Hyfforddi a goruchwylio ymarfer yn y gampfa
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â hyfforddi a goruchwylio ymarfer yn y gampfa ar gyfer oedolion sydd yn ôl pob golwg yn iach; a hynny'n unigolion ac yn grwpiau.
Prif ganlyniadau'r safon hon yw:
- paratoi cyfranogwyr ar gyfer ymarfer yn y gampfa
- hyfforddi ymarfer yn y gampfa i gyfranogwyr
- arsylwi a goruchwylio ar ymarfer yn y gampfa
- cloi ac ystyried y sesiwn ymarfer yn y gampfa
- gwella'ch arfer proffesiynol a chyfleoedd gyrfaol eich hun
Rhaid ichi gynnwys yr ymarfer craidd a'r wybodaeth am ffitrwydd a dealltwriaeth ddamcaniaethol fel y ceir hy yn y ddogfen Gofynion Gwybodaeth Graidd Ymarfer a Ffitrwydd SkillsActive sy'n berthnasol i rôl y swydd.
Mae hon yn safon ar gyfer hyfforddwyr sy'n cynllunio, yn hyfforddi ac yn adolygu rhaglenni ymarfer yn y gampfa o bob math. Rhaid i hyfforddwyr hefyd ystyried canllawiau gan gyrff cenedlaethol perthnasol a'u profiad blaenorol eu hunain wrth hyfforddi a goruchwylio sesiynau
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Paratoi cyfranogwyr ar gyfer ymarfer yn y gampfa**
1. sicrhau bod yr amgylchedd a'r offer wedi'u paratoi ar gyfer y rhaglen y cytunwyd arni
2. cynnal y broses sgrinio ar lafar a chasglu unrhyw wybodaeth
newydd yn ymwneud â pharodrwydd y cyfranogwyr ar gyfer ymarfer
3. cadarnhau neu ddiwygio'r rhaglen y cytunwyd arni ar sail unrhyw wybodaeth
newydd a dderbynnir gan y cyfranogwyr
4. trafod y rhaglen yr ydych chi wedi cytuno arni gyda'r cyfranogwyr a disgrifio'r galwadau corfforol a thechnegol arnynt
5. cynghori cyfranogwyr o weithdrefnau brys y cyfleuster
**
Hyfforddi ymarfer yn y gampfa i gyfranogwyr
6. defnyddio gweithgareddau cynhesu ac oeri sy'n bodloni gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol
7. rhoi esboniadau ac arddangosiadau i'r cyfranogwyr
8. gwirio dealltwriaeth y cyfranogwyr o gyfarwyddiadau a rhoi cyfle iddynt ofyn cwestiynau
9. monitro dwyster a thechneg yr ymarfer sydd wedi'i ddewis
10. sicrhau bod y cyfranogwyr yn ddiogel yn ystod yr ymarfer yn y gampfa
11. rhoi i'r cyfranogwyr y cyfarwyddyd angenrheidiol a strategaethau ysgogiadol i barhau i gynnal y rhaglen heb eich goruchwyliaeth uniongyrchol
12. cadw at yr amserau arfaethedig ar gyfer yr ymarfer
13. sicrhau bod gan y cyfranogwyr fanylion ar gyfer gweithgareddau yn y dyfodol
**
**
Arsylwi a goruchwylio ar ymarfer yn y gampfa**
14. defnyddiwch dechnegau arsylwadol a fydd yn cynorthwyo gyda monitro diogelwch ac effeithiolrwydd ymarfer yn y gampfa i'r holl gyfranogwyr
15. annog a chefnogi cyfranogwyr i gymryd cyfrifoldeb dros eu ffitrwydd eu hunain
16. adolygu perfformiad cyfranogwyr a chynnig dilyniannau ac atchweliadau mewn ymateb i'w hanghenion
17. rhoi cyfleoedd i gyfranogwyr ofyn cwestiynau
18. cyfeirio cyfranogwyr at weithwyr proffesiynol pan fydd eu hanghenion y tu hwnt i'ch lefel gymhwysedd
**
**
Cloi ac ystyried y sesiwn ymarfer yn y gampfa**
19. caniatáu amser ar ddiwedd y sesiwn yn unol â lefel profiad y cyfranogwyr**
