Cynllunio a pharatoi sesiynau ymarfer corff corff mewn grŵp
Trosolwg
Mae'r safon yma'n ymwneud â chynllunio a pharatoi cynllun ymarfer corff corff mewn grŵp i oedolion sy'n ymddangos yn iach.
Dyma brif ddeilliannau'r safon hon:
- casglu a dadansoddi gwybodaeth
- cynllunio ymarfer corff mewn grŵp yn diogel ac effeithiol
- paratoi eich hunan a'r cyfarpar ar gyfer ymarfer corff mewn grŵp
Rhaid ichi gynnwys yr wybodaeth ymarfer corff a ffitrwydd craidd a'r ddealltwriaeth ddamcaniaethol fel ag y manylir yn y ddogfen Gofynion Gwybodaeth Graidd Ymarfer Corff a Ffitrwydd SkillsActive perthnasol i rôl y swydd.
Mae'r safon yma ar gyfer hyfforddwyr sy'n cynllunio, hyfforddi ac adolygu bob math o raglenni ymarfer corff mewn grŵp.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Casglu a dadansoddi gwybodaeth**
**
1. casglu'r wybodaeth sydd ei angen arnoch i gynllunio sesiynau a fformatau ymarfer corff mewn grŵp
2. dadansoddi'r wybodaeth ac adnabod y goblygiadau ar gyfer sesiynau a fformatau ymarfer corff mewn grŵp
3. cyfeirio unrhyw gyfranogwyr na allwch chi gyfarfod â'u hanghenion a'u potensial at weithwyr proffesiynol eraill
4. cynnal a chadw cyfrinachedd, gan ddilyn gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol
Cynllunio ymarfer corff mewn grŵp yn ddiogel ac effeithiol
5. adnabod amcanion sy'n ateb gofynion a photensial cyfranogwyr
6. cynllunio sesiynau a fformatau a fydd yn helpu cyfranogwyr i gymryd rhan a chyrraedd deilliannau a fwriadwyd
7. adnabod peryglon ac asesu'r risg mae'r peryglon yma'n eu cyflwyno
8. cynllunio sut fyddwch chi'n lleihau'r risgiau hyn
9. cynllunio amseriadau realistig i'r sesiwn a*'*r fformatau
10. cofnodi eich cynlluniau yn unol â gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol
11. ceisio cyngor gan weithwyr proffesiynol eraill ynglŷn â materion tu allan i faes eich cymhwysedd
Paratoi eich hunan a'r cyfarpar ar gyfer ymarfer corff mewn grŵp
**
**
12. adnabod a dewis cyfarpar diogel a chywir ar gyfer y sesiwn a'r fformatau
13. codi a thrin y cyfarpar mewn ffordd sy'n atal anaf a difrod
14. trefnu'r lle fel bod modd ymarfer corff yn ddiogel
15. dilyn gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer gwirio cyfarpar a delio ag unrhyw eitemau sy'n anniogel
16. atgyfeirio unrhyw faterion iechyd, diogelwch neu les yn unol â gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Casglu a dadansoddi gwybodaeth**
1. yr wybodaeth sydd ei hangen i gynllunio sesiynau a fformatau ymarfer corff mewn grŵp
2. technegau dadansoddi gwybodaeth
3. lle a phryd i atgyfeirio unrhyw gyfranogwyr, nad oes modd cyfarfod â'u hanghenion a'u potensial, at weithwyr proffesiynol eraill
4. gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol yn ymwneud â chyfrinachedd **
Cynllunio ymarfer corff mewn grŵp yn ddiogel ac effeithiol
5. technegau gosod amcanion
6. y ffactorau sydd ynghlwm â chynllunio sesiwn
7. ffyrdd o adnabod unrhyw beryglon ac asesu'r ffactorau iechyd ac amgylcheddol a all ddylanwadu ar ddiogelwch
8. ffyrdd o leihau risgiau
9. dulliau o gynllunio amseriadau realistig ar gyfer y sesiwn a'r fformat
10. sut i gofnodi cynlluniau yn unol â gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol
11. pryd a sut i gael cyngor gan weithwyr proffesiynol eraill wrth ddelio ag amcanion, ymarferion neu beryglon sydd y tu allan i lefel eich cymhwyster
Paratoi eich hunan a'r cyfarpar ar gyfer ymarfer corff mewn grŵp
12. ffyrdd o adnabod a dewis cyfarpar diogel a chywir ar gyfer y sesiynau a'r fformatau
13. technegau codi a thrin cyfarpar mewn ffordd sy'n atal anaf a difrod
14. ffyrdd o drefnu'r amgylchedd waith fel bod modd ymarfer corff yn ddiogel
15. y paratoad sydd ei angen i arwain sesiwn a fformat
16. y gweithdrefnau cywir ar gyfer gwirio cyfarpar a delio ag unrhyw eitemau sy'n anniogel
