Addasu rhaglen gweithgaredd corfforol i gwrdd â gofynion cyfranogwyr ag anghenion penodol
Trosolwg
Mae'r safon hon ynghylch addasu rhaglenni ymarfer i fynd i'r afael â chyfranogwyr ag anghenion penodol.
Prif ganlyniad y safon hon yw:
- addasu rhaglen gweithgaredd corfforol i gwrdd ag anghenion cyfranogwyr ag anghenion penodol
Mae'n rhaid i chi gynnwys yr wybodaeth graidd ynghylch ymarfer corff a ffitrwydd a dealltwriaeth ddamcaniaethol fel y manylir arnynt yn y ddogfen Gofynion Gwybodaeth Graidd ynghylch Ymarfer a Ffitrwydd SkillsActive sy'n berthnasol i anghenion penodol cyfranogwyr:
cyfranogwyr cyn geni ac ôl-enedigol
oedolion hŷn
cyfranogwyr anabl
Mae'r safon hon ar gyfer hyfforddwyr ffitrwydd a hyfforddwyr personol sy'n cynllunio, hyfforddi ac adolygu rhaglenni gweithgaredd corfforol i gwrdd â gofynion cyfranogwyr ag anghenion penodol. Byddant fel arfer yn gweithio heb arolygaeth uniongyrchol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Addasu rhaglen gweithgaredd corfforol i gwrdd ag anghenion cyfranogwyr ag anghenion penodol**
1. casglu, cofnodi a dehongli gwybodaeth* ynghylch y cyfranogwyr*
- atgyfeirio cyfranogwyr at Weithiwr gofal iechyd proffesiynol, pan fo angen, cyn eu cynnwys mewn gweithgaredd corfforol
3. trafod y gweithgaredd a gynlluniwyd gyda'r cyfranogwyr a chael eu caniatâd i gymryd rhan
4. adnabod rhwystrau rhag cymryd rhan a gweithio gyda chyfranogwyr i oresgyn y rhwystrau hyn
5. cynllunio a chytuno ar nodau SMART gyda'ch cyfranogwyr sy'n briodol i'w lefel iechyd, ffitrwydd a gweithgaredd cyfredol
- cynllunio a pharatoi amcanion a gweithgareddau gyda'ch cyfranogwyr
7. addysgu gweithgareddau a gynlluniwyd i'ch cyfranogwyr, gan addasu gweithgareddau yn ôl eu hanghenion penodol
8. annog eich cyfranogwyr i'w cadw wedi eu hysgogi
9. arsylwi a monitro cynnydd yn erbyn nodau a gytunwyd
- asesu, monitro a rheoli risg i'ch cyfranogwyr trwy gydol y rhaglen
11. defnyddio dulliau addysgu a sgiliau cyfathrebu sy'n cefnogi
anghenion y cyfranogwyr
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Addasu rhaglen gweithgaredd corfforol i gwrdd ag anghenion cyfranogwyr ag anghenion penodol**
**
**
1. **dulliau casglu, cofnodi a dehongli gwybodaeth ynghylch y cyfranogwyr
- pryd a sut i atgyfeirio cyfranogwyr at weithwyr gofal iechyd proffesiynol
**3. gweithdrefnau ar gyfer cael caniatâd gan gyfranogwyr cyn cymryd rhan yn y sesiynau gweithgaredd corfforol
y mathau o rwystrau y gall cyfranogwyr eu hwynebu wrth wneud gweithgaredd corfforol a sut i oresgyn rhwystrau potensial rhag cymryd rhan
sut i gynllunio a chytuno nodau SMART
**6. sut i gytuno a chynllunio amcanion ar gyfer gweithgareddau gyda chyfranogwyr
dulliau addysgu ac ysgogol y dylid eu defnyddio
sut i addysgu gweithgareddau a gynlluniwyd i'ch cyfranogwyr
ffyrdd o addasu gweithgareddau i gwrdd ag anghenion cyfranogwyr
pryd a sut i fonitro cynnydd yn erbyn nodau a gytunwyd
11. sut i asesu, monitro a rheoli risg i'ch cyfranogwyr trwy gydol y rhaglen
- dulliau addysgu a sgiliau cyfathrebu sy'n cwrdd ag anghenion y cyfranogwyr
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth**
**
**
- ffordd o fyw
- hanes meddygol
- hanes gweithgarwch corfforol
- hoffterau ynghylch gweithgarwch corfforol
- agwedd ac ysgogiad i gymryd rhan
- lefel gyfredol o ffitrwydd
- cam parodrwydd
- gofynion personol
- rhwystrau rhag cymryd rhan
- gofynion diogelwch
- cefnogaeth sydd ei hangen gan eraill
**
**
Cyfranogwyr** (i gwmpasu isafswm o 2)
- cyn geni
- ôl-enedigol
- oedolyn hŷn
- anabl
- unigolion
- grŵp
