgrifiad o sesiwn benodol; yn gynwysedig yn y cynllun fydd y nodau, yr amcanion, cynnwys, gweithgareddau, amseriadau a'r cyfarpar sydd ei angen. Dylid cofnodi cynlluniau er mwyn cael eu rhannu gydag eraill a chyfeirio atyn nhw'n ddiweddarach.
Goruchwyliwr
Y person sy'n rheoli'ch gwaith yn uniongyrchol, h.y. rheolwr llinell neu reolwr canolfan ffitrwydd.
*
*
*
*
*
*
*
*
**
Lles**
Cefnogi lles cyfranogwyr, gan gynnwys ffordd o fyw sylfaenol, maeth ac ymwybyddiaeth cyffuriau.
Dolenni I NOS Eraill
Mae perthynas rhwng y safon hon a SKAEF1, SKAEF2 a SKAEF8.