Gweithredu egwyddorion maetheg er mwyn cefnogi nodau cyfranogwr fel rhan o
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â sicrhau bod gan hyfforddwyr personol wybodaeth gadarn o faetheg a'u bod yn deall ei pherthynas ag iechyd, pwysau a pherfformiad corfforol.
Prif ganlyniadau'r safon hon yw:
casglu a dadansoddi gwybodaeth a chytuno ar nodau gyda chyfranogwyr
gweithredu, monitro ac addasu egwyddorion maetheg a rheoli pwysau i raglen ymarfer a gweithgarwch corfforol
Mae'n rhaid ichi gynnwys yr wybodaeth graidd ynghylch ymarfer corff a ffitrwydd a dealltwriaeth ddamcaniaethol fel y manylir arnynt yn y ddogfen Gofynion Gwybodaeth Graidd ynghylch Ymarfer a Ffitrwydd SkillsActive sy'n berthnasol i rôl y swydd.
Mae'r safon hon ar gyfer hyfforddwyr personol a gweithwyr proffesiynol lefel 3 sy'n cynllunio, cynnal ac adolygu rhaglenni i fynd i'r afael â nodau tymor byr, canolig a hir.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Casglu a dadansoddi gwybodaeth a chytuno ar nodau gyda chyfranogwyr**
1. cael cydsyniad deallus cyn casglu gwybodaeth ddeietegol** gan
gyfranogwyr
2. casglu a chofnodi'r wybodaeth faethegol mae arnoch ei hangen gan gyfranogwyr
3. nodi cyfyngiadau gwahanol ddulliau o gasglu gwybodaeth
faethegol
4. dadansoddi gwybodaeth faethegol cyfranogwyr yn berthynol i'w nodau
5. nodi pryd mae cyfranogwyr angen cael eu hatgyfeirio i weithwyr proffesiynol eraill
6. cytuno gyda chyfranogwyr ar eu hanghenion maethegol
7. cytuno gyda chyfranogwyr ar eu parodrwydd i wneud addasiadau deietegol
8. cytuno gyda chyfranogwyr ar nodau maethegol SMART
9. datblygu a chytuno ar strategaethau i orchfygu rhwystrau i gyflawni
nodau maethegol cyfranogwyr
10. cofnodi'r nodau cytûn mewn fformat hygyrch
11. nodi a chytuno strategaethau i atal peidio â chydymffurfio neu lithro'n ôl
12. nodi a chytuno pwyntiau adolygu gyda'r cyfranogwyr
**
**
Gweithredu, monitro ac addasu egwyddorion maetheg a rheoli pwysau i raglen ymarfer a gweithgarwch corfforol
13. cymharu deietau cyfranogwyr â'r rhai hynny a awgrymir gan ganllawiau cyfredol ynghylch bwyta'n iach
14. cytuno ar addasiadau deietegol mewn cysylltiad â chanllawiau cyfredol ynghylch bwyta'n iach
15. cyrchu a defnyddio ffynonellau credadwy o wybodaeth a chyngor
16. cefnogi cyfranogwyr i gytuno ar nodau maethegol
17. sicrhau bod cyfranogwyr yn deall newidiadau deietegol a gytunwyd
18. sicrhau y gall cyfranogwyr weithredu newidiadau deietegol a gytunwyd
19. adolygu cynnydd cyfranogwyr tuag at eu nodau maethegol yn rheolaidd
20. monitro ymlyniad wrth newidiadau deietegol a gytunwyd
21. cytuno ar addasiadau angenrheidiol i arferion deietegol cyfranogwyr
22. sicrhau bod argymhellion deietegol yn ffafriol i holl gydrannau'r rhaglen
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Casglu a dadansoddi gwybodaeth a chytuno ar nodau gyda chyfranogwyr**
