Hyfforddi grwpiau ymarfer corff

URN: SKAEF6
Sectorau Busnes (Suites): Ymarfer Corff a Ffitrwydd
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 31 Rhag 2014

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â dysgu ymarfer corff corff i grŵpiau o oedolion sy'n ymddangos yn iach.


 

Dyma brif ddeilliannau'r safon hon:


 


 

  1. paratoi cyfranogwyr ar gyfer ymarfer corff mewn grŵp
  2. dysgu ymarfer corff I grwpiau o bobl
  3. helpu cyfranogwyr i wella eu perfformiad  
  4. diweddu ac edrych yn ôl ar sesiwn ymarfer corff mewn grŵ
  5. gwella eich arfer proffesiynol a'ch cyfleoedd gyrfaol eich hunan


 

Rhaid ichi gynnwys yr wybodaeth ffitrwydd ac ymarfer corff craidd a'r ddealltwriaeth ddamcaniaethol fel ag y manylir yn nogfen Gofynion Gwybodaeth Ymarfer corff a Ffitrwydd Craidd SkillsActive sy'n berthnasol i rôl y swydd.

Mae'r safon yma ar gyfer hyfforddwyr sy'n cynllunio, hyfforddi ac adolygu bob math o raglenni ymarfer corff mewn grŵp.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Paratoi cyfranogwyr ar gyfer ymarfer corff mewn grŵp**


 

1.  sicrhau bod yr amgylchedd waith a'r cyfarpar yn cael eu paratoi ar gyfer y rhaglen a gytunwyd 

2.  cynnal proses sgrinio llafar a chasglu unrhyw wybodaeth newydd ynglŷ^n â pharodrwydd y cyfranogwyr ar gyfer ymarfer corff

3.  cadarnhau neu adolygu'r rhaglen a gytunwyd yn seiliedig ar unrhyw wybodaeth newydd a dderbynnir gan y cyfranogwyr

4.  trafod y rhaglen a gytunwyd gennych gyda'r cyfranogwyr a disgrifio'r gofynion corfforol a thechnegol iddyn nhw

5.  cynghori cyfranogwyr ynglŷn â gweithdrefnau argyfwng y safle


Dysgu ymrfaer corff mewn grŵp


 


 

6.  defnyddio gweithgareddau cynhesu ac oeri sy'n cyfarfod â gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol

7.  rhoi esboniadau ac arddangosiadau i gyfranogwyr

8.  gwirio dealltwriaeth cyfranogwyr o gyfarwyddiadau a rhoi cyfle iddyn nhw ofyn cwestiynau

9.  darparu eglurhad effeithiol

10.  defnyddio dulliau mynegiant llais i gyfarwyddo'r grŵp

11.  cadw at yr amseriadau a gynlluniwyd ar gyfer yr ymarferion

12.  dilyn gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol yn ystod yr ymarferion



 

Helpu cyfranogwyr i wella'u perfformiad


 


 

13.  defnyddio dulliau hyfforddi ac addysgu er mwyn sicrhau y gall cyfranogwyr fod yn llwyr yn rhan o'r rhaglen

14.  arsyllu perfformiadau cyfranogwyr trwy gydol y rhaglen

15.  ymateb i berfformiad cyfranogwyr a chynnig dilyniannau ac atchweliadau mewn ymateb i'w hanghenion

16.  defnyddio dulliau hyfforddi ac addysgu i gywiro ac atgyfnerthu techneg

17.  darparu pwyntiau hyfforddi ac adborth i gynorthwyo cyfranogwyr i gyrraedd eu hamcanion ​

18.  rhoi arweiniad i gyfranogwyr i ganiatáu cynyddu ymarferion yn raddol

19.  addasu'r gweithgareddau i ymateb i anghenion newidiol y cyfranogwyr, cyfarpar a'r amgylchfyd yn ystod y rhaglen 


 


 

Diweddu ac edrych yn ôl ar sesiwn ymarfer corff mewn grŵp


 


 

20.  caniatáu amser digonol i orffen y sesiwn yn unol â lefel profiad y cyfranogwyr

21.  diweddu'r sesiwn gan ddefnyddio gweithgareddau cynhesu lawr sy'n ateb gofynion y cyfranogwyr

