Cyflenwi ymarfer a gweithgarwch corfforol fel rhan o raglen hyfforddiant
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â'r cymhwysedd sydd ei angen ar hyfforddwyr personol er mwyn cyflenwi ymarfer a gweithgarwch corfforol fel rhan o raglen hyfforddiant personol ar gyfer oedolion o bob oedran sydd yn ôl pob golwg yn iach.
Prif ganlyniadau'r safon hon yw:
cynllunio a pharatoi sesiynau ymarfer unigoledig
paratoi cyfranogwyr ar gyfer sesiynau ymarfer unigoledig
addysgu ac addasu ymarferion a gynlluniwyd
dod â sesiynau ymarfer unigoledig i ben
Mae'n rhaid ichi gynnwys yr wybodaeth graidd ynghylch ymarfer corff a ffitrwydd a dealltwriaeth ddamcaniaethol fel y manylir arnynt yn y ddogfen Gofynion Gwybodaeth Graidd ynghylch Ymarfer a Ffitrwydd SkillsActive sy'n berthnasol i rôl y swydd.
Mae'r safon hon ar gyfer hyfforddwyr personol sy'n cynllunio, cynnal ac adolygu rhaglenni hyfforddiant personol i fynd i'r afael â nodau tymor byr, canolig a hir.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cynllunio a pharatoi sesiynau ymarfer unigoledig**
1. nodi ystod o ymarferion i helpu cyfranogwyr* i gyflawni eu nodau*
2. dewis arddulliau addysgu ar gyfer pob cydran y sesiwn
3. cynllunio ffocws yr ymarferion
4. cynllunio amseriadau, dwyster a dilyniannu ymarferion
5. cyflenwi cydbwysedd o gyfarwyddyd, gweithgarwch a thrafodaeth o fewn y sesiwn
6. nodi'r adnoddau sydd eu hangen ar gyfer y sesiwn
7. paratoi'r adnoddau y byddwch eu hangen ar gyfer y sesiwn, yn dilyn gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol
**
**
Paratoi cyfranogwyr ar gyfer sesiynau ymarfer unigoledig**
8. casglu unrhyw wybodaeth newydd gan* cyfranogwyr* am eu hymateb i weithgaredd blaenorol
9. hysbysu cyfranogwyr o sut mae'r sesiwn yn cysylltu â'u nodau
10. trafod yr ymarferion rydych wedi'u cynllunio ar gyfer y sesiwn gyda'r cyfranogwyr
11. trafod gofynion corfforol a thechnegol yr ymarferion a gynlluniwyd gyda chyfranogwyr
- esbonio sut y gall cyfranogwyr gynyddu neu atchwelyd yr ymarferion er mwyn cwrdd â'u nodau
13. asesu a chytuno cyfnod parodrwydd eich cyfranogwyr i gymryd rhan yn y sesiwn
14. negodi, cytuno a chofnodi gyda chyfranogwyr unrhyw newidiadau i'r ymarferion a gynlluniwyd* a fydd yn cwrdd â'u nodau* a hoffterau
**
**
Addysgu ac addasu ymarferion a gynlluniwyd**
15. darparu gweithgareddau effeithiol i dwymo i fyny** i gyfranogwyr
16. sicrhau bod yr amgylchedd wedi'i baratoi i'r cyfranogwyr ymarfer yn effeithiol
17. darparu arddangosiadau i gyfranogwyr
18. gwirio dealltwriaeth cyfranogwyr ynghylch cyfarwyddiadau, esboniadau ac arddangosiadau
19. addasu arddulliau cyfathrebu i anghenion cyfranogwyr
20. sicrhau y gall cyfranogwyr wneud yr ymarferion yn ddiogel ar ar eu pennau eu hunain
21. arsylwi a dadansoddi perfformiad y cyfranogwyr
22. darparu atgyfnerthiad cadarnhaol drwy gydol y sesiwn
23. cywiro technegau lle bo angen gwella ar berfformiad cyfranogwyr
24. symud ymlaen neu atchwelyd ymarferion yn ôl perfformiad cyfranogwyr
**
Dod â sesiynau ymarfer unigoledig i ben
25. caniatáu amser digonol ar gyfer cam terfynol y sesiwn
26. cyflenwi gweithgareddau tawelu
