Dylunio a rheoli rhaglenni atgyfeirio ymarfer a oruwchwylir ar gyfer
Trosolwg
Mae'r safon hon am ddylunio, rheoli ac addasu rhaglenni ymarfer i fynd i'r afael ag anghenion cyfranogwyr risg ganolig-uchel a atgyfeirir â chyflyrau meddygol penodol.
Prif ganlyniad y safon yw:
- dylunio a rheoli rhaglenni atgyfeirio ymarfer a oruchwylir ar gyfer cyfranogwyr risg canolig-uchel â chyflyrau meddygol
Mae'n rhaid i chi gynnwys yr wybodaeth graidd ynghylch ymarfer corff a ffitrwydd a dealltwriaeth ddamcaniaethol fel y manylir arnynt yn y ddogfen Gofynion Gwybodaeth Graidd ynghylch Ymarfer a Ffitrwydd SkillsActive sy'n berthnasol i'r cyflyrau meddygol penodol.
Atal cwympo
Strôc
Iechyd meddwl
Poen yng ngwaelod y cefn nad yw'n benodol
Gordewdra/clefyd y siwgr
Clefyd anadlol cronig
Adferiad canser
Cyflyrau niwrolegol tymor hir
Adferiad carlam (milwrol yn unig)
Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr proffesiynol ymarfer corff sy'n dylunio, rheoli ac addasu rhaglenni ymarfer i fynd i'r afael ag anghenion cyfranogwyr risg ganolig-uchel a atgyfeirir â chyflyrau meddygol penodol. Byddant fel arfer yn gweithio heb oruchwyliaeth uniongyrchol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Dylunio a rheoli rhaglen atgyfeirio ymarfer a oruchwylir ar gyfer cyfranogwyr risg ganolig-uchel â chyflyrau meddygol penodol**
1. cofnodi gwybodaeth* am gyfranogwyr*
2. cysylltu â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ynghylch dehongli gwybodaeth**
3. sgrinio cyfranogwyr cyn ymarfer yn llwyr
4. ymchwilio cyflyrau meddygol anghyfarwydd gan ddefnyddio gwahanol ddulliau i gael gwybodaeth wyddonol
5. dilyn gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol a phrotocolau ar gyfer gweithio gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol**
6. cynllunio a chytuno ar nodau SMART â'r cyfranogwyr gan ddefnyddio haeniadau risg a deilwrwyd i lefel gyfredol eu gallu
7. cynllunio amcanion, gweithgareddau a thechnegau cyflwyno a deilwrwyd i *anghenion *cyfranogwyr
8. dylunio a chytuno ar raglen â'r cyfranogwyr sydd wedi ei haddasu ar gyfer eu hanghenion
9. asesu risgiau yn yr amgylchedd ymarfer a chofnodi eich canfyddiadau
10. dylunio dilyniannau i hyrwyddo cydymffurfio tymor hir a hwyluso gwelliant parhaus
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Dylunio a rheoli rhaglen atgyfeirio ymarfer a oruchwylir ar gyfer cyfranogwyr risg ganolig-uchel â chyflyrau meddygol penodol**
**1. y mathau o wybodaeth sydd eu hangen ar gyfer cyfranogwyr â chyflyrau meddygol penodol
pryd a sut i gysylltu â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ynghylch dehongli gwybodaeth
sut i gwblhau sgrinio cyn ymarfer a phroses haeniadau risg a gymeradwyir yn genedlaethol i benderfynu a yw cyfranogwyr mewn risg o ddigwyddiad niweidiol yn digwydd yn ystod ymarfer corff
pam y dylech ddefnyddio ffynonellau credadwy o wybodaeth wyddonol ar gyfer cyflwr/cyflyrau meddygol anghyfarwydd
*5. * gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol a phrotocolau ar gyfer gweithio gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, gan gynnwys y rhai hynny ar gyfer cyfrinachedd, gwarchod data a chaniatâd
technegau ar gyfer cynllunio a chytuno ar nodau SMART gan ddefnyddio haeniad risg a deilwrwyd i lefel gyfredol gallu cyfranogwyr
dulliau o gynllunio amcanion, gweithgareddau a chyflwyno a deilwrwyd i anghenion cyfranogwyr
sut i ddylunio a chytuno rhaglen gan ddefnyddio egwyddorion hyfforddi sydd wedi ei haddasu i anghenion cyfranogwyr
pwrpas asesu risg yn yr amgylchedd ymarfer a sut i gofnodi eich canfyddiadau
dilyniannau realistig i hyrwyddo cydymffurfio tymor hir a hwyluso gwelliant parhaus
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth**