20. gorffen y sesiwn gan ddefnyddio gweithgareddau oeri sy'n bodloni anghenion y cyfranogwyr
21. rhoi cyfle i gyfranogwyr ystyried y sesiwn a rhoi adborth
22. rhoi crynodeb i gyfranogwyr o'ch adborth ar y sesiwn **
23. adnabod, o'r adborth a roddir, pa mor dda yr oedd eich arddull hyfforddi yn cyd-fynd ag anghenion y cyfranogwyr
24. adnabod, o'r adborth a roddir, ffyrdd y gallwch wella arfer yn y dyfodol
25. cytuno ar gynllun gweithredu yn ymwneud â sesiynau yn y dyfodol gyda chyfranogwyr
26. adnabod pa mor dda y gwnaethoch chi reoli ymarfer y cyfranogwyr yn ymwneud â'u hiechyd, eu diogelwch a'u lles
27. gadael yr amgylchedd mewn cyflwr sy'n dderbyniol at eich defnydd chi ac eraill yn y dyfodol
28. trosglwyddo awgrymiadau ar gyfer gwella iechyd a diogelwch i'r unigolyn perthnasol
Gwella'ch arfer proffesiynol a chyfleoedd gyrfaol eich hun**
- trafod eich syniadau gyda gweithwyr proffesiynol eraill ac ystyried eu barnau
30. croesawu a derbyn adborth gan weithwyr proffesiynol eraill
31. gwerthuso pa mor dda yr ydych chi wedi gweithio a rhyngweithio gyda gweithwyr proffesiynol eraill
32. adolygu'ch arfer proffesiynol eich hun yn unol â gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol
33. datblygu cynllun gweithredu personol a fydd yn eich helpu chi i wella'ch arfer proffesiynol
34. cynnal Datblygiad Proffesiynol Parhaus o fewn ymarfer yn y gampfa
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Paratoi cyfranogwyr ar gyfer ymarfer yn y gampfa**
1. y cyfarpar sy'n ofynnol ar gyfer y sesiwn y cytunwyd arni a sut i baratoi'r
amgylchedd
2. pam y dylech chi gwrdd â'r cyfranogwyr yn brydlon a'u croesawu
3. ffyrdd o gynnal y broses sgrinio ar lafar a chasglu unrhyw wybodaeth newydd yn ymwneud â pharodrwydd cyfranogwyr i ymarfer
4. pryd i gadarnhau a diwygio'r rhaglen y cytunwyd arni ar sail unrhyw wybodaeth newydd a dderbynnir
5. galwadau corfforol a thechnegol y rhaglen y cytunwyd arni
6. gweithdrefnau brys y cyfleuster
7. gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer cyflwyno ymarfer yn y gampfa
**
Hyfforddi ymarfer yn y gampfa i gyfranogwyr
8. diben a gwerth y gweithgareddau cynhesu ac oeri
9. gweithgareddau cynhesu ac oeri diogel ac effeithiol ar gyfer ymarfer yn y gampfa
10. ffyrdd o gynnig esboniadau ac arddangosiadau sy'n ymwneud ag anghenion a lefel profiad y cyfranogwyr
11. pam y dylech chi wirio dealltwriaeth y cyfranogwyr o'r cyfarwyddiadau a rhoi cyfle iddynt ofyn cwestiynau
12. dulliau ar gyfer monitro dwyster a thechneg yr ymarferion a ddewiswyd
13. sut i sicrhau bod cyfranogwyr yn cynnal ymarferion mewn modd diogel ac effeithiol
14. mathau gwahanol o ddulliau hyfforddi ac addysgu a sut y gellir eu defnyddio i fodloni anghenion gwahanol gyfranogwyr
15. y math o anogaeth a manylion y mae angen i gyfranogwyr eu gwybod er mwyn caniatáu iddynt barhau i gynnal y rhaglen heb oruchwyliaeth uniongyrchol
16. pam y dylech chi gadw at amseriadau arfaethedig
17. gweithgareddau sydd wedi'u cynllunio i'r dyfodol a ble i gael mynediad at wybodaeth
