Cynorthwyo cyfranogwyr i ddatblygu a chynnal y symbyliad i lynu at ymarfer a gweithgareddau corfforol

URN: SKAEF2
Sectorau Busnes (Suites): Ymarfer Corff a Ffitrwydd
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 2014

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â gweithio gyda chyfranogwyr i ddatblygu a chynnal y symbyliad sydd ei angen i lynu at ymarfer a gweithgareddau corfforol.


 


 

Prif ganlyniadau'r safon hon yw:

  1. sefydlu a chynnal perthynas effeithiol gyda chyfranogwyr
  2. annog cyfranogwyr i ddatblygu a chynnal strategaethau ysgogiadol
  3. darparu gwasanaeth cwsmeriaid parhaus i gyfranogwyr


 


 

Rhaid ichi gynnwys yr ymarfer craidd a'r wybodaeth am ffitrwydd a dealltwriaeth ddamcaniaethol fel y ceir hi yn y ddogfen Gofynion Gwybodaeth Graidd Ymarfer Corff a Ffitrwydd SkillsActive sy'n berthnasol i rôl y swydd.

Mae hon yn safon ar gyfer hyfforddwyr sy'n gweithio gyda chyfranogwyr i helpu i ddatblygu a chynnal eu strategaethau symbylu ar gyfer glynu at ymarfer a gwetihgaredau corfforol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Sefydlu a chynnal perthynas weithio effeithiol** â chyfranogwyr


** 


** 

1.  diffinio eich rôl a'ch cyfrifoldebau eich hunan gyda chyfranogwyr

2.  cofnodi gwybodaeth am gyfranogwyr

3.  cynnal gofynion cyfrinachedd, gan ddilyn gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol

4.  clustnodi amcanion y cyfranogwyr wrth gymryd rhan mewn ymarfer neu weithgaredd corfforol rheolaidd

5.  clustnodi rhesymau'r cyfranogwyr dros gymryd rhan mewn ymarfer neu weithgaredd corfforol rheolaidd

6.  clustnodi rhwystrau posibl wrth geisio cymryd rhan mewn ymarfer a gweithgareddau corfforol rheolaidd

7.  hysbysu cyfranogwyr am gyfleoedd i gael ymarfer rheolaidd a gweithgareddau corfforol mewn perthynas â'u hanghenion, eu gallu a'u hoffterau

8.  sicrhau bod cyfranogwyr yn cael gwybodaeth am fanteision cymryd rhan mewn ymarfer a gweithgareddau corfforol rheolaidd

9.  rhoi gwybodaeth i'r cyfranogwyr am faint o ymarfer a gweithgareddau corfforol a argymhellir


** 


** 

Annog cyfranogwyr i ddatblygu a chynnal strategaethau ysgogiadol**


 


 

10.  cefnogi cyfranogwyr i oresgyn rhwystrau rhag cymryd rhan ac i sicrhau fod cyn lleied ohonynt ag sydd bosibl

11.  defnyddio dulliau dysgu ac ysgogiadol sy'n cyd-fynd ag anghenion cyfranogwyr unigol

12.  clustnodi cymhellion a gwobrau ar gyfer y cyfranogwyr sy'n gwneud ymarfer a gweithgareddau corfforol rheolaidd

13.  helpu'r cyfranogwyr i glustnodi, datblygu a defnyddio eu strategaethau ysgogiadol eu pennau eu hunain

14.  annog a chefnogi'r cyfranogwyr i adeiladu ar gyfleoedd, dewisiadau a gwobrau


** 


** 


** 


** 


** 


** 

Darparu gwasanaeth cwsmeriaid parhaus i gyfranogwyr**


 


15.  monitro ymlyniad y cyfranogwyr** at ymarfer a gweithgareddau corfforol

16.  ymgynghori â gweithwyr proffesiynol eraill os yw anghenion a disgwyliadau cyfranogwyr y tu allan i'ch lefel o gymhwysedd

17.  rhoi gwybodaeth a chyngor i gyfranogwyr

18.  trin ymholiadau a chwynion cyfranogwyr gan ddilyn gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Sefydlu a chynnal perthynas effeithiol â chyfranogwyr**


 


 

1.  pam y mae angen ichi roi diffiniad eglur o'ch rôl a'ch cyfrifoldebau gyda​ chyfranogwyr

