Sesiynau hyfforddi mat
Trosolwg
Mae'r safon hon ynghylch cyflwyno sesiynau mat Pilates ar gyfer oedolion o bob oed sy'n ymddangos yn iach.
Canlyniadau'r safon hon yw:
- cynllunio a pharatoi sesiynau mat Pilates
- paratoi cyfranogwyr ar gyfer sesiynau mat Pilates
- addysgu ac addasu ymarferion mat Pilates
- dod â sesiynau mat Pilates i ben
Mae'n rhaid i chi gynnwys yr wybodaeth graidd ynghylch ymarfer corff a ffitrwydd a dealltwriaeth ddamcaniaethol fel y manylir arnynt yn y ddogfen Gofynion Gwybodaeth Graidd ynghylch Ymarfer a Ffitrwydd SkillsActive sy'n berthnasol i rôl y swydd.
Mae'r safon hon ar gyfer hyfforddwyr Pilates mat sy'n cynllunio, hyfforddi ac adolygu rhaglenni i fynd i'r afael â nodau tymor byr, canolog a hir. Byddant fel arfer yn gweithio heb oruchwyliaeth uniongyrchol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cynllunio a pharatoi sesiynau mat Pilates**
1. dewis a chofnodi amcanion sy'n benodol i anghenion** eich cyfranogwyr
2. strwythuro camau sesiwn
3. dewis a strwythuro ymarferion a fydd yn galluogi eich cyfranogwyr i fod yn ymwybodol o'u symudiad gorau posibl potensial
4. ystyried mathau o ystum cyfranogwyr
5. dewis dulliau addysgu perthnasol
6. cynllunio amserau, dwysterau a dilyniannau realistig
7. sicrhau bod cydbwysedd effeithiol o hyfforddi, gweithgaredd a rhyngweithio o fewn y sesiwn
8. nodi a pharatoi'r amgylchedd yn ôl anghenion cyfranogwyr a dilyn gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol
**
**
Paratoi cyfranogwyr ar gyfer sesiynau mat Pilates**
9. paratoi cyfranogwyr** cyn sesiwn mat Pilates
10. cwrdd â'ch cyfranogwyr ar yr amser a gytunwyd a gwneud iddynt deimlo'n gartrefol
11. casglu unrhyw wybodaeth newydd gan eich cyfranogwyr am eu hymateb i weithgaredd blaenorol
12. esbonio'r amcanion ac ymarferion rydych wedi eu cynllunio ar gyfer y sesiwn i'r cyfranogwyr a sut y mae'r rhain yn cysylltu â'u nodau
13. esbonio gofynion corfforol a thechnegol yr ymarferion a gynlluniwyd wrth y cyfranogwyr* a sut y gallant wneud cynnydd ac atchwelyd y rhain i gwrdd â'u nodau*
14. asesu a chytuno cam parodrwydd eich cyfranogwyr i gymryd rhan yn y sesiwn a gynlluniwyd
15. asesu a chytuno eu hysgogiad â'ch cyfranogwyr i gymryd rhan yn y sesiwn a gynlluniwyd
16. cytuno unrhyw newidiadau â'ch cyfranogwyr i'r ymarferion a gynlluniwyd a fydd yn eu cynorthwyo i gwrdd â'u hanghenion a'u galluogi i wneud cynnydd o hyd
**
**
**
**
Addysgu ac addasu ymarferion mat Pilates**
17. defnyddio dulliau addysgu ac ysgogol** effeithiol
18. hyfforddi cyfranogwyr drwy'r paratoi a gynlluniwyd, prif gamau a chamau terfynol
19. esbonio pwrpas a gwerth pob cam
20. rhoi cyfarwyddiadau, esboniadau ac arddangosiadau effeithiol
21. gwirio dealltwriaeth eich cyfranogwyr ynghylch cyfarwyddiadau, esboniadau ac arddangosiadau
22. addasu dulliau cyfathrebu a dulliau addysgu i gwrdd ag anghenion cyfranogwyr