**
**
**
**
Arsylwi a goruchwylio ar ymarfer yn y gampfa**
18. technegau arsylwi a fydd yn cynorthwyo gyda monitro diogelwch ac effeithiolrwydd ymarfer yn y gampfa
19. ffyrdd o annog a chefnogi cyfranogwyr i gymryd cyfrifoldeb dros eu ffitrwydd eu hunain
20. ffyrdd o adolygu perfformiad cyfranogwyr a phryd i ddarparu dilyniannau ac atchweliadau addas mewn ymateb i'w hanghenion
21. pam y dylech chi roi cyfle i gyfranogwyr ofyn cwestiynau
22. ffyrdd o asesu os oes gan gyfranogwr anghenion y tu hwnt i'ch lefel gymhwysedd a sut i gyfeirio at weithiwr proffesiynol arall
**
**
Cloi ac ystyried y sesiwn ymarfer yn y gampfa
23. diben caniatáu digon o amser i gloi'r sesiwn yn ôl lefel profiad y cyfranogwyr
24. y dulliau ar gyfer casglu adborth gan gyfranogwyr ac eraill
25. ffyrdd o roi i'r cyfranogwyr grynodeb o'ch adborth ar y sesiwn
26. pam y dylech chi roi cyfle i gyfranogwyr adlewyrchu ar y sesiwn a rhoi adborth
27. sut y gall ystyriaeth ac adborth gan gyfranogwyr ac eraill wella arfer yn y dyfodol
28. sut i sicrhau bod strategaethau ysgogiadol yn effeithiol gyda'r cyfranogwyr a sut y gellir defnyddio'r rhain i hysbysu ymarfer yn y gampfa yn y dyfodol
29. ffyrdd o gytuno ar gynllun gweithredu yn ymwneud â sesiynau yn y dyfodol gyda chyfranogwyr
30. sut i adnabod a rheoli materion iechyd, diogelwch a lles wrth reoli ymarfer yn y gampfa y cyfranogwyr
31. ffyrdd o adael yr amgylchedd mewn cyflwr derbyniol at eich defnydd chi ac eraill yn y dyfodol
**
**
Gwella'ch arfer proffesiynol a'ch cyfleoedd gyrfaol eich hun**
32. pryd i drafod eich gwaith gydag eraill ac ystyried eu barnau, gan ystyried eich arfer proffesiynol eich hun
33. sut i ddadansoddi pa mor dda'r ydych chi'n gweithio a rhyngweithio gydag eraill
34. pam y dylech chi adolygu'ch arfer proffesiynol yn rheolaidd
35. dulliau a ffynonellau gwybodaeth i'ch cadw'n gyfredol â datblygiadau o fewn ymarferion yn y gampfa
36. sut i ddatblygu cynllun gweithredu personol
37. sut i leoli ac adnabod gweithgareddau Datblygiad Proffesiynol Parhaus ardystiedig a'u cynnwys yn eich cynllun gweithredu personol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Amgylchedd**
**
**
- gofod
- gosodiad
- tymheredd
- llawr
- goleuadau
- awyru
- offer ar gyfer y sesiwn
- dillad a chyfarpar personol
**
**
Offer,** i ddatblygu
- ffitrwydd cardiofasgwlaidd
- ffitrwydd cyhyrol
- hyblygrwydd
- sgiliau symud
**
**
Gwybodaeth**
**
**
- nod personol
- ffordd o fyw
- hanes meddygol
- hanes gweithgarwch corfforol
- dewisiadau gweithgarwch corfforol
- agwedd a symbyliad i gymryd rhan
- lefel ffitrwydd gyfredol
- cyfnod parodrwydd
- parodrwydd seicolegol
**
**
Cyfranogwyr**
**
**
- unigolion
- grwpiau
- gydag anghenion ffitrwydd penodol
- gydag anghenion iechyd cyffredinol
**
**
Ymarferion,** i ddatblygu
- ffitrwydd cardiofasgwlaidd
- ffitrwydd cyhyrol
- hyblygrwydd
- sgiliau symud
- fformatau ymarfer cylch
**
**
Gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol** (i drafod 4 o leiaf)
- Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
- Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd
- Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Afiechydon a Digwyddiadau Peryglus
- Rheoliadau Trydan yn y Gweithle
- Rheoliadau Cymorth Cyntaf
- polisïau a gweithdrefnau sefydliadau unigol
**
**
Strategaethau Ysgogiadol**
- cynhenid
- anghynhenid
- gosod nodau
- cymelliadau / gwobrau
- newid ymddygiad
**
**
Gweithwyr proffesiynol eraill** (i ymdrin ag isafswm o 2)
- ffisiotherapyddion a meddygon
- seicolegwyr
- ffisiolegwyr
- biomecanwyr
- arbenigwyr cefnogi ffordd o fyw
- rhwydwaith cymorth cymdeithasol cyfranogwyr
- meddyg
- goruchwyliwr
- gweithiwr proffesiynol iechyd/ymarfer corff arbenigol
- maethegydd/deietegydd
**
Cynllun Gweithredu Personol**
**
**
- ysgrifenedig
- ar lafar
**
**
Datblygiad Proffesiynol Parhaus**
**
**
- gweithdai
- darllen
- cynadleddau
- darlithoedd
- ar-lein
Gwybodaeth Cwmpas
Amgylchedd**
**
**
- gofod
- gosodiad
- tymheredd
- llawr
- goleuadau
- awyriad
- offer ar gyfer y sesiwn
- dillad ac offer personol
**
**
Gwybodaeth**
**
**
- nod bersonol
- ffordd o fyw
- hanes meddygol
- hanes gweithgarwch corfforol
- dewisiadau gweithgarwch corfforol
- agwedd a chymhelliant i gymryd rhan
- lefel ffitrwydd ar hyn o bryd
- cyfnod parodrwydd
- parodrwydd seicolegol
**
**
Gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol**
**
**
- Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
- Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd
- Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Afiechydon a Digwyddiadau Peryglus
- Rheoliadau Trydan yn y Gweithle
- Rheoliadau Cymorth Cyntaf
- polisïau a gweithdrefnau sefydliadol unigol
**
**
Dulliau hyfforddi ac addysgu**
**
**
- newid safleoedd addysgu
- gofyn cwestiynau
- gwneud addasiadau a dilyniannau
- cyfathrebu ar lafar a gweledol
- adlewyrchu
**
**
Dulliau**
**
**
- cyfweld
- holiadur
- sgrinio ar lafar
- arsylwi
**
**
Strategaethau Ysgogiadol**
**
**
- cynhenid
- anghynhenid
- gosod nodau
- cymelliadau/gwobrau
- newid ymddygiad
**
**
Cynllun Gweithredu Personol**
**
**
- ysgrifenedig
- ar lafar
**
**
Datblygiad Proffesiynol Parhaus**
**
**
- gweithdai
- darllen
- cynadleddau
- darlithoedd
- ar-lein
Gwerthoedd
Mae'r gwerthoedd canlynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd
Dylai Gweithwyr Ymarfer Proffesiynol:
- arddangos a hyrwyddo ffordd gyfrifol o fyw ac ymddwyn, trwy beidio â chefnogi'r defnydd o gyffuriau sy'n gwella perfformiad, ac unrhyw sylwedd anghyfreithlon arall
- cynnal cyfrinachedd
- delio â chyfranogwyr mewn modd agored a thryloyw; gan barchu anghenion eu cyfranogwyr bob tro
- ceisio mabwysiadu'r lefel uchaf o safonau proffesiynol yn holl feysydd eu gwaith a datblygiad eu gyrfa
Ymddygiadau
Mae'r ymddygiadau canlynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd
Dylai Gweithwyr Ymarfer Proffesiynol:
- geisio magu perthnasau iach gyda chyfranogwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill trwy gefnogi, cydgysylltu a rheoli'r broses ffitrwydd/ymarfer corff yn effeithiol, gan gadw'r cyfranogwr wrth wraidd y broses
