Cyflwyno, adolygu ac addasu rhaglenni atgyfeirio ymarfer a oruchwylir ar gyfer
Trosolwg
Mae'r safon hon am gyflwyno, adolygu ac addasu rhaglenni ymarfer corff i fynd i'r afael ag anghenion cyfranogwyr risg ganolig-uchel a atgyfeirir â chyflyrau meddygol penodol.
Prif ganlyniad y safon yw:
- cyflwyno, adolygu ac addasu rhaglen atgyfeirio ymarfer corff ar gyfer cyfranogwyr risg ganolig-uchel â chyflyrau meddygol penodol
Mae'n rhaid i chi gynnwys yr wybodaeth graidd ynghylch ymarfer corff a ffitrwydd a dealltwriaeth ddamcaniaethol fel y manylir arnynt yn y ddogfen Gofynion Gwybodaeth Graidd ynghylch Ymarfer a Ffitrwydd SkillsActive sy'n berthnasol i'r cyflyrau meddygol penodol:
Atal cwympo
Strôc
Iechyd meddwl
Poen yng ngwaelod y cefn nad yw'n benodol
Gordewdra/clefyd y siwgr
Clefyd anadlol cronig
Adferiad canser
Cyflyrau niwrolegol tymor hir
Adferiad carlam (milwrol yn unig)
Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr proffesiynol ymarfer corff sy'n dylunio, adolygu ac addasu rhaglenni ymarfer corff i fynd i'r afael ag anghenion cyfranogwyr risg ganolig-uchel a atgyfeirir â chyflyrau meddygol penodol. Byddant fel arfer yn gweithio heb oruchwyliaeth uniongyrchol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cyflwyno, adolygu ac addasu rhaglen atgyfeirio ymarfer corff ar gyfer cyfranogwyr risg ganolig-uchel â chyflyrau meddygol penodol**
1. cyflwyno ymarfer a gweithgareddau corfforol a gynlluniwyd i gyfranogwyr
2. asesu cynnydd cyfranogwyr trwy gydol y rhaglen atgyfeirio ymarfer corff
3. defnyddio dulliau o gael gwybodaeth wyddonol i reoli risg i
gyfranogwyr trwy gydol y rhaglen atgyfeirio ymarfer corff
4. addasu a newid technegau gyda chyfranogwyr i reoli eu rhaglen atgyfeirio ymarfer corff
5. darparu goruchwyliaeth i gyfranogwyr
6. defnyddio technegau newid ymddygiad
7. annog a chefnogi cyfranogwyr i symud tuag at hunanreolaeth mewn ymarfer corff a ffordd o fyw
8. monitro cynnydd cyfranogwyr yn erbyn nodau SMART, a gytunwyd ac; addasu'r rhaglen atgyfeirio ymarfer corff yn ôl anghenion a galluoedd sy'n datblygu * *cyfranogwyr
9. atgyfeirio cyfranogwyr ymlaen at weithwyr proffesiynol eraill neu weithwyr gofal iechyd proffesiynol pan fydd eu hanghenion y tu allan i lefel eich cymhwysedd
10. darparu adroddiadau parhaus i weithwyr gofal iechyd proffesiynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cyflwyno, adolygu ac addasu rhaglen atgyfeirio ymarfer corff ar gyfer cyfranogwyr risg ganolig-uchel â chyflyrau meddygol penodol**
dulliau addysgu ar gyfer cyflwyno ymarfer a gweithgareddau corfforol a gynlluniwyd i gyfranogwyr
ffyrdd o addasu ymarfer a gweithgareddau corfforol yn ôl anghenion a galluoedd cyfranogwyr
ffyrdd o asesu cynnydd cyfranogwyr trwy gydol y rhaglen atgyfeirio ymarfer corff
ffyrdd o reoli risg i gyfranogwyr trwy gydol y rhaglen atgyfeirio ymarfer corff
sut i reoli cymhlethdodau ac argyfyngau meddygol o fewn ffiniau eich rôl tan fod help meddygol ar gael
sut i addasu a newid technegau fel y gellir rheoli'r rhaglen atgyfeirio ymarfer corff
pam y dylech roi sylw i a goruchwylio cyfranogwyr
technegau newid ymddygiad
sut i ddefnyddio technegau newid ymddygiad i hyrwyddo newid parhaus mewn lefelau gweithgaredd corfforol
ffyrdd o annog a chefnogi'r cyfranogwyr i symud tuag at hunanreolaeth mewn ymarfer corff a ffordd o fyw
ffyrdd o fonitro cynnydd cyfranogwyr yn erbyn nodau SMART a gytunwyd ac addasu'r rhaglen yn ôl anghenion a galluoedd sy'n datblygu cyfranogwyr
