Cynllunio, paratoi, cyflwyno ac adolygu rhaglen cryfder a chyflyru
Trosolwg
Mae'r safon hon ynghylch dadansoddi, dylunio, perfformio ac adolygu rhaglen cryfder a chyflyru sy'n addas, ac wedi ei theilwra ar gyfer, athletwyr o bob gallu, oedran a chamau datblygiad aeddfedol.
Mae hyfforddwyr cryfder a chyflyru'n gweithio'n nodweddiadol heb oruchwyliaeth uniongyrchol ond yn aml fel rhan o dîm cefnogi aml-ddisgyblaethol.
Prif ganlyniadau'r safon hon yw:
perfformio dadansoddiad anghenion o'r gweithgaredd perfformiad a'r athletwr
dylunio a chytuno ar raglen cryfder a chyflyru
cyflwyno, adolygu a diwygio rhaglen cryfder a chyflyru
Mae'n rhaid i chi gynnwys yr wybodaeth graidd ynghylch ymarfer corff a ffitrwydd a dealltwriaeth ddamcaniaethol fel y manylir arnynt yn y ddogfen Gofynion Gwybodaeth Graidd ynghylch Ymarfer a Ffitrwydd SkillsActive sy'n berthnasol i rôl y swydd.
Mae'r safon hon ar gyfer hyfforddwyr ffitrwydd a hyfforddwyr personol a fydd yn gweithio ar ddatblygu'r athletwr, gan ganolbwyntio ar yr hyn sydd ei angen i wella perfformiad, fel cryfder, cyflymdra, dycnwch, symudedd a chymhwysedd symudiad.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Perfformio dadansoddiad anghenion o'r gweithgaredd perfformiad a'r athletwr**
1. dadansoddi gofynion** y gweithgaredd perfformiad
2. nodi a chytuno ar ofynion y perfformiad gyda'r athletwr, a
thîm cefnogi
3. dadansoddi galluoedd perfformiad cyfredol rhyngweithiol yr athletwr mewn perthynas â'r gweithgaredd perfformiad
4. nodi a chytuno'r proffil gyda'r athletwr a'r tîm cefnogi
5. nodi a chytuno ar rolau a chyfrifoldebau gyda'r athletwr a'r tîm cefnogi
6. glynu at weithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol ynghylch gwarchod data
7. gwerthuso gofynion perfformiad a galluoedd athletwr
8. datblygu a chytuno ar dargedau perfformiad brys, tymor byr a thymor hir â'r athletwr a'r tîm cefnogi, a adeiladwyd ar ofynion perfformiad a galluoedd athletwr
9. datblygu a chytuno ar dargedau rheoli risg anaf
10. cytuno ar strategaeth i werthuso ac adolygu newid mewn galluoedd perfformiad sy'n hwyluso addasu rhaglen
11. gofyn am gyngor arbenigol lle bo angen
**
**
Dylunio a chytuno ar raglen cryfder a chyflyru**
12. dylunio cynllun tymor hir i gyflawni nodau a gytunwyd gan ystyried cyfnodoli ac ystyriaethau cynllunio allweddol a'r casgliad bwriadedig o addasiadau i hyfforddiant
- dylunio cynllun tymor byr i ganolig i gyflawni nodau**, a osodwyd yng nghyd-destun y cynllun tymor hwy
14. cynllunio sesiynau ac unedau hyfforddi gan ystyried ystyriaethau cyfnodoli a chynllunio allweddol
15. cytuno'r rhaglen â'r athletwr i ganiatáu ymrwymiad annibynnol
16. cytuno'r rhaglen â'r tîm cefnogi i hwyluso dealltwriaeth ac ymrwymiad
**
**
Cyflwyno, adolygu a diwygio rhaglen cryfder a chyflyru**
17. paratoi cyfleuster a darpariaeth cyfarpar ar gyfer sesiwn ac unedau hyfforddi a gynlluniwyd
18. glynu at ganllawiau sy'n ymwneud ag iechyd a diogelwch a gweithdrefnau gweithredu cyfleuster lleol
19. asesu, cytuno ar ac adolygu cyflwr parodrwydd ac ysgogiad yr athletwr i gymryd rhan yn y sesiwn a gynlluniwyd
