Cynllunio a pharatoi ymarfer i’w chynnal yn y gampfa
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynllunio a pharatoi rhaglen ymarfer i'w chynnal yn y gampfa gydag oedolion sy'n debygol o fod yn iach; yn unigolion a grwpiau.
Prif ganlyniadau'r safon hon yw:
- casglu a dadansoddi gwybodaeth
- cynllunio rhaglen ymarfer i'w chynnal yn y gampfa gyda chyfranogwyr
- paratoi eich hun a'r offer ar gyfer rhaglen ymarfer i'w chynnal yn y gampfa
Rhaid ichi gynnwys yr ymarfer craidd a'r wybodaeth am ffitrwydd a dealltwriaeth ddamcaniaethol fel y ceir hi yn y ddogfen Gofynion Gwybodaeth Graidd Ymarfer Corff a Ffitrwydd SkillsActive sy'n berthnasol i rôl y swydd.
Mae hon yn safon ar gyfer hyfforddwyr sy'n cynllunio, cyfarwyddo, cefnogi ac adolygu ymarfer i'w gynnal yn y gampfa.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Casglu a dadansoddi gwybodaeth**
**
**
1. casglu'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i gynllunio ymarfer i'w gynnal yn y gampfa yn unol â gweithdrefnau cyfreithiol a threfnyddol
2. dadansoddi'r wybodaeth a chlustnodi'r oblygiadau ar gyfer ymarfer i'w gynnal yn y gampfa
3. cyfeirio unrhyw gyfranogwyr na allwch fodloni eu hanghenion a'u potensial at weithwyr proffesiynol eraill
4. cynnal cyfrinachedd, gan ddilyn gweithdrefnau cyfreithiol a threfnyddol
**
**
Cynllunio rhaglen ymarfer i'w chynnal yn y gampfa gyda chyfranogwyr**
5. cynllunio rhaglen o ymarfer i'w gynnal yn y gampfa a fydd yn helpu cyfranogwyr i gyflawni eu hamcanion
6. cytuno ar amcanion gyda chyfranogwyr gan sicrhau fod eu hanghenion a'u potensial yn cael eu bodloni
7. clustnodi unrhyw beryglon ac asesu'r risg y mae'r peryglon hyn yn ei gyflwyno
8. ceisio cyngor gan weithwyr proffesiynol eraill i gynorthwyo gyda materion sydd y tu allan i'ch maes cymhwysedd
9. cofnodi eich cynlluniau yn unol â gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol
**
**
Paratoi eich hun a'r offer ar gyfer rhaglen ymarfer i'w chynnal yn y gampfa
10. clustnodi a dewis offer** diogel a chywir ar gyfer y rhaglen
11. codi a thrin yr offer mewn ffordd sy'n osgoi anafiadau a difrod
12. gofalu fod digon o le ar gyfer ymarfer yn ddiogel
13. dilyn y gweithdrefnau cyfreithiol a threfnyddol wrth wirio offer a delio ag unrhyw eitemau nad ydynt yn ddiogel
14. gadael yr amgylchedd mewn cyflwr derbyniol i'w ddefnyddio gennych chi ac eraill yn y dyfodol
15. cyfeirio unrhyw faterion iechyd, diogelwch neu les yn unol â gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Casglu a dadansoddi gwybodaeth**
1. yr wybodaeth sydd ei hangen i gefnogi cynllunio ymarfer i'w gynnal yn y gampfa
2. dulliau o ddadansoddi a chyflwyno gwybodaeth
3. arwyddocâd posibl y canfyddiadau wrth gynllunio a pharatoi ymarfer i'w gynnal yn y gampfa
4. pryd ac i ble y dylid cyfeirio cyfranogwyr, na allwch fodloni eu hanghenion a'u potensial, at weithwyr proffesiynol eraill
5. gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol sy'n ymwneud â chyfrinachedd
**
**
Cynllunio rhaglen ymarfer i'w chynnal yn y gampfa gyda chyfranogwyr**