pryd i atgyfeirio cyfranogwyr ymlaen at weithwyr gofal iechyd proffesiynol
*13. mathau o adroddiadau sydd eu hangen wrth gyfathrebu canlyniadau i *weithwyr gofal iechyd proffesiynol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Ymarfer a gweithgareddau corfforol**
**
**
- cardiofasgwlaidd
- cryfder
- dycnwch
- hyblygrwydd
- sefydlogrwydd craidd
- sgiliau echddygol
**
**
Cyfranogwyr** (i gwmpasu o leiaf un)
- unigolion â chyflyrau meddygol penodol
- grwpiau â chyflyrau meddygol penodol
- cyfranogwyr risg ganolig-uchel
**
**
Dulliau**
**
**
- cyfarpar haeniad sgrinio/risg cyn ymarfer
- adroddiadau
- cyfweliadau
- holiaduron
- arsylwadau
- asesiadau gweithredol
- asesiadau risg
- mesuriadau canlyniad
- ymchwil parhaus (e.e. gwybod y diweddaraf am y sail tystiolaeth/canllawiau cyfredol ar gyfer rhaglennu ymarfer corff ar gyfer cyflyrau meddygol cyfarwydd/anghyfarwydd)
**
**
Technegau newid ymddygiad**
**
**
- hunan-effeithlonrwydd
- dull gweithredu a resymwyd
- camau model newid
- dull proses gweithredu iechyd
**
**
nodau SMART**
**
**
- penodol
- mesuradwy
- cyraeddadwy/a gytunwyd
- perthnasol
- yn rhwym wrth amser
**
**
Gweithwyr gofal iechyd proffesiynol** (i gwmpasu isafswm o 2)
- Gweithiwr iechyd/ymarfer corff proffesiynol arbenigol
- maethegydd/dietegydd
- seicolegydd
- meddyg
- ffisiotherapydd/therapydd arall
- goruchwylydd
Gwybodaeth Cwmpas
Dulliau addysgu**
**
**
- safbwyntiau addysgu sy'n newid
- gofyn cwestiynau
- gwneud addasiadau a symud ymlaen
- cyfathrebu llafar a gweledol
- adlewyrchu
**
**
Technegau newid ymddygiad**
**
**
- hunan-effeithlonrwydd
- dull gweithredu a resymwyd
- camau model newid
- dull proses gweithredu iechyd
**
**
nodau SMART**
**
**
- penodol
- mesuradwy
- cyraeddadwy/a gytunwyd
- perthnasol
- yn rhwym wrth amser
**
**
Gweithwyr gofal iechyd proffesiynol**
**
**
- Gweithiwr iechyd/ymarfer corff proffesiynol arbenigol
- maethegydd/dietegydd
- seicolegydd
- meddyg
- ffisiotherapydd/therapydd arall
- goruchwylydd
Gwerthoedd
Mae'r gwerthoedd canlynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd
Dylai Gweithwyr Ymarfer Proffesiynol:
- arddangos a hyrwyddo ffordd gyfrifol o fyw ac ymddwyn, trwy beidio â chefnogi'r defnydd o gyffuriau sy'n gwella perfformiad, ac unrhyw sylwedd anghyfreithlon arall
- cynnal cyfrinachedd
- delio â chyfranogwyr mewn modd agored a thryloyw; gan barchu anghenion eu cyfranogwyr bob tro
- ceisio mabwysiadu'r lefel uchaf o safonau proffesiynol yn holl feysydd eu gwaith a datblygiad eu gyrfa
Ymddygiadau
Mae'r ymddygiadau canlynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd
Dylai Gweithwyr Ymarfer Proffesiynol:
- geisio magu perthnasau iach gyda chyfranogwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill trwy gefnogi, cydgysylltu a rheoli'r broses ffitrwydd/ymarfer corff yn effeithiol, gan gadw'r cyfranogwr wrth wraidd y broses
- bod yn ymwybodol o rolau personél cynorthwyol yn y galwedigaethau gofal iechyd a chydnabod pryd y dylid atgyfeirio problemau at yr arbenigwyr hyn
- bod yn ymwybodol o gyfrifoldebau ac atebolrwyddau o dan ddeddfwriaeth cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a chodau ymarfer y diwydiant
- anelu at rymuso cyfranogwyr; yn cefnogi eu hawl i wneud dewisiadau, darganfod eu hatebion eu hunain, a'u galluogi i gymryd rhan a datblygu ar eu cyflymder eu hunain ac yn eu ffordd eu hunain
- nodi a chydnabod anghenion y cyfranogwyr ar ddechrau'r broses
