Cynllunio, rheoli ac addasu rhaglen hyfforddiant personol gyda chyfranogwyr

URN: SKAEF15
Sectorau Busnes (Suites): Ymarfer Corff a Ffitrwydd
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 2014

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â chymhwysedd mae hyfforddwyr personol ei angen i gynllunio, rheoli ac addasu rhaglenni hyfforddiant personol ar gyfer nodau tymor byr, canolig a hir cyfranogwyr.

Prif ganlyniadau'r safon hon yw:​

  1. casglu a chofnodi gwybodaeth ynghylch cyfranogwyr

dadansoddi gwybodaeth a chytuno nodau gyda chyfranogwyr

  1. cynllunio, paratoi a rheoli rhaglen hyfforddiant personol gyda chyfranogwyr

adolygu cynnydd gyda chyfranogwyr

  1. addasu rhaglen hyfforddiant personol gyda chyfranogwyr

Mae'n rhaid ichi gynnwys yr wybodaeth graidd ynghylch ymarfer corff a ffitrwydd a dealltwriaeth ddamcaniaethol fel y manylir arnynt yn y ddogfen Gofynion Gwybodaeth Graidd ynghylch Ymarfer a Ffitrwydd SkillsActive sy'n berthnasol i rôl y swydd.

Mae'r safon hon ar gyfer hyfforddwyr personol sy'n cynllunio, rheoli ac addasu rhaglenni hyfforddiant personol ar gyfer nodau tymor byr, canolig a hir cyfranogwyr.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Casglu a chofnodi gwybodaeth ynghylch cyfranogwyr**


 


 

1.  casglu gwybodaeth* ynghylch cyfranogwyr*

2.  cofnodi'r wybodaeth

3.  nodi pryd mae cyfranogwyr angen cael eu hatgyfeirio i weithwyr proffesiynol eraill

  1.   cynnal gwybodaeth gyfrinachol, yn dilyn gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol


**


** 

Dadansoddi gwybodaeth a chytuno nodau gyda chyfranogwyr**


 


 

5.  dadansoddi'r wybodaeth** a gasglwyd

6.  nodi anghenion cyfranogwyr

7.  gweithio gyda chyfranogwyr er mwyn cytuno nodau

8.  sicrhau bod y nodau yn SMART

9.  cofnodi'r nodau cytûn mewn fformat hygyrch


** 


** 

Cynllunio, paratoi a rheoli rhaglen hyfforddiant personol gyda chyfranogwyr


 

10.  cynllunio rhaglen o hyfforddiant personol sy'n gyson â gallu a lefel ffitrwydd cyfranogwyr

11.  gweithredu'r egwyddorion hyfforddiant i helpu nodau cyfranogwyr

12.  cynllunio rhaglen effeithiol o hyfforddiant personol sy'n gyson â chanllawiau cyfredol

  1.  cynnwys ymarferion ac/neu weithgareddau corfforol sy'n gyson ag arfer diogel derbyniedig

14.  esbonio galwadau'r rhaglen i gyfranogwyr

15.  cynllunio amserlen o sesiynau gyda chyfranogwyr

16.  cytuno ar gynnwys y rhaglen gyda chyfranogwyr

17.  cytuno ar ddulliau gwerthuso'r rhaglen gyda chyfranogwyr

18.  cytuno ar ddyddiadau adolygu rheolaidd gyda chyfranogwyr

19.  nodi'r adnoddau sydd eu hangen ar gyfer y rhaglen hyfforddiant personol

20.  sicrhau bod yr amgylchedd wedi'i baratoi i'r cyfranogwyr ymarfer yn effeithiol

21.  darparu dewisiadau eraill, cofnodi a chynllunio ar gyfer pethau annisgwyl ynghylch yr ymarferion* ac/neu weithgareddau corfforol* sydd wedi'u trefnu os na all cyfranogwyr** gymryd rhan fel y'i bwriadwyd

  1.  cytuno ar sut i gynnal cysylltiad â chyfranogwyr rhwng sesiynau


**


** 

Adolygu cynnydd gyda chyfranogwyr**


 


 

  1.  adolygu cynnydd cyfranogwyr ar bwyntiau cytûn drwy gydol y rhaglen hyfforddiant personol

