Hyfforddi gweithgareddau ymarfer a chorfforol ar gyfer cyfranogwyr a atgyfeiriwyd
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â goruchwylio a hyfforddi rhaglen o weithgareddau ymarfer a chorfforol ar gyfer cyfranogwyr a atgyfeirir fel unigolion neu grwpiau, yn cyflwyno â chyflyrau meddygol amrywiol a all fod yn sengl neu'n lluosog. Mae'n cynnwys y sgiliau a gwybodaeth sylfaenol sydd eu hangen i weithio o fewn system atgyfeirio ar gyfer ymarferion.
Prif ganlyniadau'r safon hon yw:
- paratoi cyfranogwyr ar gyfer rhaglenni o weithgareddau ymarfer a chorfforol
- addysgu ac addasu rhaglenni atgyfeirio o weithgareddau ymarfer a chorfforol
- dod â rhaglenni atgyfeirio o weithgareddau ymarfer a chorfforol i ben
Mae'n rhaid ichi gynnwys yr wybodaeth graidd ynghylch ymarfer corff a ffitrwydd a dealltwriaeth ddamcaniaethol fel y manylir arnynt yn y ddogfen Gofynion Gwybodaeth Graidd ynghylch Ymarfer a Ffitrwydd SkillsActive sy'n berthnasol i rôl y swydd.
Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym meysydd ymarfer a ffitrwydd, sy'n paratoi, goruchwylio a hyfforddi rhaglenni o weithgareddau ymarfer a chorfforol er mwyn mynd i'r afael â nodau tymor byr, canolig a hir gyda chyfranogwyr a atgyfeirir. Byddant fel arfer yn gweithio heb oruchwyliaeth uniongyrchol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Paratoi cyfranogwyr ar gyfer rhaglenni atgyfeirio o weithgareddau ymarfer a chorfforol**
1. paratoi'r amgylchedd ac adnoddau sydd arnoch eu hangen ar gyfer yr ymarferion a/neu weithgareddau corfforol a gynlluniwyd
2. casglu unrhyw wybodaeth newydd gan y cyfranogwyr am eu hymateb i ymarferion a/neu weithgareddau corfforol blaenorol
3. esbonio i'r cyfranogwyr sut mae'r sesiwn yn cysylltu â'u nodau
4. trafod y gweithgareddau rydych wedi'u cynllunio ar gyfer y sesiwn gyda'r cyfranogwyr
5. esbonio gofynion corfforol a thechnegol yr ymarferion a/neu weithgareddau corfforol a gynlluniwyd
6. esbonio i'r cyfranogwyr sut mae'r ymarferion a/neu weithgareddau corfforol yn gallu cael eu cynyddu neu eu hatchwelyd er mwyn cwrdd â'u nodau
7. asesu a chytuno gyda'r cyfranogwyr eu cyflwr parodrwydd i gymryd rhan yn yr ymarferion a/neu weithgareddau corfforol a gynlluniwyd
8. negodi, cytuno a chofnodi gyda chyfranogwyr unrhyw newidiadau i'r ymarferion gweithgareddau ymarfer a/neu gorfforol**
9. sicrhau bod cydbwysedd o gyfarwyddyd, gweithgarwch a thrafodaeth o fewn y sesiwn
10. esbonio pwrpas a gwerth sesiwn twymo i fyny i'r cyfranogwyr
11. darparu cyfranogwyr â sesiwn twymo i fyny sy'n cwrdd â'u *cyflwr/cyflyrau *a/neu anghenion
**
**
Addysgu ac addasu rhaglenni atgyfeirio o weithgareddau ymarfer a chorfforol
12. dewis dulliau hyfforddi sy'n perthyn i'r gweithgareddau a chyflyrau ac anghenion cyfranogwyr
13. gwirio dealltwriaeth cyfranogwyr ynghylch cyfarwyddiadau, esboniadau ac arddangosiadau
14. sicrhau y gall cyfranogwyr wneud y gweithgareddau yn ddiogel heb oruchwyliaeth uniongyrchol barhaol
15. arsylwi a dadansoddi perfformiad cyfranogwyr
16. darparu atgyfnerthiad cadarnhaol drwy gydol y sesiwn
17. cywiro technegau lle bo angen gwella ar berfformiad cyfranogwyr