20. cynnal ystwytho'r cyhyrau sy'n paratoi'r athletwr ar gyfer y sesiwn a gynlluniwyd
21. goruchwylio cwblhau unedau hyfforddi a gynlluniwyd o fewn y sesiwn
22. arsylwi'r athletwr a dadansoddi gwybodaeth sydd ar gael ynghylch perfformiad
23. rhoi adborth i hwyluso gwell perfformiad a dysgu
24. addasu gweithgaredd hyfforddi sy'n seiliedig ar nodau ac amcanion unedau hyfforddi o fewn y sesiwn a statws yr athletwr
25. cofnodi addasiadau a gwerthuso goblygiadau ar gyfer cynllun y sesiwn a'r rhaglen
26. cefnogi cynnal ymrwymiad yr athletwr yn yr uned a rhaglen hyfforddi
27. dewis partneriaid hyfforddi ac adeiladu grwpiau hyfforddi i hwyluso canlyniadau sesiwn orau
28. gweithredu monitro a gytunwyd
29. gwerthuso newidiadau yn statws yr athletwr ac effeithiolrwydd y rhaglen, a chyflwyno canlyniadau i'r athletwr a'r tîm cefnogi
30. cytuno ar addasiadau i dargedau perfformiad o ganlyniad i newidiadau mewn statws
31. gwneud addasiadau i gynnwys rhaglen wrth ymateb i newidiadau yn statws yr athletwr** anaf, neu ailasesu effeithiolrwydd y rhaglen barhaus
32. gofyn am gyngor arbenigol lle bo angen
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Perfformio dadansoddiad anghenion o'r gweithgaredd perfformiad a'r athletwr**
1. teclynnau a thechnegau dadansoddi anghenion ar gyfer dadansoddi gofynion y gweithgaredd perfformiad a deall sut maent yn rhyngweithio
2. y sgiliau cyfathrebu sydd eu hangen ar gyfer cytuno ar ofynion y gweithgaredd perfformiad gyda'r athletwr a thîm cefnogi
3. sut i gasglu a dadansoddi galluoedd perfformiad cyfredol yr athletwr mewn perthynas â gofynion y gweithgaredd perfformiad
4. arwyddocâd gwahaniaethwyr sylfaenol rhwng athletwyr
5. sut i benderfynu'r dulliau profi a monitro gorau
6. y fethodoleg ar gyfer dylunio trefn brofion y gellir ei defnyddio i gasglu gwybodaeth** am yr athletwr
7. y gwahanol rolau a chyfrifoldebau sydd eu hangen a sut i gytuno arnynt gyda'r athletwr a thîm cefnogi
8. lle i gael mynediad i a sut i ddehongli'r gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol ynghylch gwarchod data sydd angen eu hystyried ar gyfer yr athletwr
9. pam ei bod yn bwysig seilio targedau perfformiad ar eich dadansoddiad o anghenion athletwr
- sut i ddatblygu, cytuno a chofnodi perfformiad tymor byr, canolig a hir a thargedau risg anaf ar gyfer yr athletwr, gan ystyried rhwystrau a sicrhau eu bod yn cysylltu â'r dulliau hyfforddi a dadansoddiad anghenion yr athletwr
11. sut i ddatblygu strategaeth i werthuso ac adolygu newidiadau yn y galluoedd perfformiad a gytunwyd**
12. ffiniau eich gwybodaeth a dealltwriaeth, y sgiliau a'r wybodaeth sydd gan eraill yn y tîm cefnogi a sut i'w hymrwymo
**
**
Dylunio a chytuno rhaglen cryfder a chyflyru**
13. y cyfnodoli allweddol ac ystyriaethau cynllunio a'r casgliad o addasiadau i dechnegau hyfforddi
- a ddefnyddir i ddylunio rhaglen cryfder a chyflyru strwythuredig a dilynol
15. nodweddion cynllun tymor hir i gyflawni'r nodau a gytunwyd
16. nodweddion cynllun tymor byr i ganolig, a osodwyd yng nghyd-destun y cynllun tymor hir
17. technegau ar gyfer dylunio a chynllunio sesiynau ac unedau hyfforddi sy'n ystyried ffactorau logistaidd