27. darparu adborth i gyfranogwyr am eu perfformiad
28. esbonio wrth gyfranogwyr sut mae eu cynnydd yn cysylltu â'u nodau tymor byr, canolig a hir
29. darparu'r cyfle i gyfranogwyr ofyn cwestiynau am y sesiwn
30. trafod gweithgareddau posibl eraill gyda chyfranogwyr a allai eu cynorthwyo wrth gyflawni eu nodau
- gadael yr amgylchedd mewn cyflwr sy'n addas ar gyfer defnydd y dyfodol, gan ddilyn gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cynllunio a pharatoi sesiynau ymarfer unigoledig**
1. ymarferion a fydd yn helpu'r cyfranogwr i gyflawni eu nodau
2. dulliau addysgu ac ysgogol
- pam y dylech gynllunio a chytuno ffocws yr ymarferion ar ddechrau'r sesiwn gyda chyfranogwyr
4. sut gall amseriadau, dwyseddau a dilyniannau effeithio ar ganlyniadau'r sesiwn
5. pam bod cydbwysedd o hyfforddiant, ymarfer a thrafodaeth yn angenrheidiol
6. sut i baratoi'r cyfarpar a'r amgylchedd y mae ei angen arnoch ar gyfer y sesiwn, gan ddilyn gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol
**
Paratoi'r cyfranogwr ar gyfer sesiynau ymarfer unigoledig**
7. sut mae paratoi cyfranogwyr ar gyfer gweithgaredd
8. pam y dylech gwrdd â chyfranogwyr yn brydlon ar gyfer sesiwn ymarfer
9. ffyrdd o wneud i gyfranogwyr deimlo'n esmwyth cyn sesiwn ymarfer
10. pam y dylech gael gwybod gan gyfranogwyr sut maent wedi ymateb i weithgarwch corfforol blaenorol
pam y dylech esbonio i gyfranogwyr sut mae'r sesiwn yn cysylltu â'u nodau**
pam y dylech esbonio i gyfranogwyr y rhesymau am ddethol ar gyfer yr ymarferion a ddewiswyd
13. gofynion corfforol a thechnegol yr ymarferion
14. sut mae cynyddu ac atchwelyd ymarferion o fewn y sesiwn
15. sut mae asesu parodrwydd cyfranogwyr i gymryd rhan mewn sesiwn ymarfer
- sut mae asesu ysgogiad cyfranogwyr i gymryd rhan mewn sesiwn ymarfer, yn defnyddio strategaethau ysgogol
17. pryd i negodi a chytuno newidiadau i'ch cynlluniau gyda chyfranogwyr
**
**
Addysgu ac addasu ymarferion a gynlluniwyd**
18. sut mae cyflenwi cyfnod twymo i fyny cyn sesiwn ymarfer
19. sut mae gwneud y defnydd gorau o'r amgylchedd ar gyfer y sesiwn
20. dulliau addysgu ar gyfer darparu cyfarwyddiadau ac esboniadau
21. yr ystumiau cywir ar gyfer yr ymarferion
22. ffyrdd o ddarparu cyfarwyddiadau, arddangosiadau ac esboniadau i gyfranogwyr
23. sut mae addasu'ch dulliau cyfathrebu er mwyn cwrdd ag anghenion y cyfranogwyr
24. pam y dylai cyfranogwyr wneud yr ymarferion yn ddiogel ar eu pennau eu hunain
25. sut mae dadansoddi perfformiad y cyfranogwyr
26. dulliau o roi atgyfnerthiad cadarnhaol drwy gydol y sesiwn
pam y byddech yn addasu technegau ymarfer anghywir a wneir gan gyfranogwyr
ffyrdd o symud ymlaen neu atchwelyd ymarfer yn ôl perfformiad cyfranogwyr
**
**
Dod â sesiynau ymarfer unigoledig i ben**
29. pam y dylech ganiatáu amser digonol i gyfranogwyr orffen ymarfer
30. pam y byddech yn dewis gweithgareddau tawelu sy'n gyson â natur y sesiwn ymarfer
31. pryd i ddarparu adborth cadarnhaol i gyfranogwyr ar eu perfformiad
- pam y dylech roi adborth i gyfranogwyr ar y sesiwn ymarfer
33. pam bod angen i gyfranogwyr weld sut mae eu cynnydd yn cysylltu â'u nodau cyffredinol