y rhesymau am gael cydsyniad deallus cyfranogwyr cyn ichi ddechrau casglu gwybodaeth ddeietegol
dulliau casglu gwybodaeth ddeietegol
3. cyfyngiadau dulliau casglu gwybodaeth ddeietegol
4. sut mae asesu gwybodaeth ddeietegol yn berthynol i nodau cyfranogwyr
5. pryd y dylech gyfeirio at weithwyr proffesiynol maethegol a chyrff proffesiynol eraill sy'n gysylltiedig â maes maetheg
6. dulliau cytuno ar anghenion maethegol gyda chyfranogwyr
7. arwyddocâd cytuno ar barodrwydd cyfranogwyr i wneud addasiadau deietegol
8. nodau maethegol SMART
9. sut mae cefnogi cyfranogwyr sy'n ceisio gorchfygu rhwystrau posibl neu ymddangosiadol
sut mae cofnodi nodau deietegol
sut mae gweithredu strategaethau â thystiolaeth ynghylch newid ymddygiadol a * *thechnegau ysgogol ac atal peidio â chydymffurfio neu lithro'n ôl
12. sut mae datblygu atodlen adolygu
**
**
Gweithredu, monitro ac addasu egwyddorion maetheg a rheoli pwysau i raglen ymarfer a gweithgarwch corfforol
13. canllawiau cyfredol ynghylch bwyta'n iach
14. sut mae gwneud addasiadau deietegol mewn cysylltiad â chanllawiau cyfredol ynghylch bwyta'n iach
- sut mae cyrchu a dehongli ffynonellau dibynadwy o wybodaeth faethegol gan gynnwys y gwahaniaeth rhwng gwybodaeth seiliedig ar dystiolaeth a hanesion di-sail a honiadau marchnata cyflenwyr
16. sut mae nodi a chytuno ar nodau maethegol
17. sut mae sicrhau bod cyfranogwyr yn deall newidiadau deietegol a gytunwyd
dulliau cefnogi cyfranogwyr i droi nodau maethegol yn gyngor sylfaenol ynghylch bwyta'n iach
strategaethau newid ymddygiadol a thechnegau ysgogol i gefnogi ymlyniad wrth raglen faethegol
sut mae datblygu strategaethau ar gyfer delio â llithro'n ôl
pryd i adolygu perfformiad cyfranogwyr
sut mae monitro ymlyniad
dulliau gwneud addasiadau i arferion deietegol cyfranogwyr
sut mae arferion maethegol yn cysylltu â chydrannau eraill y rhaglen
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth**
**
**
- nodau personol
- ffordd o fyw
- hanes meddygol
- hanes gweithgarwch corfforol
- hoff bethau a chas bethau ynghylch gweithgarwch corfforol
- agwedd, ysgogiad i gymryd rhan a rhwystrau i gymryd rhan
- lefel gyfredol o ffitrwydd
- cyfnod parodrwydd
- ystum ac aliniad
**
**
Cyfranogwyr**
**
**
- unigolion
- grwpiau
- ag anghenion ffitrwydd penodol
- ag anghenion iechyd cyffredinol
**
**
Dulliau**
**
**
- cyfweliad
- holiadur
- sgrinio llafar
- arsylwi
**
**
Nodau**
**
**
- bwyta'n iach
- rheoli pwysau
- ffitrwydd wedi'i wella
- hunan-ddelwedd wedi'i gwella
- SMART
- tymor byr
- tymor canolig
- tymor hir
**
**
Gweithwyr proffesiynol eraill** (i gwmpasu isafswm o 2)
- ffisiotherapyddion
- seicolegwyr
- ffisiolegyddion
- biopeirianaethwr
- arbenigwyr cymorth ffordd o fyw
- rhwydwaith gymorth cymdeithasol cyfranogwyr
- meddyg
- goruchwylydd
- gweithiwr proffesiynol iechyd/ymarfer corff arbenigol
- maethegydd/dietegydd
**
**
SMART**
**
**
- penodol
- mesuradwy
- cyraeddadwy