18. technegau cyflwyno rhaglen mewn fformat y gellir ei ddefnyddio ar gyfer yr athletwr a'r tîm cefnogi
sut i addasu'r rhaglen yn effeithiol yn seiliedig ar effeithiolrwydd rhaglen ganfyddedig a newidiadau mewn amgylchiadau
y mathau o ddosbarthiad chwaraeon
21. y cynllunio logistaidd sydd ei angen i gyflwyno rhaglen
22. y gofynion ar gyfer symudiad cymwys
**
**
Cyflwyno, adolygu a diwygio rhaglen cryfder a chyflyru**
nodau, cynnwys a sail resymegol y cynllun hyfforddi y seilir sesiwn arnynt, gan gynnwys y sail gwybodaeth a ddefnyddiwyd i ddylunio'r rhaglen
sut i baratoi'r cyfleuster a dewis cyfarpar ar gyfer y sesiwn hyfforddi a gynlluniwyd
y canllawiau iechyd a diogelwch a gweithdrefnau gweithredu arferol y cyfleuster a chynlluniau gweithredu mewn argyfwng
y sgiliau sydd ynghlwm wrth asesu cyflwr parodrwydd ac ysgogiad yr athletwr ar gyfer y sesiwn a gynlluniwyd
27. sut i reoli cyflwyno'r uned hyfforddi i leihau risg anaf
28. tystiolaeth a chanllawiau sy'n ymwneud â newidynnau rheoli sesiwn
buddion potensial gweithgareddau llacio'r cyhyrau a sut i strwythuro llacio'r cyhyrau, sy'n benodol i'r sesiwn a gynlluniwyd a'r athletwr
sut i arsylwi, rhoi adborth a gwerthuso a gwella perfformiad athletwr yn effeithiol
ffyrdd o addasu'r gweithgaredd hyfforddi'n seiliedig ar nodau'r uned hyfforddi a pherfformiad a statws yr athletwr
32. sut i gofnodi perfformiad yr athletwr mewn canlyniadau sesiwn hyfforddi
goblygiadau canlyniadau'r sesiwn hyfforddi a sut i wneud newidiadau sydd eu hangen i'r rhaglen yn gyffredinol
technegau ar gyfer rhoi arddangosiadau, esboniadau neu gyfarwyddiadau effeithiol
technegau ar gyfer rheoli a chadw ymrwymiad athletwyr, gan ystyried deinameg partner hyfforddi a grŵp, opsiynau cyfleuster a chyfarpar ac ysgogiadau athletwyr unigol
36. sut i weithredu'r strategaethau monitro a gytunwyd
37. sut i werthuso canlyniadau'r sesiwn, statws athletwr ac effeithiolrwydd rhaglen cyffredinol a phryd i ymrwymo'r athletwr a thîm cefnogi yn y gwerthusiad hwn
effaith addasiadau ar dargedau perfformiad a dylanwad yr addasiadau hyn
sut i werthuso ac adolygu'r rhaglen a chyfathrebu gyda'r athletwr a'r tîm cefnogi
40. datblygiad strategaeth i lywio addasu'r rhaglen
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gofynion**
**
**
- ffisiolegol
- biomecanyddol
- rheolaeth echddygol
- patrymau/cyflymdra symudiad penodol chwaraeon
- cymdeithaseg-seicolegol
- epidemioleg anaf a salwch
- paramedrau perfformiad/cystadleuaeth
- rheolau, rheoliadau a deddfwriaeth genedlaethol a rhyngwladol
**
**
Athletwr**
**
**
- unigolyn neu unigolion o fewn grwpiau/timau, sy'n dymuno gwella perfformiad mewn chwaraeon/gweithgaredd
- unigolyn neu unigolion o fewn grwpiau/timau, sy'n dymuno gwella perfformiad mewn chwaraeon/gweithgaredd hamdden
- unigolyn neu unigolion o fewn grwpiau/timau sy'n dymuno dychwelyd i chwarae ar ôl anaf, gan gynnwys datblygiadau priodol ar gyfer perfformiad
**
**
Tîm cefnogi**
**
**
- hyfforddwr technegol
- ffisiotherapyddion a meddygon
- seicolegwyr
- ffisiolegyddion
- biomecanegydd
- dadansoddwyr perfformiad
- maethegwyr
- arbenigwyr cymorth ffordd o fyw