17. pryd a sut i atgyfeirio unrhyw faterion iechyd, diogelwch neu les yn unol â gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth**
**
**
- nod personol
- ffordd o fyw
- hanes meddygol
- hanes gweithgarwch corfforol
- ffafriaeth gweithgarwch corfforol
- agwedd ac ysgogiad i gyfranogi
- lefel ffitrwydd presennol
- stad o barodrwydd
- parodrwydd seicolegol
**
**
Sesiynau,** i ddatblygu
- ffitrwydd cardiofasgwlar
- ffitrwydd cyhyrol
- hyblygrwydd
- sgiliau echddygol
**
**
Fformatau** (i wneud ar gyfer lleiafswm o 2)
- cylchiadau
- ymarfer corff i gerddoriaeth
- dawns
- coreograffi
- gweithgarwch heb goreograffi
Cyfranogwyr
*
*
*
*
- unigol
- grwpiau
- gydag anghenion ffitrwydd penodol
- gydag anghenion iechyd cyffredinol
**
**
**
**
Gweithwyr proffesiynol eraill** (i wneud ar gyfer lleiafswm o 2)
- ffisiotherapyddion a doctoriaid
- seicolegwyr
- ffisiolegwyr
- biopeirianaethwyr
- arbenigwyr cefnogi ffordd o fyw
- rhwydwaith cefnogaeth gymdeithasol cyfranogwyr
- meddyg
- goruchwyliwr
- gweithiwr proffesiynol iechyd/ymarfer corff arbenigol
- maethegydd/dietegydd
**
**
Gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol** (i ddelio â lleiafswm o 4)
- Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
- Rheolaeth Sylweddau sy'n Beryglus i Iechyd
- Rheoliadau Riportio Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus
- Rheoliadau Trydan yn y Gwaith
- Rheoliadau Cymorth Cyntaf
- gweithdrefnau a pholisïau sefydliadol unigol
**
**
Amcanion,** yn ymwneud â
- gwella ffitrwydd
- gwella cymhelliant
- mynd i'r afael â rhwystrau i gyfranogi
- gwella sgiliau a thechnegau
- gwella iechyd
- hwyl a mwynhad
Peryglon
*
*
*
*
- y cyfranogwyr
- y gweithgareddau rydych yn eu cynllunio
- gweithgareddau'n digwydd ar yr un pryd
**
**
**
**
Cyfarpar,** i ddatblygu
- ffitrwydd cardiofasgwlar
- ffitrwydd cyhyrol
- hyblygrwydd
- sgiliau echddygol
Gwybodaeth Cwmpas
Gwybodaeth**
**
**
- nod personol
- ffordd o fyw
- hanes meddygol
- hanes gweithgarwch corfforol
- ffafriaeth gweithgarwch corfforol
- agwedd ac ysgogiad i gyfranogi
- lefel ffitrwydd presennol
- stad o barodrwydd
- parodrwydd seicolegol
Gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol
*
*
*
*
- Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
- Rheolaeth sylweddau Peryglus i Iechyd
- Rheoliadau Riportio Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus
- Rheoliadau Trydan yn y Gwaith
- Rheoliadau Cymorth Cyntaf
- gweithdrefnau a pholisïau sefydliadol unigol
Amgylchedd waith
*
*
*
*
- gofod
- cynllun gosod
- tymheredd
- llawr
- goleuo
- awyru
- defnydd cerddoriaeth
- cyfarpar ar gyfer y sesiwn
- dillad a chyfarpar personol
Gwerthoedd
Mae'r gwerthoedd dilynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd
Dylai Gweithwyr Proffesiynol Ymarfer:
- arddangos a hyrwyddo ffordd gyfrifol o fyw ac ymddwyn, trwy beidio â chefnogi'r defnydd o gyffuriau sy'n gwella perfformiad, ac unrhyw sylwedd anghyfreithlon arall
- cynnal cyfrinachedd
- delio â chyfranogwyr mewn modd agored a thryloyw; gan barchu anghenion eu cyfranogwyr bob tro
- ceisio mabwysiadu'r lefel uchaf o safonau proffesiynol yn holl feysydd eu gwaith a datblygiad eu gyrfa
Ymddygiadau
Mae'r ymddygiadau dilynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd
Dylai Gweithwyr Proffesiynol Ymarfer:
- ceisio magu perthnasau iach gyda chyfranogwyr a gweithwyr proffesiynol iechyd eraill trwy gefnogi, cydgysylltu a rheoli'r broses ffitrwydd/ymarfer yn effeithiol, gan gadw'r cyfranogwr wrth ganol y broses
- bod yn ymwybodol o rolau personél cynorthwyol yn y galwedigaethau gofal iechyd a chydnabod pryd y dylid atgyfeirio problemau i'r arbenigwyr hyn
- bod yn ymwybodol o gyfrifoldebau ac atebolrwyddau o dan ddeddfwriaeth cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a chodau ymarfer y diwydiant