18. cynyddu neu atchwelyd gweithgareddau ymarfer a chorfforol yn ôl perfformiad** cyfranogwyr
**
**
Dod â rhaglenni atgyfeirio weithgareddau ymarfer a chorfforol i ben**
19. caniatáu digon o amser i roi terfyn ar y gweithgareddau ymarfer a chorfforol
20. esbonio pwrpas a gwerth sesiwn tawelu i gyfranogwyr
21. rhoi terfyn ar y gweithgareddau trwy ddefnyddio sesiwn tawelu sy'n ddiogel ac effeithiol i gyfranogwyr**
22. darparu cyfranogwyr ag atgyfnerthiad ac anogaeth ynghylch eu perfformiad
23. rhoi crynodeb cywir o'ch adborth i gyfranogwyr ar y sesiwn
24. esbonio wrth gyfranogwyr sut mae eu cynnydd yn cysylltu â'u nodau tymor byr, canolig a hir
25. rhoi'r cyfle i gyfranogwyr ofyn cwestiynau am y sesiwn
26. darparu cyngor ynghylch sut gall cyfranogwyr reoli eu gweithgareddau eu hunain yn y dyfodol er mwyn cynorrthwyo cyflawni eu nodau
27. gadael yr amgylchedd mewn cyflwr sy'n addas ar gyfer defnydd gennych chi neu bobl eraill yn y dyfodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Paratoi cyfranogwyr ar gyfer rhaglenni atgyfeirio o weithgareddau ymarfer a chorfforol**
1. yr adnoddau sydd eu hangen ar gyfer y gweithgareddau a gynlluniwyd a sut mae paratoi'r rhain
2. ffyrdd o wneud i gyfranogwyr deimlo'n esmwyth cyn y sesiwn
- mathau o wybodaeth newydd sydd eu hangen gan gyfranogwyr am eu hymateb i weithgaredd blaenorol
4. sut mae cynllunio sesiwn a gysylltir â nodau cyfranogwyr
5. pam mae angen i chi drafod y gweithgareddau rydych wedi'u cynllunio ar gyfer y sesiwn gyda'r cyfranogwyr
6. gofynion corfforol a thechnegol y gweithgareddau a gynlluniwyd
7. sut gall y gweithgareddau a gynlluniwyd gael eu cynyddu neu eu hatchwelyd er mwyn cwrdd â nodau'r cyfranogwyr
8. dulliau asesu a chytuno cyfnod parodrwydd y cyfranogwyr i gymryd rhan yn y sesiwn
9. dulliau asesu ysgogiad y cyfranogwyr i gymryd rhan yn y gweithgareddau a gynlluniwyd
- yr angen i negodi, cytuno a chofnodi gyda'r cyfranogwyr unrhyw newidiadau i'r gweithgareddau a gynlluniwyd
11. sut mae sicrhau bod cydbwysedd effeithiol o hyfforddi, gweithgarwch a thrafod o fewn y sesiwn
12. sut mae darparu sesiwn twymo i fyny sy'n cwrdd â chyflwr/cyflyrau a/neu anghenion y cyfranogwyr
**
**
Addysgu ac addasu rhaglenni atgyfeirio o weithgareddau ymarfer a chorfforol
13. dulliau hyfforddi sy'n perthyn i'r gweithgareddau a chyflyrau ac anghenion cyfranogwyr
14. dulliau sicrhau y gall cyfranogwyr wneud y gweithgareddau yn ddiogel heb oruchwyliaeth uniongyrchol barhaol
15. sut mae arsylwi a dadansoddi perfformiad cyfranogwyr
16. dulliau darparu atgyfnerthiad cadarnhaol ac anogaeth drwy gydol y sesiwn
17. pam y dylech gywiro technegau lle mae perfformiad cyfranogwyr angen ei wella
18. sut mae symud ymlaen neu atchwelyd gweithgareddau yn ôl perfformiad y cyfranogwyr
**
**
**
**
Dod â rhaglenni atgyfeirio ymarferion a gweithgareddau corfforol i ben**
19. pam y dylech ganiatáu digon o amser i roi terfyn ar y gweithgareddau
20. sut mae rhoi terfyn ar y gweithgareddau trwy ddefnyddio sesiwn tawelu sy'n ddiogel ac effeithiol i'r cyfranogwyr
21. pam y dylech roi crynodeb cywir o'ch adborth i gyfranogwyr o'ch adborth ar y sesiwn
22. dulliau esbonio wrth gyfranogwyr sut mae eu cynnydd yn cysylltu â'u nodau