- canolbwyntio ar ganlyniadau
- yn rhwym wrth amser
Gwybodaeth Cwmpas
Gwybodaeth ddeietegol**
**
**
- dyddiadur bwyd
- galw yn ôl 24 awr
- holiaduron amlder bwyd
- cofnod bwyd a bwyswyd
**
**
Dulliau**
**
**
- cyfweliad
- holiadur
- sgrinio llafar
- arsylwi
**
**
Nodau**
**
**
- bwyta'n iach
- rheoli pwysau
- ffitrwydd wedi'i wella
- hunan-ddelwedd wedi'i gwella
- SMART
- tymor byr
- tymor canolig
- tymor hir
**
**
SMART**
**
**
- penodol
- mesuradwy
- cyraeddadwy
- canolbwyntio ar ganlyniadau
- yn rhwym wrth amser
**
**
**
**
**
**
Strategaethau newid ymddygiadol**
- hunan-effeithlonrwydd
- nodau a chanlyniadau disgwyliedig
- gorchfygu rhwystrau
- strategaethau hunan-reoli
- hunan-fonitro
- hunan-atgyfnerthu
**
**
Technegau ysgogol**
**
**
- canolbwyntio ar nodau
- canolbwyntio ar ddysgu
- canolbwyntio ar gymdeithasol/perthynas
- cynhenid
- anghynhenid
- gosod nodau
- cymhellion/gwobrau
- newid mewn ymddygiad
Gwerthoedd
Mae'r gwerthoedd dilynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd
Dylai Gweithwyr Proffesiynol Ymarfer:
- arddangos a hyrwyddo ffordd gyfrifol o fyw ac ymddwyn, trwy beidio â chefnogi'r defnydd o gyffuriau sy'n gwella perfformiad, ac unrhyw sylwedd anghyfreithlon arall
- cynnal cyfrinachedd
- delio â chyfranogwyr mewn modd agored a thryloyw; gan barchu anghenion eu cyfranogwyr bob tro
- ceisio mabwysiadu'r lefel uchaf o safonau proffesiynol yn holl feysydd eu gwaith a datblygiad eu gyrfa
Ymddygiadau
Mae'r ymddygiadau dilynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd
Dylai Gweithwyr Proffesiynol Ymarfer:
- ceisio magu perthnasau iach gyda chyfranogwyr a gweithwyr proffesiynol iechyd eraill trwy gefnogi, cydgysylltu a rheoli'r broses ffitrwydd/ymarfer yn effeithiol, gan gadw'r cyfranogwr wrth ganol y broses
- bod yn ymwybodol o rolau personél cynorthwyol yn y galwedigaethau gofal iechyd a chydnabod pryd y dylid atgyfeirio problemau i'r arbenigwyr hyn
- bod yn ymwybodol o gyfrifoldebau ac atebolrwyddau o dan ddeddfwriaeth cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a chodau ymarfer y diwydiant
- anelu at rymuso cyfranogwyr; yn cefnogi eu hawl i wneud dewisiadau, darganfod eu hatebion eu hunain, a'u galluogi i gymryd rhan a datblygu ar eu cyflymder eu hunain ac yn eu ffordd eu hunain
- nodi a chydnabod anghenion y cyfranogwyr ar ddechrau'r broses
anelu at wella hyder, hunan-barch a lefelau ffitrwydd cyfranogwyr
myfyrio ar eu harfer eich hunain a thrwy'r amser geisio ffyrdd i wella eu gallu ffitrwydd ac ymarfer, sgiliau a gwybodaeth eu hunain
- sefydlu perthynas dda gyda chyfranogwyr
- dangos empathi a sensitifrwydd i nodau a chyflwr parodrwydd cyfredol cyfranogwyr
- cyflwyno delwedd gadarnhaol o'u hunain a'u sefydliad i gyfranogwyr
- datblygu perthynas weithio effeithiol gyda chyfranogwyr
- diffinio'n glir rolau a chyfrifoldebau gweithwyr proffesiynol eraill a allai fod yn gysylltiedig