22.   rhoi cyfle i'r cyfranogwyr i gynnig adborth a nodi eu hanghenion pellach

23.   adnabod, o'r adborth a dderbyniwyd, cystal oedd eich dull o hyfforddi'n gweddu anghenion y cyfranogwyr

24.   adnabod, o'r adborth a dderbyniwyd, ffyrdd y gallwch wella'r arfer yn y dyfodol 

25.  rhoi crynodeb o'ch adborth ar y sesiwn i'r cyfranogwyr

26.  sicrhau bod gan y cyfranogwyr wybodaeth ynglŷn â sesiynau pellach

27.  dilyn y gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer gwirio a delio ag unrhyw gyfarpar a ddefnyddiwyd

28.  gadael yr amgylchfyd mewn cyflwr derbyniol ar gyfer defnydd pellach gan eich hunan neu eraill

29.  adnabod cystal wnaethoch chi reoli ymarfer corff y cyfranogwyr gyda golwg ar eu hiechyd, eu diogelwch a'u lles

30.  trosglwyddo awgrymiadau ar wella iechyd a diogelwch i'r person perthnasol


 


 

Gwella eich arfer proffesiynol a'ch cyfleoedd gyrfaol eich hunan


 


 

31.  trafod eich syniadau gyda gweithwyr proffesiynol eraill a chymryd i ystyriaeth eu sylwadau

32.  derbyn a chydnabod adborth gan weithwyr proffesiynol eraill

33.  gwerthuso pa mor dda y gwnaethoch chi weithio a rhyngweithio gyda gweithwyr proffesiynol eraill* *

34.  adolygu eich arfer proffesiynol eich hunan yn unol â gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol

35.  datblygu cynllun gweithredu personol a fydd yn eich helpu i wella eich arfer proffesiynol

36.  parhau Datblygiad Proffesiynol Parhaus ym maes ymarfer corff mewn grŵp​


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Paratoi cyfranogwyr ar gyfer ymarfer corff mewn grŵp**


** 


** 

1.  y cyfarpar sydd ei angen ar gyfer y sesiwn a gytunwyd a sut i baratoi'r amgylchfyd

  1.  pam y dylech gyfarfod â'r cyfranogwyr yn brydlon a'u helpu i deimlo'n gartrefol

3.   dulliau o sgrinio a chasglu unrhyw wybodaeth newydd yn ymwneud â pharodrwydd cyfranogwyr i ymarfer corff

4.  pryd i gadarnhau neu adolygu'r rhaglen a gytunwyd yn seiliedig ar unrhyw wybodaeth newydd a dderbyniwyd

5.   ffyrdd o esbonio gofynion corfforol a thechnegol y sesiwn a gytunwyd i'r cyfranogwyr

6.  gweithdrefnau argyfwng y safle


 


 

Dysgu ymarfer corff mewn grŵp


 


 

7.   pwrpas a gwerth y gweithgareddau cynhesu a dadgynhesu

  1.  ffyrdd o ddarparu esboniadau ac arddangosiadau gydag chyfunioni diogel ac effeithiol safleoedd ymarfer corff, gyda golwg ar anghenion y cyfranogwyr a lefel y profiad  

  2.   pam y dylech ddarparu i gyfranogwyr y cyfle i ofyn cwestiynau

10.  gwahanol fathau o ddulliau hyfforddi ac addysgu a sut y gellir eu defnyddio i ateb gofynion gwahanol gyfranogwyr

11.  technegau sy'n cynnig eglurhad effeithiol

12.  ffyrdd o ddefnyddio goslef y llais yn effeithiol

13.  ffyrdd o gynllunio amseriad sesiwn

14.  gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer cyflwyniad ymarfer corff mewn grŵp



 

Helpu cyfranogwyr i wella'u perfformiad


 


 

15.  ffyrdd o sicrhau sylw ac anogaeth gydradd i holl gyfranogwyr

16.   technegau arsyllu a fydd yn cynorthwyo gyda monitro diogelwch ac effeithiolrwydd sesiwn ymarfer corff mewn grŵp​

17.   pryd i adolygu gallu cyfranogwyr i berfformio'r ymarferion a sut i ddarparu dilyniannau ac atchweliadau yn unol â hynny

