Dylunio, cytuno ac addasu rhaglen gweithgaredd corfforol ar gyfer cyfranogwyr

URN: SKAEF26
Sectorau Busnes (Suites): Ymarfer Corff a Ffitrwydd
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 2014

Trosolwg

​Mae'r safon hon am gynllunio, hyfforddi ac adolygu rhaglenni gweithgaredd corfforol i fynd i'r afael ag anghenion cyfranogwyr â chlefyd y galon.

Prif ganlyniadau'r safon hon yw:​

  1. dylunio a chytuno rhaglen gweithgaredd corfforol ar gyfer cyfranogwyr â chlefyd y galon

cyflwyno, adolygu ac addasu rhaglen gweithgaredd corfforol ar gyfer cyfranogwyr â chlefyd y galon

Mae'n rhaid ichi gynnwys yr wybodaeth graidd ynghylch ymarfer corff a ffitrwydd a dealltwriaeth ddamcaniaethol fel y manylir arnynt yn y ddogfen Gofynion Gwybodaeth Graidd ynghylch Ymarfer a Ffitrwydd SkillsActive sy'n berthnasol i rôl y swydd.

Mae'r safon hon ar gyfer hyfforddwyr ffitrwydd neu hyfforddwyr personol sy'n cynllunio, hyfforddi ac adolygu rhaglenni gweithgaredd corfforol i fynd i'r afael ag anghenion cyfranogwyr â chlefyd y galon. Byddant fel arfer yn gweithio heb oruchwyliaeth uniongyrchol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Dylunio a chytuno ar raglen gweithgaredd corfforol ar gyfer cyfranogwyr â chlefyd y galon**


 


 

1.  cyflwyno eich hun i gyfranogwyr* a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol*

2.  cofnodi a dadansoddi gwybodaeth gan ddefnyddio dulliau a gydnabyddir

3.  cysylltu â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ynghylch yr wybodaeth

4.  cwblhau sgrinio cyn ymarfer i sefydlu bod cyfranogwyr mewn risg, gan ddefnyddio'r broses haeniad risg a arnodir yn genedlaethol

5.  ymchwilio cyflyrau meddygol anghyfarwydd gan ddefnyddio dulliau gwahanol i gael gwybodaeth wyddonol

6.  dilyn gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol a phrotocolau wrth weithio gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol

7.  cynllunio a chytuno nodau SMART sy'n glynu at haeniad risg cyfranogwyr a'u lefel gyfredol o allu

8.  cynllunio a pharatoi amcanion, gweithgareddau a dulliau cyflwyno a deilwrwyd i

anghenion cyfranogwyr

9.  dylunio a chytuno rhaglen gweithgaredd corfforol gan ddefnyddio egwyddorion hyfforddi

10.  asesu a chofnodi rheoli risg yn yr amgylchedd ymarfer corff


** 


** 

Cyflwyno, adolygu ac addasu rhaglen gweithgaredd corfforol ar gyfer cyfranogwyr â chlefyd y galon


 

11.  asesu, monitro a rheoli risg** trwy gydol y rhaglen gweithgaredd corfforol

12.  cyflwyno gweithgareddau a gynlluniwyd i gyfranogwyr a neu ofalwyr

13.  addasu gweithgareddau yn ôl anghenion a galluoedd unigol

13.  cysylltu â chyfranogwyr ynghylch materion mewn perthynas â'u rhaglen gweithgaredd corfforol a chynnydd

14.  rhoi sylw a/neu oruchwyliaeth i gyfranogwyr yn ôl eu haeniad risg a gofnodwyd

15.  defnyddio modelau newid ymddygiad i gefnogi a hyrwyddo newid parhaus mewn lefelau gweithgaredd corfforol

16.  annog a chefnogi cyfranogwyr i symud tuag at hunanreolaeth yn yr amgylchedd ymarfer corff

17.  monitro cynnydd cyfranogwyr yn erbyn nodau a gytunwyd ac addasu'r rhaglen yn ôl eu hanghenion a galluoedd sy'n datblygu