- cyfathrebu'n glir gyda chyfranogwyr mewn ffordd sy'n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi
- dangos sensitifrwydd ac empathi i'r cyfranogwyr a'r wybodaeth maent yn ei darparu
Sgiliau
Mae'r sgiliau dilynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd
Dylai Gweithwyr Proffesiynol Ymarfer:
- baratoi'n systematig ar gyfer yr holl weithgareddau gan sicrhau iechyd, diogelwch a lles eu cyfranogwyr
- sicrhau bod gwahaniaethu a chynhwysiant a all alluogi cyfranogwyr ag anghenion neilltuol ac o alluoedd amrywiol i gymryd rhan mewn sesiynau a rhaglenni. Dylid ystyried anghenion cyfranogwyr ag anabledd ac, lle mae'n bosibl, dylid cwrdd â'u hanghenion
- gweithredu rheolau sylfaenol ar gyfer ymddygiad yn ystod y sesiwn
- esbonio eu rôl a chyfrifoldebau i gyfranogwyr
- nodi unrhyw rwystrau i gyfranogi
- annog cyfranogwyr i ganfod ateb i'w rhwystrau
- nodi parodrwydd cyfranogwyr i gyfranogi
- nodi a chytuno strategaethau i atal rhoi'r gorau neu lithro'n ôl
defnyddio arddulliau hyfforddi sy'n cyfateb ag anghenion cyfranogwyr
addasu eu perthynas â chyfranogwyr er mwyn cwrdd â'u hanghenion cyfnewidiol
- gwrando ar a gofyn cwestiynau i gyfranogwyr er mwyn gwirio eu dealltwriaeth
- nodi'r wybodaeth mae arnynt angen ei chasglu ynghylch eu cyfranogwyr
- casglu gwybodaeth ynghylch eu cyfranogwyr gan ddefnyddio dulliau cymeradwy
- cofnodi'r wybodaeth mewn ffordd a fydd yn helpu i'w dadansoddi
- defnyddio technegau cyfathrebu ac ymatebion priodol wrth ddelio ag anghydfod
- cydnabod ymddygiad gwahaniaethol a gwybod am y gweithdrefnau i'w dilyn os bydd unrhyw ddigwyddiadau
Geirfa
Fformat hygyrch
Dogfen sy'n cyflwyno'r un wybodaeth mewn ffurf wahanol sydd yn haws ei defnyddio a deall gan bobl â gwahanol alluoedd.
*
*
*
*
*
*
*
*
Gweithgareddau
Cydrannau sesiwn gweithgarwch corfforol a all ganolbwyntio ar eich datblygiad o gryfder, gwytnwch, technegau neu ymwybyddiaeth dactegol neu strategaethau cyfranogwyr ar gyfer datrys problemau. Mae sesiynau gweithgarwch corfforol yn cynnwys un gweithgaredd neu fwy.
Nodau
Gallant fod yn rhai tymor hir, tymor canolig neu dymor byr.
Cyfranogwyr
Pobl, fel unigolion, neu mewn grwpiau, a fydd yn cymryd rhan mewn sesiwn gweithgarwch corfforol.
Cynllun
Mae cynllun sesiwn gweithgarwch corfforol yn ddisgrifiad o sesiwn neilltuol; yn cael eu cynnwys yn y cynllun fydd ei nodau, amcanion, cynnwys, gweithgareddau, amseriadau a'r cyfarpar sydd ei angen. Dylid cofnodi cynlluniau fel y gellir eu rhannu gyda phobl eraill a chyfeirio atynt ar ddyddiad diweddarach.
Adolygiad
Y broses o ddadansoddi'r sesiynau rydych wedi eu cynllunio a chyflenwi, gan nodi'r hyn a aeth yn dda a'r hyn y gallai fod wedi cael ei wella.
*
*
*
*
Lles
Yn cefnogi lles y cyfranogwyr gan gynnwys ffordd sylfaenol o fyw, maetheg ac ymwybyddiaeth ynghylch cyffuriau.
Dolenni I NOS Eraill
Mae'r safon hon yn cysylltu ag SKAEF15 ac SKAEF16.