Dylunio a rheoli rhaglen adsefydlu ymarfer gyda chleifion y mae angen rhaglen garlam arnynt ar ôl salwch neu anaf

URN: SKAEF28
Sectorau Busnes (Suites): Ymarfer Corff a Ffitrwydd
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 31 Rhag 2014

Trosolwg

​Mae'r safon hon ynghylch darparu adsefydlu cyhyrysgerbydol carlam ac yn cynnwys y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i ddylunio, rheoli a phennu rhaglenni ymarfer diogel ac effeithiol i gleifion sydd angen ymarfer adsefydlu carlam ar ôl salwch neu anaf.

Prif ganlyniadau'r safon hon yw:​

  1. dilyn gofynion cyfreithiol a moesol

dadansoddi gwybodaeth a chytuno nodau gyda chleifion

  1. cynllunio a pharatoi rhaglen adsefydlu ymarfer

adolygu cynnydd gyda chleifion

  1. addasu rhaglen adsefydlu ymarfer gyda chleifion

Mae'n rhaid i chi gynnwys yr wybodaeth graidd ynghylch ymarfer a ffitrwydd a dealltwriaeth ddamcaniaethol fel y manylir arnynt yn y ddogfen Gofynion Gwybodaeth Graidd ynghylch Ymarfer a Ffitrwydd SkillsActive sy'n berthnasol i rôl y swydd.

Gall unigolion cymwysedig bennu, cynllunio, cynnal ac adolygu rhaglenni i fynd i'r afael ag anghenion claf ag anaf cyhyrysgerbydol aciwt neu gronig.

Byddant fel arfer yn gweithio heb oruchwyliaeth uniongyrchol o dan gyfarwyddyd ffisiotherapydd, Swyddog Meddygol neu Feddyg Teulu.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Dilyn gofynion cyfreithiol a moesol**


 


 

1.  gweithredu'r gofynion meddygol-gyfreithiol**

2.  cysylltu â gweithwyr iechyd proffesiynol sydd ynghlwm yn y broses ymarfer

adsefydlu

3.  asesu a rheoli risg yn ôl gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol

4.  casglu gwybodaeth ynghylch anafiadau cyhyrysgerbydol y cleifion

**


** 

Dadansoddi gwybodaeth a chytuno nodau gyda chleifion**


 


 

5.  sicrhau bod gennych wybodaeth am y cleifion a chaniatâd i fynd yn eich blaen

6.  dadansoddi'r wybodaeth a gasglwyd

7.  nodi'r goblygiadau ar gyfer ymarferion adsefydlu carlam

8.  cysylltu â chleifion i gytuno nodau a neu amcanion

9.  cofnodi'r nodau a neu amcanion a'u gosod mewn fformat hygyrch

10.  nodi amserau a neu sesiynau pan fydd angen i gleifion ymgynghori â gweithwyr iechyd proffesiynol

11.  dilyn gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol a phrotocolau ar gyfer cysylltu â gweithwyr iechyd proffesiynol*, sy'n ymwneud â'r broses atgyfeirio a chadw gwybodaeth 

*


** 

Cynllunio a pharatoi rhaglen adsefydlu ymarfer**


 


 

12.  Cynllunio rhaglen adsefydlu ymarfer sy'n gyson â chanllawiau gan ystyried ystyriaethau ymarfer ar gyfer cleifion

13.  sefydlu a rheoli amgylchedd gweithgaredd corfforol diogel ar gyfer cleifion sy'n dioddef o anaf cyhyrysgerbydol

14.  cynllunio a chytuno â chleifion ar raglen o ymarferion adsefydlu carlam a fydd yn eu helpu i gyflawni eu nodau a neu amcanion

15.  esbonio gofynion y rhaglen adsefydlu ymarfer i gleifion

16.  cynllunio amserlen gynyddol o sesiynau

17.  cytuno ar gynnwys adsefydlu ymarfer â chleifion a gweithwyr iechyd proffesiynol

*
*
 


** 


** 


** 


** 

Adolygu cynnydd gyda chleifion**


 


 

18.  adolygu cynnydd cleifion ar gamau a gytunwyd trwy gydol yr ymarfer rhaglen adsefydlu

19.  sicrhau eich bod yn cyfathrebu pwrpas yr adolygiad wrth gleifion

20.  annog cleifion i roi eu barn eu hunain ar gynnydd

21.  defnyddio dulliau gwerthuso a gytunwyd

22.  rhoi adborth i gleifion yn ystod yr adolygiad

23.  cytuno ar ganlyniadau'r adolygiad gyda chleifion

24.  cadw cofnod o'r adolygiad adsefydlu ymarfer


** 


** 

Addasu rhaglen adsefydlu ymarfer gyda chleifion**

25.  nodi newidynnau'r rhaglen sydd angen eu haddasu

26.  cytuno ar addasiadau i'r rhaglen gyda chleifion er mwyn gwneud y gorau o'u cyflawniad

