Cynllunio, marchnata, a gwerthu
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud ag unigolion sy'n gweithio ar sylfaen annibynnol neu mewn cyd-destun lle disgwylir iddynt gynhyrchu busnes o fewn y diwydiant hamdden gweithredol, ac felly bod arnynt angen sgiliau sy'n fwy na thechnegol yn unig.
Prif ganlyniadau'r safon hon yw:
- cynllunio'ch strategaeth farchnata a gwerthu
- hyrwyddo'ch gwasanaethau
- gwerthu'ch gwasanaethau'n uniongyrchol i unigolion
- dilyn ymholiadau marchnata ac unigol i fyny
Mae'n rhaid ichi gynnwys yr wybodaeth graidd ynghylch ymarfer corff a ffitrwydd a dealltwriaeth ddamcaniaethol fel y manylir arnynt yn y ddogfen Gofynion Gwybodaeth Graidd ynghylch Ymarfer a Ffitrwydd SkillsActive sy'n berthnasol i rôl y swydd.
Mae'r safon hon ar gyfer unigolion annibynnol neu staff cyflogedig sy'n gorfod marchnata a gwerthu eu gwasanaethau i ddarpar unigolion yn y diwydiant hamdden gweithredol. Byddant fel arfer yn gweithio heb oruchwyliaeth uniongyrchol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cynllunio'ch strategaeth farchnata a gwerthu**
1. cynllunio'ch strategaeth farchnata a gwerthu
2. ymchwilio i'r farchnad ar gyfer eich gwasanaethau
3. datblygu gwasanaethau a fydd yn ddeniadol i unigolion a/neu sefydliadau
4. costio gwasanaethau ar lefel a fydd yn fforddiadwy i unigolion ac/neu sefydliadau
5. profi'r gwasanaethau hyn gyda chyfranogwyr
6. dysgu gan adborth
7. gosod targedau gwerthu SMART
8. cynllunio sut y byddwch yn gwerthuso effeithiolrwydd eich strategaeth farchnata a gwerthu
**
**
Hyrwyddo'ch gwasanaeth**
9. nodi a thargedu unigolion a/neu sefydliadau trwy ddefnyddio detholiad o ddulliau
- cyflwyno'ch gwasanaethau fel y byddant yn ddeniadol i unigolion a/neu sefydliadau
11. cyflwyno delwedd sy'n unigryw i'ch gwasanaethau
sicrhau y trefnir bod unigolion a/neu sefydliadau yn ymwybodol o'ch gwasanaethau
sicrhau bod unigolion a/neu sefydliadau yn deall gwerth a buddion eich gwasanaethau
14. olrhain eich strategaeth farchnata a gwerthu
15. cymharu'r hyn rydych yn ei gyflawni â'ch targedau
16. canfod dulliau o wella'ch strategaeth farchnata a gwerthu
**
**
Gwerthu'ch gwasanaethau'n uniongyrchol i unigolion**
17. ymgymryd â gwerthu rhagweithiol
18. cynnig a chytuno ar wasanaeth sy'n cwrdd ag anghenion y ddau barti
19. sicrhau bod yr unigolyn a/neu sefydliad yn barod i ymrwymo i'r gwerthiant
20. cytuno ar delerau gyda'r unigolyn a/neu sefydliad
21. sicrhau bod yr unigolyn a/neu sefydliad yn fodlon ar y gwerthiant
22. sicrhau y cwblheir pob dogfen
**
**
**
**
Dilyn ymholiadau marchnata ac unigol i fyny**
23. dilyn ymholiadau marchnata ac unigol i fyny**
24. datblygu system unigol ar gyfer rheoli gwasanaeth
25. cadw'r system unigol ar gyfer rheoli gwasanaeth yn gyfredol
26. cysylltu'n rheolaidd ag unigolion a/neu sefydliadau presennol
27. gwneud ymdrechion i gael busnes newydd
28. dilyn yr holl weithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cynllunio'ch strategaeth farchnata a gwerthu**
1. sut mae ymchwilio i'r farchnad ar gyfer eich gwasanaethau
dulliau datblygu gwasanaethau a fydd yn ddeniadol i unigolion a/neu sefydliadau
sut mae costio gwasanaethau ar lefelau a fydd yn fforddiadwy i unigolion a/neu sefydliadau
dulliau profi gwasanaethau
5. sut mae datblygu'ch cynllun marchnata a gwerthu gan adborth
6. sut mae datblygu targedau gwerthu SMART
7. dulliau gwerthuso effeithiolrwydd eich strategaeth farchnata a gwerthu
8. sut mae cyflwyno cynllun o'ch gwasanaeth marchnata a gwerthu
**
**
Hyrwyddo'ch gwasanaeth**
9. dulliau** nodi a thargedu unigolion a/ neu sefydliadau
10. dulliau cyflwyno'ch gwasanaethau fel y byddant yn ddeniadol i unigolion ac neu sefydliadau