**
**
Gweithwyr gofal iechyd proffesiynol** (i gwmpasu isafswm o 2)
- gweithiwr iechyd/ymarfer corff proffesiynol arbenigol
- maethegydd/dietegydd
- seicolegydd
- meddyg
- ffisiotherapydd/therapydd arall
- goruchwylydd
**
**
SMART**
**
**
- penodol
- mesuradwy
- cyraeddadwy
- canolbwyntio ar ganlyniadau
- yn rhwym wrth amser
**
**
Nodau**
**
**
- corfforol/ swyddogaethol
- seicolegol
- cymdeithasol
- ffordd o fyw
- ymlyniad
- tymor byr
- tymor canolig
- tymor hir
- perthnasol i anghenion penodol y cyfranogwyr
**
**
Dulliau addysgu**
**
**
- safbwyntiau addysgu sy'n newid
- gofyn cwestiynau
- gwneud addasiadau a symud ymlaen
- cyfathrebu llafar a gweledol
- adlewyrchu
**
**
Sgiliau cyfathrebu**
**
**
- cwestiynau pen agored
- gwrando gweithredol
- crynhoi
- iaith y corff
Gwybodaeth Cwmpas
Dulliau**
**
**
- cyfweliad
- holiadur
- sgrinio llafar
- arsylwi
**
**
Gwybodaeth**
**
**
- ffordd o fyw
- hanes meddygol
- hanes gweithgarwch corfforol
- hoffterau ynghylch gweithgarwch corfforol
- agwedd ac ysgogiad i gymryd rhan
- lefel gyfredol o ffitrwydd
- cam parodrwydd
- gofynion personol
- rhwystrau rhag cymryd rhan
- gofynion diogelwch
- cefnogaeth sydd ei hangen gan eraill
**
**
Gweithwyr gofal iechyd proffesiynol**
**
**
- Gweithiwr iechyd/ymarfer corff proffesiynol arbenigol
- maethegydd/dietegydd
- seicolegydd
- meddyg
- ffisiotherapydd/therapydd arall
- goruchwylydd
**
**
SMART**
**
**
- penodol
- mesuradwy
- cyraeddadwy
- canolbwyntio ar ganlyniadau
- yn rhwym wrth amser
**
**
Dulliau addysgu ac ysgogol**
**
**
- canolbwyntio ar nodau
- cymdeithasol
- dysgu
**
**
Risg**
**
**
- uchel
- canolig
- isel
**
**
Dulliau addysgu**
**
**
- safbwyntiau addysgu sy'n newid
- gofyn cwestiynau
- gwneud addasiadau a symud ymlaen
- cyfathrebu llafar a gweledol
- adlewyrchu
**
**
Sgiliau cyfathrebu**
**
**
- cwestiynau pen agored
- gwrando gweithredol
- crynhoi
- iaith y corff
Gwerthoedd
Mae'r gwerthoedd canlynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd
Dylai Gweithwyr Ymarfer Proffesiynol:
- arddangos a hyrwyddo ffordd gyfrifol o fyw ac ymddwyn, trwy beidio â chefnogi'r defnydd o gyffuriau sy'n gwella perfformiad, ac unrhyw sylwedd anghyfreithlon arall
- cynnal cyfrinachedd
- delio â chyfranogwyr mewn modd agored a thryloyw; gan barchu anghenion eu cyfranogwyr bob tro
- ceisio mabwysiadu'r lefel uchaf o safonau proffesiynol yn holl feysydd eu gwaith a datblygiad eu gyrfa
Ymddygiadau
Mae'r ymddygiadau canlynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd
Dylai Gweithwyr Ymarfer Proffesiynol:
- geisio magu perthnasau iach gyda chyfranogwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill trwy gefnogi, cydgysylltu a rheoli'r broses ffitrwydd/ymarfer corff yn effeithiol, gan gadw'r cyfranogwr wrth wraidd y broses
- bod yn ymwybodol o rolau personél cynorthwyol yn y galwedigaethau gofal iechyd a chydnabod pryd y dylid atgyfeirio problemau at yr arbenigwyr hyn
- bod yn ymwybodol o gyfrifoldebau ac atebolrwyddau o dan ddeddfwriaeth cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a chodau ymarfer y diwydiant
- anelu at rymuso cyfranogwyr; yn cefnogi eu hawl i wneud dewisiadau, dod o hyd i'w hatebion eu hunain, a'u galluogi i gymryd rhan a datblygu ar eu cyflymder eu hunain ac yn eu ffordd eu hunain
- nodi a chydnabod anghenion y cyfranogwyr ar ddechrau'r broses
anelu at wella hyder, hunan-barch a lefelau ffitrwydd cyfranogwyr
myfyrio ar eu harfer eu hunain a thrwy'r amser geisio ffyrdd i wella eu gallu ffitrwydd ac ymarfer, sgiliau a gwybodaeth eu hunain
- sefydlu perthynas dda gyda chyfranogwyr