27.  cyflwyno addasiadau i raglenni cleifion

28.  mabwysiadu system ar gyfer monitro a chofnodi cynnydd cleifion a diweddaru eu rhaglen adsefydlu ymarfer

29.  monitro effeithiolrwydd addasiadau i'r rhaglen


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Dilyn gofynion cyfreithiol a moesol**


** 


** 

1.  gofynion meddygol-gyfreithiol** rhaglen adsefydlu ymarfer

2.  yr ystyriaethau moesol sydd ynghlwm wrth gynnal ymddygiad ymarfer parhaus gan gynnwys parchu ffiniau rhyng-broffesiynol a chyfrinachedd cleifion

3.  sut i ryngweithio gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n ymwneud â'r broses adsefydlu ymarfer

4.  sut i asesu a rheoli risg yn ôl gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol a phrotocolau

5.  y math o wybodaeth sydd angen ei chasglu ynghylch anafiadau cyhyrysgerbydol

6.  dulliau o gyfathrebu'n effeithiol gyda chleifion

Dadansoddi gwybodaeth a chytuno nodau gyda chleifion**


 


 

7.  dulliau o ddadansoddi gwybodaeth a gasglwyd a chytuno ar nodau gyda chleifion

8.  pwysigrwydd sicrhau eich bod wedi derbyn gwybodaeth a chaniatâd cleifion

9.  sut i nodi'r goblygiadau ar gyfer ymarferion adsefydlu carlam

10.  sut i weithio gyda chleifion i gytuno ar nodau

11.  sut i gofnodi'r nodau a osodwyd mewn fformat hygyrch

  1.  gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol a phrotocolau ar gyfer cysylltu â gweithwyr iechyd proffesiynol

    **


** 

Cynllunio a pharatoi rhaglen adsefydlu ymarfer**


 


 

  1.  sut i gynllunio rhaglen adsefydlu ymarfer effeithiol gan ystyried ystyriaethau ymarfer ar gyfer cleifion

14.  nodweddion amgylchedd gweithgaredd corfforol diogel ar gyfer cleifion ag anaf cyhyrysgerbydol

15.  sut i gynllunio rhaglen o ymarferion adsefydlu carlam i gyflawni'r nodau ac amcanion

16.  gofynion y rhaglen adsefydlu ymarfer

17.  sut mae cynllunio amserlen flaengar o sesiynau gyda chleifion

18.  cynnwys rhaglenni adsefydlu ymarfer


** 


** 

Adolygu cynnydd gyda chleifion**​

19.  sut i gwblhau adolygiad o gynnydd cleifion

20.  dulliau o ymrwymo cleifion yn y broses adolygu

21.  dulliau gwerthuso

22.  pryd i roi adborth i gleifion yn ystod yr adolygiad

23.  sut i gadw cofnod o'r adolygiad adsefydlu ymarfer corff


** 


** 

Addasu rhaglen adsefydlu ymarfer gyda chleifion**


 


 

24.  sut i nodi newidynnau'r rhaglen sydd angen eu haddasu

25.  pryd i gyflwyno a chytuno ar addasiadau rhaglen a gytunwyd gyda chleifion i wneud y gorau o'u cyflawniad

26.   sut i fabwysiadu system ar gyfer monitro a chofnodi cynnydd cleifion a diweddaru eu rhaglen adsefydlu ymarfer

27.  dulliau o fonitro effeithiolrwydd addasiadau i'r rhaglen


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Gofynion meddygol-gyfreithiol**


** 


** 

  1. ystyriaethau moesol
  2. cynnal ymddygiad ymarfer yn barhaus
  3. parchu ffiniau rhyng-bersonol
  4. cyfrinachedd cleifion


** 


** 

Gweithwyr iechyd proffesiynol**


** 


** 

  1. seicolegydd
  2. meddyg
  3. ffisiotherapydd/therapydd arall
  4. goruchwylydd
  5. gweithiwr iechyd/ymarfer corff proffesiynol arbenigol
  6. maethegydd/dietegydd


** 


** 

Ymarfer**, i ddatblygu


 


 

  1. ffitrwydd cardiofasgwlaidd
  2. ffitrwydd cyhyrol
  3. ystwythder
  4. sgiliau echddygol
  5. cryfder cyhyrol a ffitrwydd gwytnwch


** 


** 

Gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol** (i gwmpasu isafswm o 4)​


 


 