  2.  sicrhau bod cyfranogwyr yn deall pwrpas yr adolygiad

  3.  annog cyfranogwyr i roi eu barn eu hunain ar gynnydd

  4.  defnyddio dulliau cytûn o werthuso

  5.  rhoi adborth i gyfranogwyr yn ystod yr adolygiad

  6.  cytuno ar ganlyniadau'r adolygiad gyda chyfranogwyr

  7.  cadw cofnod o adolygiad y rhaglen


** 


** 

Addasu rhaglen hyfforddiant personol gyda chyfranogwyr**


 


 

30.  nodi nodau** sydd angen eu hailddiffinio

31.  nodi newidion y rhaglen sydd angen eu haddasu

32.  cytuno ar addasiadau i'r rhaglen gyda chyfranogwyr er mwyn optimeiddio eu cyflawniad

33.  nodi a chytuno ar unrhyw newidiadau i adnoddau'r rhaglen

34.  cyflwyno addasiadau i raglenni cyfranogwyr ar gyfnodau rheolaidd

35.  cofnodi addasiadau i'r rhaglen

36.  monitro effeithiolrwydd addasiadau i'r rhaglen​


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Casglu a chofnodi gwybodaeth ynghylch cyfranogwyr**


 


 

1.  dulliau casglu gwybodaeth ynghylch cyfranogwyr

2.  yr wybodaeth rydych ei hangen i gynllunio rhaglenni hyfforddiant personol

3.  gwahanol fformatau ar gyfer cofnodi gwybodaeth

4.  pryd y dylech atgyfeirio cyfranogwyr i weithwyr proffesiynol eraill

5.  goblygiadau moesegol casglu gwybodaeth ynghylch cyfranogwyr, yn dilyn gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol


** 


** 

Dadansoddi gwybodaeth a chytuno nodau gyda chyfranogwyr**


 


 

6.  sut mae dadansoddi a dehongli gwybodaeth a gesglir er mwyn nodi anghenion cyfranogwyr

7.  sut mae cyfateb nodau ag anghenion cyfranogwyr

8.  ffyrdd i wneud nodau cyfranogwyr yn SMART

9.  sut mae cofnodi nodau cyfranogwyr


** 


** 

Cynllunio, paratoi a rheoli rhaglen hyfforddiant personol gyda chyfranogwyr


 

10.  ffactorau i'w cymryd i gyfrif wrth gynllunio rhaglenni

11.  sut mae gweithredu'r egwyddorion hyfforddiant i helpu nodau cyfranogwyr

12.  canllawiau ar gynllunio rhaglen ddiogel ac effeithiol

13.  ymarferion ac/neu weithgareddau sy'n gyson ag arfer diogel derbyniedig

14.  pam mae'n bwysig esbonio'r rhaglen i gyfranogwyr a'i chytuno

15.  sut mae cynllunio amserlen flaengar o sesiynau gyda chyfranogwyr

16.  arwyddocâd sefydlu dyddiadau adolygu rheolaidd gyda'r cyfranogwyr

17.  yr adnoddau a fydd yn helpu cyfranogwyr i gymryd rhan yn y rhaglen

18.  y math o ddewisiadau eraill y gellir eu defnyddio os na all cyfranogwyr gymryd rhan fel y'i bwriadwyd

19.  sut mae cofnodi'r rhaglen yn unol â gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol

20.  sut mae cynnal cyfrinachedd, yn dilyn gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol


**


** 


** 


** 

Adolygu cynnydd gyda chyfranogwyr**


 


 

21.  sut mae monitro ac adolygu cynnydd cyfranogwyr

22.  pwrpas adolygu'r broses

23.  pam mae'n bwysig annog cyfranogwyr i roi eu barn eu hunain ar gynnydd

24.  dulliau gwerthuso

25.  y sgiliau sy'n gysylltiedig â darparu adborth cadarnhaol ac amserol i gyfranogwyr

26.  pam mae'n bwysig cytuno ar ganlyniadau'r adolygiad gyda chyfranogwyr

27.  sut mae adolygu rhaglen hyfforddiant personol


** 


** 

Addasu rhaglen hyfforddiant personol gyda chyfranogwyr**


 


 

28.  pam a sut mae addasu rhaglenni hyfforddiant personol

29.  pryd i adolygu nodau gyda chyfranogwyr

30.  sut mae nodi ac addasu newidion y rhaglen

31.  arwyddocâd cytuno ar addasiadau i'r rhaglen gyda chyfranogwyr

32.  pryd i wneud newidiadau gofynnol i adnoddau'r rhaglen

33.  sut mae cyflwyno addasiadau i raglenni cyfranogwyr

34.  pryd a sut mae cofnodi addasiadau i'r rhaglen

35.  arwyddocâd monitro effeithiolrwydd addasiadau i'r rhaglen​


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Gwybodaeth**


** 


** 

  1. nodau personol
  2. ffordd o fyw
  3. hanes meddygol
  4. hanes gweithgarwch corfforol
  5. hoff bethau a chas bethau ynghylch gweithgarwch corfforol
  6. agwedd, ysgogiad i gymryd rhan a rhwystrau i gymryd rhan
  7. lefel gyfredol o ffitrwydd
  8. cyfnod parodrwydd
  9. ystum ac aliniad