18.   pryd i gynnig pwyntiau hyfforddi ac adborth sy'n helpu cynorthwyo cyfranogwyr i gyrraedd eu hamcanion

19.  ffyrdd o gynyddu ymarferion yn raddol

20.   pryd i addasu'r gweithgareddau mewn ymateb i anghenion newidiol y cyfranogwyr, y cyfarpar a'r amgylchfyd yn ystod y sesiwn


 


 

Diweddu ac edrych yn ôl ar sesiwn ymarfer corff mewn grŵp


 


 

21.  pwrpas caniatáu amser digonol i orffen y sesiwn yn ôl lefel profiad y cyfranogwyr

22.  y dulliau o gasglu adborth gan gyfranogwyr ac eraill

23.  gweithgareddau cynhesu a chynhesu lawr diogel ac effeithiol

24.   ffyrdd o gyflwyno i gyfranogwyr crynodeb manwl gywir o'ch adborth ar y sesiwn

25.  technegau ymwneud â'r cyfranogwyr er mwyn adolygu*'*r sesiwn

26.  sut y gall edrych yn ôl ac adborth gan gyfranogwyr ac eraill wella arfer yn y dyfodol

27.  sut i sicrhau bod strategaethau cymhelliant yn effeithiol gyda'r cyfranogwyr a sut y gellir defnyddio'r rhain i gyfarwyddo ymarfer corff mewn grŵp ymhellach

28.  pam y dylai cyfranogwyr dderbyn gwybodaeth am sesiynau pellach

29.  y gweithdrefnau ar gyfer gwirio a delio ag unrhyw gyfarpar a ddefnyddiwyd

30.  ffyrdd o adael yr amgylchedd waith mewn cyflwr derbyniol ar gyfer defnydd pellach gan eich hunan ac  eraill 

31.  sut i adnabod a rheoli materion iechyd, diogelwch a lles wrth reoli ymarfer corff mewn grŵp

32.  pam y byddech yn trosglwyddo awgrymiadau ar gyfer gwella iechyd a diogelwch i berson cymwys neu asiantaeth


 


 

Gwella eich arfer proffesiynol a'ch cyfleoedd gyrfaol eich hunan


 


 

33.  pryd i drafod eich gwaith gydag eraill a chymryd sylw o'u sylwadau, gan ystyried eich arfer proffesiynol eich hunan

34.  sut i ddadansoddi pa mor dda rydych yn gweithio ac yn rhyngweithio gydag eraill

35.  pam y dylech adolygu eich arfer proffesiynol eich hunan yn rheolaidd

36.  sut I adnabod dulliau a ffynonellau I'ch cadw wedi'ch diweddaru ynglŷn â datblygiadau o ran ymarfer corff mewn grŵp

37.  sut i ddatblygu cynllun gweithredu personol

38.  sut i ganfod ac adnabod gweithgareddau Datblygiad Personol Parhaus ardystiedig ac ymgorffori'r rhain yn eich cynllun gweithredu personol​​


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Amgylchedd waith​**


** 


** 

  1. gofod
  2. cynllun gosod
  3. tymheredd
  4. llawr
  5. goleuo
  6. awyru
  7. defnydd o gerddoriaeth
  8. cyfarpar ar gyfer y sesiwn
  9. dillad a chyfarpar personol​

*
*
 

*
*
 

Gwybodaeth​

*
*
 

*
*
 

  1. nodau personol
  2. ffordd o fyw
  3. hanes meddygol
  4. hanes gweithgarwch corfforol
  5. hoff ddewis gweithgarwch corfforol
  6. agwedd ac ysgogiad i gyfranogi
  7. lefel ffitrwydd presennol
  8. stad o barodrwydd
  9. parodrwydd seicolegol


 


 

Cyfranogwyr

*
*
 

*
*
 

  1. unigol
  2. grwpiau
  3. gydag anghenion ffitrwydd penodol
  4. gydag anghenion iechyd cyffredinol


** 


** 

Ymarferion,** i ddatblygu


 


 