  1. Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
  2. Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd
  3. Rheoliadau Adrodd Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus
  4. Rheoliadau Trydan yn y Gweithle
  5. Rheoliadau Cymorth Cyntaf
  6. polisïau a gweithdrefnau sefydliadol unigol


** 


** 

Gwybodaeth**

  1. nodau personol
  2. ffordd o fyw
  3. hanes meddygol
  4. hanes gweithgarwch corfforol
  5. hoffterau ynghylch gweithgarwch corfforol


** 


** 

Cleifion**


** 


** 

  1. unigol
  2. grwpiau


** 


** 

Nodau* a neu Amcanion*


** 


** 

  1. gwella ffitrwydd
  2. gwella ysgogiad
  3. mynd i'r afael â rhwystrau rhag cymryd rhan
  4. gwella sgiliau a thechnegau
  5. gwella iechyd
  6. hwyl a mwynhad


** 


** 

Ystyriaethau ymarfer** (i gwmpasu isafswm o 2)


 


 

  1. polytrawma cymhleth
  2. trychedig
  3. gordyndra
  4. gordewdra
  5. anaf mewn brwydr
  6. osteoarthritis/crydcymalau gwynegol/osteoporosis


** 


** 

Dulliau gwerthuso**

  1. cyfweliad
  2. holiadur
  3. arsylwi
  4. mesuriadau corfforol​

Gwybodaeth Cwmpas

Gofynion meddygol-gyfreithiol**


** 


** 

  1. ystyriaethau moesol
  2. cynnal ymddygiad ymarfer yn barhaus
  3. parchu ffiniau rhyng-bersonol
  4. cyfrinachedd cleifion


** 


** 

Gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol**


** 


** 

  1. Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
  2. Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd
  3. Rheoliadau Adrodd Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus
  4. Rheoliadau Trydan yn y Gweithle
  5. Rheoliadau Cymorth Cyntaf
  6. polisïau a gweithdrefnau sefydliadol unigol


** 


** 

Ystyriaethau ymarfer**


** 


** 

  1. polytrawma cymhleth
  2. trychedig
  3. gordyndra
  4. gordewdra
  5. anaf mewn brwydr
  6. osteoarthritis/crydcymalau gwynegol/osteoporosis​

Gwerthoedd

Mae'r gwerthoedd canlynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd


 


 

Dylai Gweithwyr Ymarfer Corff Proffesiynol :

    1. arddangos a hyrwyddo ffordd gyfrifol o fyw ac ymddwyn, trwy beidio â chefnogi'r defnydd o gyffuriau sy'n gwella perfformiad, ac unrhyw sylwedd anghyfreithlon arall
    2. cynnal cyfrinachedd
    3. delio â chyfranogwyr mewn modd agored a thryloyw; gan barchu anghenion eu cyfranogwyr bob tro
    4. ceisio mabwysiadu'r lefel uchaf o safonau proffesiynol yn holl feysydd eu gwaith a datblygiad eu gyrfa


Ymddygiadau

​Mae'r ymddygiadau canlynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd

Dylai Gweithwyr Ymarfer Corff Proffesiynol:

  1. geisio magu perthnasau iach gyda chyfranogwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill trwy gefnogi, cydgysylltu a rheoli'r broses ffitrwydd/ymarfer corff yn effeithiol, gan gadw'r cyfranogwr wrth wraidd y broses
  2. bod yn ymwybodol o rolau personél cynorthwyol yn y galwedigaethau gofal iechyd a chydnabod pryd y dylid atgyfeirio problemau at yr arbenigwyr hyn
  3. bod yn ymwybodol o gyfrifoldebau ac atebolrwyddau o dan ddeddfwriaeth cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a chodau ymarfer y diwydiant
  4. anelu at rymuso cyfranogwyr; yn cefnogi eu hawl i wneud dewisiadau, dod o hyd i'w hatebion eu hunain, a'u galluogi i gymryd rhan a datblygu ar eu cyflymder eu hunain ac yn eu ffordd eu hunain
  5. nodi a chydnabod anghenion y cyfranogwyr ar ddechrau'r broses
  6. anelu at wella hyder, hunan-barch a lefelau ffitrwydd cyfranogwyr
  7. myfyrio ar eu harfer eu hunain a thrwy'r amser geisio ffyrdd i wella eu gallu ffitrwydd ac ymarfer, sgiliau a gwybodaeth eu hunain
  8. sefydlu perthynas dda gyda chyfranogwyr
  9. dangos empathi a sensitifrwydd i nodau a chyflwr parodrwydd cyfredol cyfranogwyr
  10. cyflwyno delwedd gadarnhaol o'u hunain a'u sefydliad i gyfranogwyr
  11. datblygu perthynas waith effeithiol gyda chyfranogwyr
  12. diffinio rolau a chyfrifoldebau gweithwyr proffesiynol eraill a allai fod yn gysylltiedig, yn glir
  13. cyfathrebu'n glir gyda chyfranogwyr mewn modd sy'n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi
  14. dangos sensitifrwydd ac empathi at y cyfranogwyr a'r wybodaeth maent yn ei darparu