** 


** 

Cyfranogwyr**


** 


** 

  1. dechreuwyr
  2. profiadol
  3. ag anghenion ffitrwydd penodol
  4. ag anghenion iechyd cyffredinol


** 


** 

Gweithwyr proffesiynol eraill** (i gwmpasu isafswm o 2)


 


 

  1. ffisiotherapyddion
  2. seicolegwyr
  3. ffisiolegyddion
  4. biopeirianaethwr
  5. arbenigwyr cymorth ffordd o fyw
  6. rhwydwaith gymorth cymdeithasol cyfranogwyr
  7. meddyg
  8. goruchwylydd
  9. gweithiwr proffesiynol iechyd/ymarfer corff arbenigol
  10. maethegydd/dietegydd


** 


** 

Gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol** (i gwmpasu isafswm o 4)


 

  1. Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
  2. Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd
  3. Rheoliadau Adrodd Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus
  4. Rheoliadau Trydan yn y Gweithle
  5. Rheoliadau Cymorth Cyntaf
  6. polisïau a gweithdrefnau sefydliadol unigol


** 


** 

Nodau**


** 


** 

  1. gwella ffitrwydd
  2. gwella ysgogiad
  3. mynd i'r afael â rhwystrau i gymryd rhan
  4. gwella sgiliau a thechnegau
  5. gwella iechyd
  6. hwyl a mwynhad​
  7. tymor byr
  8. canolig
  9. hir


** 


** 

SMART**


** 


** 

  1. penodol
  2. mesuradwy
  3. cyraeddadwy
  4. canolbwyntio ar ganlyniadau
  5. yn rhwym wrth amser


** 


** 

Egwyddorion hyfforddi**


** 


** 

  1. penodoldeb
  2. gorlwytho
  3. addasu
  4. gwrthdroadwyedd neu dad-hyfforddi


** 


** 

Ymarferion* ac/neu weithgareddau corfforol*, i ddatblygu


 


 

  1. ffitrwydd cardiofasgwlaidd
  2. ffitrwydd cyhyrol
  3. hyblygrwydd
  4. sgiliau echddygol
  5. sefydlogrwydd craidd


** 


** 

Dulliau**


** 


** 

  1. cyfweliadau
  2. holiaduron
  3. arsylwi
  4. asesiadau corfforol/ffitrwydd


** 


** 

Adnoddau**


** 


** 

  1. cyfarpar
  2. amgylchedd


** 


** 

Amgylchedd**


** 

  1. gofod
  2. trefn
  3. ymheredd
  4. deunydd llawr 
  5. goleuadau
  6. awyru
  7. defnydd o gerddoriaeth
  8. cyfarpar ar gyfer y sesiwn
  9. dillad a chyfarpar personol​

Gwybodaeth Cwmpas

Dulliau**


** 


** 

  1. cyfweliad
  2. holiadur
  3. sgrinio llafar
  4. arsylwi
  5. asesiadau corfforol/ffitrwydd


** 


** 

Gwybodaeth**


** 


** 

  1. nod personol
  2. ffordd o fyw
  3. hanes meddygol
  4. hanes gweithgarwch corfforol
  5. hoffterau ynghylch gweithgarwch corfforol
  6. agwedd ac ysgogiad i gymryd rhan
  7. lefel gyfredol o ffitrwydd
  8. cyfnod parodrwydd
  9. parodrwydd seicolegol


** 


** 

Gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol**


** 


** 

  1. Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
  2. Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd
  3. Rheoliadau Adrodd Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus
  4. Rheoliadau Trydan yn y Gweithle
  5. Rheoliadau Cymorth Cyntaf
  6. polisïau a gweithdrefnau sefydliadol unigol


** 


** 

Nodau**


 


 

  1. iechyd a ffitrwydd cyffredinol
  2. ffisiolegol​
  3. seicolegol
  4. ffordd o fyw
  5. cymdeithasol
  6. gallu gweithredol
  7. tymor byr
  8. canolig
  9. hir