- anelu at wella hyder, hunan-barch a lefelau ffitrwydd cyfranogwyr
- myfyrio ar eu harfer eu hunain a thrwy'r amser geisio ffyrdd i wella eu gallu ffitrwydd ac ymarfer, sgiliau a gwybodaeth eu hunain
- sefydlu perthynas dda gyda chyfranogwyr
- dangos empathi a sensitifrwydd i nodau a chyflwr parodrwydd cyfredol cyfranogwyr
- cyflwyno delwedd gadarnhaol o'u hunain a'u sefydliad i gyfranogwyr
- datblygu perthynas waith effeithiol gyda chyfranogwyr
- diffinio rolau a chyfrifoldebau gweithwyr proffesiynol eraill a allai fod yn gysylltiedig, yn glir
- cyfathrebu'n glir gyda chyfranogwyr mewn ffordd sy'n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi
- dangos sensitifrwydd ac empathi at y cyfranogwyr a'r wybodaeth maent yn ei darparu
Sgiliau
Mae'r sgiliau dilynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd
Dylai Gweithwyr Ymarfer Proffesiynol:
- baratoi'n systematig ar gyfer yr holl weithgareddau gan sicrhau iechyd, diogelwch a lles eu cyfranogwyr
- sicrhau bod gwahaniaethu a chynhwysiant a all alluogi cyfranogwyr ag anghenion penodol ac o alluoedd amrywiol i gymryd rhan mewn sesiynau a rhaglenni. Dylid ystyried anghenion cyfranogwyr ag anabledd a, lle y bo'n bosibl, dylid cwrdd â'u hanghenion
- gweithredu rheolau sylfaenol ar gyfer ymddygiad yn ystod y sesiwn
- esbonio eu rôl a chyfrifoldebau i gyfranogwyr
- nodi unrhyw rwystrau rhag cymryd rhan
- annog cyfranogwyr i ddod o hyd i ateb i'w rhwystrau
- nodi parodrwydd cyfranogwyr i gyfranogi
- nodi a chytuno strategaethau i atal rhoi'r gorau neu lithro'n ôl
- defnyddio arddulliau hyfforddi sy'n cyfateb ag anghenion cyfranogwyr
- addasu eu perthynas â chyfranogwyr er mwyn cwrdd â'u hanghenion sy'n newid
- gwrando ar a gofyn cwestiynau i'r cyfranogwyr er mwyn gwirio eu dealltwriaeth
- nodi'r wybodaeth mae arnynt angen ei chasglu ynghylch eu cyfranogwyr
- casglu gwybodaeth ynghylch eu cyfranogwyr gan ddefnyddio dulliau cymeradwy
- cofnodi'r wybodaeth mewn ffordd a fydd yn helpu i'w dadansoddi
- defnyddio technegau cyfathrebu ac ymatebion priodol wrth ddelio ag anghydfod
- cydnabod ymddygiad gwahaniaethol a gwybod am y gweithdrefnau i'w dilyn os bydd unrhyw ddigwyddiadau
Geirfa
Gweithgareddau
Cydrannau sesiwn gweithgarwch corfforol a all ganolbwyntio ar y ffordd rydych yn datblygu cryfder, gwytnwch, technegau neu ymwybyddiaeth dactegol cyfranogwyr neu strategaethau ar gyfer datrys problemau. Mae sesiynau gweithgarwch corfforol yn cynnwys un gweithgaredd neu fwy.
*
*
*
*
Nodau
Gallant fod yn rhai tymor hir, tymor canolig neu dymor byr.
**
Cyfranogwyr**
Pobl, fel cyfranogwyr, neu mewn grwpiau, a fydd yn cymryd rhan mewn sesiwn o weithgarwch corfforol.
Cynllun
Mae cynllun sesiwn o weithgarwch corfforol yn ddisgrifiad o sesiwn benodol; yn cael eu cynnwys yn y cynllun fydd ei nodau, amcanion, cynnwys, gweithgareddau, amseru a'r cyfarpar sydd eu hangen. Dylid cofnodi cynlluniau fel y gellir eu rhannu gyda phobl eraill a chyfeirio atynt yn ddiweddarach.
Adolygiad
Y broses o ddadansoddi'r sesiynau rydych wedi eu cynllunio a chyflenwi, gan nodi'r hyn a aeth yn dda a'r hyn y gallai fod wedi cael ei wella.
Haeniad Risg
Deall yr angen ac effaith ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol y boblogaeth.
*
*
*
*
*
*
*
*
Lles
Cefnogi lles cyfranogwyr gan gynnwys ffordd sylfaenol o fyw, maetheg ac ymwybyddiaeth ynghylch cyffuriau.
Dolenni I NOS Eraill
Mae'r safon hon yn cysylltu ag SKAEF19, SKAEF20 ac SKAEF23.