- rhwydwaith cymorth cymdeithasol athletwr (e.e. rhieni)
**
**
Galluoedd perfformiad**
**
**
- ffisiolegol
- biomecanyddol
- gallu symud
- cymdeithaseg-seicolegol
- hanes anaf a salwch
- hanes perfformiad/cystadleuaeth a hyfforddi
**
**
Gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol** (i gwmpasu isafswm o 4)
- Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
- Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd
- Rheoliadau Adrodd Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus
- Rheoliadau Trydan yn y Gweithle
- Rheoliadau Cymorth Cyntaf
- polisïau a gweithdrefnau sefydliadol unigol
**
**
Nodau**
**
**
- iechyd a ffitrwydd cyffredinol
- ffisiolegol a strwythurol
- seicolegol a gwybyddol
- perfformiad a chystadleuol
**
**
Ystyriaethau cyfnodoli a chynllunio allweddol
**
- strwythur cystadleuaeth
- goblygiadau dulliau hyfforddi gwahanol ar yr un pryd
- goblygiadau swmp a dwysedd hyfforddiant parhaus
- statws cyfredol a hanesyddol yr athletwr
- tystiolaeth ymchwil a gwybodaeth ynghylch ymatebion hyfforddiant athletwr
- sbardun ar gyfer addasu a roddir gan y gweithgaredd a ddewiswyd a'r swmp a gyflwynwyd o fewn argymhellion yr uned hyfforddi
- risgiau oherwydd blinder o weithgaredd hyfforddi
- amser a gymerwyd gan y gweithgaredd hyfforddi
- Cydadwaith effeithiau o weithgareddau a ddewiswyd yn y tymor byr i ganolig
Gwybodaeth**
**
**
- manylion a nodau personol
- hanes meddygol
- hanes hyfforddi
- Ystum corff, symudedd a sadrwydd
- cymwysedd symudiad
- 6. data perfformiad(profi a monitro)
- agwedd ac ysgogiad i gymryd rhan
- rhwystrau rhag cymryd rhan
- cyflwr parodrwydd
Gwybodaeth Cwmpas
Gofynion**
**
**
- ffisiolegol
- biomecanyddol
- rheolaeth echddygol
- patrymau/cyflymdra symudiad penodol i chwaraeon
- cymdeithaseg-seicolegol
- epidemioleg anaf a salwch
- paramedrau perfformiad/cystadleuaeth
- rheolau, rheoliadau a deddfwriaeth genedlaethol a rhyngwladol
**
**
Tîm cefnogi**
**
**
- hyfforddwr technegol
- ffisiotherapyddion
- seicolegwyr
- ffisiolegyddion
- biomecanegyddion
- dadansoddwyr perfformiad
- maethegwyr
- arbenigwyr cymorth ffordd o fyw
- rhwydwaith cymorth cymdeithasol athletwr (e.g. rhieni)
**
**
Cymwyseddau perfformiad**
**
**
- ffisiolegol
- biomecanyddol
- cymwysedd symud
- cymdeithaseg-seicolegol
- hanes anaf a salwch
- hanes perfformiad/cystadleuaeth a hyfforddi
**
**
Gwahaniaethwyr sylfaenol**
**
**
- oedran (cronolegol yn erbyn biolegol)
- hanes hyfforddiant (hyfforddiant cyffredinol a hyfforddiant penodol)
- rhyw
- statws anabledd
**
**
Dulliau profi a monitro**
**
**
- trafodaethau, cyfweliadau a holiaduron
- profion corfforol/ffitrwydd
- casglu data hyfforddi
- arsylwi
**
**
Protocol profi**
**
**
- cryfder
- gallu
- cyflymdra
- cyflymiad
- newid cyfeiriad
- ystwythder cymhleth
- gallu erobig
- gallu anerobig
- symudedd
- cydbwysedd
**
**
Gwybodaeth**
**
**
- manylion a nodau personol
- hanes meddygol
- hanes hyfforddi
- ystum corff, symudedd a sadrwydd
- cymwysedd symudiad
- data perfformiad (profi a monitro)
- agwedd ac ysgogiad i gymryd rhan
- rhwystrau rhag cymryd rhan
- cyflwr parodrwydd
**
**
**
**
**
**
Gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol**