2.  sut i gyflwyno delwedd bositif ohonoch eich hun a'ch sefydliad i gyfranogwyr

3.  dulliau o ddadansoddi ffyrdd o fyw cyfranogwyr

4.  dulliau o gofnodi gwybodaeth mewn ffordd a fydd yn helpu i'w dadansoddi

5.  sgiliau cyfathrebu a ddefnyddir i ymgysylltu â chyfranogwyr

6.  ffyrdd o gynnal cyfrinachedd

7.  ffyrdd o glustnodi amcanion cyfranogwyr

8.  ffyrdd o glustnodi rhwystrau rhag cymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol

9.  gweithdrefnau ar gyfer clustnodi rhesymau'r cyfranogwyr dros gymryd rhan mewn ymarfer corff a gweithgaredd corfforol rheolaidd

10.  y mathau o ddewisiadau o ymarfer corff sydd gan gyfranogwyr

11.  manteision ymarfer corff rheolaidd a gweithgaredd corfforol o ran iechyd

12.  faint o ymarfer corff a gweithgaredd corfforol sy'n angenrheidiol i gael manteision o ran iechyd

13.  ble i ddod o hyd i wybodaeth am gymorth cymdeithasol a seicolegol i unigolion anactif

Annog cyfranogwyr i ddatblygu a chynnal strategaethau ysgogiadol

*
*
 

*
*
 

​​14.  ffyrdd o oresgyn rhwystrau rhag cymryd rhan a sicrhau fod cyn lleied ohonynt ag sydd bosibl

15.  ffyrdd o glustnodi cyfleoedd posibl ar gyfer ymarfer a gweithgareddau corfforol

16.  yr amrediad o wahanol gyfleoedd ar gyfer ymarfer a gweithgaredd corfforol

17.  technegau o weithio gyda chyfranogwyr i ddatblygu cyfleoedd, dewisiadau, gwobrau a chymhelliannau i gymryd rhan mewn ymarfer a gweithgaredd corfforol

18.  gweithdrefnau i glustnodi a datblygu strategaethau ysgogiadol i gyfranogwyr

19.  dulliau dysgu ac ysgogiadol sy'n cyd-fynd ag anghenion unigol


**


** 

Darparu gwasanaeth cwsmeriaid parhaus i gyfranogwyr**


 


 

20.  ffyrdd o roi cymorth i gyfranogwyr

21.  sut i fonitro ymlyniad cyfranogwyr at ymarfer a gweithgaredd corfforol

22.  pryd i ymgynghori â gweithwyr proffesiynol eraill os yw anghenion a disgwyliadau cyfranogwyr y tu allan i'ch lefel o gymhwysedd

23.  technegau i gynorthwyo cyfranogwyr i addasu ac i fireinio eu hymlyniad at ymarfer a gweithgaredd corfforol

24.  technegau o drin ymholiadau a chwynion cyfranogwyr gan ddilyn gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Cyfranogwyr** (i drafod 3 o leiaf)


 


 

  1. unigolion
  2. grwpiau
  3. ag anghenion ffitrwydd penodol
  4. ag anghenion iechyd cyffredinol
  5. unigolion anactif


** 


** 

Gwybodaeth**


** 


** 

  1. nod personol
  2. ffordd o fyw
  3. hanes meddygol
  4. hanes o ran gweithgareddau corfforol
  5. dewisiadau o ran gweithgaredd corfforol
  6. agwedd a symbyliad i gymryd rhan
  7. lefel ffitrwydd gyfredol
  8. lefel o barodrwydd
  9. parodrwydd seicolegol


** 


** 

Gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol** (i drafod 4 o leiaf)


 


 

  1. Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle
  2. Rheolaeth Sylweddau sy'n Beryglus i Iechyd
  3. Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Afiechydon a Digwyddiadau Peryglus
  4. Rheoliadau Trydan yn y Gweithle
  5. Rheoliadau Cymorth Cyntaf
  6. polisïau a gweithdrefnau sefydliadol unigol


** 


** 

Amcanion**


** 


** 

  1. iechyd a ffitrwydd cyffredinol
  2. ffisiolegol
  3. seicolegol
  4. ffordd o fyw
  5. cymdeithasol
  6. gallu i weithredu


** 


** 

Rhwystrau rhag cymryd rhan** (i drafod 5 o leiaf)


 


 

  1. amser
  2. ymrwymiadau gwaith
  3. teulu
  4. cost
  5. symbyliad
  6. hyder
  7. diffyg cyfleusterau


** 


** 

Arddulliau dysgu ac ysgogiadol**


** 


** 

  1. anelu at nod
  2. cymdeithasol
  3. dysgu


** 


** 

Strategaethau ysgogiadol**


** 


** 

  1. mewnol
  2. allanol
  3. pennu nod
  4. cymhellion/gwobrau
  5. newid ymddygiadol