18.  atgyfeirio cyfranogwyr ymlaen at weithwyr ffitrwydd proffesiynol eraill neu weithwyr iechyd proffesiynol

pan fydd eu hanghenion y tu allan i'ch lefel o gymhwysedd

19.  darparu adroddiadau am ganlyniadau rhaglen i weithwyr gofal iechyd proffesiynol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Dylunio a chytuno ar raglen gweithgaredd corfforol ar gyfer cyfranogwyr â chlefyd y galon**


 


 

  1.  dulliau o sefydlu perthynas waith effeithiol gyda chyfranogwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol

2.  sut i gofnodi a dadansoddi gwybodaeth gan ddefnyddio dulliau a gydnabyddir

3.  pryd i gysylltu â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol

4.  y broses haeniad risg a gymeradwyir yn genedlaethol a sut i'w defnyddio i gwblhau cyn sgrinio i ddangos a yw cyfranogwr mewn risg isel, canolig neu uchel o ddigwyddiad niweidiol yn digwydd yn ystod ymarfer corff

5.  y camau i'w cymryd pe byddai unrhyw ddigwyddiad niweidiol yn digwydd yn ystod ymarfer corff

  1.  ffynonellau credadwy o wybodaeth wyddonol y gellir ei defnyddio i ymchwilio cyflyrau meddygol anghyfarwydd

7.  effeithiau gweithgaredd corfforol a chanllawiau ymarfer corff

8.  gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol a phrotocolau wrth weithio gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, gan gynnwys y rhai hynny ar gyfer cyfrinachedd, gwarchod data a chaniatâd

9.  sut i gynllunio a chytuno nodau SMART sy'n glynu at haeniad risg a lefel gyfredol o allu

10.  sut i gynllunio a pharatoi amcanion, gweithgareddau a dulliau cyflwyno a deilwrwyd i gwrdd ag anghenion cyfranogwyr

11.  dulliau o ddylunio a chytuno ar raglen i'r unigolyn

12.  dulliau o asesu a chofnodi rheoli risg yn yr amgylchedd ymarfer corff

13.  sut i ddylunio dilyniannau realistig i hyrwyddo cydymffurfio tymor hir a hwyluso gwelliant parhaus


** 


** 

Cyflwyno, adolygu ac addasu rhaglen gweithgaredd corfforol ar gyfer cyfranogwyr â chlefyd y galon


 

14.  technegau i gefnogi'r asesu, monitro a rheoli risg trwy gydol y rhaglen ymarfer corff

  1.  sut i reoli cymhlethdodau ac argyfyngau meddygol o fewn ffiniau eich rôl tan fod help meddygol ar gael

  2.  dulliau o gyflwyno gweithgareddau a gynlluniwyd i gyfranogwyr a neu ofalwyr, gan addasu gweithgareddau yn ôl anghenion a galluoedd

17.  technegau o gysylltu â chyfranogwyr gyda sensitifrwydd ac empathi mewn perthynas â'u rhaglen gweithgaredd corfforol a chynnydd

18.  sut i roi sylw/goruchwyliaeth i gyfranogwyr i'w haeniad risg a gofnodwyd

19.  Modelau newid ymddygiad

  1.  pryd i ddefnyddio modelau newid ymddygiad i gefnogi a hyrwyddo newid parhaus mewn lefelau gweithgaredd corfforol

  2.  dulliau o annog a chefnogi cyfranogwyr i symud tuag at hunanreolaeth yn yr amgylchedd ymarfer corff

22.  pryd i addasu'r rhaglen yn ôl anghenion a galluoedd sy'n datblygu cyfranogwyr

23.  pryd i atgyfeirio cyfranogwyr ymlaen at weithwyr gofal iechyd proffesiynol

  1.  mathau o adroddiadau sydd eu hangen wrth gyfathrebu canlyniadau i weithwyr gofal iechyd proffesiynol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Cyfranogwyr**


** 


** 

  1. unigolion a atgyfeirir â chlefyd y galon
  2. grwpiau o unigolion a atgyfeiriwyd â chlefyd y galon


** 


** 

Gweithwyr gofal iechyd proffesiynol** (i gwmpasu isafswm o ddau)