**
**
- Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
- Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd
- Rheoliadau Adrodd Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus
- Rheoliadau Trydan yn y Gweithle
- Rheoliadau Cymorth Cyntaf
- polisïau a gweithdrefnau sefydliadol unigol
**
**
Dulliau hyfforddi**
**
**
- hyfforddiant gwrthiant
- hyfforddiant metabolig
- hyfforddiant symudedd/ystwythder
- hyfforddiant sy'n canolbwyntio ar sgiliau
- hyfforddiant rheoli ystum corff a sadrwydd
- dulliau integredig
**
**
Ystyriaethau cyfnodoli a chynllunio allweddol**
**
**
- strwythur cystadleuaeth
- goblygiadau dulliau hyfforddi gwahanol ar yr un pryd
- goblygiadau swmp a dwysedd hyfforddiant parhaus
- statws cyfredol a hanesyddol yr athletwr
- tystiolaeth ymchwil a gwybodaeth ynghylch ymatebion hyfforddiant athletwr
- sbardun ar gyfer addasu a roddir gan y gweithgaredd a ddewiswyd a'r swmp a gyflwynwyd o fewn argymhellion yr uned hyfforddi
- risgiau oherwydd blinder o weithgaredd hyfforddi
- amser a gymerwyd gan y gweithgaredd hyfforddi
- Cydadwaith effeithiau o weithgareddau a ddewiswyd mewn Nodau
**
**
byr i ganolig**
- iechyd a ffitrwydd cyffredinol
- ffisiolegol a strwythurol
- seicolegol a gwybyddol
- perfformiad a chystadleuol
**
**
Dosbarthiad chwaraeon**
**
**
- chwaraeon sbrint uchaf posibl
- chwaraeon cryfder uchaf posibl
- chwaraeon sbrint-ysbeidiol
- chwaraeon gêm-trawsfudol
- chwaraeon gwytnwch
- chwaraeon o'r awyr
- chwaraeon dŵr
- chwaraeon cynnal-pwysau
- chwaraeon nad ydynt yn cynnal-pwysau
- chwaraeon categori pwysau
**
**
**
**
Cynllunio Logistaidd**
**
**
- amser i hyfforddi
- argaeledd cyfarpar
- argaeledd cyfleusterau
- partneriaid hyfforddi
**
**
Symudiad cymwys**
**
**
- rhedeg (cyflwr sad, cyflymu. sbrintio)
- sgiliau newid cyfeiriad
- ystwythder cymhleth
- symudiadau gymnasteg sylfaenol
- neidio, glanio a ffliometreg
- symudedd (e.e. ymestyn disymud neu ddeinamig)
- hyfforddiant gwrthiant
- codi pwysau
**
**
**
**
Newidynnau rheoli sesiwn**
**
**
- rheoli rhaglen hyfforddi gyda newidynnau
- gweithredu rhaglen hyfforddi gyda newidynnau
Gwerthoedd
Mae'r gwerthoedd canlynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd
Dylai Gweithwyr Ymarfer Proffesiynol:
- arddangos a hyrwyddo ffordd gyfrifol o fyw ac ymddwyn, trwy beidio â chefnogi'r defnydd o gyffuriau sy'n gwella perfformiad, ac unrhyw sylwedd anghyfreithlon arall
- cynnal cyfrinachedd
- delio â chyfranogwyr mewn modd agored a thryloyw; gan barchu anghenion eu cyfranogwyr bob tro
- ceisio mabwysiadu'r lefel uchaf o safonau proffesiynol yn holl feysydd eu gwaith a datblygiad eu gyrfa
Ymddygiadau
Mae'r ymddygiadau canlynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd
Dylai Gweithwyr Ymarfer Proffesiynol:
- geisio magu perthnasau iach gyda chyfranogwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill trwy gefnogi, cydgysylltu a rheoli'r broses ffitrwydd/ymarfer corff yn effeithiol, gan gadw'r cyfranogwr wrth wraidd y broses
- bod yn ymwybodol o rolau personél cynorthwyol yn y galwedigaethau gofal iechyd a chydnabod pryd y dylid atgyfeirio problemau at yr arbenigwyr hyn