  1. ffitrwydd cardiofasgwlar 
  2. ffitrwydd cyhyrol 

  3. hyblygrwydd

  4. sgiliau echddygol

  5. fformatau cylchiadau


** 


** 

Gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol** (i ddelio â lleiafswm o 4)


 


 

  1. Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 
  2. Rheolaeth Sylweddau sy'n Beryglus i Iechyd 
  3. Rheoliadau Riportio Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus 
  4. Rheoliadau Trydan yn y Gwaith
  5. Rheoliadau Cymorth Cyntaf 
  6. gweithdrefnau a pholisïau sefydliadol unigol


 


 

Dulliau hyfforddi ac addysgu

*
*
 

*
*
 

  1. newid safleoedd addysgu 
  2. gofyn cwestiynau 
  3. gwneud addasiadau a dilyniannau 
  4. cyfathrebu llafar a gweledol 
  5. drychweddu
  6. strategaethau ar gyfer rheolaeth grŵp 
  7. strategaethau cymhelliant


** 


** 

Gweithwyr proffesiynol eraill** (yn ymwneud â lleiafswm o 2)


 


 

  1. ffisiotherapyddion a doctoriaid 
  2. seicolegwyr
  3. ffisiolegwyr
  4. biopeirianaethwyr 
  5. arbenigwyr cefnogi ffordd o fyw 
  6. rhwydwaith cefnogaeth gymdeithasol cyfranogwyr 
  7. meddyg
  8. goruchwyliwr
  9. gweithiwr proffesiynol iechyd/ymarfer corff arbenigol

  10. maethegydd/dietegydd


 


 

Cynllun Gweithredu Personol

*
*
 

*
*
 

  1. ysgrifenedig
  2. llafar


 


 

Datblygiad Proffesiynol Parhaus

*
*
 

*
*
 

  1. gweithdai
  2. darllen
  3. cynadleddau
  4. darlithoedd
  5. ar-lein​

Gwybodaeth Cwmpas

​Amgylchedd waith​

*
*
 

*
*
 

  1. gofod
  2. cynllun gosod
  3. tymheredd
  4. llawr
  5. goleuo
  6. awyru
  7. defnydd o gerddoriaeth
  8. cyfarpar ar gyfer y sesiwn
  9. dillad a chyfarpar personol


 


 

Dulliau

*
*
 

*
*
 

  1. cyfweliad
  2. holiadur
  3. sgrinio llafar
  4. arsyllu


 


 

Gwybodaeth​

*
*
 

*
*
 

  1. nodau personol
  2. ffordd o fyw
  3. hanes meddygol
  4. hanes gweithgarwch corfforol
  5. hoff ddewis gweithgarwch corfforol
  6. agwedd ac ysgogiad i gyfranogi
  7. lefel ffitrwydd cyfredol
  8. stad o barodrwydd
  9. parodrwydd seicolegol


 


 

Dulliau hyfforddi ac addysgu​

*
*
 

*
*
 

  1. ​​newid safleoedd addysgu 
  2. gofyn cwestiynau
  3. gwneud addasiadau a dilyniannau 
  4. cyfathrebu llafar a gweledol 
  5. drychweddu
  6. strategaethau ar gyfer rheolaeth grŵp 
  7. strategaethau cymhelliant


 


 

Gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol​

*
*
 

*
*
 

  1. Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
  2. Rheolaeth sylweddau Peryglus i Iechyd
  3. Rheoliadau Riportio Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus
  4. Rheoliadau Trydan yn y Gwaith
  5. Rheoliadau Cymorth Cyntaf
  6. gweithdrefnau a pholisïau sefydliadol unigol


 


 

Adolygu'r sesiwn

*
*
 

*
*
 

  1. meddwl am y sesiwn
  2. gofyn cwestiynau
  3. cyflwyno adborth 
  4. adnabod eu hanghenion pellach


 


 

Strategaethau cymhelliant

*
*
 

*
*
 

  1. cynhenid
  2. anghynhenid
  3. gosod nodau
  4. cymhelliannau/gwobrau 
  5. newid ymddygiad


 


 

Cynllun Gweithredu Personol

*
*
 

*
*
 

  1. ysgrifenedig
  2. llafar


 


 