** 


** 

SMART**


** 


** 

  1. penodol

  2. mesuradwy

  3. cyraeddadwy

  4. canolbwyntio ar ganlyniadau

  5. yn rhwym wrth amser


** 


** 

Amgylchedd**


** 


** 

  1. gofod
  2. trefn
  3. tymheredd
  4. deunydd llawr
  5. goleuadau
  6. awyru
  7. defnydd o gerddoriaeth
  8. cyfarpar ar gyfer y sesiwn
  9. dillad a chyfarpar personol​

Gwerthoedd

Mae'r gwerthoedd dilynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd


 


 

Dylai Gweithwyr Proffesiynol Ymarfer:

  1. arddangos a hyrwyddo ffordd gyfrifol o fyw ac ymddwyn, trwy beidio â chefnogi'r defnydd o gyffuriau sy'n gwella perfformiad, ac unrhyw sylwedd anghyfreithlon arall
  2. cynnal cyfrinachedd
  3. delio â chyfranogwyr mewn modd agored a thryloyw; gan barchu anghenion eu cyfranogwyr bob tro
  4. ceisio mabwysiadu'r lefel uchaf o safonau proffesiynol yn holl feysydd eu gwaith a datblygiad eu gyrfa

Ymddygiadau

Mae'r ymddygiadau dilynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd

Dylai Gweithwyr Proffesiynol Ymarfer:

  1. ceisio magu perthnasau iach gyda chyfranogwyr a gweithwyr proffesiynol iechyd eraill trwy gefnogi, cydgysylltu a rheoli'r broses ffitrwydd/ymarfer yn effeithiol, gan gadw'r cyfranogwr wrth ganol y broses
  2. bod yn ymwybodol o rolau personél cynorthwyol yn y galwedigaethau gofal iechyd a chydnabod pryd y dylid atgyfeirio problemau i'r arbenigwyr hyn
  3. bod yn ymwybodol o gyfrifoldebau ac atebolrwyddau o dan ddeddfwriaeth cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a chodau ymarfer y diwydiant
  4. anelu at rymuso cyfranogwyr; yn cefnogi eu hawl i wneud dewisiadau, darganfod eu hatebion eu hunain, a'u galluogi i gymryd rhan a datblygu ar eu cyflymder eu hunain ac yn eu ffordd eu hunain
  5. nodi a chydnabod anghenion y cyfranogwyr ar ddechrau'r broses
  6. anelu at wella hyder, hunan-barch a lefelau ffitrwydd cyfranogwyr
  7. myfyrio ar eu harfer eich hunain a thrwy'r amser geisio ffyrdd i wella eu gallu ffitrwydd ac ymarfer, sgiliau a gwybodaeth eu hunain
  8. sefydlu perthynas dda gyda chyfranogwyr
  9. dangos empathi a sensitifrwydd i nodau a chyflwr parodrwydd cyfredol cyfranogwyr
  10. cyflwyno delwedd gadarnhaol o'u hunain a'u sefydliad i gyfranogwyr
  11. datblygu perthynas weithio effeithiol gyda chyfranogwyr
  12. diffinio'n glir rolau a chyfrifoldebau gweithwyr proffesiynol eraill a allai fod yn gysylltiedig
  13. cyfathrebu'n glir gyda chyfranogwyr mewn ffordd sy'n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi
  14. dangos sensitifrwydd ac empathi i'r cyfranogwyr a'r wybodaeth maent yn ei darparu​​

Sgiliau

Mae'r sgiliau dilynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd


 


 

Dylai Gweithwyr Proffesiynol Ymarfer:

  1. baratoi'n systematig ar gyfer yr holl weithgareddau gan sicrhau iechyd, diogelwch a lles eu cyfranogwyr
  2. sicrhau bod gwahaniaethu a chynhwysiant a all alluogi cyfranogwyr ag anghenion neilltuol ac o alluoedd amrywiol i gymryd rhan mewn sesiynau a rhaglenni. Dylid ystyried anghenion cyfranogwyr ag anabledd ac, lle mae'n bosibl, dylid cwrdd â'u hanghenion
  3. gweithredu rheolau sylfaenol ar gyfer ymddygiad yn ystod y sesiwn
  4. esbonio eu rôl a chyfrifoldebau i gyfranogwyr
  5. nodi unrhyw rwystrau i gyfranogi
  6. annog cyfranogwyr i ganfod ateb i'w rhwystrau