23. pam y dylech roi'r cyfle i gyfranogwyr ofyn cwestiynau am y sesiwn
24. dulliau darparu cyngor ynghylch sut gall cyfranogwyr reoli eu gweithgareddau eu hunain yn y dyfodol er mwyn cynorthwyo cyflawni eu nodau
25. pam y dylech adael yr amgylchedd mewn cyflwr sy'n addas ar gyfer defnydd gennych chi neu bobl eraill
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Amgylchedd**
**
**
Gwybodaeth Cwmpas
Gwybodaeth**
**
**
- ffurflen atgyfeirio
- cydsyniad deallus i gymryd rhan a throsglwyddo gwybodaeth feddygol
- hanes meddygol a llawfeddygol
- meddyginiaeth/au
- hanes a hoffterau ynghylch gweithgarwch corfforol
- lefelau cyfredol o ffitrwydd
- ystyriaethau cymdeithasol a seicolegol
- nodau personol ac ymddygiadol
**
**
Dulliau hyfforddi**
**
**
- awtocratig
- democrataidd
- gorchymynnol
- cydweithredol
**
**
Amgylchedd**
**
**
- gofod
- trefn
- tymheredd
- deunydd llawr
- goleuadau
- awyru
- defnydd o gerddoriaeth
- cyfarpar ar gyfer y sesiwn
- dillad a chyfarpar personol
Gwerthoedd
Mae'r gwerthoedd dilynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd
Dylai Gweithwyr Ymarfer Corff Proffesiynol :
- arddangos a hyrwyddo ffordd gyfrifol o fyw ac ymddwyn, trwy beidio â chefnogi'r defnydd o gyffuriau sy'n gwella perfformiad, ac unrhyw sylwedd anghyfreithlon arall
- cynnal cyfrinachedd
- delio â chyfranogwyr mewn modd agored a thryloyw; gan barchu anghenion eu cyfranogwyr bob tro
- ceisio mabwysiadu'r lefel uchaf o safonau proffesiynol yn holl feysydd eu gwaith a datblygiad eu gyrfa
Ymddygiadau
Mae'r ymddygiadau canlynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd
Dylai Gweithwyr Ymarfer Corff Proffesiynol:
- geisio magu perthnasau iach gyda chyfranogwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill trwy gefnogi, cydgysylltu a rheoli'r broses ffitrwydd/ymarfer corff yn effeithiol, gan gadw'r cyfranogwr wrth wraidd y broses
- bod yn ymwybodol o rolau personél cynorthwyol yn y galwedigaethau gofal iechyd a chydnabod pryd y dylid atgyfeirio problemau at yr arbenigwyr hyn
- bod yn ymwybodol o gyfrifoldebau ac atebolrwyddau o dan ddeddfwriaeth cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a chodau ymarfer y diwydiant
- anelu at rymuso cyfranogwyr; yn cefnogi eu hawl i wneud dewisiadau, dod o hyd i'w hatebion eu hunain, a'u galluogi i gymryd rhan a datblygu ar eu cyflymder eu hunain ac yn eu ffordd eu hunain
- nodi a chydnabod anghenion y cyfranogwyr ar ddechrau'r broses
- anelu at wella hyder, hunan-barch a lefelau ffitrwydd cyfranogwyr
- myfyrio ar eu harfer eu hunain a thrwy'r amser geisio ffyrdd i wella eu gallu ffitrwydd ac ymarfer, sgiliau a gwybodaeth eu hunain
- sefydlu perthynas dda gyda chyfranogwyr
- dangos empathi a sensitifrwydd i nodau a chyflwr parodrwydd cyfredol cyfranogwyr
- cyflwyno delwedd gadarnhaol o'u hunain a'u sefydliad i gyfranogwyr
- datblygu perthynas weithio effeithiol gyda chyfranogwyr
- diffinio rolau a chyfrifoldebau gweithwyr proffesiynol eraill a allai fod yn gysylltiedig, yn glir
- cyfathrebu'n glir gyda chyfranogwyr mewn ffordd sy'n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi
- dangos sensitifrwydd ac empathi i'r cyfranogwyr a'r wybodaeth maent yn ei darparu