11. sut mae datblygu delwedd sy'n unigryw i chi
12. sut mae sicrhau bod unigolion a/ neu sefydliadau yn ymwybodol o'ch gwasanaethau
13. sut mae argyhoeddi unigolion a/ neu sefydliadau ynghylch gwerth a buddion eich gwasanaethau
14. systemau olrhain marchnata a gwerthiannau
15. dulliau cymharu targedau
16. sut mae gwella'ch strategaeth farchnata a gwerthu
**
**
Gwerthu'ch gwasanaethau'n uniongyrchol i unigolion**
17. gwahanol dechnegau gwerthu**
18. sut mae cynnig a chytuno ar wasanaeth sy'n cwrdd ag anghenion y ddau barti
19. sut mae cadarnhau bod yr unigolyn a/neu sefydliad yn barod i gwblhau'r gwerthiant
20. pam mae'n bwysig cytuno ar delerau ac amodau gyda'r unigolyn a/neu sefydliad cyn gwerthiant
21. sut mae sicrhau bod yr unigolyn a/neu sefydliad yn fodlon ar y gwerthiant
22. sut mae cwblhau dogfennaeth y gwerthiant
**
**
Dilyn ymholiadau marchnata ac unigol i fyny**
23. nodweddion system unigol gyfredol ar gyfer rheoli gwasanaeth **
24. sut mae cadw system unigol ar gyfer rheoli gwasanaeth yn gyfredol
25. sut mae cysylltu'n rheolaidd ag unigolion presennol
26. sut mae cael busnes newydd
27. y gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer diogelu data
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Ymchwil**, i
- nodi tueddiadau presennol a newydd yn y diwydiant
- dadansoddi'ch cryfderau a gwendidau'ch hunan
- nodi'ch cystadleuwyr
- dadansoddi cryfderau a gwendidau'ch cystadleuwyr
- nodi'r mathau o unigolion a/neu sefydliadau a allai fod â diddordeb yn eich gwasanaethau
- nodi'r buddion mae unigolion a/neu sefydliadau yn chwilio amdanynt
**
**
Marchnad**
**
**
- presennol
- newydd
**
**
Cyfranogwyr**
**
**
- cwsmeriaid unigol
- grwpiau cwsmeriaid
- cwsmeriaid ag anghenion penodol
**
**
SMART**
**
**
- penodol
- mesuradwy
- cyraeddadwy
- canolbwyntio ar ganlyniadau
- yn rhwym wrth amser
**
**
Dulliau**
- yn bersonol
- trwy bobl eraill
- trwy ddeunyddiau hysbysebu
- trwy'r cyfryngau cymdeithasol
**
**
**
**
Cyflwyno'ch gwasanaethau**
**
**
- siarad â phobl yn uniongyrchol
- defnyddio deunyddiau printiedig
- yn electronig
- trwy'r cyfryngau cymdeithasol
**
**
Ymholiadau**
**
**
- cysylltu'n rheolaidd
- darparu gwybodaeth ar wasanaethau newydd a phresennol
- ymateb yn ddi-oed
- ymateb yn gadarnhaol
**
**
Gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol** (i gwmpasu isafswm o 4)
- Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
- Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd
- Rheoliadau Adrodd Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus
- Rheoliadau Trydan yn y Gweithle
- Rheoliadau Cymorth Cyntaf
- polisïau a gweithdrefnau sefydliadol unigol
Gwybodaeth Cwmpas
SMART**
**
**
- penodol
- mesuradwy
- cyraeddadwy
- canolbwyntio ar ganlyniadau
- yn rhwym wrth amser
**
**
Dulliau**
**
**
- yn bersonol
- trwy bobl eraill
- trwy ddeunyddiau hysbysebu
- trwy'r cyfryngau cymdeithasol
**
**
Systemau olrhain**
**
**
- â llaw neu wedi'i ysgrifennu â llaw
- seiliedig ar TG
**
**
Technegau gwerthu**
**
**
- adweithiol
- rhagweithiol
**
**
System unigol ar gyfer rheoli gwasanaeth**
**
**
- parod
- pwrpasol
**
**
Gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol**
**
**
Gwerthoedd
Mae'r gwerthoedd dilynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd
Dylai Gweithwyr Proffesiynol Ymarfer:
- arddangos a hyrwyddo ffordd gyfrifol o fyw ac ymddwyn, trwy beidio â chefnogi'r defnydd o gyffuriau sy'n gwella perfformiad, ac unrhyw sylwedd anghyfreithlon arall
- cynnal cyfrinachedd
- delio â chyfranogwyr mewn modd agored a thryloyw; gan barchu anghenion eu cyfranogwyr bob tro
- ceisio mabwysiadu'r lefel uchaf o safonau proffesiynol yn holl feysydd eu gwaith a datblygiad eu gyrfa