pam y dylid rhoi cyfle i gyfranogwyr ofyn cwestiynau am eu perfformiad
gweithgareddau addas eraill a allai gynorthwyo cyfranogwyr i gyflawni eu nodau
y gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer delio â'r cyfarpar, a'r cyfleuster ehangach, ar ôl i'r sesiwn orffen
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Cyfranogwyr**
**
**
- dechreuwyr
- profiadol
- ag anghenion ffitrwydd penodol
- ag anghenion iechyd cyffredinol
**
**
Nodau**
**
**
- iechyd a ffitrwydd cyffredinol
- ffisiolegol
- seicolegol
- ffordd o fyw
- cymdeithasol
- gallu gweithredol
**
**
**Dulliau ddysgu
**
- canolbwyntio ar nodau
- cymdeithasol
- dysgu
**
**
Ymarferion**, i ddatblygu
- ffitrwydd cardiofasgwlaidd
- ffitrwydd cyhyrol
- hyblygrwydd
- sgiliau echddygol
- sefydlogrwydd craidd
**
**
Adnoddau**
**
**
yr amgylchedd ar gyfer y sesiwn
cyfarpar cludadwy
cyfarpar gosod
**
**
**
**
Gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol** (i gwmpasu isafswm o 4)
- Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
- Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd
- Rheoliadau Adrodd Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus
- Rheoliadau Trydan yn y Gweithle
- Rheoliadau Cymorth Cyntaf
- polisïau a gweithdrefnau sefydliadol unigol
**
**
Amgylchedd**
**
**
- y gampfa
- stiwdio/neuadd chwaraeon
- cartref y cyfranogwr neu ofod arall sydd wedi'i amgáu
- yn yr awyr agored
**
**
Dulliau cyfathrebu**
**
**
- llafar
- heb fod yn llafar
Gwybodaeth Cwmpas
Dulliau addysgu ac ysgogol**
**
**
- canolbwyntio ar nodau
- cymdeithasol
- dysgu
**
**
Amgylchedd**
**
**
- gofod
- trefn
- tymheredd
- deunydd llawr
- goleuadau
- awyru
- defnydd o gerddoriaeth
- cyfarpar ar gyfer y sesiwn
- dillad a chyfarpar personol
**
**
Gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol**
**
**
- Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
- Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd
- Rheoliadau Adrodd Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus
- Rheoliadau Trydan yn y Gweithle
- Rheoliadau Cymorth Cyntaf
- polisïau a gweithdrefnau sefydliadol unigol
**
**
Nodau**
**
**
iechyd a ffitrwydd cyffredinol
ffisiolegol
seicolegol
ffordd o fyw
cymdeithasol
gallu gweithredol
**
**
Strategaethau ysgogol**
**
**
- cynhenid
- anghynhenid
- gosod nodau
- cymhellion/gwobrau
- newid mewn ymddygiad
**
**
Dulliau addysgu**
**
**
- safbwyntiau addysgu sy'n newid
- gofyn cwestiynau
- gwneud addasiadau a symud ymlaen
- cyfathrebu geiriol a gweledol
- drychweddu
Gwerthoedd
Mae'r gwerthoedd dilynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd
Dylai Gweithwyr Proffesiynol Ymarfer:
- arddangos a hyrwyddo ffordd gyfrifol o fyw ac ymddwyn, trwy beidio â chefnogi'r defnydd o gyffuriau sy'n gwella perfformiad, ac unrhyw sylwedd anghyfreithlon arall
- cynnal cyfrinachedd
- delio â chyfranogwyr mewn modd agored a thryloyw; gan barchu anghenion eu cyfranogwyr bob tro
- ceisio mabwysiadu'r lefel uchaf o safonau proffesiynol yn holl feysydd eu gwaith a datblygiad eu gyrfa
Ymddygiadau
Mae'r ymddygiadau dilynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd
Dylai Gweithwyr Proffesiynol Ymarfer:
- ceisio magu perthnasau iach gyda chyfranogwyr a gweithwyr proffesiynol iechyd eraill trwy gefnogi, cydgysylltu a rheoli'r broses ffitrwydd/ymarfer yn effeithiol, gan gadw'r cyfranogwr wrth ganol y broses
- bod yn ymwybodol o rolau personél cynorthwyol yn y galwedigaethau gofal iechyd a chydnabod pryd y dylid atgyfeirio problemau i'r arbenigwyr hyn
- bod yn ymwybodol o gyfrifoldebau ac atebolrwyddau o dan ddeddfwriaeth cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a chodau ymarfer y diwydiant
- anelu at rymuso cyfranogwyr; yn cefnogi eu hawl i wneud dewisiadau, darganfod eu hatebion eu hunain, a'u galluogi i gymryd rhan a datblygu ar eu cyflymder eu hunain ac yn eu ffordd eu hunain
- nodi a chydnabod anghenion y cyfranogwyr ar ddechrau'r broses
- anelu at wella hyder, hunan-barch a lefelau ffitrwydd cyfranogwyr
- myfyrio ar eu harfer eich hunain a thrwy'r amser geisio ffyrdd i wella eu gallu ffitrwydd ac ymarfer, sgiliau a gwybodaeth eu hunain
- sefydlu perthynas dda gyda chyfranogwyr
- dangos empathi a sensitifrwydd i nodau a chyflwr parodrwydd cyfredol cyfranogwyr
- cyflwyno delwedd gadarnhaol o'u hunain a'u sefydliad i gyfranogwyr
- datblygu perthynas weithio effeithiol gyda chyfranogwyr
- diffinio'n glir rolau a chyfrifoldebau gweithwyr proffesiynol eraill a allai fod yn gysylltiedig
- cyfathrebu'n glir gyda chyfranogwyr mewn ffordd sy'n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi
- dangos sensitifrwydd ac empathi i'r cyfranogwyr a'r wybodaeth maent yn ei darparu
Sgiliau
Mae'r sgiliau dilynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd
Dylai Gweithwyr Proffesiynol Ymarfer:
- baratoi'n systematig ar gyfer yr holl weithgareddau gan sicrhau iechyd, diogelwch a lles eu cyfranogwyr
- sicrhau bod gwahaniaethu a chynhwysiant a all alluogi cyfranogwyr ag anghenion neilltuol ac o alluoedd amrywiol i gymryd rhan mewn sesiynau a rhaglenni. Dylid ystyried anghenion cyfranogwyr ag anabledd ac, lle mae'n bosibl, dylid cwrdd â'u hanghenion
- gweithredu rheolau sylfaenol ar gyfer ymddygiad yn ystod y sesiwn
- esbonio eu rôl a chyfrifoldebau i gyfranogwyr
- nodi unrhyw rwystrau i gyfranogi
- annog cyfranogwyr i ganfod ateb i'w rhwystrau
- nodi parodrwydd cyfranogwyr i gyfranogi
- nodi a chytuno strategaethau i atal rhoi'r gorau neu lithro'n ôl
- defnyddio arddulliau hyfforddi sy'n cyfateb ag anghenion cyfranogwyr
- addasu eu perthynas â chyfranogwyr er mwyn cwrdd â'u hanghenion cyfnewidiol
- gwrando ar a gofyn cwestiynau i gyfranogwyr er mwyn gwirio eu dealltwriaeth
- nodi'r wybodaeth mae arnynt angen ei chasglu ynghylch eu cyfranogwyr
- casglu gwybodaeth ynghylch eu cyfranogwyr gan ddefnyddio dulliau cymeradwy
- cofnodi'r wybodaeth mewn ffordd a fydd yn helpu i'w dadansoddi
- defnyddio technegau cyfathrebu ac ymatebion priodol wrth ddelio ag anghydfod
- cydnabod ymddygiad gwahaniaethol a gwybod am y gweithdrefnau i'w dilyn os bydd unrhyw ddigwyddiadau
Geirfa
Fformat hygyrch
Dogfen sy'n cyflwyno'r un wybodaeth mewn ffurf wahanol sydd yn haws ei defnyddio a deall gan bobl â gwahanol alluoedd.