6. pam y dylech gytuno â chyfranogwyr ar amcanion sy'n bodloni eu hanghenion a'u potensial: ac sydd o fewn ffiniau eich disgrifyddion galwedigaethol
7. ffyrdd o gynllunio a chytuno â chyfranogwyr ar raglen ddiogel ac effeithiol o ymarfer i'w gynnal yn y gampfa a fydd yn eu helpu i gyflawni eu hamcanion
8. ffyrdd o glustnodi unrhyw beryglon ac asesu'r risg y bydd y peryglon hyn yn achosi niwed mewn gwirionedd
9. pryd a sut i gael gafael ar gyngor gan weithwyr proffesiynol eraill wrth ddelio ag amcanion, ymarferion neu beryglon y tu allan i'ch maes cymhwysedd
10. dulliau o gofnodi eich cynlluniau yn unol â gweithdrefnau cyfreithiol a threfnyddol
**
**
Paratoi eich hun a'r offer ar gyfer rhaglen ymarfer i'w chynnal yn y gampfa
*
*
*
*
11. ffyrdd o glustnodi a dewis offer diogel a chywir ar gyfer y rhaglen
12. y technegau a'r dulliau angenrheidiol i godi a thrin offer mewn ffordd sy'n osgoi anafiadau neu ddifrod
13. pam y dylech sicrhau fod digon o le ar gyfer gwneud ymarfer yn ddiogel
14. y weithdrefn gywir ar gyfer gwirio offer a delio ag unrhyw eitemau sy'n anniogel
15. pam y dylech adael yr amgylchedd mewn cyflwr derbyniol i'w ddefnyddio gennych chi ac eraill yn y dyfodol
16. at bwy y dylid cyfeirio unrhyw faterion iechyd, diogelwch neu les yn unol â gweithdrefnau cyfreithiol a threfnyddol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth**
**
**
- nod personol
- ffordd o fyw
- hanes meddygol
- hanes o ran gweithgareddau corfforol
- dewisiadau o ran gweithgaredd corfforol
- agwedd a symbyliad i gymryd rhan
- lefel ffitrwydd gyfredol
- lefel o barodrwydd
- parodrwydd seicolegol
**
**
Ymarfer**, i ddatblygu
- ffitrwydd cardio fasgwlar
- ffitrwydd cyhyrol
- hyblygrwydd
- sgiliau symud
- cryfder cyhyrol a ffitrwydd dygnwch
**
**
Gweithdrefnau cyfreithiol a threfnyddol** (i drafod 4 o leiaf)
- Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle
- Rheolaeth Sylweddau sy'n Beryglus i Iechyd
- Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Afiechydon a Digwyddiadau Peryglus
- Rheoliadau Trydan yn y Gweithle
- Rheoliadau Cymorth Cyntaf
- polisïau a gweithdrefnau sefydliadol unigol
**
**
Cyfranogwyr**
**
**
- unigolion
- grwpiau
- gydag anghenion ffitrwydd penodol
- gydag anghenion iechyd cyffredinol
- dechreuwyr
- profiadol
**
**
Gweithwyr proffesiynol eraill** (i drafod 2 o leiaf)
- ffisiotherapyddion a meddygon
- seicolegwyr
- ffisiolegwyr
- biomecanwyr
- arbenigwyr cefnogi ffordd o fyw
- rhwydwaith cymorth cymdeithasol cyfranogwyr
- meddyg
- goruchwyliwr
- arbenigwr iechyd/gweithiwr ymarfer proffesiynol
- maethegydd/deietegydd
**
**
Amcanion**
**
**
- gwella ffitrwydd
- gwella symbyliad
- mynd i'r afael â rhwystrau rhag cyfranogiad
- gwella sgiliau a thechnegau
- gwella iechyd
- hwyl a mwynhad
**
**
Peryglon**
**
**
- y cyfranogydd
- amgylchedd yr ymarfer
- offer a ddewiswyd
**
**
Offer,** i ddatblygu
- ffitrwydd cardio fasgwlar
- ffitrwydd cyhyrol
- hyblygrwydd
- sgiliau symud
**
**
Amgylchedd**