**
**
- amgylchiadau/cyfleoedd bywyd personol a rhwystrau rhag ymarfer
- nodau personol ac amcanion rhaglen ymarfer
- ffurflen atgyfeirio
- haeniad risg unigol
- hanes gweithgaredd corfforol presennol a blaenorol, credoau am weithgaredd corfforol a hoffterau personol
- caniatâd gwybodus i gymryd rhan a throsglwyddo gwybodaeth feddygol
- hanes meddygol a meddyginiaeth/au
- gallu gweithredol
- ystyriaethau cymdeithasol, seicolegol a ffordd o fyw
**
**
Cyfranogwyr** (i gwmpasu o leiaf un)
- unigolion â chyflyrau meddygol penodol
- grwpiau â chyflyrau meddygol penodol
- cyfranogwyr risg ganolig-uchel
**
**
Gweithwyr gofal iechyd proffesiynol** (i gwmpasu isafswm o ddau)
- gweithiwr iechyd/ymarfer corff proffesiynol arbenigol
- maethegydd/dietegydd
- seicolegydd
- meddyg
- ffisiotherapydd/therapydd arall
- goruchwylydd
**
**
Gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol** (i gwmpasu isafswm o 4)
- Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
- Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd
- Rheoliadau Adrodd Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus
- Rheoliadau Trydan yn y Gweithle
- Rheoliadau Cymorth Cyntaf
- polisïau a gweithdrefnau sefydliadol unigol
**
**
Dulliau**
**
**
- cyfarpar haeniad sgrinio/risg cyn ymarfer
- adroddiadau
- cyfweliadau
- holiaduron
- arsylwadau
- asesiadau gweithredol
- asesiadau risg
- mesuriadau canlyniad
- ymchwil parhaus (e.e. gwybod y diweddaraf am y sail tystiolaeth/canllawiau cyfredol ar gyfer rhaglennu ymarfer ar gyfer cyflyrau meddygol cyfarwydd/anghyfarwydd)
**
**
nodau SMART**
**
**
- penodol
- mesuradwy
- cyraeddadwy/a gytunwyd
- perthnasol
- yn rhwymedig o ran amser
Gwybodaeth Cwmpas
Gweithwyr gofal iechyd proffesiynol**
**
**
- Gweithiwr iechyd/ymarfer corff proffesiynol arbenigol
- maethegydd/dietegydd
- seicolegydd
- meddyg
- ffisiotherapydd/therapydd arall
- goruchwylydd
**
**
Risg**
**
**
- isel
- canolig
- uchel
**
**
Cyflyrau meddygol anghyfarwydd**
**
**
- nodi
- cyffredinolrwydd
- achosiad
- patholeg
- triniaeth/rheolaeth
- effeithiau gweithgaredd ymarfer a/neu gorfforol
**
**
Gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol**
**
**
- Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
- Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd
- Rheoliadau Adrodd Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus
- Rheoliadau Trydan yn y Gweithle
- Rheoliadau Cymorth Cyntaf
- polisïau a gweithdrefnau sefydliadol unigol
**
**
nodau SMART**
- penodol
- mesuradwy
- cyraeddadwy/cytunwyd
- perthnasol
- yn rhwym wrth amser
**
**
Egwyddorion hyfforddi**
**
**
- penodoldeb
- gorlwytho
- adferiad
- addasu
- gwrthdroadwyedd neu ddad-hyfforddi
Gwerthoedd
Mae'r gwerthoedd canlynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd
Dylai Gweithwyr Proffesiynol Ymarfer:
- arddangos a hyrwyddo ffordd gyfrifol o fyw ac ymddwyn, trwy beidio â chefnogi'r defnydd o gyffuriau sy'n gwella perfformiad, ac unrhyw sylwedd anghyfreithlon arall
- cynnal cyfrinachedd
- delio â chyfranogwyr mewn modd agored a thryloyw; gan barchu anghenion eu cyfranogwyr bob tro
- ceisio mabwysiadu'r lefel uchaf o safonau proffesiynol yn holl feysydd eu gwaith a datblygiad eu gyrfa
Ymddygiadau
Mae'r ymddygiadau canlynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd
Dylai Gweithwyr Proffesiynol Ymarfer:
- geisio magu perthnasau iach gyda chyfranogwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill trwy gefnogi, cydgysylltu a rheoli'r broses ffitrwydd/ymarfer yn effeithiol, gan gadw'r cyfranogwr wrth wraidd y broses
- bod yn ymwybodol o rolau personél cynorthwyol yn y galwedigaethau gofal iechyd a chydnabod pryd y dylid atgyfeirio problemau i'r arbenigwyr hyn