 


 

  1. gweithiwr iechyd/ymarfer corff proffesiynol arbenigol
  2. maethegydd/dietegydd
  3. seicolegydd
  4. meddyg
  5. ffisiotherapydd/therapydd arall
  6. goruchwylydd


** 


** 

Gwybodaeth**


** 


** 

  1. amgylchiadau/cyfleoedd bywyd personol a rhwystrau i ymarfer
  2. nodau personol ac amcanion rhaglen ymarfer
  3. ffurflen atgyfeirio
  4. haeniad risg unigol
  5. hanes gweithgaredd corfforol presennol a blaenorol, credoau am weithgaredd corfforol a hoffterau personol
  6. caniatâd gwybodus i gymryd rhan a throsglwyddo gwybodaeth feddygol
  7. hanes meddygol a meddyginiaeth/au
  8. gallu gweithredol
  9. ystyriaethau cymdeithasol, seicolegol a ffordd o fyw


** 


** 

Risg​**


** 


** 

  1. isel
  2. canolig
  3. uchel


** 


** 


** 


** 


** 


** 

Dulliau**

  1. offer haeniad sgrinio/risg cyn ymarfer
  2. adroddiadau
  3. cyfweliadau
  4. holiaduron
  5. arsylwadau
  6. asesiadau gweithredol
  7. asesu a rheoli risg
  8. mesuriadau canlyniad
  9. ymchwil parhaus (e.e. gwybod y diweddaraf am y sail tystiolaeth/canllawiau cyfredol ar gyfer rhaglennu ymarfer corff ar gyfer cyflyrau meddygol cyfarwydd/anghyfarwydd)


** 


** 

Ymchwilio cyflyrau meddygol anghyfarwydd**, i nodi


 


 

  1. cyffredinolrwydd
  2. achosiad
  3. patholeg
  4. triniaeth/rheolaeth
  5. effeithiau gweithgaredd ymarfer a/neu gorfforol
  6. canllawiau ymarfer ar gyfer y cyflwr


** 


** 

Gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol** (i gwmpasu isafswm o 4)


 


 

  1. Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
  2. Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd
  3. Rheoliadau Adrodd Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus
  4. Rheoliadau Trydan yn y Gweithle
  5. Rheoliadau Cymorth Cyntaf
  6. polisïau a gweithdrefnau sefydliadol unigol


** 


** 

nodau SMART**


** 


** 

  1. penodol
  2. mesuradwy
  3. cyraeddadwy
  4. canolbwyntio ar ganlyniadau
  5. yn rhwym wrth amser


** 


** 

Egwyddorion hyfforddi**


** 


** 

  1. penodoldeb
  2. gorlwytho
  3. adferiad
  4. addasu
  5. gwrthdroadwyedd neu ddad-hyfforddi


** 


** 

Modelau newid ymddygiad** (i gwmpasu isafswm o un)


 


 

  1. model traws ddamcaniaethol (camau newid)
  2. model cred iechyd
  3. damcaniaeth gweithredu a resymwyd
  4. damcaniaeth ymddygiad a gynlluniwyd
  5. damcaniaeth dysgu cymdeithasol​

Gwybodaeth Cwmpas

Gweithwyr gofal iechyd proffesiynol**


** 


** 

  1. Gweithiwr iechyd/ymarfer corff proffesiynol arbenigol
  2. maethegydd/dietegydd
  3. seicolegydd
  4. meddyg
  5. ffisiotherapydd/therapydd arall
  6. goruchwylydd


** 


** 

Ymchwilio cyflyrau meddygol anghyfarwydd**, i nodi


 


 

  1. cyffredinolrwydd
  2. achosiad
  3. patholeg
  4. triniaeth/rheolaeth
  5. effeithiau gweithgaredd ymarfer a/neu gorfforol
  6. canllawiau ymarfer ar gyfer y cyflwr


** 


** 

Gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol**


** 


** 

  1. Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
  2. Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd
  3. Rheoliadau Adrodd Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus
  4. Rheoliadau Trydan yn y Gweithle
  5. Rheoliadau Cymorth Cyntaf
  6. polisïau a gweithdrefnau sefydliadol unigol