**
**
- gofod
- gosodiad
- tymheredd
- llawr
- golau
- awyriad
- defnydd o gerddoriaeth
- offer ar gyfer y sesiwn
- dillad ac offer personol
Gwybodaeth Cwmpas
Gwybodaeth**
**
**
- nod personol
- ffordd o fyw
- hanes meddygol
- hanes o ran gweithgareddau corfforol
- dewisiadau o ran gweithgaredd corfforol
- agwedd a symbyliad i gymryd rhan
- lefel ffitrwydd ar hyn o bryd
- lefel o barodrwydd
- parodrwydd seicolegol
**
**
Gweithwyr proffesiynol eraill**
**
**
- ffisiotherapyddion a meddygon
- seicolegwyr
- ffisiolegwyr
- biomecanwyr
- arbenigwyr cynorthwyo ffordd o fyw
- rhwydwaith cymorth cymdeithasol cyfranogwyr
- meddyg
- goruchwyliwr
- arbenigwr iechyd/gweithiwr ymarfer proffesiynol
- maethegydd/dietegydd
**
**
Gweithdrefnau cyfreithiol a threfniadol**
**
**
- Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle
- Rheolaeth Sylweddau sy'n Beryglus i Iechyd
- Rheoliadau adrodd Anafiadau, Afiechydon a Digwyddiadau Peryglus
- Rheoliadau Trydan yn y Gweithle
- Rheoliadau Cymorth Cyntaf
- polisïau a gweithdrefnau sefydliadol unigol
Gwerthoedd
Mae'r gwerthoedd canlynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd
Dylai Gweithwyr Ymarfer Proffesiynol:
- arddangos a hyrwyddo ffordd gyfrifol o fyw ac ymddwyn, trwy beidio â chefnogi'r defnydd o gyffuriau sy'n gwella perfformiad, ac unrhyw sylwedd anghyfreithlon arall
- cynnal cyfrinachedd
- delio â chyfranogwyr mewn modd agored a thryloyw; gan barchu anghenion eu cyfranogwyr bob tro
- ceisio mabwysiadu'r lefel uchaf o safonau proffesiynol yn holl feysydd eu gwaith a datblygiad eu gyrfa
Ymddygiadau
Mae'r ymddygiadau canlynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd
Dylai Gweithwyr Ymarfer Proffesiynol:
- geisio magu perthnasau iach gyda chyfranogwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill trwy gefnogi, cydgysylltu a rheoli'r broses ffitrwydd/ymarfer corff yn effeithiol, gan gadw'r cyfranogwr wrth wraidd y broses
- bod yn ymwybodol o rolau personél cynorthwyol yn y galwedigaethau gofal iechyd a chydnabod pryd y dylid atgyfeirio problemau at yr arbenigwyr hyn
- bod yn ymwybodol o gyfrifoldebau ac atebolrwyddau o dan ddeddfwriaeth cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a chodau ymarfer y diwydiant
- anelu at rymuso cyfranogwyr; yn cefnogi eu hawl i wneud dewisiadau, dod o hyd i'w hatebion eu hunain, a'u galluogi i gymryd rhan a datblygu ar eu cyflymder eu hunain ac yn eu ffordd eu hunain
- nodi a chydnabod anghenion y cyfranogwyr ar ddechrau'r broses
- anelu at wella hyder, hunan-barch a lefelau ffitrwydd cyfranogwyr
- myfyrio ar eu harfer eu hunain a thrwy'r amser geisio ffyrdd i wella eu gallu ffitrwydd ac ymarfer, sgiliau a gwybodaeth eu hunain
- sefydlu perthynas dda gyda chyfranogwyr
- dangos empathi a sensitifrwydd i nodau a chyflwr parodrwydd cyfredol cyfranogwyr
- cyflwyno delwedd gadarnhaol o'u hunain a'u sefydliad i gyfranogwyr
- datblygu perthynas waith effeithiol gyda chyfranogwyr
- diffinio rolau a chyfrifoldebau gweithwyr proffesiynol eraill a allai fod yn gysylltiedig, yn glir