- bod yn ymwybodol o rolau personél cynorthwyol yn y galwedigaethau gofal iechyd a chydnabod pryd y dylid atgyfeirio problemau at yr arbenigwyr hyn
- bod yn ymwybodol o gyfrifoldebau ac atebolrwyddau o dan ddeddfwriaeth cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a chodau ymarfer y diwydiant
- anelu at rymuso cyfranogwyr; yn cefnogi eu hawl i wneud dewisiadau, dod o hyd i'w hatebion eu hunain, a'u galluogi i gymryd rhan a datblygu ar eu cyflymder eu hunain ac yn eu ffordd eu hunain
- nodi a chydnabod anghenion y cyfranogwyr ar ddechrau'r broses
- anelu at wella hyder, hunan-barch a lefelau ffitrwydd cyfranogwyr
- myfyrio ar eu harfer eu hunain a thrwy'r amser geisio ffyrdd i wella eu gallu ffitrwydd ac ymarfer, sgiliau a gwybodaeth eu hunain
- sefydlu perthynas dda gyda chyfranogwyr
- dangos empathi a sensitifrwydd i nodau a chyflwr parodrwydd cyfredol cyfranogwyr
- cyflwyno delwedd gadarnhaol o'u hunain a'u sefydliad i gyfranogwyr
- datblygu perthynas waith effeithiol gyda chyfranogwyr
- diffinio rolau a chyfrifoldebau gweithwyr proffesiynol eraill a allai fod yn gysylltiedig, yn glir
- cyfathrebu'n glir gyda chyfranogwyr mewn ffordd sy'n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi
- dangos sensitifrwydd ac empathi i'r cyfranogwyr a'r wybodaeth maent yn ei darparu
Sgiliau
Mae'r sgiliau dilynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd
Dylai Gweithwyr Ymarfer Proffesiynol:
- baratoi'n systematig ar gyfer yr holl weithgareddau gan sicrhau iechyd, diogelwch a lles eu cyfranogwyr
- sicrhau bod gwahaniaethu a chynhwysiant a all alluogi cyfranogwyr ag anghenion penodol ac o alluoedd amrywiol i gymryd rhan mewn sesiynau a rhaglenni. Dylid ystyried anghenion cyfranogwyr ag anabledd a, lle y bo'n bosibl, dylid cwrdd â'u hanghenion
- gweithredu rheolau sylfaenol ar gyfer ymddygiad yn ystod y sesiwn
- esbonio eu rôl a chyfrifoldebau i gyfranogwyr
- nodi unrhyw rwystrau rhag cyfranogi
- annog cyfranogwyr i ddod o hyd i ateb i'w rhwystrau
- nodi parodrwydd cyfranogwyr i gymryd rhan
- nodi a chytuno ar strategaethau i atal rhoi'r gorau neu lithro'n ôl
- defnyddio dulliau hyfforddi sy'n cyfateb ag anghenion cyfranogwyr
- addasu eu perthynas â chyfranogwyr er mwyn cwrdd â'u hanghenion sy'n newid
- gwrando ar a gofyn cwestiynau i gyfranogwyr er mwyn gwirio eu dealltwriaeth
- nodi'r wybodaeth mae arnynt angen ei chasglu ynghylch eu cyfranogwyr
- casglu gwybodaeth ynghylch eu cyfranogwyr gan ddefnyddio dulliau cymeradwy
- cofnodi'r wybodaeth mewn modd a fydd yn helpu i'w dadansoddi
- defnyddio technegau cyfathrebu ac ymatebion priodol wrth ddelio ag anghydfod
- cydnabod ymddygiad gwahaniaethol a gwybod am y gweithdrefnau i'w dilyn os bydd unrhyw ddigwyddiadau
Geirfa
Gweithgareddau
Cydrannau sesiwn gweithgarwch corfforol a allai ganolbwyntio ar eich datblygiad ar gryfder, dygnwch, technegau neu ymwybyddiaeth dactegol cyfranogwyr neu strategaethau ar gyfer datrys problemau. Mae sesiynau gweithgarwch corfforol yn cynnwys un neu'n fwy o weithgareddau.