** 


** 

nodau SMART**


** 


** 

  1. penodol
  2. mesuradwy
  3. cyraeddadwy
  4. canolbwyntio ar ganlyniadau​
  5. yn rhwym wrth amser


** 


** 


** 


** 

Modelau newid ymddygiad**


** 


** 

  1. model traws ddamcaniaethol (camau newid)
  2. model cred iechyd
  3. damcaniaeth gweithredu a resymwyd
  4. damcaniaeth ymddygiad a gynlluniwyd
  5. damcaniaeth dysgu cymdeithasol​

Gwerthoedd

​Mae'r gwerthoedd canlynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd

Dylai Gweithwyr Ymarfer Proffesiynol:

  1. arddangos a hyrwyddo ffordd gyfrifol o fyw ac ymddwyn, trwy beidio â chefnogi'r defnydd o gyffuriau sy'n gwella perfformiad, ac unrhyw sylwedd anghyfreithlon arall
  2. cynnal cyfrinachedd
  3. delio â chyfranogwyr mewn modd agored a thryloyw; gan barchu anghenion eu cyfranogwyr bob tro
  4. ceisio mabwysiadu'r lefel uchaf o safonau proffesiynol yn holl feysydd eu gwaith a datblygiad eu gyrfa

Ymddygiadau

​Mae'r ymddygiadau canlynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd

Dylai Gweithwyr Ymarfer Proffesiynol:

  1. geisio magu perthnasau iach gyda chyfranogwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill trwy gefnogi, cydgysylltu a rheoli'r broses ffitrwydd/ymarfer corff yn effeithiol, gan gadw'r cyfranogwr wrth wraidd y broses
  2. bod yn ymwybodol o rolau personél cynorthwyol yn y galwedigaethau gofal iechyd a chydnabod pryd y dylid atgyfeirio problemau at yr arbenigwyr hyn
  3. bod yn ymwybodol o gyfrifoldebau ac atebolrwyddau o dan ddeddfwriaeth cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a chodau ymarfer y diwydiant
  4. anelu at rymuso cyfranogwyr; yn cefnogi eu hawl i wneud dewisiadau, dod o hyd i'w hatebion eu hunain, a'u galluogi i gymryd rhan a datblygu ar eu cyflymder eu hunain ac yn eu ffordd eu hunain
  5. nodi a chydnabod anghenion y cyfranogwyr ar ddechrau'r broses
  6. anelu at wella hyder, hunan-barch a lefelau ffitrwydd cyfranogwyr
  7. myfyrio ar eu harfer eu hunain a thrwy'r amser geisio ffyrdd i wella eu gallu ffitrwydd ac ymarfer, sgiliau a gwybodaeth eu hunain
  8. sefydlu perthynas dda gyda chyfranogwyr
  9. dangos empathi a sensitifrwydd i nodau a chyflwr parodrwydd cyfredol cyfranogwyr
  10. cyflwyno delwedd gadarnhaol o'u hunain a'u sefydliad i gyfranogwyr
  11. datblygu perthynas waith effeithiol gyda chyfranogwyr
  12. diffinio rolau a chyfrifoldebau gweithwyr proffesiynol eraill a allai fod yn gysylltiedig, yn glir
  13. cyfathrebu'n glir gyda chyfranogwyr mewn modd sy'n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi
  14. dangos sensitifrwydd ac empathi at y cyfranogwyr a'r wybodaeth maent yn ei darparu

Sgiliau

​Mae'r sgiliau canlynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd


 

Dylai Gweithwyr Ymarfer Proffesiynol:

  1. baratoi'n systematig ar gyfer yr holl weithgareddau gan sicrhau iechyd, diogelwch a lles eu cyfranogwyr
  2. sicrhau bod gwahaniaethu a chynhwysiant a all alluogi cyfranogwyr ag anghenion penodol ac o alluoedd amrywiol i gymryd rhan mewn sesiynau a rhaglenni. Dylid ystyried anghenion cyfranogwyr ag anabledd a, lle y bo'n bosibl, dylid cwrdd â'u hanghenion
  3. gweithredu rheolau sylfaenol ar gyfer ymddygiad yn ystod y sesiwn
  4. esbonio eu rôl a chyfrifoldebau i gyfranogwyr
  5. nodi unrhyw rwystrau rhag cymryd rhan
  6. annog cyfranogwyr i ddod o hyd i ateb i'w rhwystrau
  7. nodi parodrwydd cyfranogwyr i gymryd rhan
  8. nodi a chytuno ar strategaethau i atal rhoi'r gorau neu lithro'n ôl
  9. defnyddio dulliau hyfforddi sy'n cyfateb ag anghenion cyfranogwyr
  10. addasu eu perthynas â chyfranogwyr er mwyn cwrdd â'u hanghenion sy'n newid
  11. gwrando ar a gofyn cwestiynau i'r cyfranogwyr er mwyn gwirio eu dealltwriaeth
  12. nodi'r wybodaeth mae arnynt angen ei chasglu ynghylch eu cyfranogwyr
  13. casglu gwybodaeth ynghylch eu cyfranogwyr gan ddefnyddio dulliau cymeradwy
  14. cofnodi'r wybodaeth mewn modd a fydd yn helpu i'w dadansoddi
  15. defnyddio technegau cyfathrebu ac ymatebion priodol wrth ddelio ag anghydfod
  16. cydnabod ymddygiad gwahaniaethol a gwybod am y gweithdrefnau i'w dilyn os bydd unrhyw ddigwyddiadau

Geirfa

​Gweithgareddau

Cydrannau sesiwn gweithgarwch corfforol a all ganolbwyntio ar y ffordd rydych yn datblygu cryfder, gwytnwch, technegau neu ymwybyddiaeth dactegol cyfranogwyr neu strategaethau ar gyfer datrys problemau. Mae sesiynau gweithgarwch corfforol yn cynnwys un gweithgaredd neu fwy.

*
*
 

*
*
 

Adborth

Y broses o roi a derbyn barn ar berfformiad. Gallai hyn eich cynnwys chi'n rhoi adborth i gyfranogwyr ar eu perfformiad neu gyfraniad at sesiwn gweithgarwch corfforol; neu hyfforddwr mwy profiadol yn rhoi barn ar eich perfformiad wrth gyflwyno sesiwn gweithgarwch corfforol penodol.

Nodau

Gallant fod yn rhai tymor hir, tymor canolig neu dymor byr.

Haeniad Risg a gymeradwywyd yn genedlaethol

Teclyn mesur i fesur y risg o ddigwyddiad anffafriol yn digwydd yn ystod sesiwn gweithgarwch ac ymarfer corfforol.

Cynllun

Mae cynllun sesiwn o weithgarwch corfforol yn ddisgrifiad o sesiwn benodol; yn cael eu cynnwys yn y cynllun fydd ei nodau, amcanion, cynnwys, gweithgareddau, amseru a'r cyfarpar sydd eu hangen. Dylid cofnodi cynlluniau fel y gellir eu rhannu gyda phobl eraill a chyfeirio atynt yn ddiweddarach.

Adolygu

Y broses o ddadansoddi'r sesiynau rydych wedi eu cynllunio a chyflenwi, gan nodi'r hyn a aeth yn dda a'r hyn y gallai fod wedi cael ei wella.

*
*
 

*
*
 

Goruchwylydd

Yr unigolyn sy'n rheoli'ch gwaith yn uniongyrchol h.y. rheolwr llinell neu reolwr y ganolfan ffitrwydd.

Lles

Cefnogi lles cyfranogwyr gan gynnwys ffordd sylfaenol o fyw, maetheg ac ymwybyddiaeth ynghylch cyffuriau.​


Dolenni I NOS Eraill

​Mae'r safon hon yn cysylltu ag SKAEF23 a SKAEF24.​


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol


Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Chwaraeon a Ffitrwydd, Galwedigaethau proffesiynol a thechnegol cysylltiol

Cod SOC


Geiriau Allweddol

dylunio; rheoli; addasu; ymarfer; rhaglen; atgyfeiriwyd; clefyd y galon; risg ganolig-uchel;