Gweithgareddau
Cydrannau sesiwn gweithgarwch corfforol a all ganolbwyntio ar y ffordd rydych yn datblygu cryfder, gwytnwch, technegau neu ymwybyddiaeth dactegol cyfranogwyr neu strategaethau ar gyfer datrys problemau. Mae sesiynau gweithgarwch corfforol yn cynnwys un gweithgaredd neu fwy.
Tawelu
Gweithgareddau diogel sy'n caniatáu i gyfranogwyr adfer yn feddyliol a chorfforol ar ôl gweithgareddau a wneir mewn sesiwn gweithgarwch corfforol.
Adborth
Y broses o roi a derbyn barn ar berfformiad. Gallai hyn eich cynnwys chi'n rhoi adborth i gyfranogwyr ar eu perfformiad neu gyfraniad at sesiwn gweithgarwch corfforol; neu hyfforddwr mwy profiadol yn rhoi barn ar eich perfformiad wrth gyflenwi sesiwn gweithgarwch corfforol neilltuol.
Nodau
Gallant fod yn rhai tymor hir, tymor canolig neu dymor byr.
Cyfarwyddiadau
Y pwyntiau addysgu allweddol sy'n arwain cyfranogwr tuag at gyflawni ymarfer yn ddiogel ac yn effeithiol.
Cyfranogwyr
Pobl, fel unigolion, neu mewn grwpiau, a fydd yn cymryd rhan mewn sesiwn gweithgarwch corfforol.
Cynllun
Mae sesiwn gweithgarwch corfforol yn ddisgrifiad o sesiwn neilltuol; wedi'u cynnwys yn y cynllun fydd ei nodau, amcanion, cynnwys, gweithgareddau, amseriadau a chyfarpar sydd ei angen. Dylid cofnodi cynlluniau fel y gellir eu rhannu gyda phobl eraill a chyfeirio atynt ar ddyddiad diweddarach.
Adolygiad
Y broses o ddadansoddi'r sesiynau rydych wedi eu cynllunio a chyflenwi, gan nodi'r hyn a aeth yn dda a'r hyn y gallai fod wedi cael ei wella.
Hyfforddiant
Gallai hyn gynnwys cwrs, ond hefyd byddai'n cynnwys gwylio pobl eraill yn gwneud pethau sy'n newydd i chi, derbyn cyfarwyddiadau gan bobl eraill ar bethau newydd mae'n rhaid ichi eu gwneud a chael y cyfleoedd i ymarfer sgiliau newydd.
Twymo i fyny
Gweithgareddau diogel sy'n caniatáu i gyfranogwyr baratoi'n feddyliol a chorfforol ar gyfer sesiwn gweithgarwch corfforol.
Lles
Cefnogi lles cyfranogwyr gan gynnwys ffordd sylfaenol o fyw, maetheg ac ymwybyddiaeth ynghylch cyffuriau.
Dolenni I NOS Eraill
Mae'r safon hon yn cysylltu ag SKAEF1, SKAEF13, SKAEF14, SKAEF15, SKAEF17 ac SKAEF19.