Oeri
Gweithgareddau diogel sy'n caniatáu i gyfranogwyr wella'n feddyliol ac yn gorfforol o weithgareddau a gynhelir mewn sesiwn gweithgarwch corfforol.
Adborth
Y broses o roi a derbyn barnau ar berfformiad. Gallai hyn eich cynnwys chi yn rhoi adborth i gyfranogwyr ar naill eu perfformiad neu gyfraniad at sesiwn gweithgarwch corfforol; neu hyfforddwr mwy profiadol yn rhoi barn ar eich perfformiad wrth gyflwyno sesiwn gweithgarwch corfforol penodol.
Nodau
Gallant fod yn rhai tymor hir, tymor canolig neu dymor byr.
Arddull hyfforddi
Y ffordd yr ydych chi'n cysylltu â chyfranogwyr yn ystod sesiwn gweithgarwch corfforol; gallai hyn gynnwys defnyddio amryw arddulliau. Er enghraifft: cyfarwyddo cyfranogwyr yn yr hyn y maen nhw'n ei wneud ac wrth eu cefnogi.
Cyfranogwyr
Pobl, fel unigolion, neu mewn grwpiau, a fydd yn cymryd rhan mewn sesiwn gweithgarwch corfforol.
*
*
*
*
Cynllun gweithredu personol
Cofnod o'r meysydd yr ydych chi eisiau gwella arnynt yn eich sesiynau gweithgarwch corfforol. Y nodau personol yr ydych chi eisiau eu cyflawni, sut yr ydych chi'n bwriadu gwneud hyn ac erbyn pryd.
Cynllun
Mae cynllun sesiwn gweithgarwch corfforol yn ddisgrifiad o sesiwn benodol; yn rhan o'r cynllun y bydd ei nodau, amcanion, cynnwys, gweithgareddau, amseriadau a chyfarpar gofynnol. Dylai cynlluniau gael eu cofnodi er mwyn eu rhannu gydag eraill a chyfeirio atynt yn ddiweddarach.
Adolygu
Y broses o ddadansoddi'r sesiynau rydych wedi eu cynllunio a chyflenwi, gan nodi'r hyn a aeth yn dda a'r hyn y gallai fod wedi cael ei wella.
Goruchwyliwr
Yr unigolyn sydd yn rheoli'ch gwaith yn uniongyrchol h.y. rheolwr llinell neu reolwr canolfan ffitrwydd.
Cynhesu
Gweithgareddau diogel sy'n caniatáu i gyfranogwyr baratoi yn feddyliol ac yn gorfforol ar gyfer sesiwn gweithgarwch corfforol.
*
*
*
*
Lles
Cefnogi lles y cyfranogwr gan gynnwys ymwybyddiaeth ffordd o fyw, maeth a chyffuriau sylfaenol.
Dolenni I NOS Eraill
Mae'r safon hon yn cysylltu â SKAEF1, SKAEF2 a SKAEF3.