23. sicrhau y gall cyfranogwyr wneud yr ymarferion yn ddiogel heb oruchwyliaeth uniongyrchol
24. arsylwi a dadansoddi perfformiad cyfranogwyr gan roi atgyfnerthiad cadarnhaol drwy'r amser
25. cywiro technegau lle bo angen gwella perfformiad cyfranogwyr
26. symud ymlaen neu atchwelyd gweithgareddau yn ôl anghenion cyfranogwyr
**
Dod â sesiwn mat Pilates i ben
27. caniatáu amser digonol ar gyfer y cam terfynol**
28. esbonio pwrpas y cam terfynol
29. dod â'r gweithgareddau i ben mewn modd sy'n ddiogel ac yn effeithiol i'ch cyfranogwyr
30. rhoi'r cyfle i gyfranogwyr ofyn cwestiynau, rhoi adborth a meddwl am eu perfformiad
31. rhoi adborth i gyfranogwyr ar y sesiwn
32. esbonio wrth gyfranogwyr sut mae eu cynnydd yn cysylltu â'u nodau
33. gadael yr amgylchedd mewn cyflwr sy'n dderbyniol ar gyfer defnydd gennych chi neu eraill yn y dyfodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cynllunio a pharatoi sesiynau mat Pilates**
1. ffyrdd o nodi amcanion sy'n benodol i anghenion cyfranogwyr
2. sut i weithredu strwythur sesiwn diogel ac effeithiol
3. ymarferion sy'n caniatáu i gyfranogwyr wneud y mwyaf o'u potensial symudiad
4. effaith mathau o ystum gwahanol ar symudiad
5. dulliau addysgu ac ysgogol sy'n gwneud y gorau o gynnydd ac ysgogiad cyfranogwyr
6. sut gall amseru, dwyseddau a dilyniannau effeithio ar ganlyniadau
7. pam bod cydbwysedd o hyfforddiant, gweithgaredd a thrafodaeth yn angenrheidiol
8. sut i baratoi'r amgylchedd y mae ei angen arnoch ar gyfer y sesiwn, yn dilyn gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol
**
**
Paratoi cyfranogwyr ar gyfer sesiynau mat Pilates**
9. ffyrdd o sicrhau bod cyfranogwyr wedi eu paratoi cyn bod y sesiwn yn cychwyn
10. dulliau o wybod sut roedd cyfranogwyr wedi ymateb i weithgaredd corfforol blaenorol
11. ffyrdd o esbonio amcanion a gweithgareddau'r sesiwn a gynlluniwyd i gyfranogwyr
12. gofynion corfforol a thechnegol y sesiwn mat Pilates
13. dulliau o asesu parodrwydd cyfranogwyr i gymryd rhan mewn sesiwn mat Pilates
14. dulliau o asesu ysgogiad y cyfranogwyr i gymryd rhan mewn sesiwn mat Pilates
15. yr enghreifftiau pan fydd angen i chi o bosibl drafod a chytuno newidiadau i'ch cynlluniau gyda chyfranogwyr
**
**
Addysgu ac addasu ymarferion mat Pilates**
16. yr ystod o ddulliau addysgu ac ysgogol** a dderbynnir
17. yr ystod o ymarferion y gallwch eu defnyddio ar gyfer y camau paratoi, prif gamau a chamau therfynol**
18. pwrpas a gwerth pob cam o'r sesiwn
19. ffyrdd o ddarparu cyfarwyddiadau, arddangosiadau ac esboniadau i gyfranogwyr ar gyfer pob cam o'r sesiwn
20. dulliau o ddangos yr ystumiau ymarfer ac aliniad cywir ar gyfer y gweithgareddau i'r cyfranogwyr
21. y rhesymau pam bod angen i'r cyfranogwyr wneud yr ymarferion ar eu pen eu hunain
22. dulliau o roi atgyfnerthiad cadarnhaol drwy gydol y sesiwn
23. yr angen i gywiro technegau