- bod yn ymwybodol o gyfrifoldebau ac atebolrwyddau o dan ddeddfwriaeth cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a chodau ymarfer y diwydiant
- anelu at rymuso cyfranogwyr; yn cefnogi eu hawl i wneud dewisiadau, dod o hyd i'w hatebion eu hunain, a'u galluogi i gymryd rhan a datblygu ar eu cyflymder eu hunain ac yn eu ffordd eu hunain
- nodi a chydnabod anghenion y cyfranogwyr ar ddechrau'r broses
- anelu at wella hyder, hunan-barch a lefelau ffitrwydd cyfranogwyr
- myfyrio ar eu harfer eich hunain a thrwy'r amser geisio ffyrdd i wella eu gallu ffitrwydd ac ymarfer, sgiliau a gwybodaeth eu hunain
- sefydlu perthynas dda gyda chyfranogwyr
- dangos empathi a sensitifrwydd i nodau a chyflwr parodrwydd cyfredol cyfranogwyr
- cyflwyno delwedd gadarnhaol o'u hunain a'u sefydliad i gyfranogwyr
- datblygu perthynas weithio effeithiol gyda chyfranogwyr
- diffinio rolau a chyfrifoldebau gweithwyr proffesiynol eraill a allai fod yn gysylltiedig, yn glir
- cyfathrebu'n glir gyda chyfranogwyr mewn ffordd sy'n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi
- dangos sensitifrwydd ac empathi i'r cyfranogwyr a'r wybodaeth maent yn ei darparu
Sgiliau
Mae'r sgiliau dilynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd
Dylai Gweithwyr Ymarfer Proffesiynol:
- baratoi'n systematig ar gyfer yr holl weithgareddau gan sicrhau iechyd, diogelwch a lles eu cyfranogwyr
- sicrhau bod gwahaniaethu a chynhwysiant a all alluogi cyfranogwyr ag anghenion neilltuol ac o alluoedd amrywiol i gymryd rhan mewn sesiynau a rhaglenni. Dylid ystyried anghenion cyfranogwyr ag anabledd a, lle y bo'n bosibl, dylid cwrdd â'u hanghenion
- gweithredu rheolau sylfaenol ar gyfer ymddygiad yn ystod y sesiwn
- esbonio eu rôl a chyfrifoldebau i gyfranogwyr
- nodi unrhyw rwystrau rhag cyfranogi
- annog cyfranogwyr i ddarganfod ffordd i oresgyn eu rhwystrau
- nodi parodrwydd cyfranogwyr i gyfranogi
- nodi a chytuno strategaethau i atal rhoi'r gorau neu lithro'n ôl
- defnyddio dulliau hyfforddi sy'n cyfateb ag anghenion cyfranogwyr
- addasu eu perthynas â chyfranogwyr er mwyn cwrdd â'u hanghenion sy'n newid
- gwrando ar a gofyn cwestiynau i gyfranogwyr er mwyn gwirio eu dealltwriaeth
- nodi'r wybodaeth mae arnynt angen ei chasglu ynghylch eu cyfranogwyr
- casglu gwybodaeth ynghylch eu cyfranogwyr gan ddefnyddio dulliau cymeradwy
- cofnodi'r wybodaeth mewn ffordd a fydd yn helpu i'w dadansoddi
- defnyddio technegau cyfathrebu ac ymatebion priodol wrth ddelio ag anghydfod
- cydnabod ymddygiad gwahaniaethol a gwybod am y gweithdrefnau i'w dilyn os bydd unrhyw ddigwyddiadau
Geirfa
Gweithgareddau
Cydrannau sesiwn gweithgarwch corfforol a all ganolbwyntio ar y ffordd rydych yn datblygu cryfder, gwytnwch, technegau neu ymwybyddiaeth dactegol cyfranogwyr neu strategaethau ar gyfer datrys problemau. Mae sesiynau gweithgarwch corfforol yn cynnwys un gweithgaredd neu fwy.
Nodau
Gallant fod yn rhai tymor hir, tymor canolig neu dymor byr.
Cyfranogwyr
Pobl, fel unigolion, neu mewn grwpiau, a fydd yn cymryd rhan mewn sesiwn gweithgarwch corfforol.
Cynllun
Mae cynllun sesiwn gweithgarwch corfforol yn ddisgrifiad o sesiwn neilltuol; yn cael eu cynnwys yn y cynllun fydd ei nodau, amcanion, cynnwys, gweithgareddau amseru a'r cyfarpar sydd eu hangen. Dylid cofnodi cynlluniau fel y gellir eu rhannu gyda phobl eraill a chyfeirio atynt yn ddiweddarach.
Haeniad Risg
Deall yr angen ac effaith ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol y boblogaeth
Lles
Yn cefnogi lles y cyfranogwyr gan gynnwys ffordd sylfaenol o fyw, maetheg ac ymwybyddiaeth ynghylch cyffuriau.
Dolenni I NOS Eraill
Mae'r safon hon yn cysylltu ag SKAEF19, SKAEF20 ac SKAEF24.