Datblygiad Proffesiynol Parhaus

*
*
 

*
*
 

  1. gweithdai
  2. darllen
  3. cynadleddau
  4. darlithoedd
  5. ar-lein​

Gwerthoedd

Mae'r gwerthoedd dilynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd


 


 

Dylai Gweithwyr Proffesiynol Ymarfer:

  1. arddangos a hyrwyddo ffordd gyfrifol o fyw ac ymddwyn, trwy beidio â chefnogi'r defnydd o gyffuriau sy'n gwella perfformiad, ac unrhyw sylwedd anghyfreithlon arall
  2. cynnal cyfrinachedd
  3. delio â chyfranogwyr mewn modd agored a thryloyw; gan barchu anghenion eu cyfranogwyr bob tro
  4. ceisio mabwysiadu'r lefel uchaf o safonau proffesiynol yn holl feysydd eu gwaith a datblygiad eu gyrfa

Ymddygiadau

Mae'r ymddygiadau dilynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd


 


 

Dylai Gweithwyr Proffesiynol Ymarfer:

  1. ceisio magu perthnasau iach gyda chyfranogwyr a gweithwyr proffesiynol iechyd eraill trwy gefnogi, cydgysylltu a rheoli'r broses ffitrwydd/ymarfer yn effeithiol, gan gadw'r cyfranogwr wrth ganol y broses
  2. bod yn ymwybodol o rolau personél cynorthwyol yn y galwedigaethau gofal iechyd a chydnabod pryd y dylid atgyfeirio problemau i'r arbenigwyr hyn
  3. bod yn ymwybodol o gyfrifoldebau ac atebolrwyddau o dan ddeddfwriaeth cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a chodau ymarfer y diwydiant
  4. anelu at rymuso cyfranogwyr; yn cefnogi eu hawl i wneud dewisiadau, darganfod eu hatebion eu hunain, a'u galluogi i gymryd rhan a datblygu ar eu cyflymder eu hunain ac yn eu ffordd eu hunain
  5. nodi a chydnabod anghenion y cyfranogwyr ar ddechrau'r broses

anelu at wella hyder, hunan-barch a lefelau ffitrwydd cyfranogwyr
6. myfyrio ar eu harfer eich hunain a thrwy'r amser geisio ffyrdd i wella eu gallu ffitrwydd ac ymarfer, sgiliau a gwybodaeth eu hunain
7. sefydlu perthynas dda gyda chyfranogwyr
8. dangos empathi a sensitifrwydd i nodau a chyflwr parodrwydd cyfredol cyfranogwyr
9. cyflwyno delwedd gadarnhaol o'u hunain a'u sefydliad i gyfranogwyr
10. datblygu perthynas weithio effeithiol gyda chyfranogwyr
11. diffinio'n glir rolau a chyfrifoldebau gweithwyr proffesiynol eraill a allai fod yn gysylltiedig
12. cyfathrebu'n glir gyda chyfranogwyr mewn ffordd sy'n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi
13. dangos sensitifrwydd ac empathi i'r cyfranogwyr a'r wybodaeth maent yn ei darparu


Sgiliau

Mae'r sgiliau dilynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd


 


 

Dylai Gweithwyr Proffesiynol Ymarfer:

  1. baratoi'n systematig ar gyfer yr holl weithgareddau gan sicrhau iechyd, diogelwch a lles eu cyfranogwyr
  2. sicrhau bod gwahaniaethu a chynhwysiant a all alluogi cyfranogwyr ag anghenion neilltuol ac o alluoedd amrywiol i gymryd rhan mewn sesiynau a rhaglenni. Dylid ystyried anghenion cyfranogwyr ag anabledd ac, lle mae'n bosibl, dylid cwrdd â'u hanghenion
  3. gweithredu rheolau sylfaenol ar gyfer ymddygiad yn ystod y sesiwn
  4. esbonio eu rôl a chyfrifoldebau i gyfranogwyr
  5. nodi unrhyw rwystrau i gyfranogi
  6. annog cyfranogwyr i ganfod ateb i'w rhwystrau
  7. nodi parodrwydd cyfranogwyr i gyfranogi
  8. nodi a chytuno strategaethau i atal rhoi'r gorau neu lithro'n ôl
  9. defnyddio arddulliau hyfforddi sy'n cyfateb ag anghenion cyfranogwyr
  10. addasu eu perthynas â chyfranogwyr er mwyn cwrdd â'u hanghenion cyfnewidiol
  11. gwrando ar a gofyn cwestiynau i gyfranogwyr er mwyn gwirio eu dealltwriaeth
  12. nodi'r wybodaeth mae arnynt angen ei chasglu ynghylch eu cyfranogwyr
  13. casglu gwybodaeth ynghylch eu cyfranogwyr gan ddefnyddio dulliau cymeradwy
  14. cofnodi'r wybodaeth mewn ffordd a fydd yn helpu i'w dadansoddi
  15. defnyddio technegau cyfathrebu ac ymatebion priodol wrth ddelio ag anghydfod
  16. cydnabod ymddygiad gwahaniaethol a gwybod am y gweithdrefnau i'w dilyn os bydd unrhyw ddigwyddiadau​