Sgiliau
Mae'r sgiliau dilynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd
Dylai Gweithwyr Ymarfer Corff Proffesiynol:
- baratoi'n systematig ar gyfer yr holl weithgareddau gan sicrhau iechyd, diogelwch a lles eu cyfranogwyr
- sicrhau bod gwahaniaethu a chynhwysiant a all alluogi cyfranogwyr ag anghenion neilltuol ac o alluoedd amrywiol i gymryd rhan mewn sesiynau a rhaglenni. Dylid ystyried anghenion cyfranogwyr ag anabledd a, lle y bo'n bosibl, dylid cwrdd â'u hanghenion
- gweithredu rheolau sylfaenol ar gyfer ymddygiad yn ystod y sesiwn
- esbonio eu rôl a chyfrifoldebau i gyfranogwyr
- nodi unrhyw rwystrau rhag cyfranogi
- annog cyfranogwyr i ddod o hyd i ateb i'w rhwystrau
- nodi parodrwydd cyfranogwyr i gyfranogi
- nodi a chytuno ar strategaethau i atal rhoi'r gorau neu lithro'n ôl
- defnyddio dulliau hyfforddi sy'n cyfateb ag anghenion cyfranogwyr
- addasu eu perthynas â chyfranogwyr er mwyn cwrdd â'u hanghenion sy'n newid
- gwrando ar a gofyn cwestiynau i gyfranogwyr er mwyn gwirio eu dealltwriaeth
- nodi'r wybodaeth mae arnynt angen ei chasglu ynghylch eu cyfranogwyr
- casglu gwybodaeth ynghylch eu cyfranogwyr gan ddefnyddio dulliau cymeradwy
- cofnodi'r wybodaeth mewn ffordd a fydd yn helpu i'w dadansoddi
- defnyddio technegau cyfathrebu ac ymatebion priodol wrth ddelio ag anghydfod
- cydnabod ymddygiad gwahaniaethol a gwybod am y gweithdrefnau i'w dilyn os bydd unrhyw ddigwyddiadau
Geirfa
Gweithgareddau
Cydrannau sesiwn gweithgarwch corfforol a all ganolbwyntio ar y ffordd rydych yn datblygu cryfder, gwytnwch, technegau neu ymwybyddiaeth dactegol cyfranogwyr neu strategaethau ar gyfer datrys problemau. Mae sesiynau gweithgarwch corfforol yn cynnwys un gweithgaredd neu fwy.
*
*
*
*
Tawelu
Gweithgareddau diogel sy'n caniatáu i gyfranogwyr adfer yn feddyliol a chorfforol ar ôl gweithgareddau a wneir mewn sesiwn gweithgarwch corfforol.
Adborth
Y broses o roi a derbyn barn ar berfformiad. Gallai hyn eich cynnwys chi'n rhoi adborth i gyfranogwyr ar eu perfformiad neu gyfraniad at sesiwn gweithgarwch corfforol; neu hyfforddwr mwy profiadol yn rhoi barn ar eich perfformiad wrth gyflenwi sesiwn gweithgarwch corfforol neilltuol.
Nodau
Gallant fod yn rhai tymor hir, tymor canolig neu dymor byr.
Cyfarwyddiadau
Y pwyntiau addysgu allweddol sy'n arwain cyfranogwyr tuag at gyflawni ymarfer yn ddiogel ac yn effeithiol.
Cynllun
Mae cynllun sesiwn gweithgarwch corfforol yn ddisgrifiad o sesiwn neilltuol; yn cael eu cynnwys yn y cynllun fydd ei nodau, amcanion, cynnwys, gweithgareddau amseru a'r cyfarpar sydd eu hangen. Dylid cofnodi cynlluniau fel y gellir eu rhannu gydag eraill a chyfeirio atynt yn ddiweddarach.
*
*
*
*
Adolygu
Y broses o ddadansoddi'r sesiynau rydych wedi eu cynllunio a chyflenwi, gan nodi'r hyn a aeth yn dda a'r hyn y gallai fod wedi cael ei wella.
Twymo i fyny
Gweithgareddau diogel sy'n caniatáu i gyfranogwyr baratoi'n feddyliol a chorfforol ar gyfer sesiwn gweithgarwch corfforol
Lles
Cefnogi lles cyfranogwyr gan gynnwys ffordd sylfaenol o fyw, maetheg ac ymwybyddiaeth ynghylch cyffuriau.
Dolenni I NOS Eraill
Mae'r safon hon yn cysylltu ag SKAEF19.