- anelu at rymuso cyfranogwyr; yn cefnogi eu hawl i wneud dewisiadau, darganfod eu hatebion eu hunain, a'u galluogi i gymryd rhan a datblygu ar eu cyflymder eu hunain ac yn eu ffordd eu hunain
- nodi a chydnabod anghenion y cyfranogwyr ar ddechrau'r broses
- anelu at wella hyder, hunan-barch a lefelau ffitrwydd cyfranogwyr
- myfyrio ar eu harfer eich hunain a thrwy'r amser geisio ffyrdd i wella eu gallu ffitrwydd ac ymarfer, sgiliau a gwybodaeth eu hunain
- sefydlu perthynas dda gyda chyfranogwyr
- dangos empathi a sensitifrwydd i nodau a chyflwr parodrwydd cyfredol cyfranogwyr
- cyflwyno delwedd gadarnhaol o'u hunain a'u sefydliad i gyfranogwyr
- datblygu perthynas weithio effeithiol gyda chyfranogwyr
- diffinio'n glir rolau a chyfrifoldebau gweithwyr proffesiynol eraill a allai fod yn gysylltiedig
- cyfathrebu'n glir gyda chyfranogwyr mewn ffordd sy'n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi
- dangos sensitifrwydd ac empathi i'r cyfranogwyr a'r wybodaeth maent yn ei darparu
Sgiliau
Mae'r sgiliau dilynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd
Dylai Gweithwyr Proffesiynol Ymarfer:
- baratoi'n systematig ar gyfer yr holl weithgareddau gan sicrhau iechyd, diogelwch a lles eu cyfranogwyr
- sicrhau bod gwahaniaethu a chynhwysiant a all alluogi cyfranogwyr ag anghenion neilltuol ac o alluoedd amrywiol i gymryd rhan mewn sesiynau a rhaglenni. Dylid ystyried anghenion cyfranogwyr ag anabledd ac, lle mae'n bosibl, dylid cwrdd â'u hanghenion
- gweithredu rheolau sylfaenol ar gyfer ymddygiad yn ystod y sesiwn
- esbonio eu rôl a chyfrifoldebau i gyfranogwyr
- nodi unrhyw rwystrau i gyfranogi
- annog cyfranogwyr i ganfod ateb i'w rhwystrau
- nodi parodrwydd cyfranogwyr i gyfranogi
- nodi a chytuno strategaethau i atal rhoi'r gorau neu lithro'n ôl
- defnyddio arddulliau hyfforddi sy'n cyfateb ag anghenion cyfranogwyr
- addasu eu perthynas â chyfranogwyr er mwyn cwrdd â'u hanghenion cyfnewidiol
- gwrando ar a gofyn cwestiynau i gyfranogwyr er mwyn gwirio eu dealltwriaeth
- nodi'r wybodaeth mae arnynt angen ei chasglu ynghylch eu cyfranogwyr
- casglu gwybodaeth ynghylch eu cyfranogwyr gan ddefnyddio dulliau cymeradwy
- cofnodi'r wybodaeth mewn ffordd a fydd yn helpu i'w dadansoddi
- defnyddio technegau cyfathrebu ac ymatebion priodol wrth ddelio ag anghydfod
- cydnabod ymddygiad gwahaniaethol a gwybod am y gweithdrefnau i'w dilyn os bydd unrhyw ddigwyddiadau
Geirfa
Gweithgareddau
Cydrannau sesiwn gweithgaredd corfforol a all ffocysu ar eich datblygiad o gryfder, dygnwch, technegau neu ymwybyddiaeth dactegol neu strategaethau datrys problemau eich cyfranogwyr. Mae sesiynau gweithgarwch corfforol wedi'u llunio o un neu fwy o weithgareddau.
*
*
*
*
Nodau
Gallant fod yn rhai tymor hir, tymor canolig neu dymor byr.
Perygl
Rhywbeth sy'n beryglus neu a all achosi niwed.
Disgrifwyr galwedigaethol
Disgrifiad a dadansoddiad swyddogaeth galwedigaethol/rôl swydd
Cyfranogwyr
Pobl, fel unigolion, neu mewn grwpiau, a fydd yn cymryd rhan mewn sesiwn gweithgaredd corfforol.
Cynllun
Cynllun sesiwn gweithgaredd corfforol ydy disgrifiad o sesiwn benodol; yn gynwysedig yn y cynllun fydd y nodau, yr amcanion, cynnwys, gweithgareddau, amseriadau a'r cyfarpar sydd ei angen. Dylid cofnodi cynlluniau er mwyn cael eu rhannu gydag eraill a chyfeirio atyn nhw'n ddiweddarach.
Adolygiad
Y broses o ddadansoddi'r sesiynau rydych wedi eu cynllunio a chyflenwi, gan nodi'r hyn a aeth yn dda a'r hyn y gallai fod wedi cael ei wella.
Goruchwyliwr
Y person sy'n rheoli'ch gwaith yn uniongyrchol, h.y. rheolwr llinell neu reolwr canolfan ffitrwydd.
Lles
Cefnogi lles cyfranogwyr, gan gynnwys ffordd o fyw sylfaenol, maeth ac ymwybyddiaeth cyffuriau.
Dolenni I NOS Eraill
Mae’r safon hon yn cysylltu â SKAEF1, SKAEF2 a SKAEF6.