Geirfa

​Gweithgareddau

Cydrannau sesiwn gweithgaredd corfforol a all ffocysu ar eich datblygiad o gryfder, dygnwch, technegau neu ymwybyddiaeth dactegol neu strategaethau datrys problemau eich cyfranogwyr. Mae sesiynau gweithgarwch corfforol wedi'u llunio o un neu fwy o weithgareddau.

Cod Ymarfer

Cyfeiriwch at God Ymddygiad Moesegol Cofrestr y Gweithwyr Ymarfer Corff Proffesiynol.​

Person cymwys

Gall hwn/hon fod yn hyfforddwr, rheolwr llinell neu weithiwr proffesiynol  mwy cymwys.

Dadgynhesu

Gweithgareddau diogel sy'n caniatáu cyfranogwyr i ddod dros gweithgareddau a ymgymerwyd mewn sesiwn gweithgarwch corfforol, yn feddyliol ac yn gorfforol.

Adborth

Y broses o roi a derbyn sylwadau ar berfformiad. Gall hyn eich cynnwys chi'n rhoi adborth i gyfranogwyr ar eu perfformiad neu gyfraniad at sesiwn gweithgarwch corfforol; neu hyfforddwr mwy profiadol yn rhoi barn ar eich perfformiad wrth gyflwyno sesiwn gweithgarwch corfforol penodol.

Nodau

Gallant fod yn rhai tymor hir, tymor canolig neu dymor byr.

*
*
 

*
*
 

​Arddull hyfforddi

Y ffordd rydych chi'n ymwneud â chyfranogwyr yn ystod sesiwn gweithgarwch corfforol; gall hyn gynnwys defnydd amrywiaeth o arddulliau. Er enghraifft: cyfarwyddo cyfranogwyr yn yr hyn sydd i'w wneud a'u cefnogi.

Cyfranogwyr

Pobl, fel unigolion, neu mewn grwpiau, a fydd yn cymryd rhan mewn sesiwn gweithgaredd corfforol.

Cynllun gweithredu personol

Cofnod o'r meysydd hynny yn eich sesiynau gweithgarwch corfforol rydych am eu gwella. Y nodau personol rydych am eu cyrraedd, sut y byddwch yn gwneud hyn ac erbyn pryd.

Adolygiad/adolygu

Y broses o ddadansoddi'r sesiynau rydych wedi eu cynllunio a chyflenwi, gan nodi'r hyn a aeth yn dda a'r hyn y gallai fod wedi cael ei wella.

Cynhesu

Gweithgareddau diogel sy'n caniatáu cyfranogwyr i baratoi'n feddyliol ac yn gorfforol ar gyfer sesiwn gweithgarwch corfforol.

Lles

Cefnogi lles y cyfranogwyr, gan gynnwys ffordd o fyw sylfaenol, maeth ac ymwybyddiaeth cyffuriau.​


Dolenni I NOS Eraill

​Mae'r safon yn cysylltu â SKAEF1, SKAEF2 a SKAEF5.​


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAD454

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Chwaraeon a Ffitrwydd, Galwedigaethau proffesiynol a thechnegol cysylltiol

Cod SOC


Geiriau Allweddol

edrych nôl; datblygu; arfer eich hunan; hyfforddi; grŵp; ymarfer corff