Sgiliau

​Mae'r sgiliau dilynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd


 

Dylai Gweithwyr Ymarfer Corff Proffesiynol:

  1. baratoi'n systematig ar gyfer yr holl weithgareddau gan sicrhau iechyd, diogelwch a lles eu cyfranogwyr
  2. sicrhau bod gwahaniaethu a chynhwysiant a all alluogi cyfranogwyr ag anghenion penodol ac o alluoedd amrywiol i gymryd rhan mewn sesiynau a rhaglenni. Dylid ystyried anghenion cyfranogwyr ag anabledd a, lle y bo'n bosibl, dylid cwrdd â'u hanghenion
  3. gweithredu rheolau sylfaenol ar gyfer ymddygiad yn ystod y sesiwn
  4. esbonio eu rôl a chyfrifoldebau i gyfranogwyr
  5. nodi unrhyw rwystrau rhag cymryd rhan
  6. annog cyfranogwyr i ddod o hyd i ateb i'w rhwystrau
  7. nodi parodrwydd cyfranogwyr i gymryd rhan
  8. nodi a chytuno ar strategaethau i atal rhoi'r gorau neu lithro'n ôl
  9. defnyddio dulliau hyfforddi sy'n cyfateb ag anghenion cyfranogwyr
  10. addasu eu perthynas â chyfranogwyr er mwyn cwrdd â'u hanghenion sy'n newid
  11. gwrando ar a gofyn cwestiynau i gyfranogwyr er mwyn gwirio eu dealltwriaeth
  12. nodi'r wybodaeth mae arnynt angen ei chasglu ynghylch eu cyfranogwyr
  13. casglu gwybodaeth ynghylch eu cyfranogwyr gan ddefnyddio dulliau cymeradwy
  14. cofnodi'r wybodaeth mewn ffordd a fydd yn helpu i'w dadansoddi
  15. defnyddio technegau cyfathrebu ac ymatebion priodol wrth ddelio ag anghydfod
  16. cydnabod ymddygiad gwahaniaethol a gwybod am y gweithdrefnau i'w dilyn os bydd unrhyw ddigwyddiadau

Geirfa

​Fformat hygyrch

Dogfen sy'n cyflwyno'r un wybodaeth mewn ffurf wahanol sydd yn haws ei defnyddio a'i deall gan bobl o wahanol alluoedd.

*
*
 

*
*
 

*
*
 

*
*
 

Gweithgareddau

Cydrannau sesiwn gweithgarwch corfforol a all ganolbwyntio ar y ffordd rydych yn datblygu cryfder, gwytnwch, technegau neu ymwybyddiaeth dactegol cyfranogwyr neu strategaethau ar gyfer datrys problemau. Mae sesiynau gweithgarwch corfforol yn cynnwys un gweithgaredd neu fwy.

Adborth

Y broses o roi a derbyn barn ar berfformiad. Gallai hyn eich cynnwys chi'n rhoi adborth i gyfranogwyr ar eu perfformiad neu gyfraniad at sesiwn gweithgarwch corfforol; neu hyfforddwr mwy profiadol yn rhoi barn ar eich perfformiad wrth gyflwyno sesiwn gweithgarwch corfforol penodol.

Nodau

Gallant fod yn rhai tymor hir, tymor canolig neu dymor byr.

Cynllun

Mae cynllun sesiwn gweithgarwch corfforol yn ddisgrifiad o sesiwn neilltuol; yn cael eu cynnwys yn y cynllun fydd ei nodau, amcanion, cynnwys, gweithgareddau, amseru a'r cyfarpar sydd eu hangen. Dylid cofnodi cynlluniau fel y gellir eu rhannu gydag eraill a chyfeirio atynt yn ddiweddarach.


** 


** 

Adolygu

Y broses o ddadansoddi'r sesiynau rydych wedi eu cynllunio a chyflenwi, gan nodi'r hyn a aeth yn dda a'r hyn y gallai fod wedi cael ei wella.

Lles

Cefnogi lles cyfranogwyr gan gynnwys ffordd sylfaenol o fyw, maetheg ac ymwybyddiaeth ynghylch cyffuriau.​


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol


Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Chwaraeon a Ffitrwydd, Galwedigaethau proffesiynol a thechnegol cysylltiol

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Cynllunio; paratoi; ymarfer; rhaglen adsefydlu; cleifion; salwch; anaf; cyhyrysgerbydol;