- cyfathrebu'n glir gyda chyfranogwyr mewn ffordd sy'n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi
- dangos sensitifrwydd ac empathi i'r cyfranogwyr a'r wybodaeth maent yn ei darparu
Sgiliau
Mae'r sgiliau dilynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd
Dylai Gweithwyr Ymarfer Proffesiynol:
- baratoi'n systematig ar gyfer yr holl weithgareddau gan sicrhau iechyd, diogelwch a lles eu cyfranogwyr
- sicrhau bod gwahaniaethu a chynhwysiant a all alluogi cyfranogwyr ag anghenion penodol ac o alluoedd amrywiol i gymryd rhan mewn sesiynau a rhaglenni. Dylid ystyried anghenion cyfranogwyr ag anabledd a, lle y bo'n bosibl, dylid cwrdd â'u hanghenion
- gweithredu rheolau sylfaenol ar gyfer ymddygiad yn ystod y sesiwn
- esbonio eu rôl a chyfrifoldebau i gyfranogwyr
- nodi unrhyw rwystrau rhag cyfranogi
- annog cyfranogwyr i ddod o hyd i ateb i'w rhwystrau
- nodi parodrwydd cyfranogwyr i gymryd rhan
- nodi a chytuno ar strategaethau i atal rhoi'r gorau neu lithro'n ôl
- defnyddio dulliau hyfforddi sy'n cyfateb ag anghenion cyfranogwyr
- addasu eu perthynas â chyfranogwyr er mwyn cwrdd â'u hanghenion sy'n newid
- gwrando ar a gofyn cwestiynau i gyfranogwyr er mwyn gwirio eu dealltwriaeth
- nodi'r wybodaeth mae arnynt angen ei chasglu ynghylch eu cyfranogwyr
- casglu gwybodaeth ynghylch eu cyfranogwyr gan ddefnyddio dulliau cymeradwy
- cofnodi'r wybodaeth mewn modd a fydd yn helpu i'w dadansoddi
- defnyddio technegau cyfathrebu ac ymatebion priodol wrth ddelio ag anghydfod
- cydnabod ymddygiad gwahaniaethol a gwybod am y gweithdrefnau i'w dilyn os bydd unrhyw ddigwyddiadau
Geirfa
Gweithgareddau
Elfennau sesiwn weithgaredd corfforol a all ganolbwyntio ar y ffordd yr ydych yn datblygu'r cyfranogwr o ran cryfder, dygnwch, technegau neu ymwybyddiaeth neu strategaethau tactegol ar gyfer datrys problemau. Mae sesiynau ymarfer corff yn cynnwys un neu fwy o weithgareddau.
*
*
*
*
Amcanion
Gallant fod yn rhai tymor hir, tymor canolig neu dymor byr.
Perygl
Mae hwn yn rhywbeth sy'n beryglus neu a allai achosi niwed.
Disgrifyddion galwedigaethol
Disgrifiad a dadansoddiad o swyddogaeth alwedigaethol
Cyfranogwyr
Pobl, fel unigolion, neu mewn grwpiau, a fydd yn cymryd rhan mewn sesiwn weithgaredd corfforol.
Cynllun
Cynllun sesiwn gweithgaredd corfforol yw disgrifiad o sesiwn arbennig; bydd y cynllun yn cynnwys ei amcanion, ei nod, gweithgareddau, amseroedd a'r offer angenrheidiol. Dylai cynlluniau gael eu cofnodi fel y gellir eu rhannu ag eraill a chyfeirio atynt yn ddiweddarach.
Adolygu
Y broses o ddadansoddi'r sesiynau rydych wedi eu cynllunio a chyflenwi, gan nodi'r hyn a aeth yn dda a'r hyn y gallai fod wedi cael ei wella.
Goruchwyliwr
Yr unigolyn sy'n rheoli eich gwaith yn uniongyrchol h.y. rheolwr llinell neu reolwr y ganolfan ffitrwydd .
Lles
Cefnogi lles y cyfranogwyr gan gynnwys ffordd o fyw sylfaenol, maeth ac ymwybyddiaeth o gyffuriau.
Dolenni I NOS Eraill
Mae'r safon hon yn cysylltu â SKAEF1; SKAEF2 a SKAEF4