24. sut i addasu, symud ymlaen a newid ymarferion i gwrdd ag anghenion cyfranogwyr
**
**
Dod â sesiynau mat Pilates i ben**
25. pam y dylid gadael amser digonol i ddod â sesiwn mat Pilates i ben i gwrdd ag anghenion y cyfranogwyr
26. pwrpas cam terfynol sesiwn mat Pilates
27. ffyrdd o ddod â sesiwn mat Pilates i ben yn ddiogel
28. pam y dylid rhoi cyfle i gyfranogwyr ofyn cwestiynau, rhoi adborth a thrafod eu perfformiad
29. dulliau o roi adborth i gyfranogwyr am eu perfformiad
30. pam bod angen i gyfranogwyr weld sut mae eu cynnydd yn cysylltu â'u nodau
31. y gweithdrefnau cywir ar gyfer delio â'r amgylchedd unwaith y bydd y sesiwn wedi dod i ben
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Cyfranogwyr**
**
**
- cyfranogwyr unigol
- grwpiau dosbarth
- ag anghenion ffitrwydd penodol
- ag anghenion iechyd cyffredinol
**
**
Camau**
**
**
- cam paratoi
- prif gam
- cam terfynol
**
**
Mathau o ystum**
**
**
- cyffotig
- lordotig
- siglo'n ôl
- cefn fflat
- niwtral/delfrydol
- sgoliotig
**
**
Dulliau addysgu**
**
**
- ystumiau addysgu sy'n newid
- gofyn cwestiynau
- gwneud addasiadau a symud ymlaen
- cyfathrebu geiriol a gweledol
- adlewyrchu
**
**
Amgylchedd**
**
**
- gofod
- trefn
- tymheredd
- deunydd llawr
- goleuo
- awyru
- defnydd o gerddoriaeth
- cyfarpar ar gyfer y sesiwn
- dillad a chyfarpar personol
**
**
Gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol** (i gwmpasu isafswm o 4)
- Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
- Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd
- Rheoliadau Adrodd Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus
- Rheoliadau Trydan yn y Gweithle
- Rheoliadau Cymorth Cyntaf
- polisïau a gweithdrefnau sefydliadol unigol
**
**
Nodau**
**
**
- byr
- canolig
- hir
- iechyd a ffitrwydd cyffredinol
- ffisiolegol
- seicolegol
- ffordd o fyw
- cymdeithasol
- gallu gweithredol
**
**
Dulliau addysgu ac ysgogol**
**
**
- canolbwyntio ar nodau
- cymdeithasol
- dysgu
**
**
Paratoi**
**
**
- canolbwyntio
- aliniad ystumiol
- anadlu
- gweithredu'r craidd
- symudedd
- cydbwysedd
**
**
Prif** yn cynnwys symudiad corff cyfan mewn pob maes anatomaidd
- plygu
- ymestyn
- cylchdroi
- amdywys
- plygu ystlysol
**
**
Camau Terfynol**
**
**
- ymestyn
- ymlacio, gweithredol neu oddefol
**
**
Dulliau cyfathrebu**
**
**
- cwestiynau pen agored
- gwrando gweithredol
- crynhoi
- iaith y corff
Gwybodaeth Cwmpas
Diogel**
**
**
- Gwrth arwyddion
- canllawiau diogelwch allweddol
- canllaw ar gyfer cyfranogwyr poblogaeth benodol
**
**
Mathau o ystum**
**
**
- cyffotig
- lordotig
- siglo'n ôl
- cefn fflat
- niwtral/delfrydol
- sgoliotig
**
**
Dulliau addysgu ac ysgogol**
**
**
- canolbwyntio ar nodau
- cymdeithasol
- dysgu
**
**
Gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol** (i gwmpasu isafswm o 4)
- Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
- Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd
- Rheoliadau Adrodd Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus
- Rheoliadau Trydan yn y Gweithle
- Rheoliadau Cymorth Cyntaf
- polisïau a gweithdrefnau sefydliadol unigol
**
**
Camau**
**
**
- cam paratoi
- prif gam
- cam terfynol
**
**
Nodau**
**
**
- hir
- byr
- canolig
- iechyd a ffitrwydd cyffredinol
- ffisiolegol
- seicolegol
- ffordd o fyw
- cymdeithasol
- gallu gweithredol
Gwerthoedd
Mae'r gwerthoedd canlynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd
Dylai Gweithwyr Ymarfer Corff Proffesiynol :
- arddangos a hyrwyddo ffordd gyfrifol o fyw ac ymddwyn, trwy beidio â chefnogi'r defnydd o gyffuriau sy'n gwella perfformiad, ac unrhyw sylwedd anghyfreithlon arall
- cynnal cyfrinachedd
- delio â chyfranogwyr mewn modd agored a thryloyw; gan barchu anghenion eu cyfranogwyr bob tro
- ceisio mabwysiadu'r lefel uchaf o safonau proffesiynol yn holl feysydd eu gwaith a datblygiad eu gyrfa
Ymddygiadau
Mae'r ymddygiadau dilynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd
Dylai Gweithwyr Ymarfer Corff Proffesiynol:
geisio magu perthnasau iach gyda chyfranogwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill trwy gefnogi, cydgysylltu a rheoli'r broses ffitrwydd/ymarfer yn effeithiol, gan gadw'r cyfranogwr wrth wraidd y broses
bod yn ymwybodol o rolau personél cynorthwyol yn y galwedigaethau gofal iechyd a chydnabod pryd y dylid atgyfeirio problemau at yr arbenigwyr hyn
bod yn ymwybodol o gyfrifoldebau ac atebolrwyddau o dan ddeddfwriaeth cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a chodau ymarfer y diwydiant
anelu at rymuso cyfranogwyr; yn cefnogi eu hawl i wneud dewisiadau, darganfod eu hatebion eu hunain, a'u galluogi i gymryd rhan a datblygu ar eu cyflymder eu hunain ac yn eu ffordd eu hunain
5. nodi a chydnabod anghenion y cyfranogwyr ar ddechrau'r broses
6. anelu at wella hyder, hunan-barch a lefelau ffitrwydd cyfranogwyr
7. myfyrio ar eu harfer eu hunain a thrwy'r amser geisio ffyrdd i wella eu gallu ffitrwydd ac ymarfer, sgiliau a gwybodaeth eu hunain
8. sefydlu perthynas dda gyda chyfranogwyr
9. dangos empathi a sensitifrwydd i nodau a chyflwr parodrwydd cyfredol cyfranogwyr
10. cyflwyno delwedd gadarnhaol o'u hunain a'u sefydliad i gyfranogwyr
11. datblygu perthynas waith effeithiol gyda chyfranogwyr
12. diffinio rolau a chyfrifoldebau gweithwyr proffesiynol eraill a allai fod yn gysylltiedig, yn glir
13. cyfathrebu'n glir gyda chyfranogwyr mewn modd sy'n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi
14. dangos sensitifrwydd ac empathi at y cyfranogwyr a'r wybodaeth maent yn ei darparu
Sgiliau
Mae'r sgiliau dilynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd
Dylai Gweithwyr Ymarfer Corff Proffesiynol:
- baratoi'n systematig ar gyfer yr holl weithgareddau gan sicrhau iechyd, diogelwch a lles eu cyfranogwyr