  7. nodi parodrwydd cyfranogwyr i gyfranogi

  8. nodi a chytuno strategaethau i atal rhoi'r gorau neu lithro'n ôl
  9. defnyddio arddulliau hyfforddi sy'n cyfateb ag anghenion cyfranogwyr

  10. addasu eu perthynas â chyfranogwyr er mwyn cwrdd â'u hanghenion cyfnewidiol

  11. gwrando ar a gofyn cwestiynau i gyfranogwyr er mwyn gwirio eu dealltwriaeth
  12. nodi'r wybodaeth mae arnynt angen ei chasglu ynghylch eu cyfranogwyr
  13. casglu gwybodaeth ynghylch eu cyfranogwyr gan ddefnyddio dulliau cymeradwy
  14. cofnodi'r wybodaeth mewn ffordd a fydd yn helpu i'w dadansoddi
  15. defnyddio technegau cyfathrebu ac ymatebion priodol wrth ddelio ag anghydfod
  16. cydnabod ymddygiad gwahaniaethol a gwybod am y gweithdrefnau i'w dilyn os bydd unrhyw ddigwyddiadau

Geirfa

​Fformat hygyrch

Dogfen sy'n cyflwyno'r un wybodaeth mewn ffurf wahanol sydd yn haws ei defnyddio a deall gan bobl â gwahanol alluoedd.

Gweithgareddau

Cydrannau sesiwn gweithgarwch corfforol a all ganolbwyntio ar y ffordd rydych yn datblygu cryfder, gwytnwch, technegau neu ymwybyddiaeth dactegol cyfranogwyr neu strategaethau ar gyfer datrys problemau. Mae sesiynau gweithgarwch corfforol yn cynnwys un gweithgaredd neu fwy.

Gwybodaeth gyfrinachol

Dilyn canllawiau cydnabyddedig ar gyfer polisïau a gweithdrefnau.

Adborth

Y broses o roi a derbyn barn ar berfformiad. Gallai hyn eich cynnwys chi'n rhoi adborth i gyfranogwyr ar eu perfformiad neu gyfraniad at sesiwn gweithgarwch corfforol; neu hyfforddwr mwy profiadol yn rhoi barn ar eich perfformiad wrth gyflenwi sesiwn gweithgarwch corfforol neilltuol.

Nodau

Gallant fod yn rhai tymor hir, tymor canolig neu dymor byr.

Cyfranogwyr

Pobl, fel unigolion, neu mewn grwpiau, a fydd yn cymryd rhan mewn sesiwn gweithgarwch corfforol.

Cynllun

Mae cynllun sesiwn gweithgarwch corfforol yn ddisgrifiad o sesiwn neilltuol; yn cael eu cynnwys yn y cynllun fydd ei nodau, amcanion, cynnwys, gweithgareddau, amseriadau a'r cyfarpar sydd ei angen. Dylid cofnodi cynlluniau fel y gellir eu rhannu gyda phobl eraill a chyfeirio atynt ar ddyddiad diweddarach.

Egwyddorion hyfforddi

Fel arfer mae hyfforddiant yn cynnwys yr egwyddorion dilynol: Amlder, Dwyster, Hyd, Gorlwytho, Gwrthdroadwyedd a Phenodoldeb.

Adolygiad

Y broses o ddadansoddi'r sesiynau rydych wedi eu cynllunio a chyflenwi, gan nodi'r hyn a aeth yn dda a'r hyn y gallai fod wedi cael ei wella.

Goruchwylydd

Yr unigolyn sy'n rheoli'ch gwaith yn uniongyrchol h.y. y rheolwr llinell neu reolwr y ganolfan ffitrwydd.

Hyfforddiant

Gallai hyn gynnwys cwrs, ond hefyd byddai'n cynnwys gwylio pobl eraill yn gwneud pethau sy'n newydd i chi, derbyn cyfarwyddiadau gan bobl eraill ar bethau newydd mae'n rhaid ichi eu gwneud a chael y cyfleoedd i ymarfer sgiliau newydd.

Lles

Cefnogi lles cyfranogwyr gan gynnwys ffordd sylfaenol o fyw, maetheg ac ymwybyddiaeth ynghylch cyffuriau.​


Dolenni I NOS Eraill

Mae'r safon hon yn cysylltu ag SKAEF1, SKAEF13, SKAEF16 ac SKAEF17.


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SA44ND460

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Chwaraeon a Ffitrwydd

Cod SOC


Geiriau Allweddol

cynllunio, rheoli, addasu, personol, hyfforddiant, rhaglen, cyfranogwyr