- bod yn ymwybodol o gyfrifoldebau ac atebolrwyddau o dan ddeddfwriaeth cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a chodau ymarfer y diwydiant
- anelu at rymuso cyfranogwyr; yn cefnogi eu hawl i wneud dewisiadau, dod o hyd i'w hatebion eu hunain, a'u galluogi i gymryd rhan a datblygu ar eu cyflymder eu hunain ac yn eu ffordd eu hunain
- nodi a chydnabod anghenion y cyfranogwyr ar ddechrau'r broses
- anelu at wella hyder, hunan-barch a lefelau ffitrwydd cyfranogwyr
- myfyrio ar eu harfer eu hunain a thrwy'r amser geisio ffyrdd i wella eu gallu ffitrwydd ac ymarfer, sgiliau a gwybodaeth eu hunain
- sefydlu perthynas dda gyda chyfranogwyr
- dangos empathi a sensitifrwydd i nodau a chyflwr parodrwydd cyfredol cyfranogwyr
- cyflwyno delwedd gadarnhaol o'u hunain a'u sefydliad i gyfranogwyr
- datblygu perthynas waith effeithiol gyda chyfranogwyr
- diffinio rolau a chyfrifoldebau gweithwyr proffesiynol eraill a allai fod yn gysylltiedig, yn glir
- cyfathrebu'n glir gyda chyfranogwyr mewn modd sy'n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi
- dangos sensitifrwydd ac empathi at y cyfranogwyr a'r wybodaeth maent yn ei darparu
Sgiliau
Mae'r sgiliau canlynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd
Dylai Gweithwyr Ymarfer Proffesiynol:
- baratoi'n systematig ar gyfer yr holl weithgareddau gan sicrhau iechyd, diogelwch a lles eu cyfranogwyr
- sicrhau bod gwahaniaethu a chynhwysiant a all alluogi cyfranogwyr ag anghenion penodol ac o alluoedd amrywiol i gymryd rhan mewn sesiynau a rhaglenni. Dylid ystyried anghenion cyfranogwyr ag anabledd a, lle y bo'n bosibl, dylid cwrdd â'u hanghenion
- gweithredu rheolau sylfaenol ar gyfer ymddygiad yn ystod y sesiwn
- esbonio eu rôl a chyfrifoldebau i gyfranogwyr
- nodi unrhyw rwystrau rhag cymryd rhan
- annog cyfranogwyr i ddod o hyd i ateb i'w rhwystrau
- nodi parodrwydd cyfranogwyr i gymryd rhan
- nodi a chytuno ar strategaethau i atal rhoi'r gorau neu lithro'n ôl
- defnyddio dulliau hyfforddi sy'n cyfateb ag anghenion cyfranogwyr
- addasu eu perthynas â chyfranogwyr er mwyn cwrdd â'u hanghenion sy'n newid
- gwrando ar a gofyn cwestiynau i'r cyfranogwyr er mwyn gwirio eu dealltwriaeth
- nodi'r wybodaeth mae arnynt angen ei chasglu ynghylch eu cyfranogwyr
- casglu gwybodaeth ynghylch eu cyfranogwyr gan ddefnyddio dulliau cymeradwy
- cofnodi'r wybodaeth mewn modd a fydd yn helpu i'w dadansoddi
- defnyddio technegau cyfathrebu ac ymatebion priodol wrth ddelio ag anghydfod
- cydnabod ymddygiad gwahaniaethol a gwybod am y gweithdrefnau i'w dilyn os bydd unrhyw ddigwyddiadau
Geirfa
Nodau
**
**
Gallant fod yn rhai tymor hir, tymor canolig neu dymor byr.
Ffactorau logistaidd
Ffactorau sy'n effeithio ar y rhaglen cryfder a chyflyrau fel cyfyngiadau amser, argaeledd cyfarpar, calendr perfformio athletwr, cyfleuster ac adnoddau, a theithio a llety.
Cryfder a chyflyru
Datblygiad corfforol a seicolegol athletwyr ar gyfer perfformiad chwaraeon elit Mae'n helpu athletwyr i fod yn gyflymach, yn gryfach, mae'n cynyddu ystwythder a gwytnwch corfforol, fel eu bod yn gallu perfformio'n well a bod heb anaf.