- dangos empathi a sensitifrwydd i nodau a chyflwr parodrwydd cyfredol cyfranogwyr
- cyflwyno delwedd gadarnhaol o'u hunain a'u sefydliad i gyfranogwyr
- datblygu perthynas waith effeithiol gyda chyfranogwyr
- diffinio rolau a chyfrifoldebau gweithwyr proffesiynol eraill a allai fod yn gysylltiedig, yn glir
- cyfathrebu'n glir gyda chyfranogwyr mewn modd sy'n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi
- dangos sensitifrwydd ac empathi at y cyfranogwyr a'r wybodaeth maent yn ei darparu
Sgiliau
Mae'r sgiliau canlynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd
Dylai Gweithwyr Ymarfer Proffesiynol:
- baratoi'n systematig ar gyfer yr holl weithgareddau gan sicrhau iechyd, diogelwch a lles eu cyfranogwyr
- sicrhau bod gwahaniaethu a chynhwysiant a all alluogi cyfranogwyr ag anghenion penodol ac o alluoedd amrywiol i gymryd rhan mewn sesiynau a rhaglenni. Dylid ystyried anghenion cyfranogwyr ag anabledd a, lle y bo'n bosibl, dylid cwrdd â'u hanghenion
- gweithredu rheolau sylfaenol ar gyfer ymddygiad yn ystod y sesiwn
- esbonio eu rôl a chyfrifoldebau i gyfranogwyr
- nodi unrhyw rwystrau rhag cyfranogi
- annog cyfranogwyr i ddod o hyd i ateb i'w rhwystrau
- nodi parodrwydd cyfranogwyr i gymryd rhan
- nodi a chytuno ar strategaethau i atal rhoi'r gorau neu lithro'n ôl
defnyddio dulliau hyfforddi sy'n cyfateb ag anghenion cyfranogwyr
addasu eu perthynas â chyfranogwyr er mwyn cwrdd â'u hanghenion sy'n newid
- gwrando ar a gofyn cwestiynau i'r cyfranogwyr er mwyn gwirio eu dealltwriaeth
- nodi'r wybodaeth mae arnynt angen ei chasglu ynghylch eu cyfranogwyr
- casglu gwybodaeth ynghylch eu cyfranogwyr gan ddefnyddio dulliau cymeradwy
- cofnodi'r wybodaeth mewn modd a fydd yn helpu i'w dadansoddi
- defnyddio technegau cyfathrebu ac ymatebion priodol wrth ddelio ag anghydfod
- cydnabod ymddygiad gwahaniaethol a gwybod am y gweithdrefnau i'w dilyn os bydd unrhyw ddigwyddiadau
Geirfa
Gweithgareddau
Cydrannau sesiwn gweithgarwch corfforol a all ganolbwyntio ar y ffordd rydych yn datblygu cryfder, gwytnwch, technegau neu ymwybyddiaeth dactegol cyfranogwyr neu strategaethau ar gyfer datrys problemau. Mae sesiynau gweithgarwch corfforol yn cynnwys un gweithgaredd neu fwy.
*
*
*
*
Rhwystrau rhag cymryd rhan
Rhywbeth a fydd yn atal cyfranogwyr rhag cymryd rhan yn y gweithgaredd fel symudedd, anawsterau, rheswm meddygol, rhesymau ariannol, rhwymedigaethau amser.
Cyfranogwyr anabl
Cyfranogwyr ag anabledd fel anabledd corfforol, anabledd dysgu, nam ar y clyw, nam ar y llygaid.
Nodau
Gallant fod yn rhai tymor hir, tymor canolig neu dymor byr.
Cyfranogwyr
Pobl, fel unigolion, neu mewn grwpiau, a fydd yn cymryd rhan mewn sesiwn o weithgarwch corfforol.
Anghenion cyfranogwyr
Gofynion penodol cyfranogwr fel beichiogrwydd, ôl-enedigol, golwg, clyw, symudedd, cydsymudiad, nodau, cyfyngiadau,
*
*
*
*
*
*
Pobl eraill
Pobl sy'n cefnogi cyfranogwyr fel ymarferwyr meddygol, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, gofalwyr, aelodau teulu, cŵn cymorth.
**
**
Cynllun**
Mae cynllun sesiwn o weithgarwch corfforol yn ddisgrifiad o sesiwn benodol; yn cael eu cynnwys yn y cynllun fydd ei nodau, amcanion, cynnwys, gweithgareddau, amseru a'r cyfarpar sydd eu hangen. Dylid cofnodi cynlluniau fel y gellir eu rhannu gydag eraill a chyfeirio atynt yn ddiweddarach.
Adolygu
Y broses o ddadansoddi'r sesiynau rydych wedi eu cynllunio a'u cyflwyno, gan nodi'r hyn a aeth yn dda a'r hyn y gellid ei wella.
Lles
Yn cefnogi lles y cyfranogwyr gan gynnwys ffordd sylfaenol o fyw, maetheg ac ymwybyddiaeth ynghylch cyffuriau.