Ymddygiadau
Mae'r ymddygiadau dilynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd
Dylai Gweithwyr Proffesiynol Ymarfer:
- ceisio magu perthnasau iachus gyda chyfranogwyr a gweithwyr proffesiynol iechyd eraill trwy gefnogi, cydgysylltu a rheoli'r broses ffitrwydd/ymarfer yn effeithiol, gan gadw'r cyfranogwr wrth ganol y broses
- bod yn ymwybodol o rolau personél cynorthwyol yn y galwedigaethau gofal iechyd a chydnabod pryd y dylid atgyfeirio problemau i'r arbenigwyr hyn
- bod yn ymwybodol o gyfrifoldebau ac atebolrwyddau o dan ddeddfwriaeth cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a chodau ymarfer y diwydiant
- anelu at rymuso cyfranogwyr; yn cefnogi eu hawl i wneud dewisiadau, darganfod eu hatebion eu hunain, a'u galluogi i gymryd rhan a datblygu ar eu cyflymder eu hunain ac yn eu ffordd eu hunain
- nodi a chydnabod anghenion y cyfranogwyr ar ddechrau'r broses
anelu at wella hyder, hunan-barch a lefelau ffitrwydd cyfranogwyr
myfyrio ar eu harfer eich hunain a thrwy'r amser geisio ffyrdd i wella eu gallu ffitrwydd ac ymarfer, sgiliau a gwybodaeth eu hunain
- sefydlu perthynas dda gyda chyfranogwyr
- dangos empathi a sensitifrwydd i nodau a chyflwr parodrwydd cyfredol cyfranogwyr
- cyflwyno delwedd gadarnhaol o'u hunain a'u sefydliad i gyfranogwyr
- datblygu perthynas weithio effeithiol gyda chyfranogwyr
- diffinio'n glir rolau a chyfrifoldebau gweithwyr proffesiynol eraill a allai fod yn gysylltiedig
- cyfathrebu'n glir gyda chyfranogwyr mewn ffordd sy'n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi
- dangos sensitifrwydd ac empathi i'r cyfranogwyr a'r wybodaeth maent yn ei darparu
Sgiliau
Mae'r sgiliau dilynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd
Dylai Gweithwyr Proffesiynol Ymarfer:
- baratoi'n systematig ar gyfer yr holl weithgareddau gan sicrhau iechyd, diogelwch a lles eu cyfranogwyr
- sicrhau bod gwahaniaethu a chynhwysiant a all alluogi cyfranogwyr ag anghenion neilltuol ac o alluoedd amrywiol i gymryd rhan mewn sesiynau a rhaglenni. Dylid ystyried anghenion cyfranogwyr ag anabledd ac, lle mae'n bosibl, dylid cwrdd â'u hanghenion
- gweithredu rheolau sylfaenol ar gyfer ymddygiad yn ystod y sesiwn
- esbonio eu rôl a chyfrifoldebau i gyfranogwyr
- nodi unrhyw rwystrau i gyfranogi
- annog cyfranogwyr i ddod o hyd i ateb ar gyfer eu rhwystrau
- nodi parodrwydd cyfranogwyr i gyfranogi
- nodi a chytuno strategaethau i atal rhoi'r gorau neu lithro'n ôl
defnyddio arddulliau hyfforddi sy'n cyfateb ag anghenion cyfranogwyr
addasu eu perthynas â chyfranogwyr er mwyn cwrdd â'u hanghenion cyfnewidiol
- gwrando ar y cyfranogwyr a gofyn cwestiynau iddynt er mwyn gwirio eu dealltwriaeth
- nodi'r wybodaeth mae arnynt angen ei chasglu ynghylch eu cyfranogwyr
- casglu gwybodaeth ynghylch eu cyfranogwyr gan ddefnyddio dulliau cymeradwy
- cofnodi'r wybodaeth mewn ffordd a fydd yn helpu i'w dadansoddi
- defnyddio technegau cyfathrebu ac ymatebion priodol wrth ddelio ag anghydfod
- cydnabod ymddygiad gwahaniaethol a gwybod am y gweithdrefnau i'w dilyn os bydd unrhyw ddigwyddiadau
Geirfa
System unigol ar gyfer rheoli gwasanaeth
System sy'n sicrhau y cedwir cofnodion cwsmeriaid mewn fformat y gellir ei reoli a'i gyrchu, sy'n caniatáu ichi adeiladu perthnasau gwell gyda chwsmeriaid.
*
*
*
*
*
*
*
*
Gwerthu rhagweithiol
Mae'n hysbys hefyd fel gwerthu 'gweithredol'. Mae gwerthu rhagweithiol yn golygu achub y blaen a gweithredu'n gyntaf, yn hytrach nag ymateb i ddigwyddiadau a sefyllfaoedd allanol. Mae'n golygu cymryd rheolaeth ar yr holl broses werthu o'r cychwyn i'r diwedd.
Dolenni I NOS Eraill
Mae'r safon hon yn cysylltu ag SKAEF16 ac SKAEF17.