- sicrhau bod gwahaniaethu a chynhwysiant a all alluogi cyfranogwyr ag anghenion penodol ac o alluoedd amrywiol i gymryd rhan mewn sesiynau a rhaglenni. Dylid ystyried anghenion cyfranogwyr ag anabledd a, lle y bo'n bosibl, cwrdd â'u hanghenion
- gweithredu rheolau sylfaenol ar gyfer ymddygiad yn ystod y sesiwn
- esbonio eu rôl a chyfrifoldebau i gyfranogwyr
- nodi unrhyw rwystrau rhag cyfranogi
- annog cyfranogwyr i ddod o hyd i ateb i'w rhwystrau
- nodi parodrwydd cyfranogwyr i gyfranogi
- nodi a chytuno strategaethau i atal rhoi'r gorau neu lithro'n ôl
defnyddio dulliau hyfforddi sy'n cyfateb ag anghenion cyfranogwyr
addasu eu perthynas â chyfranogwyr er mwyn cwrdd â'u hanghenion sy'n newid
- gwrando ar a gofyn cwestiynau i gyfranogwyr er mwyn gwirio eu dealltwriaeth
- nodi'r wybodaeth mae arnynt angen ei chasglu ynghylch eu cyfranogwyr
- casglu gwybodaeth ynghylch eu cyfranogwyr gan ddefnyddio dulliau cymeradwy
- cofnodi'r wybodaeth mewn modd a fydd yn helpu i'w dadansoddi
- defnyddio technegau cyfathrebu ac ymatebion priodol wrth ddelio ag anghydfod
- cydnabod ymddygiad gwahaniaethol a gwybod am y gweithdrefnau i'w dilyn os bydd unrhyw ddigwyddiadau
Geirfa
Gweithgareddau
Cydrannau sesiwn gweithgarwch corfforol a all ganolbwyntio ar y ffordd rydych yn datblygu cryfder, gwytnwch, technegau neu ymwybyddiaeth dactegol cyfranogwyr neu strategaethau ar gyfer datrys problemau. Mae sesiynau gweithgarwch corfforol yn cynnwys un gweithgaredd neu fwy.
Adborth
Y broses o roi a derbyn barn ar berfformiad. Gallai hyn eich cynnwys chi'n rhoi adborth i gyfranogwyr ar eu perfformiad neu gyfraniad at sesiwn gweithgarwch corfforol; neu hyfforddwr mwy profiadol yn rhoi barn ar eich perfformiad wrth gyflwyno sesiwn gweithgarwch corfforol penodol.
Nodau
Gallant fod yn rhai tymor hir, tymor canolig neu dymor byr.
Cyfarwyddiadau
Y pwyntiau addysgu allweddol sy'n arwain cyfranogwr tuag at gyflawni ymarfer yn ddiogel ac yn effeithiol.
Cyfranogwyr
Pobl, fel unigolion, neu mewn grwpiau, a fydd yn cymryd rhan mewn sesiwn gweithgarwch corfforol.
Cynllun
Mae cynllun sesiwn gweithgarwch corfforol yn ddisgrifiad o sesiwn benodol; yn cael eu cynnwys yn y cynllun fydd ei nodau, amcanion, cynnwys, gweithgareddau, amseru a'r cyfarpar sydd eu hangen. Dylid cofnodi cynlluniau fel y gellir eu rhannu gydag eraill a chyfeirio atynt yn ddiweddarach.
Adolygu
Y broses o ddadansoddi'r sesiynau rydych wedi eu cynllunio a chyflenwi, gan nodi'r hyn a aeth yn dda a'r hyn y gallai fod wedi cael ei wella.
Cyfranogwyr Poblogaeth Arbennig
Cyfranogwyr ag anghenion penodol a nodwyd fel pobl ifanc, gwragedd cyn geni ac ôl-enedigol, yr anabl a phobl hŷn.
Lles
Yn cefnogi lles y cyfranogwyr gan gynnwys ffordd sylfaenol o fyw, maetheg ac ymwybyddiaeth ynghylch cyffuriau.
Dolenni I NOS Eraill
Mae'r safon hon yn cysylltu â SKAEF21.