** 


** 

Gweithwyr proffesiynol eraill** (i drafod 2 o leiaf)


 


 

  1. ffisiotherapyddion a meddygon​
  2. seicolegwyr
  3. ffisiolegwyr
  4. biomecanwyr
  5. arbenigwyr cynorthwyo ffordd o fyw
  6. rhwydwaith cymorth cymdeithasol cyfranogwyr
  7. meddyg
  8. goruchwyliwr
  9. arbenigwr iechyd/gweithiwr ymarfer proffesiynol
  10. maethegydd/dietegydd

Gwybodaeth Cwmpas

Dulliau**


** 


** 

  1. cyfweliad
  2. holiadur
  3. sgrinio geiriol
  4. arsylwi

*
*
 

*
*
 

Sgiliau cyfathrebu

*
*
 

*
*
 

  1. cwestiynau agored
  2. gwrando gweithredol
  3. crynhoi
  4. iaith y corff


** 


** 

Rhwystrau rhag cyfranogiad**


** 


** 

  1. amser
  2. ymrwymiadau gwaith
  3. teulu
  4. cost
  5. symbyliad
  6. hyder
  7. diffyg cyfleusterau


** 


** 

Manteision o ran iechyd**


** 


** 

  1. manteision corfforol, megis llai o bwysedd gwaed, gwell cyfansoddiad corfforol, llai o risg o rai afiechydon gan gynnwys clefyd coronaidd y galon (CHD), rhai canserau, diabetes math 2, gorbwysedd, gordewdra, osteoporosis
  2. manteision seicolegol, megis llai o risg o straen, iselder ysbryd, pryder
  3. goblygiadau anactifedd, megis gordewdra


** 


** 

Strategaethau Ysgogiadol**

  1. mewnol
  2. allanol
  3. pennu nod
  4. cymhellion / gwobrau
  5. newid ymddygiadol


** 


** 

Arddulliau dysgu ac ysgogiadol**


** 


** 

  1. anelu at nod
  2. cymdeithasol
  3. dysgu


** 

Gweithwyr proffesiynol eraill**


** 


** 

  1. ffisiotherapyddion a meddygon
  2. seicolegwyr
  3. ffisiolegwyr
  4. biomecanwyr
  5. arbenigwyr cynorthwyo ffordd o fyw
  6. rhwydwaith cymorth cymdeithasol cyfranogwyr
  7. meddyg
  8. goruchwyliwr
  9. arbenigwr iechyd/gweithiwr ymarfer proffesiynol
  10. maethegydd/dietegydd


** 


** 

Gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol​**


** 


** 

  1. Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle
  2. Rheolaeth Sylweddau sy'n Beryglus i Iechyd
  3. Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Afiechydon a Digwyddiadau Peryglus
  4. Rheoliadau Trydan yn y Gweithle
  5. Rheoliadau Cymorth Cyntaf
  6. polisïau a gweithdrefnau sefydliadol unigol

Gwerthoedd

Mae'r gwerthoedd canlynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd


 


 

Dylai Gweithwyr Ymarfer Proffesiynol:

    1. arddangos a hyrwyddo ffordd gyfrifol o fyw ac ymddwyn, trwy beidio â chefnogi'r defnydd o gyffuriau sy'n gwella perfformiad, ac unrhyw sylwedd anghyfreithlon arall
    2. cynnal cyfrinachedd
    3. delio â chyfranogwyr mewn modd agored a thryloyw; gan barchu anghenion eu cyfranogwyr bob tro
    4. ceisio mabwysiadu'r lefel uchaf o safonau proffesiynol yn holl feysydd eu gwaith a datblygiad eu gyrfa​


Ymddygiadau

Mae'r ymddygiadau canlynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd


 


 

Dylai Gweithwyr Ymarfer Proffesiynol:

  1. geisio magu perthnasau iach gyda chyfranogwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill trwy gefnogi, cydgysylltu a rheoli'r broses ffitrwydd/ymarfer corff yn effeithiol, gan gadw'r cyfranogwr wrth wraidd y broses
  2. bod yn ymwybodol o rolau personél cynorthwyol yn y galwedigaethau gofal iechyd a chydnabod pryd y dylid atgyfeirio problemau at yr arbenigwyr hyn
  3. bod yn ymwybodol o gyfrifoldebau ac atebolrwyddau o dan ddeddfwriaeth cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a chodau ymarfer y diwydiant
  4. anelu at rymuso cyfranogwyr; yn cefnogi eu hawl i wneud dewisiadau, dod o hyd i'w hatebion eu hunain, a'u galluogi i gymryd rhan a datblygu ar eu cyflymder eu hunain ac yn eu ffordd eu hunain
  5. nodi a chydnabod anghenion y cyfranogwyr ar ddechrau'r broses
  6. anelu at wella hyder, hunan-barch a lefelau ffitrwydd cyfranogwyr
  7. myfyrio ar eu harfer eu hunain a thrwy'r amser geisio ffyrdd i wella eu gallu ffitrwydd ac ymarfer, sgiliau a gwybodaeth eu hunain
  8. sefydlu perthynas dda gyda chyfranogwyr
  9. dangos empathi a sensitifrwydd i nodau a chyflwr parodrwydd cyfredol cyfranogwyr
  10. cyflwyno delwedd gadarnhaol o'u hunain a'u sefydliad i gyfranogwyr
  11. datblygu perthynas waith effeithiol gyda chyfranogwyr
  12. diffinio rolau a chyfrifoldebau gweithwyr proffesiynol eraill a allai fod yn gysylltiedig, yn glir
  13. cyfathrebu'n glir gyda chyfranogwyr mewn ffordd sy'n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi
  14. dangos sensitifrwydd ac empathi i'r cyfranogwyr a'r wybodaeth maent yn ei darparu

Sgiliau

Mae'r sgiliau dilynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd


 


 

Dylai Gweithwyr Ymarfer Proffesiynol:

  1. baratoi'n systematig ar gyfer yr holl weithgareddau gan sicrhau iechyd, diogelwch a lles eu cyfranogwyr
  2. sicrhau bod gwahaniaethu a chynhwysiant a all alluogi cyfranogwyr ag anghenion penodol ac o alluoedd amrywiol i gymryd rhan mewn sesiynau a rhaglenni. Dylid ystyried anghenion cyfranogwyr ag anabledd a, lle y bo'n bosibl, dylid cwrdd â'u hanghenion
  3. gweithredu rheolau sylfaenol ar gyfer ymddygiad yn ystod y sesiwn
  4. esbonio eu rôl a chyfrifoldebau i gyfranogwyr
  5. nodi unrhyw rwystrau rhag cyfranogi
  6. annog cyfranogwyr i ddod o hyd i ateb i'w rhwystrau
  7. nodi parodrwydd cyfranogwyr i gymryd rhan
  8. nodi a chytuno ar strategaethau i atal rhoi'r gorau neu lithro'n ôl
  9. defnyddio dulliau hyfforddi sy'n cyfateb ag anghenion cyfranogwyr
  10. addasu eu perthynas â chyfranogwyr er mwyn cwrdd â'u hanghenion sy'n newid
  11. gwrando ar a gofyn cwestiynau i gyfranogwyr er mwyn gwirio eu dealltwriaeth
  12. nodi'r wybodaeth mae arnynt angen ei chasglu ynghylch eu cyfranogwyr
  13. casglu gwybodaeth ynghylch eu cyfranogwyr gan ddefnyddio dulliau cymeradwy
  14. cofnodi'r wybodaeth mewn modd a fydd yn helpu i'w dadansoddi
  15. defnyddio technegau cyfathrebu ac ymatebion priodol wrth ddelio ag anghydfod
  16. cydnabod ymddygiad gwahaniaethol a gwybod am y gweithdrefnau i'w dilyn os bydd unrhyw ddigwyddiadau

Geirfa

Gweithgareddau

Elfennau sesiwn weithgaredd corfforol a all ganolbwyntio ar y ffordd yr ydych yn datblygu'r cyfranogwr o ran cryfder, dygnwch, technegau neu ymwybyddiaeth neu strategaethau tactegol ar gyfer datrys problemau. Mae sesiynau ymarfer corff yn cynnwys un neu fwy o weithgareddau.

*

*
*
 

Amcanion

Gallant fod yn rhai tymor hir, tymor canolig neu dymor byr.

Cyfranogwyr

Pobl, fel unigolion, neu mewn grwpiau, a fydd yn cymryd rhan mewn sesiwn weithgaredd corfforol.

Lles

Cefnogi lles y cyfranogwyr gan gynnwys ffordd o fyw sylfaenol, maeth ac ymwybyddiaeth o gyffuriau.​


Dolenni I NOS Eraill

​Mae'r safon hon yn cysylltu â SKAEF4, SKAEF6, SKAEF8, SKAEF10, SKAEF12, SKAEF16 a SKAEF20.


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAC316

Galwedigaethau Perthnasol


Cod SOC


Geiriau Allweddol

Symbyliad; datblygu; cynnal; glynu; ymarfer; gweithgaredd corfforol